Skip to main content

Llwybr

Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn mewn cydweithrediad â Chyflogwyr y Sector Gofal Iechyd. Dyma’r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gofal Iechyd a gymeradwywyd i’w ddefnyddio yng Nghymru ac sy’n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 13/09/2021 ACW Framwaith Rhif. FR05024

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

28 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd.

37 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Rheoli Gofal Iechyd.

Gofynion mynediad

Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol ar gyfer sicrhau mynediad i’r Llwybr Prentisiaeth hwn. Dylai prentisiaid:

  • Arddangos gwerthoedd y sefydliad cyflogi
  • Dangos brwdfrydedd ynghylch gweithio yn y sector iechyd
  • Meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn adeiladu arnynt
  • Meddu ar lefel addas o ffitrwydd corfforol i berfformio rhai agweddau ar y rolau swydd (e.e. cynorthwyo i symud a chodi gwrthrychau)
  • Bod yn barod i ymgymryd â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Bod yn hyblyg oherwydd mae’n bosibl y bydd gofyniad i weithio ar rota

Mae’n bosibl y bydd gan gyflogwyr unigol yn y sector iechyd ofynion mynediad ychwanegol o ran cyflogaeth e.e. byddai trwydded yrru hefyd o fantais (a gallai fod yn angenrheidiol mewn rhai rolau).

Asesiad Cychwynnol

Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yn defnyddio asesiad cychwynnol i sicrhau bod yr ymgeiswyr yn cael cyfle teg i arddangos eu gallu ac er mwyn teilwra rhaglenni i ddiwallu anghenion unigol, gan gydnabod cymwysterau a phrofiad blaenorol.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd

Lefel 2: Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod.

Lefel 2 Diploma mewn Gwasanaethau Cyfleusterau ar gyfer Gofal Iechyd yng Nghymru
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/1231/0 38 380 Cymhwysedd Cymraeg-Saesneg
Lefel 2 Tystysgrif Estynedig mewn Gwasanaethau Cyfleusterau ar gyfer Gofal Iechyd yng Nghymru
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/1230/9 28 280 Cymhwysedd Cymraeg-Saesneg
Lefel 2 Diploma mewn Gwasanaethau Gweinyddol a Derbynfa Gofal Sylfaenol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/4189/3 37 370 Cymhwysedd Cymraeg-Saesneg

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd 150 179
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Bydd y dysgu yn y gwaith yn cynnwys naill ai:

Diploma Lefel 2 Agored Cymru mewn Gwasanaethau Cyfleusterau ar gyfer Gofal Iechyd yng Nghymru

neu:

Dystysgrif Estynedig Lefel 2 Agored Cymru mewn Gwasanaethau Cyfleusterau ar gyfer Gofal Iechyd yng Nghymru

neu:

Ddiploma Lefel 2 Agored Cymru mewn Gwasanaethau Gweinyddol a Derbynfa Gofal Sylfaenol

Bydd y dystiolaeth i gefnogi’r cais am dystysgrif cwblhau prentisiaeth ar gyfer hyfforddiant yn y gwaith yn cynnwys copi o’r dystysgrif cymhwyso ar gyfer un o’r cymwysterau uchod yn nodi manylion yr unedau a gwblhawyd:

 Bydd y dysgu i ffwrdd o’r gwaith yn cynnwys:

Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

I’w cwblhau dros 12 mis

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Rheoli Gofal Iechyd

Lefel 3: Rheoli Gofal Iechyd Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 3 Diploma mewn Rheoli Gofal Iechyd
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/4159/7 37 370 Cymhwysedd Cymraeg-Saesneg

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Rheoli Gofal Iechyd Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Rheoli Gofal Iechyd 172 173
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Bydd y dysgu yn y gwaith yn cynnwys:

Diploma Lefel 3 Agored Cymru mewn Rheoli Gofal Iechyd

Bydd y dystiolaeth i gefnogi’r cais am dystysgrif cwblhau prentisiaeth ar gyfer hyfforddiant yn y gwaith yn cynnwys copi o’r dystysgrif cymhwyso ar gyfer un o’r cymwysterau uchod yn nodi manylion yr unedau a gwblhawyd:

