Mae SkillsActive Habia wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Gwallt a Harddwch a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 31/05/2011 ACW Fframwaith Rhif. FR00694
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
58 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Gwasanaethau Ewinedd Lefel 2.
66 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Gwasanaethau Ewinedd Lefel 3
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad sylfaenol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol na gofynion o ran profiad blaenorol, ond gellir defnyddio'r meini prawf dethol canlynol fel arweiniad.
Oherwydd bod gan y diwydiant ddisgwyliadau uchel o ran cleientiaid a’i fod yn dibynnu ar fusnes rheolaidd, rhoddir pwysigrwydd i'r canlynol:
- Taclusrwydd personol priodol gan gynnwys dillad, gwallt a hylendid personol.
- Sgiliau ymarferol, trefnu a chymdeithasol.
- Sylw i fanylion a glendid.
- Synnwyr digrifwch da/natur gyfeillgar a sgiliau cyfathrebu boed yn ymdrin wyneb yn wyneb â chleientiaid neu'n siarad ar y ffôn.
- Parodrwydd i weithio oriau/diwrnodau hyblyg fel y cytunwyd yn y contract cyflogaeth.
- Lefel uchel o fedrusrwydd a chydsymud.
- Mae angen i ddarpar brentisiaid sydd â thueddiad i gael rhai cyflyrau croen neu sydd ag alergeddau, fel dermatitis, ecsema neu asthma galwedigaethol, ddeall y gall rhai o'r
- cemegion, hylifau ac aerosolau a ddefnyddir mewn Gwasanaethau Ewinedd gael effaith sylweddol ar eu hiechyd.
- Byddai lliwddallineb yn cyfyngu ar gyfleoedd i ddefnyddio cynhyrchion a gwasanaethau lliwio artiffisial yn eang yn y diwydiant.
Rhaid i brentisiaid gael eu cyfweld bob amser gan eu darpar gyflogwr a'u darparwr dysgu.
Efallai y byddant yn ystyried bod brwdfrydedd a diddordeb yn y pwnc yn bwysicach na chymwysterau ffurfiol. Am y rheswm hwn, mae'r Sector Gwallt a Harddwch wedi dewis peidio â bod yn rhagnodol iawn ynghylch gofynion mynediad.
Mae'n fanteisiol cael profiad blaenorol o weithio yn y diwydiant gwasanaethau ewinedd.
Mae mynediad i'r fframwaith gwasanaethau ewinedd fel arfer ar lefel ganolradd gyda dilyniant i lefel uwch. Mewn amgylchiadau lle cafwyd profiad neu gymwysterau blaenorol, mae'n bosibl mynd i mewn ar lefel uwch.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Gwasanaethau Ewinedd
Lefel 2: Gwasanaethau Ewinedd Cymwysterau
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Lefel 2 Diploma NVQ mewn Gwasanaethau Ewinedd | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0227/9 500/8766/6 | 40 | 400 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Gwasanaethau Ewinedd | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Gwasanaethau Ewinedd | 381 | 163 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
40 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaethau Ewinedd
Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yw 544 o oriau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Gwasanaethau Ewinedd
Lefel 3: Gwasanaethau Ewinedd Cymwysterau
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau un o'r cymwysterau cyfun isod.
Lefel 3 Gwasanaethau Ewinedd | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0980/5 500/8780/0 | 48 | 480 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
VTCT | C00/0211/4 500/9078/1 | 48 | 480 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Gwasanaethau Ewinedd | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Gwasanaethau Ewinedd | 400 | 171 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
48 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 3 mewn Gwasanaethau Ewinedd
Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yw 571 o oriau
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Amherthnasol
Dilyniant
Lefel 2 - Gwasanaethau Ewinedd
Dilyniant i mewn i’r cymhwyster:
- O gymhwyster paratoi ar gyfer gwaith nad yw'n seiliedig ar gymhwysedd mewn Gwasanaethau Ewinedd neu Therapi Harddwch.
- O Brif Ddysgu Lefel Sylfaen neu Lefel Ganolradd Bagloriaeth Cymru mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
- Yn dilyn rhaglen Gwasanaethau Ewinedd neu Therapi Harddwch Lefel 1.
- Mynediad uniongyrchol o'r ysgol neu'r coleg.
- Mynediad uniongyrchol o alwedigaeth arall.
Dilyniant ar ôl y cymhwyster:
- I Brif Ddysgu Lefel Uwch Bagloriaeth Cymru mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
- I raglen brentisiaeth Gwasanaethau Ewinedd Lefel 3.
- I mewn i gyflogaeth fel technegydd ewinedd iau neu rôl swydd arall yn y diwydiant gwasanaethau ewinedd.
Lefel 3 - Gwasanaethau Ewinedd
Dilyniant i mewn i’r cymhwyster:
- O gymhwyster paratoi ar gyfer gwaith nad yw'n seiliedig ar gymhwysedd mewn gwasanaethau ewinedd neu therapi harddwch.
- O'r Diploma Uwch mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch (Lloegr yn unig) yn dibynnu ar allu a photensial yr ymgeisydd neu Brif Ddysgu cymhwyster Bagloriaeth Cymru mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
- O’r Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaethau Ewinedd neu Therapi Harddwch sy’n cael ei wneud naill ai drwy gyfrwng Prentisiaeth (ddim ar gael mewn Therapi Sba) neu raglen amser llawn yn y coleg.
