- Framework:
- Gwasanaethau Glanhau a Chymorth Amgylcheddol
- Lefel:
- 2/3
Mae glanhawyr yn sicrhau bod y lleoedd rydym yn gweithio ynddynt a'r mannau cyhoeddus rydym yn eu defnyddio yn ddeniadol, yn ddiogel ac yn hylan.
Fel Prentis gallech weithio mewn amrywiaeth o leoliadau fel ysbytai, ysgolion, ffatrïoedd, swyddfeydd o'r radd flaenaf a chanolfannau siopa.
Mae Gwasanaethau Amgylcheddol Lleol yn cynnwys swyddi cynorthwyydd neu weithredwr gwasanaethau cymdogaeth. Mae'r rôl yn cynnwys cyfuniad o sgiliau glanhau a garddwriaethol, megis tirlunio caled a meddal a gwaith cynnal a chadw tiroedd. Os ydych yn dilyn y llwybr hwn, fel arfer byddech yn gweithio i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai mewn lleoliadau fel parciau, mynwentydd ac amlosgfeydd, hawliau tramwy cyhoeddus, safleoedd hamdden cefn gwlad a mannau agored o amgylch cartrefi pobl ac adeiladau'r cyngor.
Mae Rheoli Plâu yn cwmpasu swyddi Technegydd neu Weithredwr Rheoli Plâu. Mae'r rôl yn cynnwys canfod, rheoli neu ddileu plâu/fermin yng nghartrefi a busnesau cwsmeriaid drwy ddefnyddio dulliau amrywiol megis defnyddio plaladdwyr a gosod maglau. Hefyd, mae'r gwaith yn cynnwys cynnig cyngor ar fesurau ataliol a dulliau rheoli addas.
Os ydych yn gweithio fel glanhawr ffenestri neu lanhawr arbenigol, bydd angen gweithio ar uchder ac mewn mannau caeedig. Bydd disgwyl i brentisiaid llwybrau Gwasanaethau Amgylcheddol Lleol neu Reoli Plâu weithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Gwasanaethau Glanhau a Chymorth Amgylcheddol – Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Glanhawr Trafnidiaeth Teithwyr, Glanhawr Diwydiannol, Gofalwr, Glanhawr Ffenestri, Gweithredwr Glanhau Strydoedd, Gweithredwr Hylendid a Glanhau, Glanhawr Carpedi a Lloriau Arbenigol
Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Gweithredwr Gwasanaethau Cymdogaeth neu Weithredwr Gwasanaethau Cymdogaeth Arbenigol
Llwybr 3: Addas ar gyfer swydd Technegydd Rheoli Plâu
Gwasanaethau Glanhau a Chymorth Amgylcheddol – Lefel 3
Addas ar gyfer swydd Goruchwyliwr Glanhau neu Arweinydd Tîm
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12 mis
Lefel 3: 12 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2: Mae llwybrau camu ymlaen yn cynnwys:
Prentisiaeth mewn Rheoli Cyfleusterau
- Prentisiaeth mewn Goruchwylio Glanhau
- Prentisiaeth Lefel 3
- Camu ymlaen i swydd arweinydd tîm, swyddi goruchwylio a swyddi rheoli lefel uwch.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, mae gweithiwr cyflogedig yn gallu gwneud cais i fod yn aelod o'r sefydliad proffesiynol, sef Sefydliad Gwyddor Glanhau Prydain (BICS)
Lefel 3: Mae llwybrau camu ymlaen yn cynnwys:
- Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Cyfleusterau
- Prentisiaeth Uwch mewn Arweinyddiaeth a Rheoli
- Gradd Sylfaen a chymwysterau Lefel Gradd mewn Rheoli
Cymwysterau
Lefel 2: Tystysgrif/Dyfarniad/Diploma yn y llwybr o'ch dewis
Lefel 3: Diploma mewn Sgiliau Goruchwylio Glanhau
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Gall ymgeiswyr ddod o lwybrau mynediad amrywiol, ac un ohonynt yw astudiaethau Amgylcheddol a Thir Bagloriaeth Cymru.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr fod â sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol y bydd y brentisiaeth hon yn eu datblygu, bod yn barod i weithio fel rhan o dîm a bod â diddordeb brwd mewn darparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol
Lefel 3
Gall ymgeiswyr ddod o lwybrau mynediad amrywiol, ac un ohonynt yw astudiaethau Amgylcheddol a Thir Bagloriaeth Cymru.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr fod â sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol y bydd y brentisiaeth hon yn eu datblygu, bod yn barod i weithio fel rhan o dîm a bod â diddordeb brwd mewn darparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol
Gweld llwybr llawn