Skip to main content

Llwybr

Gwasanaethau Gofal Iechyd – Gwybodeg Iechyd

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn, mewn cydweithrediad â Chyflogwyr y Sector Iechyd. Dyma’r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Gwasanaethau Gofal Iechyd a gymeradwywyd i’w ddefnyddio yng Nghymru ac sy’n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 22/10/2024 ACW Fframwaith Rhif. FR05113

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

57 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Gwybodeg Iechyd.

77 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gwybodeg Iechyd.

141 credyd yw’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Gwybodeg Iechyd.

Gofynion mynediad

Lefel 2

Bydd yr ymgeiswyr ar gyfer y Brentisiaeth hon yn dod o grwpiau oedran gwahanol, o wahanol gefndiroedd a gyda phrofiadau gwahanol. Fel canllaw, gall ymgeiswyr ymuno o amrywiaeth o wahanol lwybrau, gan gynnwys:

  • gwaith
  • profiad gwaith
  • ysgol
  • coleg
  • hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy’n dangos yr hyn y maent wedi’i wneud.

Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr eisoes wedi cyflawni amrywiaeth o gymwysterau ee:

  • Sgiliau Hanfodol Cymru
  • Bagloriaeth Cymru
  • Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu
  • Dysgu sylfaen ar lefel 1
  • Cymwysterau eraill lefel 1
  • Cymwysterau TGAU mewn pynciau cysylltiedig ee Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu TGCh

Nodweddion Personol

Mae cyflogwyr yn edrych am brentisiaid yn y sector iechyd sy’n:

  • Drefnus Iawn
  • Gallu gweithio gyda llawer o wybodaeth a data
  • Cydwybodol
  • Diffwdan
  • Dangos Parch
  • Dymunol

Maent hefyd yn disgwyl iddynt:

Lefel 3

Mae’r gofynion mynediad yr un fath â rhai Lefel 2, ond maent hefyd yn cynnwys ymgeiswyr sydd eisoes wedi cyflawni amrywiaeth o gymwysterau o bosib ee:

  • Sgiliau Hanfodol Cymru
  • Prentisiaeth Sylfaen
  • Cymwysterau TGAU
  • Bagloriaeth Cymru (ni ellir trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
  • Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu (ni ellir trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
  • Cymwysterau eraill lefel 2

Rhaid i brentisiaid sy’n dymuno achredu unrhyw ddysgu blaenorol ddewis opsiynau o fewn y Llwybr a fydd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd iddynt.

Lefel 4

Mae’r gofynion mynediad yr un peth â rhai Lefel 2, ond maent hefyd yn cynnwys ymgeiswyr sydd eisoes wedi cyflawni amrywiaeth o gymwysterau o bosib ee:

• Sgiliau Hanfodol Cymru

• Prentisiaeth

• Cymwysterau TGAU

• Bagloriaeth Cymru (ni ellir trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)

• Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu (ni ellir trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)

• Cymwysterau eraill lefel 3

Rhaid i brentisiaid sy’n dymuno achredu unrhyw ddysgu blaenorol ddewis opsiynau o fewn y Llwybr a fydd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd iddynt.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Gwybodeg Iechyd

Lefel 2: Gwybodeg Iechyd Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod.

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Gwybodeg Iechyd Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Gwybodeg Iechyd 214 239
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Iechyd (Gwybodeg Lefel 2) - Cyfanswm o 57 credyd.

• Cymhwyster cyfunol – 32 credyd

• Sgiliau Hanfodol - 18 credyd

• Cymhwyster CHC/Sgiliau Ehangach Cymru – 7 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi - sy’n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith – ar gyfer y Llwybr hwn yw 453 awr. Dros 12 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru 

Lefel 3: Gwybodeg Iechyd

Lefel 3: Gwybodeg Iechyd Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymwysterau cyfunol isod.

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun..

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Gwybodeg Iechyd Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Gwybodeg Iechyd 277 341
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Iechyd (Gwybodeg Lefel 3) – Cyfanswm o 77 credyd.

• Cymhwyster cyfunol – 52 credyd

• Sgiliau Hanfodol – 18 credyd

• Cymhwyster CHC/Sgiliau ehangach Cymru - 7 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi – sy’n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith – ar gyfer y Llwybr hwn yw 618 awr. Dros 18 mis.

