Mae Skills for Health ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma’r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Gofal Iechyd a gymeradwywyd i’w ddefnyddio yng Nghymru ac sy’n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/09/2024 ACW Fframwaith Rhif. FR05115
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
43 credyd yw’r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Gwasanaethau Fferyllol.
150 credyd yw’r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gwasanaethau Fferyllol.
Gofynion mynediad
Fel canllaw, gall ymgeiswyr ymuno o amrywiaeth o wahanol lwybrau, gan gynnwys:
- gwaith
- profiad gwaith
- coleg
- hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy’n dangos yr hyn y maent wedi’i wneud.
Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr eisoes wedi cyflawni amrywiaeth o gymwysterau ee:
- Sgiliau Hanfodol Cymru
- Prentisiaeth
- Cymwysterau TGAU
- Bagloriaeth Cymru (ni ellir trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
- Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu (ni ellir trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
Nodweddion Personol – Mae cyflogwyr yn edrych am brentisiaid yn y sector iechyd sy’n:
- Dosturiol
- Gonest
- Trefnus iawn
- Cydwybodol
- Diffwdan
- Dangos parch
- Dymunol
Maent hefyd yn disgwyl iddynt:
- Allu gweithio mewn tîm
- Cyflawni eu dyletswyddau yn fanwl gywir
- Dangos brwdfrydedd ynghylch gweithio yn y sector fferyllol
- Meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu digonol y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt
- Meddu ar lefel addas o ffitrwydd corfforol i wneud rhai agweddau ar y rolau swydd
- Bod yn barod i ymgymryd â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Bod yn hyblyg oherwydd gallai fod gofyniad i weithio ar rota
Mae’n bosibl y bydd gan gyflogwyr yn y sector gofal iechyd ofynion mynediad ychwanegol o ran cyflogaeth e.e. byddai trwydded yrru gyfredol hefyd o fantais (a gallai fod yn angenrheidiol mewn rhai rolau).
Lefel 3
Yn ogystal â’r uchod – rhaid i’r gofynion mynediad hefyd fodloni’r gofynion mynediad a nodir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
- bodloni gofynion penodol y Saesneg (TGAU Saesneg gradd A*-C, gradd 4 neu gymhwyster cyfatebol)
- bodloni gofynion rhifedd penodol (TGAU mathemateg gradd A*-C, gradd 4 neu gymhwyster cyfatebol)
- gofynion academaidd eraill neu brofiad cyfatebol i lefel 2 cenedlaethol neu uwch (fel TGAU Gwyddoniaeth gradd A*-C, gradd 4 neu gymhwyster cyfatebol)
- y gallu i arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o wyddoniaeth sy’n addas ar gyfer mynediad i’r cwrs, er enghraifft, lefel 2 cenedlaethol neu uwch (fel TGAU Gwyddoniaeth gradd A*-C, gradd 4 neu gymhwyster cyfatebol)
- gofynion academaidd eraill neu brofiad cyfatebol i lefel 2 cenedlaethol neu uwch
- rhoi ystyriaeth i wiriadau cymeradwyo person (fel gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, neu wiriadau cyfatebol.)
- gwiriadau iechyd (gwybodaeth am gyflyrau a allai effeithio ar addasrwydd i ymarfer fel gweithiwr dan hyfforddiant a sut y gellid rheoli cyflyrau o’r fath.)
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Gwasanaethau Fferyllol
Lefel 2: Gwasanaethau Fferyllol Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymwysterau cyfunol isod.
Lefel 2 Tystysgrif mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Staff Cymorth Fferyllol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Pearson Edexcel | C00/4170/6 603/6166/9 | 25 | 250 | Cymhwysedd | Saesneg yn unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Gwasanaethau Fferyllol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Gwasanaethau Fferyllol | 150 | 280 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Yr amser cyfartalog ar gyfer cwblhau’r Llwybr hwn ar Lefel 2 yw 15 mis
Gwasanaethau Fferyllol - cyfanswm o 43 credyd.
Cymhwyster cyfunol – 25 credyd
Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol – 18 credyd
Lefel 2: I fodloni gofynion y llwybr prentisiaeth hwn, bydd angen i brentis gwblhau cyfanswm o 430 o oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith dros gyfartaledd o 12 a 15 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Gwasanaethau Fferyllol
Lefel 3: Gwasanaethau Fferyllol Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod.