 Bydd y dysgu i ffwrdd o’r gwaith yn cynnwys:

Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

I’w cwblhau dros 18 mis

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Dim

Rolau swydd

Y fersiwn ddiweddaraf o’r rolau swydd a’r swydd-ddisgrifiadau ar gyfer Llwybr hwn

Lefel 2

Teitl y SwyddRôl y swydd
Gweithwyr Cymorth Gofal IechydMae Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn darparu gwasanaeth cymorth o fewn y GIG. Mae staff Ystadau a Chyfleusterau yn gweithio ym mhob safle acíwt a chymunedol pob Bwrdd ac Ymddiriedolaeth Iechyd ac maent yn gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at ofal iechyd a phrofiad y claf.  

Lefel 3

Teitl y swyddRôl y swydd
Rheoli Gofal Iechyd

Gan adeiladu ar ddatblygiad y Fframwaith Gyrfa ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy’n gweithio yn y sector Nyrsio neu fel Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar hyn o bryd (2015), nododd ac adolygodd GIG Cymru’r rhaglenni addysgol a hyfforddiant sydd ar gael i staff nad ydynt yn rhai clinigol. 

Fel rhan o’r adolygiad, datblygwyd y Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Gofal Iechyd. Bydd y cymhwyster hwn yn cefnogi dilyniant gyrfaol staff cyfleusterau ac yn darparu sail i fecanwaith llywodraethu ar gyfer y gweithlu Gweithwyr Cymorth Cyfleusterau yn GIG Cymru.

Dilyniant

Gall dysgwyr symud ymlaen o’r Llwybr hwn i gymwysterau pellach sy’n benodol i’w cyd-destun gwaith. Mae amrywiaeth eang o gymwysterau ar gael i’w defnyddio o fewn y sector iechyd. Gall y rhain gynnwys prentisiaethau pellach e.e. Prentisiaeth Lefel 4 mewn Rheoli neu Weithrediadau a Gwella Ansawdd, cymwysterau eraill neu addysg a hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Ni ddylid ystyried dilyniant fel llwybr fertigol. Mewn rhai achosion, gallai symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mor werthfawr oherwydd mae’n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.

Mae nifer o brentisiaid Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yn cwblhau eu prentisiaethau ac yn parhau i weithio fel Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd mewn rolau sy’n gysylltiedig â’r unedau y maent wedi’u dewis o fewn eu cymhwyster cymhwysedd (e.e. Cynorthwyydd Domestig, Porthor, Cynorthwyydd Arlwyo, etc). Mae’n bosibl y bydd eraill yn dymuno symud i rôl glinigol a gallant ddewis ymgymryd â chymhwyster neu brentisiaeth glinigol (e.e. Lefel 2 neu 3 mewn cymorth gofal iechyd clinigol).

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor manwl pellach ar yrfaoedd yn y sector iechyd ar gael yma http://www.wales.nhs.uk/cym

Llwybrau dilyniant i’r brentisiaeth:

Cymwysterau lefel 4        

• Cymwysterau dysgu seiliedig ar waith Lefel 2 neu 3

Dilyniant o’r brentisiaeth:

Mae’n bosibl y bydd rhai prentisiaid eisoes wedi ymgymryd â phrentisiaeth lefel 2 e.e. Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd (Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd).

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu arddangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddewis, recriwtio a chyflogi. Rhaid monitro pob gweithgaredd hyrwyddo, dewis a hyfforddi a rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth. 

Mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sector iechyd, gan fod mwy o fenywod yn gweithio yn y sector. Mae pob swydd yn agored i ddynion a menywod ac fe’u hysbysebir yn unol â hynny. Mae modelau rôl gwrywaidd yn cael eu hyrwyddo mewn ffordd gadarnhaol drwy ddeunydd marchnata, ffotograffau ac astudiaethau achos. Fodd bynnag, mae rhagdybiaeth o hyd bod rhai rolau swydd ar gyfer menywod a gallai hyn atal rhai dynion rhag ymgeisio i weithio yn y rolau swydd hyn.