 

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Gwybodeg Iechyd

Lefel 4: Gwybodeg Iechyd Cymwysterau

Rhaid i ddysgwyr gyflawni’r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 4 Diploma mewn Gwybodeg Iechyd
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
Agored Cymru C00/1229/3 116 1160 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 3 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4: Gwybodeg Iechyd Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4: Gwybodeg Iechyd 696 714
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Iechyd (Gwybodeg Lefel 4) - cyfanswm o 141 credyd.

• Cymhwyster cyfunol – 116 credyd

• Sgiliau Hanfodol – 18 credyd

• Cymhwyster CHC/Sgiliau ehangach – 7 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi – sy’n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith – ar gyfer y Llwybr hwn yw 1410 awr. Dros 18 mis.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Mae’n ofynnol bod prentisiaid yn:

  • Barod i ymgymryd â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (mae angen hyn oherwydd gallai prentisiaid ddod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc neu oedolion sy’n agored i niwed)
  • Hyblyg oherwydd mae’n bosibl y bydd gofyniad i weithio sifftiau
  • Mae’n bosibl y bydd gan gyflogwyr yn y sector gofal iechyd ofynion mynediad ychwanegol o ran cyflogaeth e.e. byddai trwydded yrru gyfredol hefyd o fantais (a gallai fod yn angenrheidiol ar gyfer rhai rolau).

Rolau swydd

Y fersiwn ddiweddaraf o’r rolau swydd a’r swydd-ddisgrifiadau ar gyfer y Llwybr hwn.

Lefel 2

Teitl y SwyddRôl y swydd
Cynorthwywyr Gwybodaeth IechydMae’r rôl yn cynnwys ymdrin â data a'u mewnbynnu'n rheolaidd, yn ogystal â dilysu data a gwybodaeth. Maent yn gyfrifol am ddarparu adroddiadau a dosbarthu gwybodaeth.

Lefel 3

Teitl y swydd Rôl y swydd

Ymarferydd Cynorthwyol

(Gwybodeg)

Yn ymwneud ag ymdrin â data a gwybodaeth, boed yn electronig neu ar bapur, a’u rheoli, gan ddefnyddio systemau TG a systemau â llaw. Gallai hyn gynnwys y gwaith o ddydd i ddydd o reoli cofnodion cleifion, dilysu a chodio data a dadansoddi, adrodd a defnyddio data i gefnogi ansawdd y wybodaeth.

Lefel 4

Teitl y swyddRôl y swydd
Technegydd Cymorth TGChCynorthwyo i ddarparu cymorth TGCh. Mae hyn yn cynnwys datrys galwadau cymorth TG, gosod, ffurfweddu, ail-leoli a datgomisiynu caledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol; canfod diffygion a datrys problemau; hyrwyddo arferion da wrth ddefnyddio caledwedd a meddalwedd a diogelwch TG.
Dadansoddwr Profion TGChDatblygu cynlluniau profi, sgriptiau, etc; Profion Systemau ac Integreiddio (SIT), Profion Derbyniad Gweithredol (OAT), Profion Sicrwydd Defnyddwyr (UAT), Profion Atchweliad a Pherfformiad. Gallai hefyd gynnwys profion ymarferol i feithrin arbenigedd ar gymwysiadau a sicrhau bod terfynau amser prosiectau’n cael eu bodloni
Dadansoddwr GwybodaethDarparu cymorth dadansoddol i hwyluso’r broses o wneud penderfyniadau clinigol, datblygu gwasanaethau a rheoli perfformiad. Hwyluso ansawdd data; cyfathrebu’n effeithiol â rhanddeiliaid; rhoi cyngor a chymorth a allai gynnwys darparu addysg a hyfforddiant i eraill.
Uwch Arbenigwr TG

Datblygu, cynnal a chefnogi’r systemau perthnasol ar gyfer y Ganolfan Gweithrediadau Cefnogi Seilwaith yn eu hardal eu hunain ac yn unol â’r manylebau a’r gofynion gweithredu. Mae tîm y Ganolfan Gweithrediadau Cefnogi Seilwaith yn gyfrifol am ddarparu data, eu monitro, adrodd arnynt a’u casglu.

 

Dilyniant

Lefel 2

Llwybrau dilyniant i’r Brentisiaeth:

Edrychwch ar y Gofynion Mynediad

Dilyniant o’r Brentisiaeth:

Gall Cynorthwywyr Gwybodaeth Iechyd symud ymlaen i gwblhau Prentisiaeth mewn Gwybodeg Iechyd, sy’n arwain at rôl fel Ymarferydd Cynorthwyol (Gwybodeg), neu gallant weithio tuag at un o’r rolau newydd sy’n datblygu yn y Llwybr Gyrfa Gwybodeg Iechyd.

Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen o’r Llwybr hwn i gymwysterau pellach sy’n benodol i’w cyd-destun gwaith a gallai hyn fod mewn meysydd eraill fel TG, Gwasanaethau i Gwsmeriaid neu Wasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth. Gall y rhain gynnwys Llwybrau prentisiaethau, cymwysterau neu addysg a hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith i gefnogi  Datblygiad Proffesiynol Parhaus. 

Ni ddylid ystyried dilyniant fel llwybr fertigol. Mewn rhai achosion, gallai symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mor werthfawr oherwydd mae’n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.

Lefel 3

Llwybrau dilyniant i’r Brentisiaeth:

Edrychwch ar y Gofynion Mynediad

Dilyniant o’r Brentisiaeth:

Gall dysgwyr symud ymlaen o’r llwybr hwn i Brentisiaeth Iechyd (Gwybodeg) Lefel 4.

Gallant symud ymlaen hefyd i feysydd eraill fel TG, Gwasanaethau i Gwsmeriaid neu Wasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth. Gall y rhain gynnwys cymwysterau neu addysg a hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen o’r llwybr hwn i Addysg Uwch gan ymgymryd ag amrywiaeth o raddau sy’n gysylltiedig â gwybodeg.

Ni ddylid gweld dilyniant fel llwybr fertigol yn unig. Mewn rhai achosion, gall symud ymlaen i rôl ar yr un lefel fod yr un mor werthfawr oherwydd mae’n cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.

Lefel 4

Llwybrau dilyniant i’r Brentisiaeth:

Edrychwch ar y Gofynion Mynediad

Dilyniant o’r Brentisiaeth:

Gall dysgwyr symud ymlaen o’r llwybr hwn i gymwysterau pellach sy’n benodol i’w cyd-destun gwaith ac a allai fod mewn meysydd eraill fel TG, Dadansoddi Data neu Wasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth. Gall y rhain gynnwys cymwysterau neu addysg a hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â gwaith i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i Addysg Uwch gan ymgymryd ag amrywiaeth o raddau sy’n gysylltiedig â gwybodeg.

Ni ddylid gweld dilyniant fel llwybr fertigol yn unig. Mewn rhai achosion, gall symud ymlaen i rôl arall ar yr un lefel fod yr un mor werthfawr oherwydd mae’n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu arddangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg neu gudd wrth ddewis, recriwtio a chyflogi. Rhaid monitro pob gweithgaredd hyrwyddo, dewis a hyfforddi a rhaid iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth. 

Mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sector iechyd, gan fod mwy o fenywod yn gweithio yn y sector. Mae pob swydd yn agored i ddynion a menywod ac fe’u hysbysebir yn unol â hynny. Mae modelau rôl gwrywaidd yn cael eu hyrwyddo mewn ffordd gadarnhaol drwy ddeunydd marchnata, ffotograffau ac astudiaethau achos. Fodd bynnag, mae rhagdybiaeth o hyd bod rhai rolau swydd ar gyfer menywod a gallai hyn atal rhai dynion rhag ymgeisio i weithio yn y rolau swydd hyn.

Gall cyflogwyr gynllunio rhaglenni prentisiaeth lleol i annog nifer uwch o ymgeiswyr gwrywaidd i’r rolau hyn ac i mewn i’r gweithlu cyfan.

Nid yw Skills for Health yn ymwybodol o unrhyw anghydbwysedd arall mewn perthynas â’r rheiny sy’n ymgymryd â’r Llwybr hwn e.e. gan grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Ar gyfer pob prentisiaeth iechyd, anogir recriwtio lleol i adlewyrchu’r gymuned leol.

Argymhellir bod cyflogwyr/darparwyr yn cynnal cyfweliad gadael os yw’r prentis yn gadael y rhaglen cyn ei gwblhau. Yn ystod cyfweliad gadael y dysgwr, argymhellir bod gwybodaeth am ddysgwyr sy’n gadael y rhaglen cyn ei chwblhau yn cael ei nodi a’i defnyddio i gefnogi’r dysgwr ac i ddatblygu’r ddarpariaeth lle bo angen.

Bydd Skills for Health yn monitro'r rheiny sy’n ymgymryd ag unrhyw Brentisiaethau ac yn eu cyflawni a bydd yn cymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i wneud hynny fel rhan o Strategaeth Cymwysterau ein Sector.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Lefel 2

Rhaid i brentisiaid gwblhau’r cymhwyster a ganlyn:

Dyfarniad Lefel 2 mewn Cyflogaeth a Sgiliau Dysgu Personol ym maes Iechyd

Lle bo dysgwr yn gallu cyflawni lefel uwch, a’i fod yn briodol i’w rôl, gall prentisiaid gwblhau:

Dyfarniad Lefel 3 mewn Cyflogaeth a Sgiliau Dysgu Personol ym maes Iechyd

Cydnabyddir y cymhwyster hwn yn genedlaethol ac fe’i datblygwyd yn benodol i ddarparu gofynion CHC a Sgiliau Dysgu a Meddwl Personol y prentisiaethau. Gall Sefydliadau Dyfarnu eraill gynnig cymwysterau amgen addas yn y dyfodol a bydd dogfen y llwybr yn cael ei diweddaru pan fydd y rhain ar gael.

I fodloni gofynion CHC y Llwybr prentisiaeth hwn, rhaid i ddysgwyr ddewis a chwblhau’r uned ‘Deall cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol neu leoliadau i blant a phobl ifanc’ o’r amrywiaeth o unedau sy’n rhan o’r cymhwyster. 

Lefel 3

Dyfarniad Lefel 3 mewn Cyflogaeth a Sgiliau Dysgu Personol ym maes Iechyd.

Lefel 4

Dyfarniad Lefel 4 mewn Cyflogaeth Sgiliau a Dysgu Personol ym maes Iechyd.

Er mwyn bodloni’r gofyniad tystiolaeth ar gyfer y brentisiaeth, bydd rhaid i ddysgwyr ddarparu copi o’r dystysgrif cymhwyster sy’n nodi’n glir bod yr uned benodol hon wedi’i chwblhau.

Gall y cymhwyster hwn lunio rhan o’r rhaglen gynefino a gynigir gan gyflogwyr.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 

Atodiad 1 - Lefel 2: Gwybodeg Iechyd

Y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn a gofynion cymwysterau eraill y Llwybr, cyfanswm y credydau y bydd prentis yn eu hennill yw 45, sy’n fwy na’r isafswm gofynnol statudol o 37 credyd.

Mae’r cymhwyster cyfun yn fwy na’r isafsymiau gofynnol o 10 credyd ar gyfer cymhwysedd a 10 credyd ar gyfer gwybodaeth dechnegol.

Mae’r isafswm credydau gofynnol o 10 credyd o wybodaeth sy’n cael ei hasesu yn cael ei gyflawni yn y Llwybr hwn drwy gwblhau’r unedau gorfodol sy’n ofynnol i gyrraedd y trothwy credydau. Gall y dysgwr gyflawni mwy na’r isafswm gofynnol drwy ymgymryd â’r cymhwyster llawn. 

Mae’r rhestr isod yn nodi sut y neilltuwyd y credydau ar draws yr unedau gorfodol.

Cyflwyniad i ddatblygiad personol mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol neu  leoliadau i blant a phobl ifanc

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 2

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 1

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 3

Cyflwyniad i gyfathrebu mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol neu leoliadau i blant a phobl ifanc

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 1

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 2

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 3

Cyflwyniad i gydraddoldeb a chynhwysiant mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol neu leoliadau i blant a phobl ifanc

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 1

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 1

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 2

Cyfrannu at iechyd a diogelwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 2

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 2

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 4

Rôl y gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 1

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 1

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 2

Gwybodaeth ymchwil

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 2

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 2

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 4

Trefnu ac Adrodd ar Ddata

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 1

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 2

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 3

Hanfodion mewn Gwybodeg Iechyd

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 1

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 1

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 2

Storio ac Adalw Gwybodaeth

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 1

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 2

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 3

Cynnal Safonau Ansawdd yn y Sector Iechyd

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 1

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 0

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 1

Gwella Gwasanaethau yn y Sector Iechyd

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 2

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 0

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 2

Cyfansymiau (ar gyfer yr unedau gorfodol a restrir uchod, nid y cymhwyster cyfan)

Cyfanswm y Credydau a Neilltuwyd i Wybodaeth: 15

Cyfanswm y Credydau a Neilltuwyd i Sgiliau: 15

Cyfanswm y Credydau: 29

Atodiad 2 - Lefel 3: Gwybodeg Iechyd

Y berthynas rhwng y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Ar ôl cwblhau’r cymwysterau uchod, cyfanswm y credydau y bydd prentis yn eu hennill yw 52 credyd, sy’n fwy na’r isafswm gofynnol o 37 credyd.

