- Framework:
- Nyrsio Deintyddol
- Lefel:
- 3/4
Fel Nyrs Ddeintyddol byddwch yn darparu cymorth i'r tîm deintyddol a chymorth i'r claf. Gallwch weithio mewn amgylcheddau clinigol amrywiol a gallwch gamu ymlaen i broffesiynau deintyddol eraill. Ar ôl derbyn hyfforddiant gallwch gamu ymlaen i lwybrau gyrfa eraill gan gynnwys: Therapydd a Hylenydd Deintyddol, Hybu Iechyd y Geg, Rheoli Practis Deintyddol neu swyddi gofal iechyd cysylltiedig, megis Nyrsio a Radiograffeg.
Dylai prentisiaid:
• Arddangos brwdfrydedd i weithio ym maes Nyrsio Deintyddol
• Bod â sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu sylfaenol y bydd y brentisiaeth yn eu datblygu
• Bod â lefel addas o ffitrwydd corfforol i gyflawni rhai agweddau ar y gwaith
• Bod yn fodlon cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (mae'r gwiriad hwn yn ofynnol gan fod prentisiaid yn debygol o weithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion sy'n agored i niwed)
• Bod yn hyblyg er mwyn gweithio yn unol â system rota os oes angen
• Cael asesiad iechyd galwedigaethol a derbyn y brechiadau gofynnol yn unol â pholisi'r cyflogwr.
Mae cyflogwyr yn chwilio am brentisiaid yn y sector iechyd sydd â'r nodweddion canlynol:
• Gofalgar
• Cydwybodol
• Parchu Cyfrinachedd
• Dangos Parch
• Brwdfrydig
Hefyd, bydd disgwyl i chi weithio mewn tîm a chyflawni dyletswyddau mewn ffordd ofalus iawn.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Iechyd (Nyrsio Deintyddol) - Lefel 3
Addas ar gyfer swydd Nyrs Ddeintyddol
Iechyd (Nyrsio Deintyddol) - Lefel 4
Addas ar gyfer swydd Nyrs Ddeintyddol
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 3: 18 mis
Lefel 4: 24 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 3: Mae amrywiaeth o gyrsiau ôl-gofrestru ar gael i Nyrsys Deintyddol sy'n awyddus i gamu ymlaen yn eu gyrfa.
Gallant gynnwys cymwysterau galwedigaethol pellach, amrywiaeth o gymwysterau addysg uwch neu addysg a hyfforddiant o fathau eraill sy'n gysylltiedig â gwaith.
Hefyd, gall Nyrsys Deintyddol symud i swyddi eraill sy'n gysylltiedig â deintyddiaeth megis Prif Nyrs Ddeintyddol neu Arweinydd Tîm Nyrsys Deintyddol, Tiwtoriaid Nyrsio Deintyddol, Hylenyddion neu Therapyddion Deintyddol. Mae prentisiaid sy'n dymuno camu ymlaen i Addysg Uwch yn cael eu hannog i gwblhau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Mae cymwysterau TGAU yn cael eu cydnabod yn eang ar draws y Sector Addysg Uwch ac maen nhw’n ategu llwybr camu ymlaen i raglenni gofal iechyd israddedig.
Lefel 4: Mae Nyrsys Deintyddol yn gwneud gwaith ataliol ac addysgol hanfodol, gan roi cyngor ar iechyd y geg ac iechyd deintyddol. Mae cyfleoedd yn cynnwys:
- Technegydd Deintyddol
- Addysgwyr Iechyd Deintyddol/Swyddogion Hybu Iechyd y Geg
- Rheolwr a Derbynnydd Practis Deintyddol
- Prosthetyddion a Thechnolegwyr Genol-wynebol
- Therapydd Orthodontig
- Technegydd Labordy
- Technegydd Deintyddol Clinigol
- Deintydd
Swyddi gofal iechyd cysylltiedig fel Nyrsio a Radiograffeg.
Cymwysterau
Lefel 3: Diploma mewn Nyrsio Deintyddol/Diploma mewn Egwyddorion ac Ymarfer Nyrsio Deintyddol
Lefel 4: Tystysgrif Addysg Uwch mewn Nyrsio Deintyddol
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 3
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol ar gyfer mynediad i'r fframwaith prentisiaeth hwn. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd gan Sefydliadau Addysg Uwch a darparwyr hyfforddiant ofynion mynediad ar gyfer astudio'r cymwysterau cyfunol a restrir yn y fframwaith. Bydd angen i Ddarpar Brentisiaid allu dangos tystiolaeth eu bod yn gallu bodloni'r gofynion academaidd ar gyfer y rhaglen astudio.
Lefel 3:. Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddilyn amrywiaeth o lwybrau mynediad gan gynnwys:
• gwaith
• profiad gwaith
• ysgol
• coleg
• hyfforddiant a/neu brofiad a all gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maen nhw wedi'i wneud
Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr eisoes wedi ennill cymwysterau amrywiol gan gynnwys:
• Sgiliau Hanfodol Cymru
• Prentisiaeth Sylfaen
• TGAU
• TAG
• Bagloriaeth Cymru
• Bagloriaeth Cymru gyda Phrif Ddysgu
• Cymwysterau lefel 2 eraill
Lefel 4
Lefel 4: Fel canllaw, gall ymgeiswyr ddilyn amrywiaeth o lwybrau mynediad gan gynnwys:
• gwaith
• profiad gwaith
• ysgol
• coleg
• hyfforddiant a/neu brofiad a all gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maen nhw wedi'i wneud
Mae'n bosibl y bydd gan ymgeiswyr amrywiaeth o gymwysterau eisoes. (Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac nid ydynt yn ofyniad cyn y Fframwaith).Gallant :
- Cyflogaeth mewn lleoliad deintyddol yn ystod y cwrs sy'n golygu bod modd cwblhau elfen dysgu seiliedig ar waith y dyfarniad
- Cytundeb gan y cyflogwr i gefnogi'r ymgeisydd yn ystod y Dyfarniad a sicrhau, ar y cyd â'r darparwr addysgol, gwasanaeth mentora effeithiol wrth ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith
- 5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg, neu;
- NVQ lefel 3, neu;
- Safon UG x2, neu;
- Safon Uwch x1, neu;
- AVEC neu BTEC