Skip to main content

Pathway

Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth

Mae Cogent wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwyddorau Bywyd a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

91 credyd yw cyfanswm isafswm y credydau sydd eu hangen ar gyfer Llwybr Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth Lefel 3 – Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig (Gwyddor Addysg).

103 credyd yw cyfanswm isafswm y credydau sydd eu hangen ar gyfer Llwybr Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth Lefel 3 – Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig (Gwyddoniaeth Ddiwydiannol).

Entry requirements

Mae cyflogwyr yn y sector gwyddoniaeth yn dymuno denu ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gweithio mewn amgylchedd gwyddoniaeth a byddai ganddynt ddiddordeb mewn ymgeiswyr:

  • sy’n awyddus ac wedi’u hysgogi i weithio mewn amgylchedd gwyddoniaeth
  • sy’n barod i fynd ar gwrs o hyfforddiant estynedig mewn amgylchedd gwaith yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith
  • sydd wedi cael profiad gwaith yn y sector neu sydd wedi cael eu cyflogi yn y sector o’r blaen
  • sydd â chymhwyster Bagloriaeth Cymru – gyda neu heb ddewis craidd gwyddoniaeth
  • sydd â chymhwyster TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, graddau A i E
  • sydd wedi cwblhau rhaglen Llwybrau i Brentisiaeth

Mae’r Brentisiaeth Technegydd Labordai a Gwyddoniaeth Lefel 3 yn addas i ymgeiswyr sydd â phum gradd TGAU C neu uwch sy’n cynnwys Mathemateg, Saesneg ac un pwnc Gwyddoniaeth. Nid yw hon yn rheol y mae’n rhaid cadw ati, ond yn hytrach gall amrywio ar sail y llwybr a ddewisir a pha mor addas yw ymgeiswyr unigol.

Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno ymgymryd â’r cymhwyster gwybodaeth sylfaenol BTEC Diploma HNC Lefel 4 eisoes fod â Thystysgrif Dechnegol ar Lefel 3, cymwysterau Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol yn y maes pwnc perthnasol a rhaid iddynt fod yn 18 oed neu  hŷn (fel y nodir yn y wybodaeth am fynediad ar y System Technoleg Gwybodaeth Rheoleiddio). Nid yw’r sector Gwyddoniaeth yn pennu cyfyngiadau o ran mynediad, fel lefel isaf y cymwysterau sy’n angenrheidiol, ac mae’n croesawu ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd ac yn rhagweld y bydd gan ymgeiswyr wedi cael profiadau amrywiol, wedi cyflawni pethau gwahanol ac wedi ennill gwahanol gymwysterau.

Gallai’r broses ddewis ar ran cyflogwyr gynnwys gweithgaredd asesu cychwynnol lle gellid gofyn i ymgeiswyr a oes ganddynt gymwysterau neu brofiad y gellir eu hachredu am eu bod yn bodloni gofynion y brentisiaeth.

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 3: Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth – Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig - (Gwyddor Addysg)

Lefel 3: Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth – Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig - (Gwyddor Addysg) Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un cymhwyster cymhwysedd ac un cymhwyster gwybodaeth o’r rhai a restrir isod.

Lefel 3 Diploma NVQ mewn Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0354/6 600/1731/4 48 480 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Lefel 3 BTEC Tystysgrif Genedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0775/1 601/7434/1 24 235 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 3 BTEC Tystysgrif Estynedig Genedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0775/3 601/7436/5 46 455 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 3 BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0775/4 601/7438/9 64 640 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 3 BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0775/2 601/7435/3 89 890 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 3 BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0776/0 601/7437/7 135 1345 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 4 BTEC Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/4037/4 603/4570/6 120 1200 Cyfun Saesneg yn Unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth – Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig - (Gwyddor Addysg) Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth – Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig - (Gwyddor Addysg) 300 496
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Hyd y llwybr yw tua 24 mis yn dibynnu ar y cymhwyster a’r unedau a ddewisir.

Cyfanswm isafswm y credydau (sy’n cwmpasu’r holl hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer yr holl elfennau) = 91 credyd

Y llwybr gydag isafswm cyfanswm yr oriau dysgu = 796 o oriau hyfforddi

• Cymhwysedd = isafswm o 300 o oriau/isafswm o 48 credyd

Gwybodaeth = isafswm o 180 o oriau/25 credyd (ar sail isafswm yr oriau hyfforddi ar gyfer tystysgrif dechnegol)

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth – Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig (Gwyddoniaeth Ddiwydiannol)

Lefel 3: Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth – Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig (Gwyddoniaeth Ddiwydiannol) Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un cymhwyster cymhwysedd ac un cymhwyster gwybodaeth o’r rhai a restrir isod.

