Skip to main content

Llwybr

Gweithrediadau Hamdden a Rheoli Hamdden

Mae People 1st wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Teithio, Twristiaeth a Hamdden a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/04/2024 ACW Fframwaith Rhif. FR05117

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

56 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Gweithrediadau Hamdden

67 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Rheoli Hamdden

Gofynion mynediad

Nid oes unrhyw lwybrau mynediad wedi'u diffinio ymlaen llaw, ond gallai dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i'r rhaglen brentisiaeth hon ddod o amrywiaeth o gefndiroedd gyda chymwysterau amrywiol.

Gallai'r rhain gynnwys diplomâu, TGAU, cymwysterau Bagloriaeth Cymru, Safon Uwch neu lwybrau hyfforddiant galwedigaethol fel Llwybrau Dysgu Seiliedig ar Waith neu gymwysterau galwedigaethol eraill a phrofiad gwaith.

Lefel 2: Gweithrediadau Hamdden

Cynlluniwyd y Brentisiaeth Lefel Sylfaen mewn Gweithrediadau Hamdden ar gyfer yr unigolion hynny sydd naill ai eisoes wedi'u cyflogi yn y sector ac yn dymuno ennill sgiliau a gwybodaeth newydd neu'n bwriadu ymuno â'r sector ac eisiau datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ymhellach er mwyn datblygu eu gyrfaoedd.

Mae'r Llwybr yn addas hefyd i'r rhai sy'n dymuno newid gyrfa ar ôl gweithio mewn sector gwahanol.

Lefel 3: Rheoli Hamdden

Cynlluniwyd y Brentisiaeth mewn Rheoli Hamdden ar gyfer y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector ac yn dymuno ennill gwybodaeth a sgiliau newydd i barhau â'u datblygiad proffesiynol yn ogystal ag i'r rhai sy'n dymuno ymuno â'r sector mewn rôl oruchwylio/reoli.

Mae'r Llwybr yn addas hefyd i'r rhai sy'n dymuno newid gyrfa ar ôl gweithio mewn sector gwahanol.

Dylai darpar brentisiaid feddu ar agwedd gadarnhaol sy'n ysgogi eraill yn ogystal â’r gallu i weithio’n hyderus a bod yn barod i weithio fel rhan o dîm neu ar eu pennau eu hunain. Dylent deimlo cymhelliant i lwyddo yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd a bod yn barod i weithio sifftiau, oriau anghymdeithasol weithiau, a theithio rhwng safleoedd.

Disgwylir i ddarpar brentisiaid fod â’r sgiliau i weithio gydag amrywiaeth o wahanol gleientiaid a'u hysgogi. Efallai y bydd angen i brentisiaid gael gwiriadau heddlu hefyd, er enghraifft pan fyddant yn gweithio gydag oedolion a phlant agored i niwed.

Ar Lefel Uwch, mae disgwyl i Brentisiaid ddangos y gallu i ddatblygu sgiliau rheoli rhagorol a sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Rheoli Hamdden

Lefel 3: Rheoli Hamdden Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod

Lefel 3 Diploma NVQ mewn Rheoli Hamdden
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/0346/4 600/1446/5 39 390 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Lefel 3 Tystysgrif mewn Rheoli Hamdden
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/0346/2 600/1266/3 16 160 Cyfun Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Rheoli Hamdden Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Rheoli Hamdden 256 239
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Bydd prentisiaid sy'n cwblhau'r rhaglen hon yn ennill o leiaf 67 credyd/495 awr wrth gyfuno elfennau o'r llwybr hwn.

39 credyd am gymhwysedd a 16 credyd am wybodaeth

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Dim

Dilyniant

Lefel 2: Gweithrediadau Hamdden

Dilyniant i'r Llwybr hwn

Gall y brentisiaeth hon ddarparu cyfle dilyniant i brentisiaid sydd ar raglen lefel ganolradd yn ogystal â dilyniant i'r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector.

Mae'r rhaglen hon yn addas hefyd ar gyfer y rhai sy'n dymuno newid eu gyrfaoedd ac ailhyfforddi i fynd i mewn i'r sector ar y lefel hon.

Dilyniant o'r Llwybr hwn

Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth hon, gall dysgwyr symud ymlaen i'r Brentisiaeth mewn Rheoli Hamdden neu unrhyw un o'r rhaglenni lefel 3 eraill.

Gall dysgwyr symud ymlaen hefyd i amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol a gynigir gan ddarparwyr preifat neu golegau Addysg Bellach a bydd hyn yn rhoi cyfle iddynt ennill gwybodaeth bellach am unrhyw un o'n his-sectorau.

