Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Iechyd (Cymorth Gofal Iechyd Clinigol)

Framework:
Iechyd (Cymorth Gofal Iechyd Clinigol)
Lefel:
2/3

Nod y fframwaith hwn yw cyflwyno'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn gymwys i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu gofal iechyd clinigol.

Fel Prentis byddwch yn cael eich cyflogi fel gweithiwr cymorth gofal iechyd clinigol/cynorthwyydd gofal iechyd ac yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gan ddarparu gofal cleifion i unigolion mewn lleoliadau amrywiol a byddwch yn ennill y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i wneud y swyddi hyn yn ogystal â'ch paratoi ar gyfer cyflogaeth a chamu ymlaen mewn  gyrfa yn y sector iechyd yn y dyfodol.

Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth, byddwch yn gallu cyflawni'r holl ddyletswyddau, yn y sefyllfaoedd amrywiol sy'n berthnasol i'r swydd, mewn ffordd hyderus a chymwys yn unol â'r safon a bennir gan y sector iechyd.

Dylai prentisiaid:

• Arddangos brwdfrydedd dros weithio yn y sector iechyd

• Bod â sgiliau rhifedd a chyfathrebu sylfaenol sydd i'w datblygu gan y brentisiaeth, a byddant yn cael eu hasesu cyn dechrau'r rhaglen brentisiaeth.

• Bod â lefel addas o ffitrwydd corfforol i gyflawni rhai agweddau ar y swydd (e.e. helpu i symud pobl a chodi a chario pobl)

• Bod yn barod i gael gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

• Bod yn hyblyg er mwyn gweithio yn unol â system rota os oes angen

• Cael asesiad iechyd galwedigaethol a derbyn y brechiadau gofynnol yn unol â pholisi'r cyflogwr.

Mae cyflogwyr yn chwilio am brentisiaid yn y sector iechyd sydd â'r nodweddion canlynol:

  • Gofalgar
  • Cydwybodol
  • Parchu cyfrinachedd
  • Dangos Parch
  • Brwdfrydig
  • Tosturiol
  • Dangos Empathi
  • Dibynadwy

Hefyd, rhaid i chi allu gweithio mewn tîm a chyflawni dyletswyddau mewn ffordd hyderus a chymwys.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Iechyd (Cymorth Gofal Iechyd Clinigol) - Lefel 2

Addas ar gyfer swydd Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Clinigol / Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd.

Iechyd (Cymorth Gofal Iechyd Clinigol) - Lefel 3

Addas ar gyfer swydd Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Clinigol / Cynorthwy-ydd Gofal Iechyd.

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 2: 18 mis

Lefel 3: 15 mis

Llwybrau dilyniant

Lefel 2: Mae’r llwybrau camu ymlaen yn cynnwys cyflogaeth, camu ymlaen o'r fframwaith hwn i gymwysterau pellach sy'n benodol i'ch cyd-destun gwaith.

Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio yn y sector iechyd. Gallant gynnwys fframweithiau prentisiaeth pellach (e.e. Prentisiaeth mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol), cymwysterau eraill neu addysg a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith er mwyn ategu Datblygiad Proffesiynol Parhaus neu addysg uwch.

Lefel 3: Gall cwblhau'r

llwybr hwn gefnogi cais i astudio i fod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig.

Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio yn y sector iechyd. Gallant gynnwys cymwysterau pellach, amrywiaeth o gymwysterau addysg uwch neu addysg a hyfforddiant o fathau eraill sy'n gysylltiedig â gwaith.

Cymwysterau

Lefel 2: Diploma mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol yng Nghymru

Lefel 3: Diploma mewn Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru/Diploma mewn Cymorth Gofal Iechyd Sylfaenol (Ymarfer Cyffredinol Cymru)

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 2

Fel canllaw, bydd ymgeiswyr naill ai'n dilyn llwybr prentisiaeth gyflogedig uniongyrchol neu yn ei gwblhau fel rhan o’r broses o ddatblygu sgiliau yn eu swydd bresennol.

Mae'n bosibl y bydd gan ymgeiswyr amrywiaeth o gymwysterau eisoes. Gall y cymwysterau hyn gynnwys:

• Sgiliau Hanfodol Cymru

• TGAU

• Bagloriaeth Cymru (ar hyn o bryd nid oes modd trosglwyddo credydau)

• Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu (ar hyn o bryd nid oes modd trosglwyddo credydau)

• Dysgu sylfaenol

• Cymwysterau lefel 1/2 eraill

(Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac nid yw'r rhain yn ofynion angenrheidiol cyn dechrau'r Fframwaith)

Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol

Lefel 3

Fel canllaw, bydd ymgeiswyr naill ai'n dilyn llwybr prentisiaeth gyflogedig uniongyrchol neu yn ei gwblhau fel rhan o’r broses o ddatblygu sgiliau yn eu swydd bresennol.

Mae'n bosibl y bydd gan ymgeiswyr amrywiaeth o gymwysterau eisoes. Gall y cymwysterau hyn gynnwys:

• Sgiliau Hanfodol Cymru

• TGAU

• Bagloriaeth Cymru (ar hyn o bryd nid oes modd trosglwyddo credydau)

• Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu (ar hyn o bryd nid oes modd trosglwyddo credydau)

• Dysgu sylfaenol

• Cymwysterau lefel 1/2 eraill

(Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac nid yw'r rhain yn ofynion angenrheidiol cyn dechrau'r Fframwaith)

Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

19 Rhagfyr 2022