Dilyniant ar ôl y cymhwyster:
- I mewn i gyflogaeth fel technegydd ewinedd neu rôl swydd arall yn y diwydiant sy'n gysylltiedig â harddwch.
- I mewn i addysg uwch fel Gradd Sylfaen mewn Therapi Harddwch a Rheoli Salon neu raglenni eraill.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny
Nod prentisiaethau yn y sector yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant drwy gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel.
Mae'n rhaid i'r Brentisiaeth gael ei chwblhau mewn lleoliad heb ragfarn a gwahaniaethu lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.
Mae'n rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu dangos bod eu harferion dethol, recriwtio a chyflogaeth yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg na chudd mewn perthynas ag unrhyw un o'r nodweddion gwarchodedig.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 2: Gwasanaethau Ewinedd
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'n rhaid i Fframwaith Prentisiaeth Sylfaen nodi:
Mae'r wybodaeth isod yn cyfeirio at y cymwysterau cyfun a restrir yn Niploma NVQ Lefel 2 B1 mewn Gwasanaethau Ewinedd (B1a, B1b, B1c a B1d) a bydd yn sicrhau bod y cymhwyster yn cynnwys 10 credyd ar gyfer pob elfen.
Er mwyn ennill y cymhwyster llawn, mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau 8 uned orfodol sy'n dod i gyfanswm o 40 credyd.
Asesir elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y cymhwyster hwn ar wahân.
Gweler y strategaethau asesu, sydd ar gael ar ein gwefan www.habia.org.
UNEDAU GORFODOL
- G4 Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon = 3 chredyd (2 gymhwysedd 1 gwybodaeth)
- G8 Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith = 3 chredyd (2 gymhwysedd 1
gwybodaeth)
- G18 Hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gleientiaid = 6 chredyd (2 gymhwysedd 4 gwybodaeth)
- G20 Sicrhau cyfrifoldeb am gamau gweithredu i leihau'r risgiau i iechyd a diogelwch = 4 credyd (1 cymhwysedd 3 gwybodaeth)
- N2 Darparu gwasanaeth triniaeth dwylo ac ewinedd = 6 chredyd (3 cymhwysedd 3 gwybodaeth)
- N3 Darparu gwasanaethau triniaeth traed = 6 chredyd (3 cymhwysedd 3 gwybodaeth)
- N4 Gwneud gwasanaethau celf ewinedd = 4 credyd (3 gwybodaeth 1 cymhwysedd)
- N5 Gosod a chynnal ychwanegiadau ewinedd i greu gorffeniad naturiol = 8 credyd (6 cymhwysedd 2 gwybodaeth)
Atodiad 2 Lefel 3: Gwasanaethau Ewinedd
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'n rhaid i fframwaith Prentisiaeth Lefel Uwch nodi:
Mae'r wybodaeth isod yn cyfeirio at y cymwysterau cyfun a restrir yn Niploma NVQ Lefel 3 B1 mewn Gwasanaethau Ewinedd (B1a, B1b, B1c a B1d) a bydd yn sicrhau bod y cymhwyster yn cynnwys 10 credyd ar gyfer pob elfen.
Er mwyn ennill y cymhwyster llawn, mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau pob un o'r tair uned orfodol sy'n dod i gyfanswm o 24 credyd ac unedau dewisol hyd at isafswm o 24 credyd er mwyn rhoi cyfanswm cyffredinol o 48 credyd. Asesir elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y cymhwyster hwn ar wahân.
Gweler y strategaethau asesu sydd ar gael ar ein gwefan www.habia.org.
UNEDAU GORFODOL
- G22 Monitro gweithdrefnau i reoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel - 4 credyd (1 cymhwysedd 3 gwybodaeth)
- N6 Gwella a chynnal ewinedd gan ddefnyddio gel UV - 10 credyd (7 cymhwysedd 3 gwybodaeth)
- N7 Gwella a chynnal ewinedd gan ddefnyddio hylif a phowdwr - 10 credyd (7 cymhwysedd 3 gwybodaeth)
UNEDAU DEWISOL
- G11 Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes - 4 credyd (1 cymhwysedd 3 gwybodaeth)
- N8 Gwella a chynnal ewinedd gan ddefnyddio sticeri ewinedd (nail wraps) - 8 credyd (5 cymhwysedd 3 gwybodaeth)
- N9 Cynllunio a chreu cynlluniau celf ewinedd - 6 chredyd (4 cymhwysedd 2 gwybodaeth)
- N10 Datblygu amrywiaeth o ddelweddau ewinedd creadigol - 5 credyd (3 cymhwysedd 2 gwybodaeth)
- N11 Cynllunio a darparu cynllun brwsh aer ar gyfer ewinedd - 5 credyd (3 cymhwysedd 2 gwybodaeth)
- N12 Paratoi a gorffen troshaenau ewinedd gan ddefnyddio ffeiliau trydan - 4 credyd (3 cymhwysedd 1 gwybodaeth)
- H32 Cyfrannu at gynllunio a gweithredu gweithgareddau hyrwyddo - 5 credyd (2 cymhwysedd 3 gwybodaeth)