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Gwasanaethau Fferyllol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Gwasanaethau Fferyllol | 715 | 965 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Gwasanaethau Fferyllol - cyfanswm o 150 credyd. Cymhwyster cyfunol – 132 credyd Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol – 18 credyd Lefel 3: I fodloni gofynion y llwybr prentisiaeth hwn, bydd angen i brentis gwblhau cyfanswm o 1680 o oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith dros 24 mis.
|
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Rolau swydd
Fersiwn ddiweddaraf y rolau swydd a’r swydd -ddisgrifiadau ar gyfer y Llwybr hwn
Lefel 2
Teitl y Swydd | Rôl y Swydd |
Staff Cymorth Fferyllol | O dan oruchwyliaeth fferyllydd cofrestredig neu dechnegydd fferyllol. Bydd Staff Cymorth Fferyllol yn cynorthwyo i werthu meddyginiaethau dros y cownter, darparu gwybodaeth i gwsmeriaid am symptomau a chynnyrch, derbyn a chasglu presgripsiynau, casglu eitemau ar bresgripsiwn ac archebu, derbyn a storio stoc fferyllol, yn ogystal â gweithgareddau eraill o fewn yr amgylchedd fferyllol. |
Lefel 3
Teitl y Swydd | Rôl y Swydd |
Technegydd Fferyllol | Mae Technegwyr Fferyllol yn weithwyr proffesiynol cofrestredig sy’n gweithio o fewn y safonau rheoleiddiol ar gyfer fferylliaeth, fel y’u nodir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (Gorchymyn Fferyllol 2010). https://www.pharmacyregulation.org/education/pharmacy-technician Maent yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau i hwyluso’r cyfraniad y gall meddyginiaethau ei wneud er mwyn sicrhau canlyniadau da sy’n seiliedig ar wybodaeth wrth ofalu am gleifion. |
Dilyniant
Lefel 2
Dilyniant i’r Llwybr hwn
Edrychwch ar y Gofynion Mynediad.
Dilyniant o’r Llwybr hwn
Gall prentisiaid symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3 (Gwasanaethau Fferyllol) ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Iechyd (Gwasanaethau Fferyllol) er mwyn symud ymlaen i fod yn Dechnegydd Fferyllol.
Ni ddylid gweld dilyniant fel llwybr fertigol yn unig. Mewn rhai achosion, gallai symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mor werthfawr oherwydd mae’n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.
Gall dysgwyr symud ymlaen hefyd o’r llwybr hwn i gymwysterau pellach sy’n benodol i’w cyd-destun gwaith. Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i’w defnyddio yn y sector iechyd. Gall y rhain gynnwys cymwysterau pellach ac addysg a hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Anogir prentisiaid sy’n dymuno symud ymlaen i Addysg Uwch i gwblhau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Mae cymwysterau TGAU’n cael eu cydnabod yn eang ar draws y Sector Addysg Uwch ac maent yn cefnogi dilyniant i raglenni gradd mewn gofal iechyd.
Mae rhagor o wybodaeth a chyngor manwl am yrfaoedd yn y sector iechyd ar gael yma:
https://aagic.gig.cymru/gyrfaoedd/
Lefel 3
Dilyniant i’r Llwybr hwn
Edrychwch ar yr amodau mynediad. Mae’n bosibl y bydd rhai prentisiaid eisoes wedi ymgymryd â Phrentisiaeth Gwasanaethau Fferyllol lefel 2.
Dilyniant o’r Llwybr hwn
Ar ôl cwblhau’r llwybr hwn, gall dysgwyr symud ymlaen i gymwysterau pellach sy’n benodol i’w cyd-destun gwaith. Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i’w defnyddio yn y sector iechyd. Gall y rhain gynnwys cymwysterau pellach, amrywiaeth o gymwysterau addysg uwch ac addysg a hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Mae mwyafrif y Technegwyr Fferyllol yn gweithio mewn fferylliaeth gymunedol i fferyllfeydd annibynnol a nifer o gwmnïau fferyllol. Mae nifer hefyd yn gweithio mewn gwasanaethau fferyllol mewn ysbytai a gofal sylfaenol ym myrddau iechyd lleol y GIG ac ysbytai preifat. Mae rhai Technegwyr Fferyllol wedi’u cyflogi yn y diwydiant fferyllol, Carchardai Ei Mawrhydi, practisau meddygon teulu a’r lluoedd arfog.
Mae amrywiaeth o rolau ar gael ar gyfer Technegwyr Fferyllol. Gall technegwyr fferyllol weithio mewn meysydd fel clinigau, cartrefi nyrsio, gofal sylfaenol, rheoli meddyginiaethau, gweithgynhyrchu, rheoli ansawdd, hyfforddi staff, technoleg gwybodaeth, caffael cyflenwadau, treialon clinigol neu wasanaethau gwybodaeth ar feddyginiaethau.
Rôl arall yw Rheoli Gwasanaethau Fferyllol, sy’n ymwneud â chyfathrebu â gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill a chyswllt agosach â chleifion.
