Skip to main content

Llwybr

Chwaraeon, Hamdden Egnïol a Lles

Mae SkillsActive wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Teithio, Twristiaeth ac Arweinyddiaeth Gweithgarwch a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/02/2025 ACW Fframwaith Rhif. FR05119

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

58 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Llwybr Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Awyr Agored

58 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Ymarfer a Ffitrwydd

65 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Hyfforddi

58 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Arweinyddiaeth

Gofynion mynediad

POB Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch

Mae sector awyr agored y DU yn sector bywiog a chyffrous i weithio ynddo ac yn un sy'n tyfu. Mae'n arbennig o addas i'r rhai sydd ag angerdd a brwdfrydedd dros weithio gyda phobl ac yn yr awyr agored. Er bod yn rhaid bod ag awch am weithgareddau anturus, mae'n rhaid cofio bod 'arweinyddiaeth gweithgarwch' yn ymwneud mewn gwirionedd ag arweinyddiaeth pobl mewn gweithgareddau.

Dylai darpar brentisiaid feddu ar agwedd gadarnhaol sy'n ysgogi eraill yn ogystal â’r gallu i weithio’n hyderus a bod yn barod i weithio fel rhan o dîm neu ar eu pennau eu hunain. Dylent deimlo cymhelliant i lwyddo yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd a bod yn barod i weithio sifftiau, oriau anghymdeithasol weithiau, a theithio rhwng safleoedd.

Disgwylir i ddarpar brentisiaid fod â’r sgiliau i weithio gydag amrywiaeth o wahanol gleientiaid a'u hysgogi. Efallai y bydd angen i brentisiaid gael gwiriadau heddlu hefyd, er enghraifft pan fyddant yn gweithio gydag oedolion a phlant agored i niwed.

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Hyfforddi

Yn ogystal â'r amodau mynediad, dylai prentisiaid ar y llwybr hwn ddangos brwdfrydedd a diddordeb mewn un gamp benodol ac fe allai fod yn fanteisiol bod â phrofiad yn y gamp o'u dewis neu feddu ar gymhwyster lefel 1 yng nghyd-destun y gamp honno. Fodd bynnag, nid yw hyn yn orfodol.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Awyr Agored

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Awyr Agored Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 2 Tystysgrif NVQ mewn Arwain Gweithgareddau
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/0233/1 500/9806/8 30 300 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Agored Cymru C00/0750/9 601/7077/3 30 399 Gwybodaeth Cymraeg-Saesneg
1st4Sport C00/0378/9 600/1201/8 30 300 Gwybodaeth English Only
Lefel 2 Dyfarniad mewn Gwaith Rhagarweiniol yn yr Awyr Agored
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
1st4sport C00/1297/0 600/2685/6 10 100 Cyfun Saesneg yn Unig
Active IQ C00/0233/0 500/9640/0 37 370 Gwybodaeth English Only
1st4Sport C00/1091/5 601/6791/9 37 370 Gwybodaeth English Only
Level 2 NVQ Certificate in Active Leisure, Learning and Well-being Operational Services
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/0233/2 501/0174/2 20 200 Gwybodaeth English Only
Level 2 Certificate in Leisure Operations
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/0543/8 600/8246/X 18 180 Cyfun English Only
Level 2 Diploma in Team Leading
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/0634/6 601/3430/6 40 400 Cyfun English Only
City & Guilds C00/0630/4 601/3216/4 40 400 Cyfun English-Welsh
Level 2 Diploma in Sports Industry Skills (Sport and Active Leisure Recreation Assistant
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/4205/2 603/6137/2 40 400 Cyfun English - Welsh
Level 2 Diploma in Sports Industry Skills (Leading Children Sports Activities)
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/4204/9 603/6134/7 41 410 Cyfun English-Welsh
Level 2 Certificate in Coaching Multi-Skills Development in Sport
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
1st4sport C00/1304/3 603/1873/9 17 169 Cyfun English Only
Level 2 Award in Engaging Children and Young People in Sport and Physical Activity
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
YMCA Awards C00/4382/0 603/7216/3 10 102 Cyfun English Only
Level 2 Certificate in Gym Instructing
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/1475/6 603/2692/X 23 230 Cyfun English Only
YMCA Awards C00/1253/7 603/2767/4 21 211 Cyfun English Only
1st4Sport C00/4253/7 603/5240/1 23 230 Cyfun English-Welsh
Level 2 Diploma in Sports Industry Skills (Instructing Exercise in a gym environment)
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/4205/0 603/6135/9 41 410 Cyfun English-Welsh
Level 2 Certificate in Group Training
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/4778/7 24 24 Cyfun English Only

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Awyr Agored Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Awyr Agored 270 146
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Bydd prentisiaid y rhaglen hon yn cyflawni o leiaf 58 credyd/416 awr.