Lefel 3: Rheoli Hamdden

Dilyniant i'r Llwybr hwn

Gall y brentisiaeth hon ddarparu cyfle i brentisiaid sydd ar raglen lefel ganolradd yn ogystal â dilyniant i'r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector.

Mae'r rhaglen uwch hon yn addas hefyd ar gyfer y rhai sy'n dymuno newid gyrfa ac ailhyfforddi i fynd i mewn i'r sector ar y lefel hon.

Dilyniant o'r Llwybr hwn

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, gall prentisiaid weithio mewn cyfleusterau hamdden mewn rolau rheoli, gydag un o'r teitlau canlynol yn dibynnu ar y ganolfan ei hun: rheolwr ar ddyletswydd, rheolwr canolfan / clwb, rheolwr cynorthwyol canolfan, rheolwr cyfleusterau hamdden.

Gall rheolwyr hamdden gwmpasu ystod eang o rolau sy'n amrywio o reoli staff i reoli cyfleusterau a gwasanaethau.

Gall prentisiaid y rhaglen hon symud ymlaen hefyd i gyrsiau amrywiol Addysg Bellach neu Addysg Uwch gan astudio pynciau fel Rheoli Digwyddiadau, Marchnata, Busnes, Rheoli ac Arweinyddiaeth neu Reoli Adnoddau Dynol.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Nod Prentisiaethau yn y sector Teithio, Twristiaeth a Hamdden yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant drwy gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel. Mae'n rhaid i'r rhaglen hon gael ei chyflwyno mewn lleoliad lle nad oes rhagfarn a gwahaniaethu a lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.

MATERION, RHWYSTRAU A GWEITHREDOEDD

Mae'r diwydiant iechyd a ffitrwydd yn cynnwys bron i 6000 o glybiau iechyd preifat a chyhoeddus ledled y DU. Mae mwyafrif y gweithlu yn aelodau staff sy'n gweithio yn y gampfa ei hun. O ganlyniad i'r sefyllfa economaidd bresennol, un rhwystr posibl sy'n atal pobl rhag mynd i mewn i'r diwydiant ffitrwydd yw'r ffaith bod incwm gwario wedi lleihau'n sylweddol yn y rhan fwyaf o aelwydydd, felly mae aelodau o'r cyhoedd yn fwy gofalus ynghylch gwario arian ar aelodaeth clybiau iechyd. Mae ysbryd cystadleuol ymhlith clybiau iechyd yn arbennig ac maent yn cynnig cyfnodau ymrwymo byrrach, ffioedd ymuno/aelodaeth â gostyngiad a chyfraddau cystadleuol ar gyfer sesiynau ymarfer i grwpiau. Yn anffodus, mae’r hinsawdd economaidd ar hyn o bryd hefyd wedi golygu cwymp mewn codiadau cyflog a llai o gefnogaeth o ran hyfforddi a datblygu oherwydd y costau sydd ynghlwm wrth hynny.

Fodd bynnag, gall rhaglen brentisiaeth fel hon gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol parhaus staff cyfleusterau iechyd a hamdden a chynnig cefnogaeth iddynt, drwy sicrhau bod y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â'r sector, neu sydd eisoes wedi'u cyflogi yn y sector, yn cael y cyfle i ennill a datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau er gwaetha’r anawsterau economaidd presennol. Mae 63% o'r gweithlu yn fenywod ac er bod ganddynt bresenoldeb ar draws pob rôl, mae hyn yn lleihau mewn rolau uwch.

Mae cynnig rhaglen brentisiaeth lefel ganolradd mewn cyfleusterau iechyd a hamdden yn ei gwneud hi'n bosibl i bob aelod staff ddatblygu ei sgiliau a'i wybodaeth. Felly, gall y llwybr hwn gyfrannu at annog mwy o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ddatblygu eu sgiliau a bydd y ffaith bod rhaglen lefel uwch ar gael ym maes rheoli ffitrwydd a hamdden yn golygu y gallant ddatblygu eu gyrfaoedd a llenwi mwy o rolau uwch yn y dyfodol agos.

Mae'r mwyafrif o bobl yn y gweithlu ffitrwydd yn wyn (92.5%) gyda'r 7.5% sy'n weddill wedi'i rannu rhwng pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Drwy gael proses recriwtio mynediad agored heb ragfarn na gwahaniaethu ar gyfer ein rhaglenni prentisiaeth, rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb o unrhyw hil, crefydd ac ethnigrwydd i fynd i mewn i'r sector, a thrwy fynd ati yn y dull hwn, gallwn wneud cyfraniad bach o ran ceisio sicrhau y bydd y cydbwysedd o ran ethnigrwydd yn gwella dros gyfnod o amser.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16 oed -18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparwr yr Hyfforddiant/Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 


Diwygiadau dogfennau

24 Tachwedd 2021