Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Tai

Framework:
Tai
Lefel:
2/3

Mae gweithwyr tai proffesiynol yn effeithio'n uniongyrchol ar amodau byw un o bob pedair aelwyd ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau'r unigolion a'r cymunedau hynny.

Mae tai yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau, o reoli eiddo, datblygu cymunedol, tai â chymorth a llety hostel i gynllunio cartrefi newydd.

Mae'r sector tai rhent preifat a cyhoeddus yn cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau tai, landlordiaid preifat bach, landlordiaid yn y sector gwirfoddol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, asiantaethau digartrefedd, sefydliadau a reolir gan denantiaid a sefydliadau ymgyrchu.

Mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd, sydd â phob math o brofiad. Gallai rhai ohonynt fod wedi cael profiad am dâl neu brofiad di-dâl o weithio yn y sector.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr fod â sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol a fydd yn cael eu datblygu gan y brentisiaeth hon, bod yn barod i weithio fel rhan o dîm, nodi a gwerthfawrogi amrywiaeth, a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o gwsmeriaid.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Tai - Lefel 2

Addas ar gyfer swydd Cynorthwy-ydd Tai a Chynorthwy-ydd Cynnal a Chadw Tai

Tai - Lefel 3

Addas ar gyfer swydd Swyddog Cymorth Cymunedol, Swyddog Cymorth Tai a Swyddog Tai

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 2: 12 mis

Lefel 3:  18 mis

Llwybrau dilyniant

Lefel 2

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Prentisiaeth mewn Tai Lefel 3 neu Dystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Tai
  • Aelodaeth o'r sefydliad proffesiynol
  • Prentisiaeth mewn Gweinyddiaeth Busnes neu Wasanaeth Cwsmeriaid
  • Camu ymlaen i swydd Swyddog Tai

Lefel 3

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Tystysgrif/Diploma CIH Lefel 4 mewn Ymarfer Tai
  • Aelodaeth o sefydliad proffesiynol
  • Swyddi rheoli o fewn y sector HND a graddau Sylfaen mewn Tai

Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, gall prentisiaid ddod yn aelod ymarferydd o'r CIH.

Cymwysterau

Lefel 2: Tystysgrif NVQ mewn Tai

Lefel 3: Tystysgrif mewn Tai

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 2

Lefel 2:  Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol. Bydd ymgeiswyr yn dod o lwybrau amrywiol a all gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

  • ysgol neu goleg
  • profiad gwirfoddol blaenorol neu brofiad am dâl blaenorol
  • Bagloriaeth Cymru mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.

Lefel 3

Lefel 3: Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y llwybr hwn. Gall camu ymlaen i Lefel 3 ddod o'r llwybrau canlynol: Prentisiaeth sylfaen mewn Tai, Gweinyddiaeth Busnes neu Wasanaeth Cwsmeriaid, profiad blaenorol neu waith gwirfoddol yn y sector Tai.

Bagloriaeth Cymru - Gwasanaethau Cyhoeddus

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

19 Ebrill 2023