Mae Skills for Health wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma’r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sectorau nyrsio deintyddol a gymeradwywyd i’w ddefnyddio yng Nghymru ac sy’n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 13/09/2021 ACW Framwaith Rhif. FR05023
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
67 credyd yw’r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 (Nyrsio Deintyddol).
138 credyd yw’r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 (Nyrsio Deintyddol).
Gofynion mynediad
Bydd ymgeiswyr i’r Brentisiaeth hon yn dod o grwpiau oedran gwahanol, gyda chefndiroedd a phrofiad gwahanol.
Fel canllaw, gall ymgeiswyr sicrhau mynediad o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- gwaith
- profiad gwaith
- ysgol
- coleg
- hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy’n dangos yr hyn y maent wedi’i wneud.
Mae’n bosibl y bydd yr ymgeiswyr eisoes wedi cyflawni amrywiaeth o gymwysterau (Nid yw hon yn rhestr gyflawn, ac nid yw’r rhain yn ofyniad cyn ymuno â’r Llwybr).
Gallai’r rhain gynnwys:
- Sgiliau Hanfodol Cymru
- Prentisiaeth Sylfaen
- Cymwysterau TGAU
- Cymwysterau TAG
- Bagloriaeth Cymru (nid oes modd trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
- Bagloriaeth Cymru (nid oes modd trosglwyddo credydau ar hyn o bryd)
- Cymwysterau lefel 2 eraill
Gofynion eraill
Cyflogaeth mewn lleoliad deintyddol yn ystod y cwrs sy’n galluogi i elfen dysgu seiliedig ar waith y dyfarniad gael ei chyflawni.
- Cytundeb gan y cyflogwr i gefnogi’r ymgeisydd yn ystod y dyfarniad a sicrhau, ar y cyd â’r darparwr addysgol, mentora effeithiol wrth ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith i alluogi’r unigolyn hefyd:
- Deall y cyfrifoldeb sydd ynghlwm wrth fod yn Nyrs Ddeintyddol gofrestredig fel rhan o’r Tîm Deintyddol ehangach a meddu ar y gallu i adnabod cyfyngiadau eich hun a gweithio oddi mewn i’r rheiny er mwyn darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion ar sail ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n rhoi anghenion y claf yn gyntaf.
- Gallu cydymffurfio â Safonau’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer y Tîm Deintyddol a’r gofynion ar gyfer dysgu gydol oes.
Nodweddion Personol:
Mae cyflogwyr yn edrych am brentisiaid yn y sector iechyd sydd â:
- Natur ofalgar a chyfeillgar
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
Ac mae disgwyl iddynt hefyd fod yn:
- Gydwybodol
- Digynnwrf
- Diffwdan
- Dangos parch
- Dymunol ac yn hawdd sgwrsio â nhw
- Trefnus iawn
- Digon hyblyg i allu ymateb i amgylchiadau annisgwyl wrth iddynt godi.
- Gallu gweithio’n effeithiol mewn tîm.
- Manwl gywir wrth ymgymryd â’u dyletswyddau.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Nyrsio Deintyddol
Lefel 3: Nyrsio Deintyddol Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod:
Level 3 Diploma in Dental Nursing (Wales) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Agored Cymru | C00/4396/6 | 50 | 500 | Cymhwysedd | Cymraeg-Saesneg |
Lefel 3 Diploma mewn Nyrsio Deintyddol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/4351/6 603/7221/7 | 58 | 584 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Nyrsio Deintyddol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru a dylid gosod yr holl Sgiliau Hanfodol o fewn cyd-destun y sector deintyddol.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Nyrsio Deintyddol | 292 | 173 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- Diploma Lefel 3 Agored Cymru mewn Nyrsio Deintyddol - 50 credyd/310 GLH
I’w cwblhau dros gyfnod o hyd at 18 mis.
NEU
Diploma Lefel 3 NCFE/CACHE mewn Egwyddorion ac Arferion Nyrsio Deintyddol – 49 credyd/366 GLH
NEU
Diploma Lefel 3 C&G mewn Nyrsio Deintyddol – 58 credyd/367 GLH
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 4: Nyrsio Deintyddol
Lefel 4: Nyrsio Deintyddol Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod.
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Nyrsio Deintyddol Uwch | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
Prifysgol Bangor | Amherthnasol | 120 | 1200 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 4: Nyrsio Deintyddol | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru a dylid gosod yr holl Sgiliau Hanfodol o fewn cyd-destun y sector deintyddol.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 4: Nyrsio Deintyddol | 740 | 595 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Lefel 4: I fodloni gofynion y llwybr hwn, bydd angen i brentis gwblhau cyfanswm o 120 credyd/1335 o oriau hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o’r gwaith dros 24 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Dim
Rolau swydd
Nyrsio deintyddol
Mae rôl Nyrs Ddeintyddol wedi’i rheoleiddio gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
Mae Nyrsys Deintyddol yn darparu ‘cymorth ategol’ i’r tîm clinigol gan gynnwys Deintyddion, Therapyddion Deintyddol, Hylenwyr, Technegwyr Deintyddol Clinigol ac eraill.
Mae Nyrsys Deintyddol yn chwarae rhan hanfodol a rôl addysgol, yn cynghori ar iechyd y geg ac iechyd deintyddol. Gall nyrsys deintyddol symud i rolau deintyddol cysylltiedig fel Prif Nyrs Ddeintyddol, Arweinydd Tîm Nyrsys Deintyddol neu Diwtor Nyrsys Deintyddol.
