- Framework:
- Yswiriant
- Lefel:
Os ydych chi eisoes yn gweithio mewn swydd technegydd hawliadau/broceru/tanysgrifennu neu swydd arweinydd tîm/goruchwylydd yn y sector yswiriant, mae'r brentisiaeth hon yn addas i chi.
Byddai'r fframwaith hwn yn addas i chi os oes gennych:
- sgiliau cyfathrebu a gwrando da;
- sgiliau rhifedd, ymchwil, dadansoddol a TG;
- hunanddisgyblaeth; a
- sgiliau cadw cofnodion.
Hefyd, byddai'r rhaglen hon yn addas i chi os oes gennych ddealltwriaeth dda o ddarparu atebion i anghenion ariannol pobl a'r gallu i ryngweithio â gwahanol fathau o bobl.
Gofynnir i chi ddatgan unrhyw droseddau, methdaliad neu CJJs wrth i chi gofrestru am y cymwysterau.
Fel canllaw, bydd angen y sgiliau a'r priodweddau canlynol arnoch i ymgymryd â'r brentisiaeth hon:
- hunan-gymhelliant i lwyddo yn y diwydiant;
- brwdfrydedd;
- mentergarwch;
- gallu i ddatblygu sgiliau trefniadol;
- potensial i gwblhau'r cymwysterau;
- parodrwydd i ddysgu a defnyddio'r hyn a ddysgir yn y gweithle;
- parodrwydd i weithio gan roi sylw dyledus i iechyd a diogelwch;
- parodrwydd i addasu i rolau gwaith gwahanol;
- gallu i ymdopi mewn sefyllfaoedd prysur;
- parodrwydd i gyfathrebu ag amrywiaeth o bobl;
- rhifedd a llythrennedd.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Yswiriant - Lefel 4
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Technegydd Hawliadau, Technegydd Broceru, Technegydd a Goruchwylydd Tanysgrifennu.
Mwy o wybodaeth
Hyd
18-24 mis
Llwybrau dilyniant
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Swyddi rheoli
- cymwysterau proffesiynol lefel uwch, gan gynnwys:
Diploma Uwch Lefel 6 CII mewn Yswiriant.
Cymwysterau
Diploma Lefel 4 mewn Yswiriant
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 4
Er nad oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er mwyn cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, gorau oll os oes gan ymgeiswyr gymwysterau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg ar raddau A i C, ynghyd â Rhaglen Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 a/neu Lefel 3 mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol (Yswiriant Cyffredinol) neu mewn pwnc cyffredinol, fel Gwasanaeth Cwsmeriaid neu Weinyddiaeth Busnes.
Dylech allu dangos y canlynol i gyflogwr a darparwr dysgu:
- ymrwymiad i weithio gyda phobl, efallai drwy gyrsiau cyswllt ysgol neu brofiad gwaith;
- cymwysterau TGAU neu gymwysterau cyfatebol;
- diddordeb mewn gwasanaethau ariannol.