Gall cyflogwyr gynllunio rhaglenni prentisiaeth lleol i annog nifer uwch o ymgeiswyr gwrywaidd i’r rolau hyn ac i mewn i’r gweithlu cyfan.

Nid yw Skills for Health yn ymwybodol o unrhyw anghydbwysedd arall mewn perthynas â’r rheiny sy’n ymgymryd â’r Llwybr hwn e.e. gan grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Ar gyfer pob prentisiaeth iechyd, anogir recriwtio lleol i adlewyrchu’r gymuned leol.

Bydd Skills for Health yn monitro'r rheiny sy’n ymgymryd ag unrhyw Brentisiaethau ac yn eu cyflawni a bydd yn cymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i wneud hynny fel rhan o Strategaeth Cymwysterau ein Sector.

Mae Skills for Health yn cydnabod yr egwyddor y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin yn gyfartal. Dylid rhoi ystyriaeth i’r rheiny y mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt neu’r rheiny sy’n gallu siarad Cymraeg ac yn dewis gwneud hynny. Dylai Cyrff Dyfarnu, cyflogwyr, Sefydliadau Addysg Uwch a darparwyr hyfforddiant weithredu mewn ffordd gymesur o ran darparu elfennau o raglenni ac elfen asesu’r cymwysterau a ddarperir yng Nghymru yn Gymraeg; ar sail lefel y galw wedi’i sefydlu am y naill iaith a’r llall lle bo angen a/neu lle bo hynny’n ofynnol wrth ddarparu’r brentisiaeth hon.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 

Atodiad 1 Lefel 2: Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd

Cymhwyster integredig ar Lefel 2, sy’n cyfuno elfennau cymhwysedd a gwybodaeth dechnegol lle y bydd pob elfen yn cael ei hasesu ar wahân a lle y bydd gan bob elfen 10 credyd ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau.

Y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Diploma Lefel 2 Agored Cymru mewn Gwasanaethau Cyfleusterau ar gyfer Gofal Iechyd yng Nghymru

Tystysgrif Estynedig Lefel 2 Agored Cymru mewn Gwasanaethau Cyfleusterau ar gyfer Gofal Iechyd yng Nghymru

Teitl yr Uned

Gwerth  credyd

Credydau cymhwysedd

Credydau gwybodaeth

Unedau Gorfodol

 

 

 

Codi a Chario: Llwythi Anactif

1

1

0

Cyfathrebu a Gwasanaethau Cwsmeriaid ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd

2

1

1

Urddas yn y Gwaith

1

0

1

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

1

0

1

Cyflwyniad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus yn GIG Cymru

2

0

2

Cyflwyniad i Atal a Rheoli Heintiau

2

0

2

Cyflwyniad i Reoli Gwastraff

2

1

0

Iechyd a Lles Personol yn y Gweithle

3

0

3

Defnyddio Dyfeisiau Electronig i Gofnodi a Chyflwyno Gwybodaeth

2

1

1

Cyflwyniad i Ymddygiad Proffesiynol

2

0

2

Cyfanswm

18

4

13

 

Unedau Dewisol

Gwerth credyd

Credydau cymhwysedd

Credydau gwybodaeth

Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol

3

1

2

Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol

1

0.5

0.5

Trefnu a Chofnodi Cyfarfodydd ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Iechyd yng Nghymru

3

2

1

Glanhau Llety Preswyl ar gyfer GIG Cymru

2

1

1

Cydgysylltu Stoc a Storio ar gyfer GIG Cymru

2

2

0

Rheoli Gwybodaeth Data gan ddefnyddio Meddalwedd Arbenigol ar gyfer Gwasanaethau’r GIG yng Nghymru

3

2

1

Cynnal y Gwaith o Ddiogelu a Threfnu Cofnodion Adrannau ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru

3

2

1

Rheoli Arian ac Eiddo Gwerthfawr Cleifion mewn Lleoliad Gofal Iechyd yng Nghymru

1

1

0

Cynhyrchu Dogfennau i’w defnyddio mewn Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru

2

1

1

Storio ac Adalw Gwybodaeth ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru

2

1

1

Defnyddio Cyfarpar Swyddfa ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru

2

1

1

Trawsgludo Teithwyr (heb Anghenion neu Ofynion Arbenigol) ar gyfer Gwasanaethau’r GIG yng Nghymru

3

2

1

Cludo Nwyddau Anactif, Anarbenigol, Nad Ydynt yn Hanfodol o Ran Amser ar gyfer Gwasanaethau’r GIG yng Nghymru

5

4

1

Symud a Chludo Llieiniau yn y GIG yng Nghymru

2

1

1

Symud a Chludo Silindrau Nwy Meddygol yn y GIG yng Nghymru

1

1

0

Derbyn, Storio a Pharatoi ar gyfer Dosbarthu Nwyddau mewn Gweithrediadau Logisteg ar gyfer y GIG yng Nghymru

6

5

1

Gyrru Nwyddau Anactif, Arbenigol, Nad Ydynt yn Hanfodol o Ran Amser ar gyfer Gwasanaeth GIG Cymru

1

1

0

Defnyddio Cyfarpar sy’n cael ei Bweru gan Drydan mewn Dyletswyddau Glanhau ar gyfer y GIG yng Nghymru

2

2

0

Gyrru Nwyddau Anactif, Arbenigol, sy’n Hanfodol o Ran Amser ar gyfer Gwasanaethau’r GIG yng Nghymru

1

1

0

Gorffeniad Gwasanaeth Golchi yng Ngwasanaeth GIG Cymru

3

1

2

Casglu a dosbarthu cydrannau gwaed – Gwasanaeth Gwaed Cymru

2

1

1

Ymwybyddiaeth o Alergenau Bwyd

1

0

1

Defnyddio a Glanhau Cyfarpar Trydanol yn Ddiogel yng Ngwasanaethau’r GIG yng Nghymru

2

1

1

Gweithdrefnau Gweithredu Safonol ar gyfer Chwyth-oeri ar gyfer Gwasanaethau’r GIG yng Nghymru

1

1

0

Defnyddio Cyfarpar sy’n cael ei Bweru gan Drydan mewn Dyletswyddau Golchdy ar gyfer y GIG yng Nghymru

2

2

0

Rheoli Glanhau a Gwastraff Cyffredinol (gan gynnwys Gwastraff Bwyd, Gwastraff Clinigol a Gwastraff Cyfrinachol) ar gyfer GIG Cymru

9

7

2

Didoli a Golchi yng ngwasanaeth Golchdy GIG Cymru

6

5

1

Systemau Gweithredu Diogel ar gyfer Cawelli Rholio a Phaledi o fewn GIG Cymru

1

1

0

Glanhau a Dihalogi Arbenigol (gan gynnwys Cerbydau) ar gyfer GIG Cymru

6

5

1

Ymgymryd â Gweithrediadau Diogelwch i Ymdrin â Digwyddiadau ar gyfer GIG Cymru

5

4

1

Gweithrediadau’r Ystafell Bost ar gyfer y GIG yng Nghymru

6

5

1

Rheoli Gwastraff ar gyfer Gwasanaethau’r GIG yng Nghymru

5

4

1

Symud a Chludo Unigolion yn Fewnol o fewn Amgylchedd Gofal Iechyd

2

1

1

Cyflwyniad i Waith Gweinyddol Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd

1

0

1

Ymgymryd â Gweithrediadau Diogelwch i Ymdrin â Sefyllfaoedd Parcio Ceir ar gyfer y GIG yng Nghymru

1

1

0

Ymgymryd â Gweithrediadau Diogelwch i Ymdrin â Sefyllfaoedd Gweithgarwch Troseddol ar gyfer y GIG yng Nghymru

1

1

0

Ymgymryd â Gweithrediadau Diogelwch i Ymdrin â Sefyllfaoedd Treisgar ac Ymosodol ar gyfer y GIG yng Nghymru

1

1

0

 

                  

 

 

 

Diploma Lefel 2 Agored Cymru mewn Gwasanaethau Gweinyddol a Derbynfa Gofal Sylfaenol

 

