Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Trin Gwallt

Framework:
Trin Gwallt
Lefel:
2/3/4

Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth hon byddwch yn ymgymryd â rolau fel:

  • Triniwr Gwallt/Cynllunydd Iau (Prentisiaeth Sylfaen)
  • Triniwr Gwallt neu Gynllunydd (Prentisiaeth)

Fel Cynllunydd Iau byddwch yn darparu gwasanaethau sylfaenol sy'n cynnwys torri, cynllunio, lliwio, sychu a gorffen gwallt.

Fel Cynllunydd neu Driniwr Gwallt byddwch yn darparu gwasanaethau sy'n cynnwys torri gwallt yn greadigol, lliwio gwallt, cywiro lliw, cynllunio a thrin gwallt yn greadigol, creu amrywiaeth o gynlluniau pyrm a darparu gwasanaethau estyniadau gwallt.

Gallwch chi weithio mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys salonau trin gwallt, mewn sba, ysbytai, cartrefi gofal, carchardai, siopau adrannol, gwestai, cwmnïau hedfan a chyrchfannau gwyliau.

Drwy gwblhau'r rhaglen brentisiaeth lefel uwch hon byddwch yn ymgymryd â rolau fel Uwch Gynllunydd, Uwch Ymarferydd, Rheolwr Salon neu Gyfarwyddwr Salon.

Fel Uwch Ymarferydd/Uwch Gynllunydd byddwch yn rheoli salon i safon uchel, gan gynnwys gofalu am gwsmeriaid, defnyddio dulliau ffasiwn cyfredol, gweithio mewn tîm a gweithio fel unigolyn. Bydd gennych chi'r gallu i gynghori ac arwain aelodau'r tîm e.e. prentisiaid, aelodau staff iau, gan gydymffurfio â phob agwedd ar Iechyd a Diogelwch. Byddwch yn darparu gwasanaethau gwallt o bob math, yn cyflawni nodau gwasanaeth a manwerthu, yn gallu cadw a chynyddu sylfaen cleientiaid dda, a gweithredu mewn ffordd gyfoes a blaengar. Byddwch yn goruchwylio'r tîm o gynllunwyr, yn monitro ansawdd y triniaethau sy'n cael eu cynnig ac yn monitro gweithgarwch cleientiaid.

Fel Rheolwr / Cyfarwyddwr Salon byddwch yn gyfrifol am reoli gweithredol y busnes o ddydd i ddydd, recriwtio staff a llesiant staff, iechyd a diogelwch, marchnata a gwerthiant. Byddwch yn sicrhau bod staff yn cael y llwyth gwaith cywir ar gyfer eu sgiliau, bod cleientiaid yn fodlon â'r gwasanaeth a bod triniaethau sy’n cael eu darparu o safon uchel bob amser.

Gallwch weithio mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys salonau trin gwallt, lleoliadau sba, ysbytai, cartrefi gofal, carchardai, siopau adrannol, gwestai, cwmnïau hedfan a chyrchfannau gwyliau.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Prentisiaeth Sylfaen mewn Trin Gwallt - Lefel 2

Addas ar gyfer swydd Cynllunydd Iau

Prentisiaeth mewn Trin Gwallt - Lefel 3

Addas ar gyfer swydd Cynllunydd neu Driniwr Gwallt

Trin Gwallt – Lefel 4

Llwybr 1:  Addas ar gyfer swydd Uwch Ymarferydd/Uwch Gynllunydd.

Llwybr 2:  Addas ar gyfer swydd Rheolwr/Cyfarwyddwr Salon.

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 2: 18 mis

Lefel 3: 18 mis

Lefel 4: 18 mis

Llwybrau dilyniant

Lefel 2: Mae’r llwybrau camu ymlaen yn cynnwys –

  • Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru Lefel Uwch mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Trin Gwallt neu Waith Barbwr.
  • Cyflogaeth fel cynllunydd iau neu swyddi eraill yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â thrin gwallt

Lefel 3:  Mae'r llwybrau camu ymlaen yn cynnwys -  

  • Cyflogaeth fel triniwr gwallt neu swyddi eraill yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â thrin gwallt.
  • Prentisiaeth Uwch mewn Trin Gwallt
  • Addysg uwch fel gradd Sylfaen mewn Trin Gwallt a Rheoli Salon neu raglenni eraill.

Lefel 4: Gall dysgwyr gamu ymlaen o'u prentisiaeth drwy ddilyn llwybrau amrywiol.

Gall dysgwyr gamu ymlaen drwy gael dyrchafiad mewn salon, naill ai mewn grŵp o salonau neu drwy weithio i gyflogwr newydd. Hefyd, gallant gymryd rhan mewn gwaith masnachfreinio, a dod yn gyflogwyr eu hunain.

Ar ôl cwblhau'r fframwaith hwn, gall dysgwyr barhau â'u hastudiaethau i ennill cymwysterau rheoli trin gwallt lefel uwch.

Bydd eraill yn magu hyder creadigol yn gweithio ar y llwyfan ac ym maes hyfforddiant neu'n gweithio fel rheolwr salon, cyfarwyddwr creadigol, asesydd salon neu arweinydd tîm.

Cymwysterau

Lefel 2: Diploma NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt

Lefel 3: Diploma NVQ Lefel 3 mewn Trin Gwallt

Lefel 4:  Diploma Lefel 4 mewn Technegau ac Ymarfer Rheoli Uwch mewn Trin Gwallt.

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 2

Bydd yn fanteisiol os oes gennych 3 chymhwyster TGAU Gradd D neu uwch mewn Saesneg a/neu Gymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gelf.

Lefel 3

Bydd yn fanteisiol os oes gennych 3 chymhwyster TGAU Gradd C neu uwch mewn Saesneg a/neu Gymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gelf.

Lefel 4

Dim gofynion mynediad ffurfiol.

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021