- Framework:
- Gweithrediadau Gwasanaeth Tân Brys
- Lefel:
- 3
Mae diffoddwyr tân yn ymateb i sefyllfaoedd brys ac yn achub bywydau ac eiddo o bob math o ddigwyddiadau. Maen nhw’n diogelu'r amgylchedd rhag effeithiau deunyddiau peryglus yn ystod digwyddiadau tân ac achub. Hefyd, maen nhw’n gwneud ardal yn fwy diogel drwy leihau'r risgiau, gan gynnwys y costau cymdeithasol ac economaidd, sy'n cael eu hachosi gan dân a pheryglon eraill.
Fframwaith Lefel 3 yw hwn a fydd yn galluogi diffoddwyr tân i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu swydd yn fedrus.
Mae'r sgiliau a'r priodweddau canlynol yn hanfodol ar gyfer prentisiaid yn yr alwedigaeth hon:
- cymhelliant i lwyddo
- parodrwydd i ddysgu a defnyddio'r hyn a ddysgir yn y gweithle
- y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl
- y gallu i weithio mewn amgylchedd tîm
- y gallu i gyrraedd ffitrwydd corfforol gweithredol.
Yn aml, mae diffoddwyr tân yn gweithio fel rhan o system sy'n seiliedig ar shifftiau, felly mae'n rhaid i chi fod yn barod i weithio yn ystod y dydd, y nos, ar y penwythnos ac ar wyliau banc yn ôl y gofyn.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Gweithrediadau Gwasanaeth Tân Brys - Lefel 3
Addas ar gyfer swydd Diffoddwr Tân
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 3: 24 mis
Llwybrau dilyniant
Gyda phrofiad/hyfforddiant pellach, gallwch symud i rolau uwch yn y Gwasanaethau Tân ac Achub, er enghraifft:
- Rheolwr Criw
- Rheolwr Gwylfa
- Rheolwr Gorsaf
- Rheolwr Grŵp
- Rheolwr Ardal
- Rheolwr Brigâd
Hefyd, mae'n bosibl camu ymlaen o'r llwybr hwn i swyddi eraill yn y sector Cyfiawnder a Diogelwch Cymunedol, er enghraifft: Swyddog Heddlu, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH).
Cymwysterau
Diploma NVQ Lefel 3 mewn Gweithrediadau Gwasanaethau Tân Brys yn y Gymuned
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 3
Nid oes unrhyw amodau mynediad ffurfiol ar gyfer y fframwaith hwn, ond bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n dymuno gweithio fel diffoddwr tân yn unrhyw un o dri gwasanaeth Tân ac Achub Cymru gwblhau proses recriwtio gadarn.
Mae rhai o'r gweithgareddau a fydd yn cael eu cwblhau fel rhan o'r broses hon wedi'u nodi isod:
- Bydd ymgeiswyr yn sefyll amrywiaeth o brofion gallu gan gynnwys profion seicolegol er mwyn asesu eu gallu i brosesu gwybodaeth, datrys problemau a gweithio gyda rhifau.
- Mae angen cwblhau holiadur sy'n asesu rhinweddau a phriodweddau personol.
- Cwblhau nifer o brofion corfforol sy'n asesu cymhwysedd corfforol a hyder a gallu'r unigolyn i ddilyn cyfarwyddiadau.
- Cwblhau archwiliad meddygol a fydd yn cynnwys safonau gweld a chlywed.
Oherwydd natur risg uchel y gwaith, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub fod yn 18 oed neu'n hŷn cyn ymgymryd ag unrhyw brofion corfforol a/neu ddyletswyddau gweithredol.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau datganiad o unrhyw euogfarnau troseddol heb eu disbyddu (o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974).
Gweld llwybr llawn