Mae gofyniad bod pob Technegydd Fferyllol yn bodloni gofynion cofrestru’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol er mwyn ymarfer. Mae’r gofynion yn cynnwys:
- cyflawni cymhwyster cydnabyddedig sydd wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor
- cwblhau isafswm o ddwy flynedd o brofiad seiliedig ar waith yn y DU o dan oruchwyliaeth, cyfarwyddyd neu arweiniad fferyllydd neu dechnegydd fferyllol yr oedd yr ymgeisydd yn uniongyrchol atebol iddo am ddim llai na 14 awr yr wythnos.
Mae’r Fframwaith Lefel 3 yn darparu hyfforddiant sicrwydd ansawdd i gyflawni'r lefel cymhwysedd sy’n ofynnol gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
Anogir prentisiaid sy’n dymuno symud ymlaen i Addysg Uwch i gwblhau cymwysterau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Cydnabyddir cymwysterau TGAU yn eang ar draws y Sector Addysg Uwch ac maent yn cefnogi dilyniant i raglenni gradd mewn gofal iechyd.
Ceir gwybodaeth a chyngor manwl pellach ar yrfaoedd o fewn y sector iechyd yma:
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu arddangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddewis, recriwtio a chyflogi. Rhaid monitro pob gweithgaredd hyrwyddo, dewis a hyfforddi a rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth.
Mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sector iechyd, gan fod mwy o fenywod yn gweithio yn y sector. Mae pob swydd yn agored i ddynion a menywod ac fe’u hysbysebir yn unol â hynny. Mae modelau rôl gwrywaidd yn cael eu hyrwyddo mewn ffordd gadarnhaol drwy ddeunydd marchnata, ffotograffau ac astudiaethau achos. Fodd bynnag, mae rhagdybiaeth o hyd bod rhai rolau swydd ar gyfer menywod a gallai hyn atal rhai dynion rhag ymgeisio i weithio yn y rolau swydd hyn.
Gall cyflogwyr gynllunio rhaglenni prentisiaeth lleol i annog nifer uwch o ymgeiswyr gwrywaidd i’r rolau hyn ac i mewn i’r gweithlu cyfan.
Nid yw Skills for Health yn ymwybodol o unrhyw anghydbwysedd arall mewn perthynas â’r rheiny sy’n ymgymryd â’r Llwybr hwn e.e. gan grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Ar gyfer pob prentisiaeth iechyd, anogir recriwtio lleol i adlewyrchu’r gymuned leol.
Bydd Skills for Health yn monitro'r niferoedd sy’n ymgymryd â Phrentisiaethau ac yn eu cyflawni a bydd yn cymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i wneud hynny fel rhan o Strategaeth Cymwysterau ein Sector.
Mae Skills for Health yn cydnabod yr egwyddor y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin yn gyfartal. Dylid rhoi ystyriaeth i’r rheiny y mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt neu’r rheiny sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn dewis gwneud hynny. Dylai Cyrff Dyfarnu, cyflogwyr, Sefydliadau Addysg Uwch a darparwyr hyfforddiant weithredu mewn ffordd gymesur o ran darparu elfennau o raglenni ac elfen asesu’r cymwysterau a ddarperir yng Nghymru yn Gymraeg; ar sail lefel y galw wedi’i sefydlu am y naill iaith a’r llall lle bo angen a/neu lle bo hynny’n ofynnol wrth ddarparu’r brentisiaeth hon.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 2 - Gwasanaethau Fferyllol
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth.
Bydd angen i ddysgwyr fodloni gofynion Tystysgrif Lefel 2 Pearson mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Staff Cymorth Fferyllol cyn y gellir dyfarnu’r cymhwyster a chyflawni’r Llwybr. Mae hwn yn gymhwyster gwybodaeth a chymhwysedd cyfunol ac fe’i dynodwyd gan Cymwysterau yng Nghymru i’w ddefnyddio yng Nghymru.
Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru: C00/4170/6
Cyfanswm y credydau gofynnol: 25
Cyfanswm amser y cymhwyster: 250 awr
Atodiad 2 Lefel 3 - Gwasanaethau Fferyllol
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth.
Bydd angen i ddysgwyr fodloni gofynion Diploma Lefel 3 mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Technegwyr Fferyllfa cyn y gellir dyfarnu’r cymhwyster a chyflawni’r Llwybr. Mae hwn yn gymhwyster gwybodaeth a chymhwysedd cyfunol ac fe’i dynodwyd gan Cymwysterau yng Nghymru i’w ddefnyddio yng Nghymru.
Diploma Lefel 3 mewn Egwyddorion ac Ymarfer ar gyfer Technegwyr Fferyllfa
Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru: Pearson Edexcel C00/3962/0
Cyfanswm y credydau gofynnol: 132
Cyfanswm amser y cymhwyster: 1320 awr
Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru: NCFE/CACHE C00/4153/8
Cyfanswm y credydau gofynnol: 132
Cyfanswm amser y cymhwyster: 1320 awr