- Framework:
- Gwasanaethau Ewinedd
- Lefel:
- 2/3
Bu twf sylweddol yn nifer y salonau ewinedd a chyfleusterau sba annibynnol, ac yn nifer y salonau therapi harddwch presennol sy'n cynnig amrywiaeth estynedig o wasanaethau gan gynnwys gwasanaethau ewinedd a chyfleusterau sba.
Drwy gwblhau Prentisiaeth bydd gennych gyfle i gyflawni rôl technegydd ewinedd. Gallwch weithio mewn amrywiaeth o leoliadau ar wahân i salonau ewinedd arbenigol, gan gynnwys mewn ysbytai, cartrefi gofal, salonau harddwch, bariau ewinedd, cyfleusterau sba a chlybiau iechyd, yn y wlad hon a thramor.
Fel Technegydd Ewinedd Iau byddwch yn rhoi triniaethau gan gynnwys trin ewinedd, trin ewinedd bysedd traed, gwasanaethau celf ewinedd a choethi ewinedd.
Wrth gamu ymlaen i swydd Technegydd Ewinedd byddwch yn rhoi triniaethau gan gynnwys cynnal ewinedd trwy ddefnyddio geliau uwchfioled neu hylif a phowdr, dyluniadau celf ewinedd, creu delweddau ewinedd, chwistrellu’r ewinedd (airbrush) a defnyddio ffeiliau trydan.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Gwasanaethau Ewinedd - Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Technegydd Ewinedd Iau.
Gwasanaethau Ewinedd - Lefel 3
Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Technegydd Ewinedd.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 18 mis
Lefel 3: 24 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2 Mae'r llwybrau'n cynnwys -
- Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru Lefel Uwch mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
- Rhaglen brentisiaeth Gwasanaethau Ewinedd Lefel 3.
- Cyflogaeth fel technegydd ewinedd iau neu swydd arall yn y diwydiant gwasanaethau ewinedd.
Lefel 3 Mae'r llwybrau'n cynnwys -
- Cyflogaeth fel technegydd ewinedd neu swydd arall yn y diwydiant harddwch.
- Addysg uwch fel Gradd Sylfaen mewn Therapi Harddwch a Rheoli Salon neu raglenni eraill.
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma NVQ mewn Gwasanaethau Ewinedd
Lefel 3: Diploma NVQ mewn Gwasanaethau Ewinedd
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Nid oes unrhyw ofynion mynediad sylfaenol na phrofiad blaenorol gofynnol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer y fframwaith hwn, ond gellir defnyddio'r meini prawf canlynol fel canllaw.
Mae disgwyliadau cleientiaid yn uchel yn y diwydiant hwn ac mae'n dibynnu ar gwsmeriaid yn dychwelyd. O ganlyniad, mae'r canlynol yn bwysig:
- Ymddangosiad personol priodol gan gynnwys dillad, ewinedd, gwallt a hylendid personol. Sgiliau ymarferol, trefniadol a chymdeithasol.
- Sylw i fanylion a glendid.
- Synnwyr digrifwch da/natur gyfeillgar a sgiliau cyfathrebu da wrth ymdrin â chleientiaid wyneb yn wyneb neu wrth siarad dros y ffôn.
- Parodrwydd i weithio oriau/diwrnodau hyblyg yn unol â'r contract cyflogaeth.
- Lefel uchel o ddeheurwydd ac ystwythder.
Rhaid i ddarpar brentisiaid sydd â rhai cyflyrau croen neu alergeddau, megis dermatitis galwedigaethol, ecsema neu asthma, ddeall y gallai rhai o'r cemegau, hylifau ac aerosolau sy'n cael eu defnyddio ym maes trin gwallt gael effeithiau sylweddol ar gyflwr eu hiechyd.
Gall lliwddallineb gyfyngu ar gynnydd mewn unedau sy'n gofyn am ddethol a chymhwyso cynhyrchion lliwio.
Bydd yn fanteisiol os oes gan ymgeiswyr brofiad blaenorol o weithio yn y diwydiant gwasanaethau ewinedd.
Lefel 2: Bydd yn fanteisiol os oes gan ymgeiswyr 3 chymhwyster TGAU Gradd D mewn Saesneg a/neu Gymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gelf.
Lefel 3
Lefel 3: Bydd yn fanteisiol os oes gan ymgeiswyr 3 chymhwyster TGAU Gradd C mewn Saesneg a/neu Gymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gelf.
Gweld llwybr llawn