Mae’r cymhwyster cyfun yn fwy na’r isafsymiau gofynnol o 10 credyd ar gyfer cymhwysedd a 10 credyd ar gyfer gwybodaeth dechnegol.

Mae’r isafswm gofynnol o 10 credyd o wybodaeth sy’n cael ei hasesu yn cael ei gyflawni yn y Llwybr hwn drwy gyflawni’r unedau gorfodol sy’n ofynnol i gyrraedd y trothwy credydau.

Gall y dysgwr gyflawni mwy na’r isafswm gofynnol drwy ymgymryd â’r cymhwyster llawn.

Mae’r rhestr isod yn nodi sut y neilltuwyd y credydau ar gyfer gwybodaeth ar draws yr unedau gorfodol.

Rheoli gwybodeg iechyd mewn lleoliadau gofal iechyd

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 1

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 2

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 3

Egwyddorion rheoli gwybodaeth a llunio dogfennau

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 3

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 0

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 3

Sgiliau cyfathrebu ar gyfer gweithio yn y sector iechyd

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 3

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 0

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 3

Nodi gofynion o ran gwybodaeth mewn cyd-destun iechyd

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 1

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 3

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 4

Rheoli eich perfformiad mewn amgylchedd busnes

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 1

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 1

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 2

Hyrwyddo arferion da wrth ymdrin â gwybodaeth mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 1

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 1

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 2

Cyfansymiau (ar gyfer yr unedau gorfodol a restrir uchod, nid y cymhwyster cyfan)

Cyfanswm y Credydau a Neilltuwyd i Wybodaeth: 10

Cyfanswm y Credydau a Neilltuwyd i Sgiliau: 7

Cyfanswm y Credydau: 17

I gyflawni 3 credyd ychwanegol neu fwy ar gyfer sgiliau, rhaid i ddysgwyr ymgymryd ag un o’r nifer o unedau sgiliau dewisol sydd ar gael. Er enghraifft: 

Meddalwedd Rheoli Data

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 0

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 4

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 4

Rhaid i brentisiaid sydd eisoes wedi cyflawni cymwysterau ac unedau cyfunol a/neu gymhwysedd a/neu wybodaeth cyn cael mynediad i’r Brentisiaeth ddewis opsiynau a fydd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth newydd iddynt. 

Atodiad 3 - Lefel 4: Gwybodeg Iechyd

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae’r rhestr isod yn nodi sut y neilltuwyd y credydau ar gyfer gwybodaeth ar draws yr unedau gorfodol.

Datblygu eich effeithiolrwydd a’ch proffesiynoldeb eich hun

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 3

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 9

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 12

Dadansoddi ac adrodd ar ddata a gwybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 3

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 3

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 6

Hyrwyddo arferion da wrth ymdrin â gwybodaeth mewn lleoliadau iechyd

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 3

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 2

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 5

Rheoli ansawdd cynnyrch a gwasanaethau digidol

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 4

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 5

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 9

Egwyddorion rheoli gwybodaeth a hysbysrwydd yn y sector iechyd

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 5

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 0

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 5

Gweithredu system TG 2

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 7

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 7

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 14

Egwyddorion rhwydweithio

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 6

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 4

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 10

Dylunio meddalwedd

Credydau a neilltuwyd i wybodaeth: 6

Credydau a neilltuwyd i sgiliau: 4

Cyfanswm y credydau yn yr uned: 10

Cyfansymiau (ar gyfer yr unedau gorfodol a restrir uchod, nid y cymhwyster cyfan)

Cyfanswm y Credydau a Neilltuwyd i Wybodaeth: 37

Cyfanswm y Credydau a Neilltuwyd i Sgiliau: 34

Cyfanswm y Credydau: 71

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster uchod, cyfanswm y credydau y bydd prentis yn eu hennill yw 116, sy’n fwy na’r isafswm gofynnol o 37 credyd.

Mae’r cymhwyster cyfun yn fwy na’r isafsymiau gofynnol o 10 credyd ar gyfer cymhwysedd a 10 credyd ar gyfer gwybodaeth dechnegol.

Mae’r isafswm credydau gofynnol o 10 credyd o wybodaeth sy’n cael ei hasesu yn cael ei gyflawni yn y Llwybr hwn drwy gwblhau’r unedau gorfodol sy’n ofynnol i gyrraedd y trothwy credydau. Gall y dysgwr gyflawni mwy na’r isafswm gofynnol drwy ymgymryd â’r cymhwyster llawn. 


Diwygiadau dogfennau

30 Tachwedd 2021