Mae’r Financial Services Partnership wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ariannol a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 12/01/2018 ACW Fframwaith Rhif. FR04212
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
115 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Yswiriant
Gofynion mynediad
Byddai’r rhaglen Brentisiaeth Uwch hon yn gweddu i rywun sydd â sgiliau cyfathrebu a gwrando da. Mae’r sgiliau perthnasol eraill yn cynnwys sgiliau rhifedd, ymchwil, dadansoddi, TG, hunanddisgyblaeth a chadw cofnodion. Byddai’r rhaglen hon hefyd yn gweddu i unigolion sydd â dealltwriaeth dda o ddarparu atebion i anghenion ariannol pobl ac sy’n gallu rhyngweithio â gwahanol fathau o bobl.
Dylai ymgeiswyr allu arddangos i gyflogwyr a darparwyr dysgu:
- ymrwymiad wedi’i brofi i weithio gyda phobl, efallai drwy gyrsiau cyswllt ag ysgolion neu brofiad gwaith;
- eu bod wedi ennill cymwysterau TGAU neu gymhwyster cyfatebol;
- diddordeb mewn gwasanaethau ariannol.
Er nad oes unrhyw ofynion mynediad academaidd gofynnol, er mwyn bod yn llwyddiannus ar y rhaglen, byddai’n beth da i ymgeiswyr fod â chymhwyster TGAU mewn Saesneg neu Fathemateg gyda gradd A i C, ynghyd â rhaglen Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 a /neu Lefel 3 mewn Darparu Gwasanaethau Ariannol (Yswiriant Cyffredinol) neu bwnc generig fel Gwasanaethau i Gwsmeriaid neu Weinyddu Busnes.
Fodd bynnag, mae gan nifer o gyflogwyr ddiddordeb hefyd mewn sgiliau a phrofiad sy’n dod yn sgil cyflogaeth neu waith gwirfoddol. Mae ymddiriedaeth, uniondeb a gonestrwydd oll yn nodweddion y mae cyflogwyr yswiriant yn eu gwerthfawrogi.
Rhaid i ddysgwyr ddatgan unrhyw euogfarnau troseddol, methdaliadau neu Ddyfarniadau Llys Sirol (CCJ) wrth gofrestru ar gyfer y cymwysterau.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 4: Yswiriant
Lefel 4: Yswiriant Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 4 Diploma mewn Yswiriant | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0795/4 600/8080/2 | 53 | 530 | Gwybodaeth | Saesneg yn unig |
Lefel 4 Diploma mewn Gweithgarwch Yswiriant | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Chartered Insurance Institute | C00/0619/4 601/2521/4 | 50 | 500 | Cyfun | Saesneg yn unig |
Lefel 4 Diploma Mewn Arwain a Rheoli | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0497/7 600/5931/X | 37 | 370 | Cyfun | Saesneg yn unig |
Gradd Sylfaen Celfyddydau – Dysgu Seiliedig ar Waith (Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Metropolitan Caerdydd | 10643 | 240 | 2400 | Cyfun | Saesneg yn unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 4: Yswiriant | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 4: Yswiriant | 365 | 390 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Diploma Lefel 4 mewn Yswiriant – (Cymhwysedd) - 53 credyd/330 awr
Diploma Lefel 4 mewn Gweithgarwch Yswiriant – (Gwybodaeth) – 50 credyd/300 awr
Cyfanswm yr hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer y llwybr hwn yw 755 awr. Rhagwelir y bydd dysgwr arferol yn cymryd rhwng 18 a 24 mis i’w gwblhau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dilyniant
Lefel 4: Yswiriant
Gall dilyniant i’r Brentisiaeth hon ddod o’r cymwysterau canlynol:
- TGAU a chymwysterau amgen eraill;
- Safon Uwch;
- Diploma 14-19;
- Bagloriaeth Cymru;
- Cymwysterau a Phrentisiaethau Canolradd Lefel 2;
- Cymwysterau a Phrentisiaethau Lefel 3.
I’r rheiny sy’n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau a’u cymwysterau y tu hwnt i lefel 4, mae cyfleoedd ar gael i symud ymlaen i gymwysterau proffesiynol ar lefel uwch, gan gynnwys:
- Diploma Uwch CII Lefel 6 mewn Yswiriant.
