- Framework:
- Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd
- Lefel:
- 2/3
Mae Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd yn gwneud cyfraniad allweddol at ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn effeithlon.
Fel gweithiwr cymorth, byddwch yn tueddu i fod â chyfrifoldeb dirprwyedig dros ystod o dasgau sy'n galluogi Gweithwyr Iechyd Proffesiynol (e.e. nyrsys, meddygon, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd) a'r tîm gofal iechyd ehangach i gyflawni eu gwaith eu hunain yn fwy effeithiol.
Mae amrywiaeth eang o swyddi yn gysylltiedig â'r fframwaith hwn, gan gynnwys porthor, ceidwad tŷ/cadw tŷ cynorthwyol, rheolwr/cynorthwyydd arlwyo, goruchwyliwr/clerc cofnodion meddygol, rheolwr/gweithiwr ystâd, ac ati (nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr).
Mae'r swyddi cymorth hyn yn werth chweil ac maen nhw’n cael effaith uniongyrchol ar brofiad cleifion. Maen nhw hefyd yn cynnig llwybr mynediad delfrydol i ystod eang o yrfaoedd.
Mae cyflogwyr yn chwilio am brentisiaid yn y sector iechyd sydd â'r nodweddion canlynol:
• Gofalgar
• Cydwybodol
• Parchu Cyfrinachedd
• Dangos Parch
• Brwdfrydig
Hefyd, bydd disgwyl i chi weithio mewn tîm a chyflawni dyletswyddau mewn ffordd ofalus iawn.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Iechyd (Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd) - Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Gweithiwr Gwasanaeth Cymorth Gofal Iechyd, Clerc Ward a Chlerc Cofnodion Meddygol/Iechyd
Iechyd (Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd) - Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Gweithiwr Gwasanaeth Cymorth Gofal Iechyd, Ceidwad Ward, Arweinydd Tîm/Goruchwylydd Cofnodion Meddygol/Iechyd.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12 mis
Lefel 3: 18 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2:. Mae llwybrau camu ymlaen yn cynnwys cyflogaeth, camu ymlaen o'r fframwaith hwn i gymwysterau pellach sy'n benodol i'ch cyd-destun gwaith.
Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio yn y sector iechyd. Gallant gynnwys fframweithiau prentisiaeth pellach (e.e. Prentisiaeth mewn Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd), cymwysterau eraill neu addysg a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith i ategu Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Lefel 3: Mae llwybrau camu ymlaen yn cynnwys cyflogaeth, neu gamu ymlaen i gymwysterau pellach sy'n benodol i'ch cyd-destun gwaith.
Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i'w defnyddio yn y sector iechyd. Gallant gynnwys cymwysterau pellach, amrywiaeth o gymwysterau addysg uwch neu addysg a hyfforddiant o fathau eraill sy'n gysylltiedig â gwaith i ategu Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Gallwch gamu ymlaen i fod yn Weithiwr Iechyd Proffesiynol drwy ymgymryd â chymhwyster penodol, gradd prifysgol 3 blynedd yn aml, a fyddai, ar ôl ei chwblhau, yn eich galluogi i gofrestru fel gweithiwr proffesiynol.
Cymwysterau
Lefel 2: Tystysgrif mewn Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd
Lefel 3: Diploma mewn Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol ar gyfer mynediad i'r fframwaith prentisiaeth hwn. Dylai prentisiaid:
• Arddangos brwdfrydedd dros weithio yn y sector iechyd
• Bod â sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn eu datblygu
• Bod â lefel addas o ffitrwydd corfforol i gyflawni rhai agweddau ar y swydd (e.e. helpu i symud pobl a chodi a chario pobl)
• Bod yn barod i gael gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
• Bod yn hyblyg er mwyn gweithio yn unol â system rota os oes angen
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol
Lefel 3
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol ar gyfer mynediad i'r fframwaith prentisiaeth hwn. Dylai prentisiaid:
• Arddangos brwdfrydedd dros weithio yn y sector iechyd
• Bod â sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn eu datblygu
• Bod â lefel addas o ffitrwydd corfforol i gyflawni rhai agweddau ar y swydd (e.e. helpu i symud pobl a chodi a chario pobl)
• Bod yn barod i gael gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
• Bod yn hyblyg er mwyn gweithio yn unol â system rota os oes angen
Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol
Gweld llwybr llawn