Skip to main content

Pathway

Trin Gwallt

Mae SkillsActive Habia wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Gwallt a Harddwch a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.


Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

82 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Trin Gwallt Lefel 2.

86 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Trin Gwallt Lefel 3

80 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Trin Gwallt – Uwch-ymarferydd / Steilydd Uwch

80 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Trin Gwallt – Rheolwr Salon – Cyfarwyddwr

Entry requirements

Nid oes gofynion mynediad sylfaenol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol na gofynion o ran profiad blaenorol, ond gellir defnyddio'r meini prawf dethol canlynol fel arweiniad.

Oherwydd bod gan y diwydiant ddisgwyliadau uchel o ran cleientiaid a’i fod yn dibynnu ar fusnes rheolaidd, rhoddir pwysigrwydd i'r canlynol:

  • Taclusrwydd personol priodol gan gynnwys dillad, gwallt a hylendid personol.
  • Sgiliau ymarferol, trefnu a chymdeithasol.
  • Sylw i fanylion a glendid.
  • Synnwyr digrifwch da/natur gyfeillgar a sgiliau cyfathrebu boed yn ymdrin wyneb yn wyneb â chleientiaid neu'n siarad ar y ffôn.
  • Parodrwydd i weithio oriau/diwrnodau hyblyg fel y cytunwyd yn y contract cyflogaeth.
  • Lefel uchel o fedrusrwydd a chydsymud.
  • Mae angen i ddarpar brentisiaid sydd â thueddiad i gael rhai cyflyrau croen neu alergeddau, fel dermatitis, ecsema neu asthma galwedigaethol, ddeall y gall rhai o'r cemegion, hylifau ac aerosolau a ddefnyddir wrth drin gwallt gael effaith sylweddol ar eu hiechyd.
  • Byddai lliwddallineb yn cyfyngu ar gyfleoedd i ddefnyddio cynhyrchion a gwasanaethau lliwio artiffisial yn eang yn y diwydiant. Mae unedau sy'n ymwneud â lliwio gwallt yn gofyn am y gallu i adnabod tonau, arlliwiau a newidiadau cynnil iawn mewn amrywiaeth o liwiau er mwyn sicrhau bod y cemegion a ddefnyddir ar wallt yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.

Mae'n rhaid i brentisiaid gael eu cyfweld bob amser gan eu darpar gyflogwr a'u darparwr dysgu.

Efallai y byddant yn ystyried bod brwdfrydedd a diddordeb yn y pwnc yn bwysicach na chymwysterau ffurfiol. Am y rheswm hwn, mae'r Sector Gwallt a Harddwch wedi dewis peidio â bod yn rhagnodol iawn ynghylch gofynion mynediad.

Mae'n fanteisiol bod â phrofiad blaenorol o weithio yn y diwydiant Therapi Harddwch, gwaith barbwr neu drin gwallt.

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 2: Trin Gwallt

Lefel 2: Trin Gwallt Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau un o'r cymwysterau cyfun isod.

Lefel 2 Diploma NVQ mewn Trin Gwallt
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
City & Guilds C00/0711/3 601/5696/X 64 640 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
VTCT C00/0710/1 601/5886/4 64 640 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 2: Trin Gwallt Lefel Minimum Credit Value
Communication 1 6
Application of number 1 6
Digital literacy 1 6

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 2: Trin Gwallt 349 472
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

64 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt

Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, yw 821 o oriau.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Trin Gwallt

Lefel 3: Trin Gwallt Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymwysterau cyfun isod.

Lefel 3 Diploma NVQ mewn Trin Gwallt
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
City & Guilds C00/0711/5 601/5697/1 68 680 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
VTCT C00/0710/3 601/5889/X 68 680 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Trin Gwallt Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6
Digital literacy 2 6

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Trin Gwallt 338 463
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

68 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 3 mewn Trin Gwallt

Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, yw 801 o oriau.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Trin Gwallt - Uwch-ymarferydd/Steilydd Uwch

Lefel 4: Trin Gwallt - Uwch-ymarferydd/Steilydd Uwch Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 4 Diploma mewn Technegau Uwch ac Arfer Rheoli ym maes Trin Gwallt
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
VTCT C00/0765/5 601/8341/X 68 680 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

Edrychwch ar Atodiad 3 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 4: Trin Gwallt - Uwch-ymarferydd/Steilydd Uwch Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 4: Trin Gwallt - Uwch-ymarferydd/Steilydd Uwch 400 470
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Diploma Lefel 4 mewn Technegau Uwch ac Arfer Rheoli ym maes Trin Gwallt – 68 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer y llwybr hwn yw 870 o oriau hyfforddi

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Trin Gwallt - Rheolwr Salon – Cyfarwyddwr

Lefel 4: Trin Gwallt - Rheolwr Salon – Cyfarwyddwr Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 4 Diploma mewn Technegau Uwch ac Arfer Rheoli ym maes Trin Gwallt
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
VTCT C00/0765/5 601/8341/X 68 680 Cymhwysedd Saesneg yn Unig