Lefel 3 Diploma NVQ mewn Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0354/6 600/1731/4 48 480 Gwybodaeth Saesneg yn Unig
Lefel 3 BTEC Tystysgrif Genedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0775/1 601/7434/1 24 235 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 3 BTEC Tystysgrif Estynedig Genedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0775/3 601/7436/5 46 455 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 3 BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0775/4 601/7438/9 64 640 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 3 BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0775/2 601/7435/3 89 890 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 3 BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/0776/0 601/7437/7 135 1345 Cyfun Saesneg yn Unig
Lefel 4 BTEC Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
Pearson C00/4037/4 603/4570/6 120 1200 Cyfun Saesneg yn Unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth – Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig (Gwyddoniaeth Ddiwydiannol) Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth – Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig (Gwyddoniaeth Ddiwydiannol) 318 496
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Hyd y llwybr yw tua 24 mis yn dibynnu ar y cymhwyster a’r unedau a ddewisir.

Cyfanswm isafswm y credydau (sy’n cwmpasu’r holl hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer yr holl elfennau) = 103 credyd

Y llwybr gydag isafswm cyfanswm yr oriau dysgu = 814 o oriau hyfforddi

• Cymhwysedd = isafswm o 318 o oriau/isafswm o 60 credyd

Gwybodaeth = isafswm o 180 o oriau/25 credyd (ar sail isafswm yr oriau hyfforddi ar gyfer tystysgrif dechnegol)

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol eraill ar gyfer y llwybr hwn.

Job roles

Yma

Progression

Lefel 3: Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth – Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig - (Gwyddor Addysg)

Ceir disgrifiad o’r dilyniant i’r llwybr hwn yn y meini prawf mynediad ond mae mwyafrif yr ymgeiswyr yn debygol o fod yn unigolion sy’n gadael yr ysgol ac sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau TGAU/Bagloriaeth ac wedi gwneud gweithgaredd galwedigaethol perthnasol fel profiad gwaith. 

Mae’n bosibl y bydd eraill wedi gweithio yn y sector gwyddoniaeth am gyfnod cyn ystyried prentisiaeth. Mae’n bosibl y bydd rhai eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen ar gyfer Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth (Gwyddor Addysg) neu un o’r tri llwybr arall.

Er gwybodaeth: Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno ymgymryd â chymhwyster gwybodaeth sylfaenol BTEC Diploma HNC Lefel 4 eisoes fod â Thystysgrif Dechnegol ar Lefel 3, cymwysterau Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol yn y maes pwnc perthnasol a rhaid iddynt fod yn 18 oed neu hŷn (fel y nodir yn y wybodaeth am fynediad ar y System Technoleg Gwybodaeth Rheoleiddio).

Mae dilyniant o’r llwybr yn fwy anodd ei ragweld gan mai dyma’r tro cyntaf i raglen brentisiaeth gael ei hystyried fel ffordd brif ffrwd o hyfforddi technegwyr labordai. Mae’n debygol y bydd prentisiaid llwyddiannus yn cymryd swyddi technegwyr labordai mewn Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y rhain yn swyddi goruchwylio a byddant yn ymgymryd â gweithgareddau rheolaidd a mwy anarferol.

Mae cyfleoedd i ymgymryd ag addysg Bellach ac Uwch yn debygol yn enwedig i brentisiaid sy’n cwblhau BTEC Diploma Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol. Mae’n bosibl y bydd prentisiaid yn cael cyfle i symud ymlaen i gymwysterau lefel 4/5 sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, a allai roi mynediad i amrywiaeth eang o gyrsiau prifysgol sy’n ymwneud â gwyddoniaeth. “Mae nifer o brifysgolion yn trin y cwrs gwyddoniaeth gymhwysol lefel 3 yn yr un modd ag y byddent yn trin 3 cymhwyster Safon Uwch gwyddoniaeth” (Ffynhonnell: Pearson).

Lefel 3: Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth – Gweithgareddau Labordy a Gweithgareddau Technegol Cysylltiedig (Gwyddoniaeth Ddiwydiannol)

Ceir disgrifiad o’r dilyniant i’r llwybr yn y meini prawf mynediad ond mae mwyafrif yr ymgeiswyr yn debygol o fod yn unigolion sy’n gadael yr ysgol sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau TGAU/Bagloriaeth a gweithgaredd galwedigaethol perthnasol fel profiad gwaith.  Mae’n bosibl y bydd eraill wedi gweithio yn y sector gwyddoniaeth am gyfnod cyn ystyried prentisiaeth. Mae’n bosibl y bydd rhai eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen ar gyfer Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth (Gwyddoniaeth Ddiwydiannol) neu un o’r tri llwybr arall.