Teitl yr Uned

Gwerth credyd

Credydau gwybodaeth

Credydau cymhwysedd

Unedau Gorfodol

 

 

 

Darparu Gwasanaethau Derbynfa

3

1

2

Cefnogi a Rheoli Cleifion

2

1

1

Llywio Gofal mewn Gofal Sylfaenol

2

1

1

Cyfathrebu â Chleifion

3

0

3

Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth

2

2

0

Cynnal Safonau Ansawdd mewn Practisau Cyffredinol

2

2

0

Deall y Ddarpariaeth Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol Anghlinigol

2

0

2

Technoleg Gwybodaeth a Digidol mewn Gofal Sylfaenol

4

1

3

Deall Diogelu

1

1

0

Gweithio gyda Gofalwyr mewn Gofal Sylfaenol

2

1

1

Cyfanswm

 23

10

13

Unedau Dewisol

 

 

 

Hebrwng

2

2

0

Cydnerthedd a Rheoli Straen 

2

2

0

Iechyd Meddwl a Llesiant 

2

2

0

Egwyddorion Rheoli Gwybodaeth a Chynhyrchu Dogfennau 

3

3

0

Datblygu perthynas waith â chydweithwyr 

3

1

2

Cynnal ac ymdrin â thaliadau 

3

2

1

Risgiau o Haint mewn Amgylchedd Gofal Iechyd

3

3

0

Ymwybyddiaeth o Anabledd 

1

1

0

Gwneud Penderfyniadau 

1

0.5

0.5

 

 

Atodiad 2 Lefel 3: Rheoli Gofal Iechyd

Cymhwyster integredig ar Lefel 3, sy’n cyfuno elfennau cymhwysedd a gwybodaeth dechnegol lle y bydd pob elfen yn cael ei hasesu ar wahân a lle mae pob elfen yn cyfateb i ddeg credyd ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau.

Y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Diploma Lefel 3 Agored Cymru mewn Rheoli Gofal Iechyd

Teitl yr Uned

Cyfanswm y credydau

Gwybodaeth (credydau)

Cymhwysedd (credydau)

Unedau gorfodol

 

 

 

Egwyddorion Gweithio mewn Gwasanaethau Gofal Iechyd

3

3

0

Goruchwylio Staff mewn Sefydliadau Gofal Iechyd

5

4

1

Rheoli Cofnodion Adnoddau Dynol mewn Sefydliad Gofal Iechyd

3

1

2

Rheoli Perfformiad Unigolion mewn Lleoliad Gofal Iechyd

4

2

2

Darparu Hyfforddiant drwy Arddangos a Chyfarwyddo

3

1

2

Deall y Ddarpariaeth Gymraeg mewn Sefydliadau Gofal Iechyd

2

2

0

Hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Gweithle

3

2

1

Cyfanswm

23

15

8

 

Unedau Dewisol

Cydweithio ag Adrannau eraill mewn Sefydliadau

3

1

2

Cynnal Safonau Ansawdd yn y Sector Iechyd

2

2

0

Gwella Gwasanaethau yn y Sector Iechyd

3

3

0

Rhoi Newid ar Waith

5

2

3

Annog Arloesedd

4

0

4

Monitro Ansawdd y Rhyngweithiadau Gwasanaethau Cwsmeriaid mewn Sefydliadau Gofal Iechyd

5

2

3

Rheoli Cyllideb

4

2

2

Rheoli Adnoddau mewn Sefydliad Gofal Iechyd

4

0

4

Gweinyddu’r Broses Recriwtio a Dethol mewn Lleoliad Gofal Iechyd

3

1

2

Egwyddorion Gweinyddu Arian ar gyfer Goruchwylwyr/Arweinwyr Timau mewn Lleoliad Gofal Iechyd

2

2

0

Cydnerthedd a Rheoli Straen yn y Gweithle

2

2

0

Rheoli Cyfarfod

1

0.5

0.5

Rheoli Gwrthdaro mewn Tîm

5

1

4

Rheoli Cyfleuster Swyddfa

4

2

2

 


Diwygiadau dogfennau

30 Tachwedd 2021