Mae Skills for Health ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma’r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Gofal Iechyd a gymeradwywyd i’w ddefnyddio yng Nghymru ac sy’n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/12/2023 ACW Framwaith Rhif. FR05001
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
60 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Cymorth Gofal Iechyd Clinigol.
60 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Cymorth Gofal Iechyd Clinigol.
Gofynion mynediad
Dylai prentisiaid:
- Fod yn 18 oed neu hŷn, fel arfer
- Arddangos yr hyn a ddysgwyd yn flaenorol mewn disgyblaeth gysylltiedig neu brofiad cyfatebol
- Bod wedi cyflawni cymhwyster mewn maes perthnasol neu brofiad cyfatebol.
- Glynu at safonau Ymarfer Gwyddonol Da sy’n nodi’r safonau ymddygiad, ymarfer ac ymddygiad personol sy’n sail i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy’n briodol i’r rôl neu’r gwaith a wneir.
- Dangos brwdfrydedd ynghylch gweithio yn y sector iechyd
- Bod wedi cyflawni sgiliau llythrennedd, rhifedd, cyfathrebu a llythrennedd digidol y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt.
- Bod yn destun gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (mae angen hyn oherwydd mae’n bosibl y bydd prentisiaid yn dod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed)
- Bod yn hyblyg oherwydd mae’n bosibl y bydd gofyniad i weithio sifftiau
- Mae’n bosibl y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector iechyd ofynion ychwanegol o ran mynediad i gyflogaeth e.e. byddai trwydded yrru gyfredol hefyd o fantais (a gallai fod yn angenrheidiol ar gyfer rhai rolau).
Asesiad Cychwynnol:
Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i nodi dysgu a phrofiad blaenorol fel y gallant deilwra Cynllun Dysgu Unigol y Prentisiaid. Ni ddefnyddir yr asesiad cychwynnol hwn i sgrinio ymgeiswyr. Mae’n bosibl y bydd cyflogwyr yn defnyddio proses gyfweld neu ymgeisio ar wahân i asesu pa mor addas yw unigolyn ar gyfer cyflogaeth yn y sector iechyd.
Bydd ymgeiswyr i’r Brentisiaeth hon yn dod o grwpiau oedran gwahanol (fel arfer, 18 oed neu hŷn), ac o gefndiroedd a phrofiadau gwahanol.
Fel canllaw, gall ymgeiswyr sicrhau mynediad o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- gwaith
- profiad gwaith
- coleg
- hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy’n dangos yr hyn y maent wedi’i wneud
Mae’n bosibl y bydd yr ymgeiswyr eisoes wedi cyflawni ystod o gymwysterau ee:
- Sgiliau Hanfodol Cymru
- Prentisiaeth
- Cymwysterau TGAU
- Bagloriaeth Cymru (ni ellir trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
- Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu (ni ellir trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
Rhaid i brentisiaid sy’n dymuno achredu unrhyw ddysgu blaenorol ddewis opsiynau o fewn y Llwybr sy’n rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd iddynt.
Nodweddion Personol – mae cyflogwyr yn edrych am brentisiaid yn y sector iechyd sy’n:
- dosturiol
- gonest
- trefnus iawn
- cydwybodol
- diffwdan
- dangos parch
- dymunol.
Maent hefyd yn disgwyl iddynt:
• Allu gweithio mewn tîm
• Cyflawni eu dyletswyddau yn fanwl gywir
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
Lefel 2: Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymwysterau cyfunol isod
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Cymorth Gofal Iechyd Clinigol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Cymorth Gofal Iechyd Clinigol | 439 | 341 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Lefel 2: I fodloni gofynion y Llwybr prentisiaeth hwn, bydd angen i brentis gwblhau cyfanswm o 780 o oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith dros 12 mis.
Hyfforddi i ffwrdd o’r gwaith
Lefel 2: Ar gyfer y Llwybr prentisiaeth hwn, bydd angen i brentis gwblhau isafswm o 341 o oriau hyfforddi i ffwrdd o’r gwaith.
Hyfforddi yn y gwaith
Lefel 2: Ar gyfer y Llwybr prentisiaeth hwn, bydd angen i brentis gwblhau isafswm o 439 o oriau hyfforddi yn y gwaith dros 12 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
Lefel 3: Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod.
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Cymorth Gofal Iechyd Clinigol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Cymorth Gofal Iechyd Clinigol | 382 / 414 | 366 / 398 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
|
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Rolau swydd
Y fersiwn ddiweddaraf o’r rolau swydd a’r swydd-ddisgrifiadau ar gyfer y Llwybr hwn.
Lefel 2
Teitl y swydd | Rôl y swydd |
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Clinigol / Cynorthwyydd Gofal Iechyd | Mae’r rolau hyn yn darparu gofal hanfodol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynorthwyo gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n rhoi diagnosis, triniaeth a gofal i unigolion. Maent yn ymwneud ag edrych ar ôl llesiant a chyfforddusrwydd unigolion. Maent yn gweithio mewn gwasanaethau clinigol mewn ysbytai, gwasanaethau cymunedol a meddygfeydd. |
Lefel 3
Teitl y swydd | Rôl y swydd |
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Clinigol / Cynorthwyydd Gofal Iechyd | Mae’r rolau hyn yn darparu gofal hanfodol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynorthwyo gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n rhoi diagnosis, triniaeth a gofal i unigolion. Maent yn ymwneud ag edrych ar ôl llesiant a chyfforddusrwydd unigolion. Gallant fod â rolau a chyfrifoldebau goruchwylio ychwanegol hefyd. Maent yn gweithio mewn gwasanaethau clinigol mewn ysbytai, gwasanaethau cymunedol a meddygfeydd. |
Dilyniant
Lefel 2
Dilyniant i’r Llwybr hwn
Edrychwch ar y Gofynion Mynediad.
Dilyniant o’r Llwybr hwn
Gall dysgwyr symud ymlaen o’r llwybr hwn i gymwysterau pellach sy’n benodol i’w cyd-destun gwaith, a gallai’r rheiny fod mewn gwasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau cysylltiedig. Gallant gynnwys cymwysterau neu addysg a hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith i gefnogi eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ni ddylid gweld dilyniant fel llwybr fertigol yn unig. Mewn rhai achosion, gall symud ymlaen i rôl ar yr un lefel fod yr un mor werthfawr oherwydd ei fod yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.
Mae nifer o brentisiaid yn cwblhau eu prentisiaethau ac yn parhau i weithio fel gweithwyr cymorth gofal iechyd clinigol neu gynorthwywyr gofal iechyd gyda dyletswyddau dirprwyedig wedi’u neilltuo iddynt gan y gweithwyr proffesiynol gofal iechyd y maent yn gweithio ochr yn ochr â nhw.
Anogir prentisiaid sy’n dymuno symud ymlaen i Addysg Uwch i gwblhau cymwysterau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Mae cymwysterau TGAU’n cael eu cydnabod yn eang ar draws y Sector Addysg Uwch ac yn cefnogi dilyniant i raglenni israddedig gofal iechyd.
Mae rhagor o wybodaeth a chyngor manwl ar yrfaoedd yn y sector iechyd ar gael yma: https://aagic.gig.cymru/gyrfaoedd/
Lefel 3
Dilyniant i’r Llwybr hwn
Edrychwch ar yr Amodau Mynediad. Mae’n bosibl y bydd rhai prentisiaid eisoes wedi ymgymryd â phrentisiaeth lefel 2 (ee Cymorth Gofal Iechyd Clinigol).
Dilyniant o’r Llwybr hwn
Ar ôl cwblhau’r Llwybr hwn, gall dysgwyr symud ymlaen i gymwysterau pellach sy’n benodol i’w cyd-destun gwaith. Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i’w defnyddio yn y sector iechyd. Gallai’r rhain gynnwys cymwysterau pellach, amrywiaeth o gymwysterau addysg uwch neu addysg a hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ni ddylid gweld cynnydd fel llwybr fertigol yn unig. Mewn rhai achosion, gall symud ymlaen i rôl ar yr un lefel fod yr un mor werthfawr oherwydd ei fod yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.
Mae nifer o brentisiaid yn cwblhau eu prentisiaethau ac yn parhau i weithio fel Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Clinigol/Cynorthwywyr Gofal Iechyd gyda chyfrifoldeb dirprwyedig dros amrywiaeth o dasgau clinigol. Mae’n bosibl y byddant yn goruchwylio aelodau eraill o’r tîm hefyd.
Byddai angen i’r prentisiaid symud ymlaen o’u prentisiaethau i ymgymryd â chymhwyster penodol er mwyn dod yn weithiwr proffesiynol gofal iechyd cofrestredig. Bydd hyn yn aml yn cynnwys Gradd brifysgol 3 blynedd a allai, ar ôl ei chwblhau, eu galluogi i gofrestru fel gweithiwr proffesiynol gofal iechyd. I wneud hyn, byddai’n rhaid i unigolion fodloni’r cymwysterau mynediad penodol a amlinellwyd gan y Darparwr Addysg Uwch a ddewiswyd ganddynt. Gallai cwblhau’r llwybr hwn gefnogi eu cais i astudio i ddod yn weithiwr proffesiynol gofal iechyd cofrestredig.