Gall technegwyr a goruchwylwyr symud ymlaen i rolau Rheoli ac ymdrin â Chleientiaid.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Mae anghydraddoldebau yn y sector a’r gweithlu gwasanaethau ariannol yn parhau i fenywod ac mae tystiolaeth bod mamau newydd yn wynebu gorfod symud i swyddi is unwaith y byddant yn dychwelyd i’r farchnad lafur. Ceir argymhelliad yn yr adroddiad, Fair Access to the Professions 2012 Report, y dylid darparu Prentisiaethau gyda mynediad hyblyg a dilyniant i’r proffesiynau sy’n gallu cefnogi cyfleoedd yng nghanol gyrfa, cyfleoedd i gyfnewid gyrfaoedd a chyfleoedd i ddychwelyd i yrfaoedd - https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/61090/IR_FairAccess_acc2.pdf
Mae’r darpariaethau ‘cydraddoldeb telerau’ yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (y Ddeddf) yn rhoi hawl i fenyw sy’n gwneud gwaith sy’n gyfartal â gwaith dyn yn yr un gyflogaeth dderbyn cyflog cyfartal a chydraddoldeb o ran telerau ac amodau eraill. Mae’r Ddeddf yn gosod cymal cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn awtomatig yn ei chontract cyflogaeth, gan sicrhau nad yw telerau ei chontract yn llai ffafriol na’i rai ef. Gelwir y dyn y mae’n hawlio cyflog cyfartal ag ef yn gymharydd iddi. https://www.gov.uk/guidance/equality-act-2010-guidance
Mae ymchwil yn awgrymu bod llai na thraean y rheolwyr a pherchnogion (30%), a phrin un o bob wyth gweithiwr proffesiynol a staff technegol yn y sector gwasanaethau ariannol, yn fenywod - Ffynhonnell: Working Futures - https://gov.wales/working-futures-0
Cadarnheir y canfyddiadau hyn gan wybodaeth o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, sy’n awgrymu bod menywod yn ennill llawer llai na dynion mewn gwasanaethau ariannol - tudalen 10 https://www.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/methodologies/annualsurveyofhoursandearningslowpayandannualsurveyofhoursandearningspensionresultsqmi
Mae mwy o ddynion na menywod yn gweithio yn y sectorau ariannol ac yswiriant a gwasanaethau proffesiynol eraill ar draws pob gwlad yn y DU o gyfran debyg (52 y cant i 48 y cant) – Asesiad o Sgiliau Sectorau 2012 - https://www.gov.uk/government/collections/sector-skills-assessments
Mewn blynyddoedd diweddar, bu’r FLSP yn cynnal ei raglen ‘Through the Glass Ceiling’. Er bod y prif anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein sector ar lefel rheoli uwch, ceir anghydbwysedd hefyd ar lefelau eraill mewn is-sectorau gwahanol. O dan bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth FLSP, rydym wedi ymrwymo i sicrhau gweithlu sy’n adlewyrchu, ar bob lefel, amrywiaeth poblogaeth y DU, felly byddwn yn gweithio i greu prosiectau a fydd yn cynorthwyo i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwn.
Ein hamcan yw gweld dilyniant, nid yn unig menywod, ond hefyd unrhyw grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Dylid recriwtio Prentisiaid mewn modd agored i’r rhaglen, sydd ar gael i bawb sy’n bodloni’r meini prawf dethol a nodwyd, heb ystyried rhywedd, tarddiad ethnig, crefydd nag anabledd.
Rhaid i’r holl bartneriaid sydd ynghlwm wrth ddarparu Prentisiaethau Uwch – darparwyr, canolfannau asesu a chyflogwyr – ymrwymo i bolisi o gyfleoedd cyfartal a rhaid iddynt gael polisi a gweithdrefnau cyfle cyfartal sydd wedi’u nodi.
Dim ond 0.2% o’r dysgwyr ar Brentisiaethau a symudodd ymlaen i addysg bellach neu uwch yn 2007/08, a nifer fechan a aeth yn uniongyrchol i’r proffesiynau. Mae FLSP yn annog pob prentis i symud ymlaen i addysg bellach ac i broffesiwn ac mae llwybrau dilyniant ar gael er mwyn iddynt wneud hynny. Bydd hyn yn cynorthwyo unigolion talentog, waeth beth fo’u cefndir neu eu cymwysterau, i gael cyfle i ddatblygu a ffynnu. Felly, mae’r Llwybr hwn yn gobeithio mynd i’r afael â’r materion hyn.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr