- Framework:
- Iechyd (Gwybodeg)
- Lefel:
- 2/3/4
Mae Gwybodeg Iechyd yn ymwneud â defnyddio data, gwybodaeth a thechnoleg yn effeithiol er mwyn cefnogi a gwella darpariaeth iechyd a gofal iechyd.
Fel proffesiwn, mae Gwybodeg Iechyd yn cynnwys pobl yn gweithio mewn ystod eang o swyddi, sydd wedi'u dosbarthu'n saith disgyblaeth:
• Rheoli Gwybodaeth
• Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
• Cofnodion Iechyd a Gweinyddiaeth Cleifion
• Gwybodeg Glinigol
• Addysg a Hyfforddiant Gwybodeg Iechyd
• Rheoli Prosiectau a Rhaglenni
Mae cyflogwyr yn chwilio am brentisiaid yn y sector iechyd sydd â'r nodweddion canlynol:
• Trefnus
• Gallu gweithio gyda llawer o wybodaeth a data
• Cydwybodol
• Parchu Cyfrinachedd
• Dangos Parch
• Brwdfrydig
Hefyd, bydd disgwyl i chi weithio mewn tîm a chyflawni dyletswyddau mewn ffordd ofalus iawn.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Iechyd (Gwybodeg) - Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Cynorthwyydd Gwybodaeth Iechyd
Iechyd (Gwybodeg) - Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Ymarferydd Cynorthwyol (Gwybodeg), Dadansoddwr Gwybodaeth ac Uwch Arbenigwr TG.
Iechyd (Gwybodeg) - Lefel 4
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Technegydd Cymorth TGCh, Dadansoddwr Profion TGCh.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12 mis
Lefel 3: 18 mis
Lefel 4: 18 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwybodeg Iechyd.
- Swydd fel Ymarferydd Cynorthwyol (Gwybodeg) neu swydd arall sy'n dod i'r amlwg o fewn y Fframwaith Gyrfa Gwybodeg Iechyd.
- Cymwysterau pellach sy'n benodol i'ch cyd-destun gwaith mewn meysydd eraill o bosibl, fel TG, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu Wasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth.
Lefel 3
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Prentisiaeth Iechyd (Gwybodeg) Lefel 4.
- Hefyd, gallwch gamu ymlaen i feysydd eraill fel TG, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu Wasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth.
- Cymwysterau neu addysg a hyfforddiant arall sy'n gysylltiedig â gwaith i ategu Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
- Addysg Uwch, gan ymgymryd ag amrywiaeth o raddau sy'n gysylltiedig â Gwybodeg.
Lefel 4
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- Cymwysterau pellach sy'n benodol i'ch cyd-destun gwaith mewn meysydd eraill o bosibl, fel TG, Dadansoddi Data neu Wasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth.
- Addysg a hyfforddiant arall sy'n gysylltiedig â gwaith i ategu Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
- Addysg Uwch, gan ymgymryd ag amrywiaeth o raddau sy'n gysylltiedig â Gwybodeg.
Cymwysterau
Lefel 2: Tystysgrif Estynedig mewn Gwybodeg Iechyd
Lefel 3: Diploma mewn Gwybodeg Iechyd
Lefel 4: Diploma mewn Gwybodeg Iechyd
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol ar gyfer mynediad i'r fframwaith prentisiaeth hwn. Dylai prentisiaid:
• Arddangos brwdfrydedd dros weithio yn y sector iechyd
• Bod â sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn eu datblygu
• Bod â lefel addas o ffitrwydd corfforol i gyflawni rhai agweddau ar y swydd (e.e. helpu i symud pobl a chodi a chario pobl)
• Bod yn fodlon cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (mae'r gwiriad hwn yn ofynnol gan fod prentisiaid yn gallu dod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sy'n agored i niwed)
• Bod yn hyblyg er mwyn gweithio yn unol â system rota shifftiau os oes angen.
Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddilyn amrywiaeth o lwybrau mynediad gan gynnwys:
• gwaith
• profiad gwaith
• ysgol
• coleg
• hyfforddiant a/neu brofiad a all gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maen nhw wedi'i wneud
Mae'n bosibl y bydd gan ymgeiswyr amrywiaeth o gymwysterau eisoes.
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol

Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol

Lefel 4: Dim gofynion mynediad ffurfiol
Gweld llwybr llawn