Er gwybodaeth: Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno ymgymryd â chymhwyster gwybodaeth sylfaenol BTEC Diploma HNC Lefel 4 eisoes fod â Thystysgrif Dechnegol ar Lefel 3, cymwysterau Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol yn y maes pwnc perthnasol a rhaid iddynt fod yn 18 oed neu hŷn (fel y nodir yn y wybodaeth am fynediad ar y System Technoleg Gwybodaeth Rheoleiddio).

Mae dilyniant o’r llwybr yn fwy anodd ei ragweld gan mai dyma’r tro cyntaf i raglen brentisiaeth gael ei hystyried fel ffordd brif ffrwd o hyfforddi technegwyr labordai. Mae’n debygol y bydd prentisiaid llwyddiannus yn cymryd swyddi technegwyr labordai mewn cwmnïau diwydiannol, fferyllol, petrocemegol a niwclear. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y rhain yn swyddi goruchwylio a byddant yn ymgymryd â gweithgareddau rheolaidd a mwy anarferol.

Mae cyfleoedd i ymgymryd ag addysg Bellach ac Uwch yn debygol yn enwedig i brentisiaid sy’n cwblhau BTEC Diploma Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol. Mae’n bosibl y bydd prentisiaid yn cael cyfle i symud ymlaen i gymwysterau lefel 4/5 sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, a allai roi mynediad i amrywiaeth eang o gyrsiau prifysgol sy’n ymwneud â gwyddoniaeth. “Mae nifer o brifysgolion yn trin y cwrs gwyddoniaeth gymhwysol lefel 3 yn yr un modd ag y byddent yn trin 3 cymhwyster Safon Uwch gwyddoniaeth” (Ffynhonnell: Edexcel).

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Nod y Brentisiaeth Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfleoedd a chynhwysiant drwy gynnig cyfleoedd dysgu o safon uchel.

Rhaid cyflawni’r gwaith o ddarparu’r Llwybr Prentisiaeth mewn amgylcheddau sy’n rhydd o ragfarn a gwahaniaethu lle gall yr holl ddysgwyr gyfrannu’n llawn ac yn rhydd a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Ni chaniateir arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddewis a recriwtio prentisiaid i’r rhaglen, sydd ar gael i bawb, waeth beth fo’u rhywedd, tarddiad ethnig, crefydd/cred, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd sy’n bodloni’r meini prawf dewis a nodwyd.

Rhwystrau: Mewn diwydiannau a gwasanaethau lle ceir mentrau micro neu fach a chanolig, fel Biotechnoleg lle mae 99% o’r holl gyflogwyr yn fentrau o’r fath, ni all rhai o’r cyflogwyr gwmpasu’r amrywiaeth o wasanaethau y gall cyflogwr mawr eu cwmpasu.

Nid oes llwybr mynediad wedi’i ddiffinio islaw graddedigion i’r diwydiant Gwyddoniaeth. Mae’r cyngor gyrfaoedd ynghylch mynediad i’r diwydiant hwn yn aml yn wael. Mae’r arfer sydd wedi’i hen sefydlu o recriwtio graddedigion i rolau technegwyr yn golygu nad oes fawr o ymwybyddiaeth ymysg cyflogwyr o fuddion posibl datblygu technegwyr a gweithwyr proffesiynol gwyddoniaeth drwy lwybr prentisiaeth, ac mae hynny’n cyfyngu ar amrywiaeth y technegwyr sy’n cael swyddi.

Mae rhai yn ystyried bod llai o werth i rôl technegydd gwyddoniaeth na rôl gwyddonwyr  graddedig ac felly fe’i hystyrir yn ddewis gyrfa llai deniadol, sy’n cyfyngu ar amrywiaeth y cohort sy’n cael ei ddenu i’r proffesiwn technegydd gwyddoniaeth. 

Camau gweithredu: Mae Cogent yn bwriadu cyflwyno cyfres o astudiaethau achos a Llwybrau Gyrfaoedd ar ei wefan gyrfaoedd (www.cogentskills.com) gyda’r bwriad o annog pobl o bob cefndir i ddod yn Dechnegwyr Labordai a Gwyddoniaeth. Bydd yr astudiaethau achos hyn hefyd yn arddangos buddion defnyddio Llwybr Prentisiaeth Technegwyr Labordai a Gwyddoniaeth i gyflogwyr fel ffordd o wella amrywiaeth y gweithlu labordai, gwyddonol a thechnegol.

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar Brentisiaethau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

 


Document revisions

19 Tachwedd 2021