Mae rhagor o wybodaeth a chyngor manwl ar yrfaoedd o fewn y sector iechyd ar gael yma: https://aagic.gig.cymru/gyrfaoedd/
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu arddangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddewis, recriwtio a chyflogi. Rhaid monitro pob gweithgaredd hyrwyddo, dewis a hyfforddi a rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth.
Mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sector iechyd, gan fod mwy o fenywod yn gweithio yn y sector. Mae pob swydd yn agored i ddynion a menywod ac fe’u hysbysebir yn unol â hynny. Mae modelau rôl gwrywaidd yn cael eu hyrwyddo’n gadarnhaol drwy ddeunydd marchnata, ffotograffau ac astudiaethau achos. Fodd bynnag, mae rhagdybiaeth o hyd bod rhai rolau swydd ar gyfer menywod a gallai hyn atal rhai dynion rhag ymgeisio i weithio yn y rolau swydd hyn.
Gall cyflogwyr gynllunio rhaglenni prentisiaeth lleol i annog nifer uwch o ymgeiswyr gwrywaidd i’r rolau hyn ac i mewn i’r gweithlu cyfan.
Nid yw Skills for Health yn ymwybodol o unrhyw anghydbwysedd arall mewn perthynas â’r rheiny sy’n ymgymryd â’r Llwybr hwn e.e. gan grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Ar gyfer pob prentisiaeth iechyd, anogir recriwtio lleol i adlewyrchu’r gymuned leol.
Bydd Skills for Health yn monitro'r rheiny sy’n ymgymryd ag unrhyw Brentisiaethau ac yn eu cyflawni a bydd yn cymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i wneud hynny fel rhan o Strategaeth Cymwysterau ein Sector.
Mae Skills for Health yn cydnabod yr egwyddor y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin yn gyfartal. Dylid rhoi ystyriaeth i’r rheiny y mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt neu’r rheiny sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn dewis gwneud hynny. Dylai Cyrff Dyfarnu, cyflogwyr, Sefydliadau Addysg Uwch a darparwyr hyfforddiant weithredu mewn ffordd gymesur o ran darparu elfennau o raglenni ac elfen asesu’r cymwysterau a ddarperir yng Nghymru yn Gymraeg; ar sail lefel y galw wedi’i sefydlu am y naill iaith a’r llall lle bo angen a/neu lle bo hynny’n ofynnol wrth ddarparu’r brentisiaeth hon.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 2 - Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
Y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth.
Bydd angen i ddysgwyr fodloni gofynion y Diploma Lefel 2 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol yng Nghymru cyn y gellir dyfarnu’r cymhwyster a chyflawni’r Llwybr. Mae hwn yn gymhwyster gwybodaeth a chymhwysedd cyfun ac fe’i cynlluniwyd gan Cymwysterau yng Nghymru i’w ddefnyddio yng Nghymru.
Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau yng Nghymru: C00/3692/7
Cyfanswm y credydau angenrheidiol: 60
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH): 341
Cyfanswm amser y cymhwyster (TQT): 600 awr
Isafswm y credydau ar lefel y cymhwyster neu uwch: 60
https://www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Cymhwyster/127825
Atodiad 2 Lefel 3 - Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
Y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Bydd angen i’r dysgwyr fodloni gofynion naill ai:
- Y Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Clinigol yng Nghymru
NEU
- Y Diploma Lefel 3 mewn Cefnogaeth Gofal Iechyd Sylfaenol (Meddygaeth Teulu yng Nghymru) cyn y gellir dyfarnu’r cymhwyster a chyflawni’r Llwybr.
Mae’r naill a’r llall yn gymwysterau gwybodaeth a chymhwysedd cyfunol.
Yn dilyn trafodaeth â’i reolwr, bydd y dysgwr yn ymgymryd â’r cymwysterau sydd fwyaf priodol i’w rôl a’i leoliad gwaith.
Rhaid i brentisiaid sydd eisoes wedi cyflawni cymwysterau ac unedau cyfunol a/neu gymhwysedd a/neu wybodaeth cyn cael mynediad i’r Brentisiaeth ddewis opsiynau a fydd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd iddynt.
Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau yng Nghymru: C00/3692/8
Cyfanswm y credydau angenrheidiol: 60
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH): 398
Cyfanswm amser y cymhwyster (TQT): 600 awr
https://www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Cymhwyster/127826
Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau yng Nghymru: C00/1190/7
Cyfanswm y credydau angenrheidiol: 60
Oriau dysgu dan arweiniad (GLH): 366
Cyfanswm amser y cymhwyster (TQT): 600 awr
Isafswm y credydau ar lefel y cymhwyster neu uwch: 38
Cyfyngiad oedran isaf: 18
https://www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Cymhwyster/C00-1190-7