- Framework:
- Iechyd (Gwasanaethau Fferyllol)
- Lefel:
- 2/3
Mae Cynorthwywyr Fferyllol a Fferylliaeth a Thechnegwyr Fferyllol yn rhan hanfodol o'r tîm fferylliaeth ac maen nhw’n gweithio o dan oruchwyliaeth Fferyllydd cofrestredig er mwyn darparu meddyginiaethau i gleifion mewn modd diogel a chywir.
Mae'r rhan fwyaf o Dechnegwyr Fferyllol yn gweithio ym maes fferylliaeth gymunedol (manwerthu) i fferyllfeydd annibynnol bach a chwmnïau fferylliaeth lluosog mawr. Hefyd, mae llawer yn gweithio yng ngwasanaeth fferyllol ysbytai yn y GIG ac mewn ysbytai preifat. Cyflogir rhai Technegwyr Fferyllol yn y diwydiant fferyllol, Carchardai EM, y lluoedd arfog ac yn Sefydliadau Gofal Sylfaenol y GIG.
Mae Cynorthwywyr Fferyllol a Fferylliaeth yn cyflawni dyletswyddau amrywiol yn y sector fferyllol, gan gynnwys y canlynol:
• Gwerthu meddyginiaethau dros y cownter a darparu gwybodaeth i gwsmeriaid am symptomau a chynhyrchion
• Derbyn a chasglu presgripsiynau
• Casglu eitemau presgripsiwn (gan gynnwys creu labeli)
• Archebu, derbyn a storio stoc fferyllol
• Cyflenwi stoc fferyllol
• Paratoi ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion fferyllol (gan gynnwys cynhyrchion aseptig)
• Gweithgynhyrchu a darparu cynhyrchion meddyginiaethol (gan gynnwys cynhyrchion aseptig)
O dan oruchwyliaeth Fferyllydd, mae Technegwyr Fferyllol yn cyflenwi meddyginiaethau i gleifion, boed ar bresgripsiwn neu dros y cownter, yn casglu meddyginiaethau ar gyfer presgripsiynau ac yn darparu gwybodaeth i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Hefyd, mae Technegwyr Fferyllol yn gwneud y canlynol:
• Rheoli meysydd cyflenwi meddyginiaethau fel fferyllfeydd
• Goruchwylio aelodau staff eraill mewn fferyllfa
• Cynhyrchu meddyginiaethau mewn ysbytai a'r diwydiant fferyllol
Opsiynau a lefelau llwybrau
Iechyd (Gwasanaethau Fferyllol) - Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Cynorthwywyr Fferyllfa/Cynorthwywyr Fferyllol
Iechyd (Gwasanaethau Fferyllol) - Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Technegydd Fferyllol
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 15 mis
Lefel 3: 24 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Iechyd (Gwasanaethau Fferyllol).
- Cymwysterau pellach sy'n benodol i'ch cyd-destun gwaith. Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio yn y sector iechyd.
- Addysg a hyfforddiant arall sy'n gysylltiedig â gwaith i ategu Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Lefel 3
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Camu ymlaen i gymwysterau pellach sy'n benodol i'ch cyd-destun gwaith. Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio yn y sector iechyd.
- Cymwysterau addysg uwch neu addysg a hyfforddiant o fathau eraill sy'n gysylltiedig â gwaith i ategu Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
- Camu ymlaen i swyddi Uwch gan arwain at y canlynol yn y pen draw:
• Gweithio fel fferyllydd ar ôl cwblhau gradd briodol
• Arbenigo ym maes rheoli meddyginiaethau, gweithgynhyrchu, rheoli ansawdd, hyfforddi staff, technoleg gwybodaeth, caffael cyflenwadau, treialon clinigol neu wasanaethau gwybodaeth am feddyginiaethau.
• Rheolwyr mewn ysbytai neu gymunedau.
Cymwysterau
Lefel 2: Tystysgrif NVQ mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferyllol
Lefel 3: Diploma NVQ mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferyllol
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol ar gyfer mynediad i'r fframwaith prentisiaeth hwn. Dylai prentisiaid:
• Arddangos brwdfrydedd dros weithio yn y sector fferyllol
• Bod â sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn eu datblygu
• Bod â lefel addas o ffitrwydd corfforol i gyflawni rhai agweddau ar y swydd
• Bod yn barod i gael gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
• Bod yn hyblyg er mwyn gweithio yn unol â system rota os oes angen
Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddilyn amrywiaeth o lwybrau mynediad gan gynnwys:
• gwaith
• profiad gwaith
• ysgol
• coleg
• hyfforddiant a/neu brofiad a all gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maen nhw wedi'i wneud. Mae'n bosibl y bydd gan ymgeiswyr ystod o gymwysterau eisoes, gan gynnwys:
• Sgiliau Hanfodol Cymru
• TGAU
• Bagloriaeth Cymru
• Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu
• Dysgu sylfaenol ar lefel 1
• Cymwysterau lefel 1/2 eraill
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol
Lefel 3
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol ar gyfer mynediad i'r fframwaith prentisiaeth hwn. Dylai prentisiaid:
• Arddangos brwdfrydedd dros weithio yn y sector fferyllol
• Bod â sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn eu datblygu
• Bod â lefel addas o ffitrwydd corfforol i gyflawni rhai agweddau ar y swydd
• Bod yn barod i gael gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
• Bod yn hyblyg er mwyn gweithio yn unol â system rota os oes angen
Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddilyn amrywiaeth o lwybrau mynediad gan gynnwys:
• gwaith
• profiad gwaith
• ysgol
• coleg
• hyfforddiant a/neu brofiad a all gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maen nhw wedi'i wneud. Mae'n bosibl y bydd gan ymgeiswyr ystod o gymwysterau eisoes, gan gynnwys:
• Sgiliau Hanfodol Cymru
• TGAU
• Bagloriaeth Cymru
• Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu
• Dysgu sylfaenol ar lefel 1
• Cymwysterau lefel 1/2 eraill
Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol
Gweld llwybr llawn