30 credyd am gymhwysedd a 10 credyd am wybodaeth

I’w gwblhau mewn 12 mis.

.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Ymarfer a Ffitrwydd

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Ymarfer a Ffitrwydd Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod

Lefel 2 Tystysgrif NVQ mewn Arwain Gweithgareddau
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/0233/1 500/9806/8 30 300 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Agored Cymru C00/0750/9 601/7077/3 30 300 Gwybodaeth Cymraeg-Saesneg

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Ymarfer a Ffitrwydd Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Ymarfer a Ffitrwydd 266 250
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Bydd prentisiaid y rhaglen hon yn cyflawni o leiaf 58 credyd/516 awr.

30 credyd am gymhwysedd a 15 credyd am wybodaeth.

I’w gwblhau o fewn 12 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Hyfforddi

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Hyfforddi Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod

Lefel 2 Tystysgrif NVQ mewn Arwain Gweithgareddau
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/0233/1 500/9806/8 30 300 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Agored Cymru C00/0750/9 601/7077/3 30 300 Gwybodaeth Cymraeg-Saesneg

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Hyfforddi Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Hyfforddi 234 150
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Bydd prentisiaid y rhaglen hon yn cyflawni o leiaf 65 credyd/384 awr

30 credyd am gymhwysedd a 17 credyd am wybodaeth

I’w gwblhau o fewn 12 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Arweinyddiaeth

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Arweinyddiaeth Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod

Lefel 2 Tystysgrif NVQ mewn Arwain Gweithgareddau
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Active IQ C00/0233/1 500/9806/8 30 300 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Agored Cymru C00/0750/9 601/7077/3 30 300 Gwybodaeth Cymraeg-Saesneg
Lefel 2 Tystysgrif BTEC mewn Arwain drwy Chwaraeon
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Pearson C00/0454/2 600/5697/6 30 300 Cyfun Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Arweinyddiaeth Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Arweinyddiaeth 234 187
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Bydd prentisiaid y rhaglen hon yn cyflawni o leiaf 58 credyd/424 awr

30 credyd am gymhwysedd a 10 credyd am wybodaeth

I’w gwblhau o fewn 12 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Dim

Dilyniant

DILYNIANT

Dilyniant i BOB Llwybr Lefel 2

Nid oes unrhyw lwybrau mynediad wedi'u diffinio ymlaen llaw, ond gallai dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i'r rhaglen brentisiaeth hon ddod o amrywiaeth o gefndiroedd gyda chymwysterau gwahanol. Gallai'r rhain gynnwys diplomâu, TGAU, Safon Uwch neu lwybrau hyfforddiant galwedigaethol fel Llwybr at Brentisiaethau neu gymwysterau galwedigaethol eraill a phrofiad gwaith. Gall dysgwyr symud ymlaen i'r brentisiaeth hon hefyd os ydynt eisoes wedi'u cyflogi yn y sector ac yn dymuno datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Gall dysgwyr symud ymlaen i'r rhaglen hon hefyd o gyflogaeth mewn sector gwahanol fel ffordd o newid gyrfa.

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch – Awyr Agored

Dilyniant o

Gall cwblhau'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Arweinyddiaeth Gweithgarwch yn llwyddiannus agor drysau i amrywiaeth eang o gyfleoedd dilyniant yn y sector. Fel arfer, mae cyflogwyr yn hoffi recriwtio staff sydd â chymysgedd o ddau neu dri o gymwysterau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol ynghyd â phrofiad perthnasol yn y gweithle – mae cwblhau prentisiaeth yn gam da tuag at ddiwallu'r anghenion hyn.

Wrth gwrs, mae ystyried dilyniant i brentisiaeth lefel 3 yn un llwybr amlwg i'w gymryd, ond mae yna rai eraill gan gynnwys i feysydd eraill o'r sector hamdden egnïol, dysgu a lles.

Gyda lefel briodol o brofiad, sgiliau gweithio gyda phobl mwy datblygedig a phortffolio gwell o gymwysterau technegol y Corff Llywodraethu Cenedlaethol, bydd amrywiaeth ehangach o rolau yn dod yn bosib. Mae'r rhain yn debygol o gynnwys gweithgareddau anturus mwy heriol, gweithio mewn lleoliadau mwy anghysbell neu gyda grwpiau mwy heriol o gyfranogwyr, fel grwpiau corfforaethol neu bobl sydd wedi ymddieithrio'n gymdeithasol.

I'r rhai sy'n ystyried gweithio mewn lleoliad addysg, fel arfer mae angen cymwysterau addysgu priodol a all gynnwys gradd.

O edrych y tu hwnt i rôl hyfforddwr awyr agored, gall datblygu gyrfa arwain yn aml at elfennau sylweddol o arweinyddiaeth a rheoli mewn swyddi. Mae dyrchafiad neu ddilyniant i rolau fel Prif Hyfforddwr neu Reolwr Canolfan yn bosibl iawn.

Gall gyrfa yn yr awyr agored ddatblygu darpariaeth werthfawr o sgiliau trosglwyddadwy. Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael i'r rhai sy'n barod i weithio tuag at ennill y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen i weithio'n llwyddiannus yn y sector. Pa bynnag lwybr y mae'r prentis yn ei gymryd, mae'r Llwybr hwn yn cynnig llwyfan/platfform cychwynnol cadarn i weithio ohono.

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Ymarfer a Ffitrwydd

Dilyniant o

Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth lefel sylfaen hon, gall dysgwyr symud ymlaen i rôl arbenigol mewn addysgu ymarfer corff i blant, neu i'r Brentisiaeth Ffitrwydd Uwch a symud ymlaen i rolau sy'n fwy arbenigol ac sy’n gofyn am fwy o wybodaeth a sgiliau technegol, er enghraifft Cydlynydd Stiwdio, Rheolwr Cynorthwyol etc.

Gallant symud ymlaen hefyd i amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol a gynigir gan ddarparwyr preifat neu golegau Addysg Bellach sy'n eu galluogi i ennill gwybodaeth bellach yn unrhyw un o'n his-sectorau, er enghraifft gallant ddod yn Hyfforddwyr Personol drwy gwblhau prentisiaeth mewn Ffitrwydd Uwch neu gallant ddod yn Rheolwyr Canolfannau drwy symud ymlaen i raglen Rheoli Hamdden.

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch – Hyfforddi

Dilyniant o

Gyda lefel briodol o brofiad, sgiliau gweithio gyda phobl mwy datblygedig a phortffolio gwell o gymwysterau technegol y Corff Llywodraethu Cenedlaethol, bydd amrywiaeth ehangach o rolau ar gael.

I'r rhai sy'n ystyried gweithio mewn lleoliad addysg, fel arfer mae angen cymwysterau addysgu priodol a all gynnwys gradd. Wrth edrych y tu hwnt i rôl hyfforddi gall datblygu gyrfa arwain yn aml at elfennau sylweddol o arweinyddiaeth a rheoli mewn swyddi.

Mae dyrchafiad neu ddilyniant i rolau fel Swyddog neu Reolwr Datblygu Chwaraeon a Rheolwr Datblygu Chwaraeon Cymunedol hefyd yn bosibilrwydd ar ôl cwblhau'r rhaglen brentisiaeth hon ac ar ôl gweithio yn y sector ers peth amser.

Gall gyrfa yn y maes hyfforddi ddatblygu darpariaeth werthfawr o sgiliau trosglwyddadwy. Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael i'r rhai sy'n barod i weithio tuag at ennill y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen i weithio'n llwyddiannus yn y sector.

Lefel 2: Arweinyddiaeth Gweithgarwch - Arweinyddiaeth

Dilyniant o 

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, gall dysgwyr symud ymlaen i rolau a rhaglenni hyfforddi yn ogystal â symud ymlaen at raglen brentisiaeth lefel 3 briodol.

Gall prentisiaid symud ymlaen hefyd i amrywiaeth o gymwysterau galwedigaethol a gynigir gan ddarparwyr preifat a cholegau Addysg Bellach a bydd hyn yn rhoi’r cyfle iddynt ennill gwybodaeth bellach yn unrhyw un o'n his-sectorau.

I'r rhai sy'n ystyried gweithio mewn lleoliad addysg, fel arfer mae angen cymwysterau addysgu priodol a all gynnwys gradd.

