Skip to main content

Llwybr

Tai

Mae Instructus wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Eiddo a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 19/03/2020 ACW Fframwaith Rhif. FR05031

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

48 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 2 mewn Tai.

51 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer y Llwybr Lefel 3 mewn Tai.

Gofynion mynediad

Mae cyflogwyr yn ceisio denu ymgeiswyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd a gyda gwahanol brofiadau. Efallai y bydd rhai ohonynt wedi cael profiad blaenorol yn y sector, naill ai gyda thâl neu’n ddi-dâl.

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr fod â sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol y bydd y brentisiaeth hon yn adeiladu arnynt, a bod yn barod i weithio fel rhan o dîm, cydnabod a gwerthfawrogi amrywiaeth a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o gwsmeriaid.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Tai

Lefel 2: Tai Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 2 Tystysgrif NVQ mewn Tai
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0287/0 500/9140/2 16 160 Gwybodaeth Cymraeg-Saesneg
Lefel 2 Tystysgrif mewn Arferion Tai
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
CIH C00/3781/6 603/3583/X 14 140 Cyfun Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Tai Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Tai 100 102
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Tai (Lefel 2) – isafswm o 48 credyd/202 awr

16 credyd ar gyfer Cymhwysedd

Isafswm o 14 credyd ar gyfer Gwybodaeth

18 credyd ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru

Rhagwelir y bydd yn cymryd 12 mis i gwblhau’r llwybr hwn.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Tai

Lefel 3: Tai Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 3 Tystysgrif mewn Tai
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0108/6 500/6690/0 29 290 Gwybodaeth Saesneg yn Unig

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Tai Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Tai 195 150
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Tai (Lefel 3) – isafswm o 51 credyd/345 awr

26 credyd ar gyfer Cymhwysedd

Isafswm o 13 credyd ar gyfer Gwybodaeth

12 credyd ar gyfer Saesneg a Mathemateg Sgiliau Hanfodol Cymru

Rhagwelir y bydd yn cymryd 18 mis i gwblhau’r llwybr hwn.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Dim

Dilyniant

Lefel 2: Tai

Dilyniant i’r Brentisiaeth Lefel 2 hon

Bydd yr ymgeiswyr yn dod o amrywiaeth o lwybrau, a allai gynnwys unrhyw rai o’r canlynol:

  • ysgol neu goleg
  • profiad blaenorol, gwirfoddol neu gyda thâl
  • Bagloriaeth Cymru mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Dilyniant o’r brentisiaeth hon

  • Prentisiaeth mewn Tai
  • Tystysgrif Lefel 2 neu Lefel 3 mewn Arferion Tai
  • Aelodaeth o’r sefydliad proffesiynol, y Sefydliad Tai Siartredig
  • Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes neu Wasanaethau i Gwsmeriaid
  • Symud ymlaen i fod yn Swyddog Tai

Lefel 3: Tai

Dilyniant i’r Brentisiaeth Lefel 3 hon

  • Prentisiaeth sylfaen mewn Tai, Gweinyddu Busnes neu Wasanaethau i Gwsmeriaid
  • Profiad blaenorol neu waith gwirfoddol yn y sector Tai
  • Bagloriaeth Cymru mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Dilyniant o’r brentisiaeth hon

  • Tystysgrif/Diploma Lefel 4 mewn Arferion Tai y Sefydliad Tai Siartredig
  • Aelodaeth o’r sefydliad proffesiynol, y Sefydliad Tai Siartredig (CIH)
  • Symud ymlaen i rolau Rheoli o fewn y sector
  • HND a gradd Sylfaen mewn Tai

Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth, gall prentisiaid ddod yn aelodau o’r Sefydliad Tai Siartredig fel aelodau sy’n ymarferwyr.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Mae mwy o fenywod yn gweithio yng ngweithlu’r sector Tai yng Nghymru (63%), ac mae’r rhan fwyaf o’r gweithlu’n gweithio amser llawn (87%). Yng Nghymru, mae 67% o’r gweithlu rhwng 25 a 54 oed, gyda 5% rhwng 16 a 24 oed. Mae gan 7.8% o’r gweithlu anabledd. Hoffai’r sector annog rhagor o bobl ifanc a dynion i wneud cais am swyddi o fewn y sector.

Mae’r rhesymau tebygol dros yr anghydbwysedd hwn yn cynnwys:

  • Pobl ifanc nad ydynt yn ymwybodol o yrfaoedd o fewn y sector. Nid yw nifer o bobl yn cynllunio gyrfa mewn tai ond yn hytrach maent yn dueddol o ymuno â’r sector ar ddamwain.
  • Mae rhagdybiaeth bod y cyfleoedd gyrfaol yn gyfyngedig. 

Mae Instructus Skills yn cymryd y camau canlynol i fynd i’r afael â’r problemau amrywiaeth yn y gweithlu:

  • Codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion am y sector Tai fel gyrfa drwy weithio gyda chynghorwyr gyrfaoedd
  • Gweithio gyda sefydliadau proffesiynol i hyrwyddo’r sector
  • Defnyddio lluniau nad ydynt yn cydymffurfio â stereoteipiau ar y wefan yrfaoedd ac mewn deunyddiau gyrfaoedd
  • Astudiaethau achos yn dangos prentisiaid o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae prentisiaethau’n cael eu hystyried fel llwybr hanfodol i annog, a hwyluso, mwy o amrywiaeth o unigolion i ymuno â’r diwydiant. Mae cyflogwyr Tai yn dueddol o recriwtio prentisiaid o’u cymunedau lleol, gan wella cynhwysiant cymdeithasol.

Anogir cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i gynnig cymorth a mentora ychwanegol i sicrhau bod prentisiaid yn cwblhau eu hyfforddiant.

Bydd Instructus Skills yn monitro’r nifer sy’n dechrau ar unrhyw Brentisiaethau ac yn eu cyflawni drwy’r grŵp Cyflogwyr Cymru ac yn parhau i gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i gofrestru ar gyfer a chyflawni’r Prentisiaethau fel rhan o’n Strategaeth ar Gymwysterau’r Sector. 

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 


Diwygiadau dogfennau

19 Ebrill 2023