- Framework:
- Chwaraeon, Hamdden Egnïol a Lles
- Lefel:
- 2
Mae'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Arweinyddiaeth Gweithgarwch wedi'i chynllunio ar gyfer unigolion sy'n dymuno datblygu gwybodaeth sylfaenol ond eang er mwyn dilyn gyrfa yn y sector awyr agored neu'r sector hamdden egnïol fel arweinydd ffitrwydd, hyfforddwr ac arweinydd gweithgarwch.
Yn yr awyr agored, ar Lefel 2, byddwch yn tueddu i weithio gyda grwpiau sylfaenol gan ddarparu gweithgareddau llai peryglus, mewn amgylcheddau rheoledig yn aml.
Mewn hamdden egnïol, mae swyddi sy’n dod o dan y fframwaith hwn yn tueddu i ganolbwyntio mwy ar y gymuned, ac mae prentisiaid yn tueddu i gael eu cyflogi mewn lleoliadau cymunedol fel arweinwyr gweithgarwch, hyfforddwyr chwaraeon ac arweinwyr ffitrwydd.
Dylech fod ag agwedd gadarnhaol, ysgogol a brwdfrydig, a bod yn barod i weithio fel rhan o dîm neu ar eich pen eich hun.
Dylech fod yn awyddus i lwyddo yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd a bod yn barod i weithio shifftiau, oriau anghymdeithasol a theithio rhwng safleoedd.
Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen i chi gwblhau gwiriadau'r heddlu wrth weithio gydag oedolion a phlant sy'n agored i niwed.
Gall gyrfa yn yr awyr agored ddatblygu amrywiaeth drawiadol o sgiliau trosglwyddadwy. Mae cyfleoedd amrywiol ar gael i'r rhai sy'n barod i weithio tuag at, ac ennill, y profiad a'r cymwysterau sydd eu hangen i weithio'n llwyddiannus yn y sector.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Chwaraeon, Hamdden Egnïol a Lles - Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Arweinydd Gweithgarwch, rolau sy'n benodol i Weithgarwch, er enghraifft Hyfforddwr Wal Ddringo, Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol, Hyfforddwr Awyr Agored ac amrywiadau Cynorthwy-ydd a hyfforddai.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Hyfforddwr Ffitrwydd ac Arweinydd Gweithgarwch.
Llwybr 3: Addas ar gyfer swyddi Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol ac Arweinwyr Gweithgarwch.
Llwybr 4: Addas ar gyfer swyddi Arweinydd Gweithgarwch.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2 -12 mis
Llwybrau dilyniant
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Prentisiaeth Lefel 3
- Cyflogaeth
- Camu ymlaen i feysydd eraill o'r sector hamdden, dysgu a llesiant egnïol.
- Datblygu gyrfa gan arwain at swyddi arwain a rheoli.
- Addysg Bellach.
Cymwysterau
Tystysgrif NVQ Lefel 2 mewn Arweinyddiaeth Gweithgarwch
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Dim gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno ymgymryd â Llwybr 3 dylech ddangos diddordeb cryf mewn camp benodol, a gallai profiad o'r gamp o'ch dewis fod yn fanteisiol. Fel arall, bydd cymhwyster lefel 1 yn y gamp yn fanteisiol, ond nid yn orfodol.
Gweld llwybr llawn