Dilyniant
Llwybrau dilyniant i’r Brentisiaeth:
Edrychwch ar yr Amodau Mynediad.
Mae dirprwyon neu laciadau ar gael ar gyfer Sgiliau Hanfodol Cymru a rhaid i’r ymgeiswyr gwblhau’r elfennau Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif ar y lefel a nodir uchod.
Nid oes dirprwyon na llaciadau ar gyfer yr elfen Llythrennedd Digidol, y mae’n rhaid i ymgeiswyr ei chwblhau ar y lefel a nodir uchod.
Llwybrau dilyniant o’r Brentisiaeth:
Mae amrywiaeth o gyrsiau ar ôl cofrestru ar gael i Nyrsys Deintyddol sy’n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.
Gall y rhain gynnwys cymwysterau galwedigaethol pellach, ac amrywiaeth o gymwysterau addysg uwch neu addysg a hyfforddiant arall sy’n gysylltiedig â’r gwaith i gefnogi eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Gall Nyrsys Deintyddol ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol mewn unedau uwch sydd ar gael, mewn meysydd sy’n cynnwys, er enghraifft: Nyrsio Orthodonteg, Radiograffeg Ddeintyddol, Tawelyddu Deintyddol ac Addysg Iechyd y Geg.
Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys:
- Technegydd Deintyddol
- Addysgwyr Iechyd Deintyddol/Swyddogion Hybu Iechyd y Geg
- Rheolwyr a Derbynyddion Practisau Deintyddol
- Prostheteg a Thechnolegwyr Genol-wynebol
- Therapydd Orthodonteg
- Technegydd Labordy
- Technegydd Deintyddol Clinigol
- Deintydd
• neu o fewn rolau gofal iechyd cyswllt fel Nyrsio a Radiograffeg.
Mae Nyrsys Deintyddol yn chwarae rôl atal ac addysgol hanfodol, gan gynghori ynghylch iechyd y geg ac iechyd deintyddol
Gall nyrsys deintyddol symud i rolau deintyddol cyswllt fel Prif Nyrs Ddeintyddol, Arweinydd Tîm Nyrsys Deintyddol neu Diwtor Nyrsys Deintyddol. Yn dilyn yr addysg bellach a’r hyfforddiant priodol, gallant hefyd hyfforddi mewn meysydd eraill o fewn deintyddiaeth a gofal iechyd.
Ceir gwybodaeth fanwl a chyngor pellach am yrfaoedd fel Nyrs Ddeintyddol yn y sector iechyd yma: https://aagic.gig.cymru/gyrfaoedd/
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Ein hamcan yw gweld dilyniant, nid yn unig menywod, ond pob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Dylid bod recriwtio agored ar gyfer Prentisiaid i’r rhaglen, sydd ar gael i bawb sy’n bodloni’r meini prawf dethol a nodir, waeth beth fo’u rhywedd, eu tarddiad ethnig, eu crefydd neu eu hanabledd.
Mae Disability Rights UK wedi darparu gwybodaeth i gynorthwyo myfyrwyr anabl i ddeall y Ddeddf Cydraddoldeb ac mae’r wybodaeth ar gael yma: https://www.disabilityrightsuk.org/understanding-equality-act-information-disabled-students
Rhaid i’r holl bartneriaid sy’n rhan o’r gwaith o ddarparu’r brentisiaeth – darparwyr, canolfannau asesu a chyflogwyr – fod wedi ymrwymo i bolisi cyfleoedd cyfartal a rhaid iddynt fod â pholisi a gweithdrefn cyfleoedd cyfartal wedi’u nodi.
Dylid bod gan brentisiaethau lwybrau mynediad a dilyniant hyblyg i’r proffesiynau sy’n gallu cefnogi cyfleoedd ynghanol gyrfa, cyfnewid gyrfaoedd a’r rheiny sy’n dychwelyd i yrfa.
Bydd hyn yn cynorthwyo unigolion talentog, waeth beth fo’u cefndir neu eu cymwysterau, i gael cyfle i ddatblygu a ffynnu. Felly, nod y Llwybr yw mynd i’r afael â’r materion hyn.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw’r Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 3 -: Nyrsio Deintyddol
Cymhwyster integredig ar Lefel 3, sy’n cyfuno elfennau cymhwysedd a gwybodaeth dechnegol lle mae pob elfen yn ddeg credyd o leiaf.
Mae hwn yn gymhwyster integredig, felly mae’r holl unedau yn orfodol, gan gynnwys y rheiny lle ceir elfennau sy’n cael eu harholi.
C00/4396/6 Diploma Lefel 3 Agored Cymru mewn Nyrsio Deintyddol (Cymru)
https://www.agored.cymru/Unedau-a-Chymwysterau/Cymhwyster/127894?msclkid=fdc2c58bb96e11ecb3bcf5c8e2767426
C00/4351/6 Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Nyrsio Deintyddol
C00/0703/5 Diploma Lefel 3 NCFE CACHE mewn Egwyddorion ac Arferion Nyrsio Deintyddol
Atodiad 2 Lefel 4 - Nyrsio Deintyddol
Mae angen i ddysgwyr fodloni gofynion y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Nyrsio Deintyddol cyn y gellir dyfarnu’r cymhwyster a chyflawni’r Llwybr. Mae hwn yn gymhwyster gwybodaeth a chymhwysedd cyfun.
Lefel 4 – Tystysgrif Addysg Uwch mewn Nyrsio Deintyddol Uwch
https://awfdcp.ac.uk/cy/advanced-dental-nursing-level-4