Mae Skills for Justice wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Cyhoeddus a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 05/10/2018 ACW Fframwaith Rhif. FR04173
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
45 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gweithrediadau Gwasanaeth Tân Brys.
Gofynion mynediad
Mae’r sgiliau a’r nodweddion canlynol yn hanfodol i brentisiaid yn yr alwedigaeth hon:
- cymhelliant i lwyddo
- parodrwydd i ddysgu a chymhwyso’r hyn a ddysgir yn y gweithle
- y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth o bobl
- y gallu i weithio mewn amgylchedd tîm
- y gallu i gyrraedd y lefel ffitrwydd ar gyfer gwneud y gwaith
Mae ymladdwyr tân yn gweithio o fewn system shifftiau yn aml; felly rhaid i brentis fod yn barod i weithio yn ystod y dydd, dros nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc, yn ôl y gofyn.
Nid oes amodau mynediad ffurfiol ar gyfer y llwybr hwn, ond bydd yn rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gweithio fel diffoddwr tân yn unrhyw un o’r gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru fynd drwy broses recriwtio lem. Ceir manylion isod am rai o’r gweithgareddau a wneir fel rhan o’r broses hon:
- Bydd ymgeiswyr yn gwneud amrywiaeth o brofion gallu gan gynnwys profion seicolegol i asesu eu gallu i brosesu gwybodaeth, datrys problemau a gweithio gyda rhifau.
- Bydd holiadur i asesu eu rhinweddau a’u priodoleddau.
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr gwblhau nifer o brofion corfforol hefyd sy’n asesu eu cymhwysedd corfforol a’u hyder a’u gallu i ddilyn cyfarwyddiadau.
- Bydd ymgeiswyr yn cael prawf meddygol a fydd yn cynnwys bodloni safonau golwg a chlyw
Oherwydd natur risg uchel y gwaith, bydd gofyn i ymgeiswyr i’r Gwasanaethau Tân ac Achub fod yn 18 oed neu’n hŷn cyn gwneud unrhyw brofion corfforol a/neu ddyletswyddau gweithredol.
Mae’r llwybr hwn ar gyfer diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub. Mae diffoddwyr tân yn ymateb i sefyllfaoedd brys ac yn achub bywydau ac eiddo rhag pob math o ddigwyddiadau. Maent yn gwarchod yr amgylchedd rhag effeithiau deunydd peryglus yn ystod digwyddiadau tân ac achub. Maent hefyd yn gwneud ardal yn fwy diogel drwy leihau’r peryglon, gan gynnwys y costau cymdeithasol ac economaidd, sy’n cael eu hachosi gan dân a pheryglon eraill. Bydd y llwybr Lefel 3 hwn yn caniatáu i ddiffoddwyr tân ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i wneud eu rôl mewn ffordd gymwys.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Gweithrediadau Gwasanaeth Tân Brys
Lefel 3: Gweithrediadau Gwasanaeth Tân Brys Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymwysterau cyfunol isod.
Lefel 3 Diploma mewn Gwasanaethau Tân ac Achub Brys | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
SFJ Awards | C00/1239/0 610/0363/3 | 45 | 450 | Cymhwysedd | Saesneg yn unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Gweithrediadau Gwasanaeth Tân Brys | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Gweithrediadau Gwasanaeth Tân Brys | 155 | 512 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Gweithrediadau Gwasanaeth Tân Brys - 667 awr (isafswm)
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Rhaid i ddysgwyr gwblhau datganiad am unrhyw euogfarnau troseddol heb eu disbyddu (o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974).
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i ddysgwyr sy’n 18 oed neu hŷn.
Dilyniant
Dilyniant i’r llwybr hwn
Gellir ymuno â’r llwybr hwn o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- mynediad uniongyrchol o ysgol, coleg neu raglen hyfforddi arall
- mynediad uniongyrchol o alwedigaeth arall
- mynediad uniongyrchol o gynlluniau diffoddwyr tân ifanc
- mynediad uniongyrchol i ddiffoddwyr tân presennol
- y rheini nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar hyn o bryd
- hyfforddiant a chymwysterau fel Cymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru mewn Gwasanaethau Cyhoeddus neu Wobr/Tystysgrif/Diploma Lefel 2 BTEC mewn Gwasanaethau Tân ac Achub yn y Gymuned.
Dilyniant o’r llwybr hwn:
Swyddi:
Gallai dilyniant o’r llwybr hwn, gyda phrofiad/hyfforddiant pellach, fod i swyddi uwch o fewn y Gwasanaethau Tân ac Achub, er enghraifft:
- Rheolwr Criw
- Rheolwr Gwylfa
- Rheolwr Gorsaf
- Rheolwr Grŵp
- Rheolwr Ardal
- Rheolwr Brigâd
Gallai dilyniant o’r llwybr hwn hefyd fod i mewn i rolau eraill o fewn y sector Cyfiawnder a Diogelwch Cymunedol, er enghraifft; Swyddog Heddlu, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu.
Hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol:
Er mwyn gwneud cynnydd o fewn y Gwasanaeth Tân, bydd diffoddwyr tân yn gorfod ehangu ac ymestyn eu gwybodaeth alwedigaethol i mewn i feysydd a chymwysterau fel:
- Arweinyddiaeth
- Rheoli
- Rheolaeth
- Diogelwch Cymunedol
- Diogelwch Tân
- Dysgu a Datblygu
- Cymwysterau proffesiynol eraill
Bydd cyflawni’r cymwysterau o fewn y llwybr yn cynnig cyfleoedd mynediad i Addysg Uwch.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Un o’r pryderon allweddol yn y sector yw nad yw’n adlewyrchu’r gymuned y mae’n gweithio drosti. Mae menywod, pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a’r rheini sy’n nodi eu bod yn LHDT wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd o fewn y gweithlu gweithredol. O fewn y Gwasanaeth Tân ac Achub, mae’r gweithlu’n cynnwys dynion gwyn yn bennaf. Mae 53% o’r gweithlu ehangach yn y Sectorau Cyfiawnder a Diogelwch Cymunedol yn gyffredinol yn ddynion ac mae 95% o’r gweithlu yn wyn. Mae dros hanner gweithlu’r Sectorau Cyfiawnder a Diogelwch Cymunedol rhwng 35 a 54 oed gyda 10% dros 55 oed. Mae’r trosiant isel o staff a chyfraddau ymgeisio uchel (3,000+) yn golygu y bydd yn cymryd cyfnod llawer yn hwy i gynyddu nid yn unig amrywiaeth y ceisiadau ond hefyd amrywiaeth yr ymgeiswyr llwyddiannus. Mae’r rhesymau tebygol sydd wedi cyfrannu at yr anghydbwysedd hwn yn cynnwys – canfyddiad o’r sector fel un risg uchel; ac efallai bod y canfyddiad bod diffyg cyfleoedd gyrfaol yn cyfyngu ar nifer yr ymgeiswyr. Yn aml, nid yw’r bobl sy’n dymuno ymuno â’r sector yn ymwybodol o’r cyfleoedd eang a’r rolau gwahanol a gynigir gan y sectorau Cyfiawnder a Diogelwch Cymunedol, yn ogystal â chwmpas y llwybrau gyrfaol a ddaw yn sgil y rolau hyn. Yn benodol, nid ydynt yn ymwybodol o’r ffyrdd y gallant ymuno ag un maes o’r sector Cyfiawnder/Diogelwch Cymunedol drwy drosglwyddo sgiliau a ddatblygwyd mewn maes arall a'r llwybr Prentisiaethau sy’n cynnig rhaglen safonol o hyfforddiant a datblygu o safon uchel o fewn y Gwasanaethau Tân ac Achub ac ar draws y sectorau Cyfiawnder a Diogelwch Cymunedol. Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae ymwybyddiaeth o’r Gwasanaethau Tân ac Achub fel proffesiwn yn cael ei godi drwy:
Bydd Skills for Justice yn monitro nifer y bobl sy’n cofrestru ar gyfer Prentisiaethau ac yn eu cyflawni yn y sectorau Cyfiawnder a Diogelwch Cymunedol. |
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni..
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 3: Gweithrediadau Gwasanaeth Tân Brys
Y berthynas rhwng y cymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth
https://sfjawards.com/qualifications/fire-and-rescue/diploma-in-emergency-fire-and-rescue-services/
Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaethau Tân ac Achub Brys
Prif amcan y cymhwyster hwn yw darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i berfformio rolau amrywiol diffoddwr tân, sy’n cynnwys:
- Datrys digwyddiadau gweithredol tân ac achub
- Cefnogi effeithiolrwydd yr ymateb gweithredol i beryglon o fewn y gymuned
- Diogelu’r amgylchedd rhag effeithiau digwyddiadau sy’n cynnwys deunydd peryglus
- Cymryd cyfrifoldeb dros berfformiad personol a chefnogi datblygiad cydweithwyr
- Darparu gwybodaeth i’r gymuned ac addysgu’r gymuned i wella ymwybyddiaeth o faterion diogelwch.
Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer unigolion sy’n gweithio yng Nghymru fel diffoddwyr tân gweithredol.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys chwe uned orfodol (45 credyd):
Unedau Gorfodol
Cyfeirnod Odyssey |
Teitl yr Uned |
Lefel |
GLH |
Gwerth Credyd |
1330 |
Deall rolau, cyfrifoldebau a gofynion diffoddwr tân |
3 |
110 |
17 |
1331
|
Datrys digwyddiadau gweithredol tân ac achub |
3 |
95 |
14 |
1332
|
Cefnogi effeithiolrwydd yr ymateb gweithredol i beryglon o fewn y gymuned |
3 |
30 |
5 |
1333 |
Diogelu’r amgylchedd rhag effeithiau digwyddiadau sy’n ymwneud â deunyddiau peryglus |
3 |
20 |
3 |
1334
|
Cymryd cyfrifoldeb dros berfformiad personol a chefnogi datblygiad cydweithwyr |
3 |
3 |
20 |
1335
|
Darparu gwybodaeth i’r gymuned ac addysgu’r gymuned i wella ymwybyddiaeth o faterion diogelwch |
3 |
3 |
20 |
Mae’r Llawlyfr Cymwysterau yn cynnwys gwybodaeth fanwl gan gynnwys y deilliannau dysgu a’r meini prawf asesu ac mae ar gael i ganolfannau cymeradwy ar gais. Gellir cael gafael ar ragor o wybodaeth am ein cymwysterau a’n gwasanaethau pwrpasol drwy e-bostio info@sfjawards.com