- Framework:
- Technegwyr Labordy a Gwyddoniaeth
- Lefel:
Bydd y fframwaith yn rhoi cyfle i chi ennill y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer swydd fel technegydd labordy neu dechnegydd gwyddoniaeth.
Mae technegwyr labordai a gwyddoniaeth yn cwmpasu ystod eang o swyddi galwedigaethol, gan gynnwys y rhai sy'n darparu cymorth ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu gwyddonwyr a pheirianwyr, a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau sicrhau ansawdd neu wyddoniaeth ddadansoddol. Hefyd, maen nhw’n gweithio mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yn cefnogi athrawon gwyddoniaeth a dysgu technegol.
Bydd natur benodol pob swydd technegydd labordai a gwyddoniaeth yn amrywio yn ôl anghenion y cyflogwr, ond gallech weithio yn y meysydd canlynol:
- ymchwil a datblygu;
- dadansoddi a phrofi gwyddonol; neu
- addysg a diwydiant.
Cyflogir technegwyr mewn ystod eang o feysydd gwyddonol sy'n effeithio ar bron pob agwedd ar ein bywydau. Fel Technegydd, gallech fod yn rhan o'r gwaith i helpu i wneud diagnosis o glefyd drwy gefnogi arbenigwyr meddygol mewn ysbyty neu glinig iechyd, neu wirio cynhyrchion yn y diwydiannau bwyd, diod neu fferyllol.
Yn aml, mae technegwyr yn gosod cyfarpar ac arbrofion sy'n cefnogi athrawon a darlithwyr sy'n addysgu bioleg, cemeg, ffiseg a phynciau gwyddonol eraill.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Technegwyr Labordy a Gwyddoniaeth - Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Technegydd Labordy Gwyddoniaeth Addysg (Cyffredinol) a Thechnegydd Labordy Gwyddoniaeth Addysg (Cynnal a Chadw).
Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Technegydd Labordy (Ffiseg Iechyd),
Technegydd Dadansoddi Labordy (Gwyddor yr Amgylchedd), Technegydd Labordy (Proses), Technegydd Labordy (Safonau), Technegydd Labordy (Cynnal a Chadw) ac Ymchwilydd/Technegydd Labordy.
Llwybr 3: Addas ar gyfer swyddi Technegydd Labordy (Proses), Technegydd Gweithgynhyrchu Labordy, Technegydd Labordy Eplesu, Technegwyr Labordy Gofal Iechyd (Haematoleg) a Thechnegwyr Labordy Clinigol (Microbioleg).
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 3: 24 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 3:
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Cyrsiau Addysg Bellach neu Addysg Uwch
- Cymwysterau Lefel 4/5
Cymwysterau
Lefel 3: Diploma NVQ yn y llwybr sy'n cael ei ddewis.
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 3
Byddai cyflogwyr gwyddor yr amgylchedd â diddordeb mewn ymgeiswyr sydd:
- yn awyddus ac yn frwdfrydig i weithio mewn amgylchedd gwyddoniaeth
- yn barod i ymgymryd â chwrs hyfforddi estynedig mewn amgylchedd gwaith yn y gweithle a'r tu allan i'r gweithle
- wedi cael profiad gwaith blaenorol neu wedi gweithio yn y sector o'r blaen
- â chymhwyster Bagloriaeth Cymru gydag opsiwn pwnc craidd gwyddoniaeth, neu hebddo
- â chymwysterau TGAU yn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth (graddau A i E)
- wedi cwblhau rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau
Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol. Fel canllaw, mae Prentisiaeth Lefel 3 Technegydd Labordy a Gwyddoniaeth yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd â phum cymhwyster TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.
Gweld llwybr llawn