O edrych y tu hwnt i rôl hyfforddi, gall datblygu gyrfa arwain yn aml at elfennau sylweddol o arweinyddiaeth a rheoli mewn swyddi. Efallai y bydd rhai prentisiaid yn dymuno symud ymlaen â'u gyrfaoedd mewn rôl arweinyddiaeth ac ennill cymwysterau pellach i'w helpu i fod yn athrawon cynorthwyol neu'n athrawon cymwysedig mewn ysgolion neu golegau Addysg Bellach.

Am ragor o wybodaeth am gymwysterau addysgu, ewch i'r wefan ganlynol: www.tda.gov.uk

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Nod y brentisiaeth Arweinyddiaeth Gweithgarwch yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle a chynhwysiant drwy gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel. Mae'n rhaid i'r rhaglen hon gael ei chyflwyno mewn lleoliad lle nad oes rhagfarn a gwahaniaethu a lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.

Mae yna ymwybyddiaeth bod lefel y bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg sy'n ymwneud â’r sector yn isel, ac o ganlyniad i hyn, ychydig o hyfforddwyr a staff rheng flaen Cymraeg eu hiaith a gyflogir gan fusnesau'r sector, yn enwedig yn y gogledd-orllewin. Nid yw'r llwybr hwn yn cyfrannu'n uniongyrchol at fynd i'r afael â hyn, ond anogir cyflogwyr a darparwyr i fod yn ymwybodol o'r angen am Gymraeg llafar yn y maes arweinyddiaeth gweithgarwch, yn arbennig mewn perthynas ag ymgysylltu â chymunedau lleol Cymraeg eu hiaith.

Materion, rhwystrau a gweithredu

Mae gan sector awyr agored y DU gyfran ychydig yn uwch o ddynion (56%) na menywod (44%), a phroffil oed iau na'r cyfartaledd. Mae oedran yn fater penodol i'r sector ar ddau ben y sbectrwm. Yn hanesyddol, nid yw sefydliadau wedi cyflogi'r rhai o dan 18 oed oherwydd natur y gweithgareddau anturus a'r grwpiau o gyfranogwyr sy'n defnyddio'r awyr agored (plant a grwpiau corfforaethol er enghraifft). Er hyn, mae'r sector yn boblogaidd iawn ymhlith oedolion ifanc; gall natur dymhorol arferol y sector fod i gyfrif am hyn.

Mae'r sector angen pobl sydd â llawer o wahanol sgiliau ac sy'n fedrus yn gyffredinol, a gall prentisiaethau hyblyg fod â rhan hanfodol o ran cyflwyno doniau ifanc i'r sector, gan roi cyfle i gyflogwyr ffurfio rhaglenni hyfforddiant yn ôl eu hanghenion. Gwelwyd yn aml fod gan y sector awyr agored lefel is o ran cyrhaeddiad academaidd, yn rhannol am ei fod yn ddeniadol i rai o natur fwy ymarferol. Mae'r dysgu seiliedig ar waith sydd wrth wraidd prentisiaeth yn hanfodol wrth gynorthwyo dysgwyr i ennill cymwysterau perthnasol.

Mae gan sector chwaraeon a hamdden y DU gyfran ychydig yn uwch o ddynion (53%) na menywod (47%), a phroffil oed iau na'r cyfartaledd. Mae oedran yn fater penodol i'r sector oherwydd bod rolau yn y sector yn draddodiadol wedi cael eu llenwi gan y rhai rhwng 16 a 24 oed gyda 32% ohonynt yn y maes chwaraeon a hamdden.

Ar y cyfan, mae mwyafrif y bobl sy’n gweithio yn y sector yn wyn fel y gwelir ar draws pob diwydiant yn economi'r DU (94 y cant o ddiwydiannau SkillsActive o gymharu â 91 y cant ar draws holl ddiwydiannau'r DU). Mae cynrychiolaeth gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn isel yn y sector, a bydd y gwaith o hyrwyddo prentisiaethau drwy ymgysylltu â phartneriaid priodol a mentrau perthnasol yn helpu i unioni hynny.

Drwy gael proses recriwtio mynediad agored heb ragfarn na gwahaniaethu ar gyfer ein rhaglenni prentisiaeth, rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb o unrhyw hil, crefydd ac ethnigrwydd i fynd i mewn i'r sector, a thrwy fynd ati yn y dull hwn, gallwn wneud cyfraniad bach o ran ceisio sicrhau y bydd y cydbwysedd o ran grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn gwella dros gyfnod o amser.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16 oed -18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparwr yr Hyfforddiant/Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 


Diwygiadau dogfennau

24 Tachwedd 2021