Edrychwch ar Atodiad 4 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 4: Trin Gwallt - Rheolwr Salon – Cyfarwyddwr Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 4: Trin Gwallt - Rheolwr Salon – Cyfarwyddwr 430 440
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Diploma Lefel 4 mewn Technegau Uwch ac Arfer Rheoli ym maes Trin Gwallt – 68 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer y llwybr hwn yw 870 o oriau hyfforddi

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Amherthnasol

Progression

Lefel 2 - Trin Gwallt

Dilyniant i mewn i’r Brentisiaeth:

  • O gymhwyster paratoi ar gyfer gwaith nad yw'n seiliedig ar gymhwysedd mewn trin gwallt neu waith barbwr.
  • O Brif Ddysgu Lefel Sylfaen neu Ganolradd Bagloriaeth Cymru mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
  • Yn dilyn rhaglen Trin Gwallt neu Waith Barbwr Lefel 1.
  • Mynediad uniongyrchol o'r ysgol neu'r coleg.
  • Mynediad uniongyrchol o alwedigaeth arall.

Dilyniant ar ôl y Brentisiaeth:

  • I Brif Ddysgu Lefel Uwch Bagloriaeth Cymru mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
  • I Brentisiaeth Trin Gwallt neu Waith Barbwr Lefel 3.
  • I mewn i gyflogaeth fel steilydd iau neu rôl swydd arall mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig â thrin gwallt.

Lefel 3 - Trin Gwallt

Llwybrau i mewn i’r Brentisiaeth:

  • O gymhwyster paratoi ar gyfer gwaith nad yw’n seiliedig ar gymhwysedd mewn trin gwallt.
  • O Brif Ddysgu Lefel Uwch Bagloriaeth Cymru mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
  • Ar ôl cwblhau cymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt naill ai drwy brentisiaeth neu raglen amser llawn yn y coleg.

Llwybrau ar ôl y Brentisiaeth:

  • I mewn i gyflogaeth fel triniwr gwallt neu swyddi eraill yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â thrin gwallt.
  • I mewn i'r Brentisiaeth Uwch mewn Trin Gwallt
  • I mewn i addysg uwch, er enghraifft gradd Sylfaen mewn Trin Gwallt a Rheoli Salon  neu raglenni eraill.

Lefel 4 - Trin Gwallt

Dilyniant i mewn i’r Brentisiaeth:

Nid oes unrhyw lwybrau mynediad wedi'u diffinio ymlaen llaw, ond gallai dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i'r rhaglen brentisiaeth hon ddod o amrywiaeth o gefndiroedd gyda gwahanol gymwysterau neu brofiadau sy’n cyfateb ond yn bendant mae angen brwdfrydedd dros weithio yn y sector.

Efallai y bydd dysgwyr eisoes yn gweithio mewn rôl Trin Gwallt lefel 3 ac yn dymuno datblygu eu gyrfa i mewn i rolau uwch a / neu waith rheoli, neu ddatblygu eu dealltwriaeth a’u hymarfer yn y sector ymhellach er mwyn gwella'r gwasanaethau a gynigir.

Gellir eu recriwtio hefyd o sectorau cysylltiedig yn y diwydiant gwaith Barbwr ar gyfer lefel 3.

Dilyniant o’r Brentisiaeth:

Efallai y bydd dysgwyr am symud ymlaen o'u prentisiaeth drwy lwybrau amrywiol.

Gall dysgwyr symud ymlaen wrth gael dyrchafiad o fewn salonau, naill ai o fewn grwpiau salonau neu gyflogwyr newydd. Gallant gymryd rhan mewn masnachfreinio hefyd, a dod yn gyflogwyr eu hunain.

Ar ôl cwblhau'r llwybr hwn, gall dysgwyr symud ymlaen hefyd gyda'u hastudiaethau i gymwysterau lefel uwch mewn rheoli trin gwallt.

Bydd eraill yn magu hyder creadigol yn gweithio ar lwyfan ac wrth hyfforddi neu'n cael gwaith fel rheolwr salon, cyfarwyddwr creadigol, asesydd salonau neu arweinydd tîm.

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Nod prentisiaethau yn y sector yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant drwy gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel.

Mae'n rhaid i'r Brentisiaeth gael ei chwblhau mewn lleoliad heb ragfarn a gwahaniaethu lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.

Mae'n rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu dangos bod eu harferion dethol, recriwtio a chyflogaeth yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg na chudd mewn perthynas ag unrhyw un o'r nodweddion gwarchodedig.

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant / y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

 

Atodiad 1 Lefel 2: Trin Gwallt

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'n rhaid i lwybr Prentisiaeth Sylfaen nodi:

Mae'r wybodaeth isod yn cyfeirio at y cymwysterau cyfun a restrir yn Niploma NVQ Lefel 2 B1 mewn Trin Gwallt (B1a, B1b a B1c) a bydd yn sicrhau bod y cymhwyster yn cynnwys 10 credyd ar gyfer pob elfen.

Er mwyn ennill y cymhwyster llawn, mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau 7 o unedau gorfodol sy'n dod i gyfanswm o 55 credyd ac unedau dewisol hyd at isafswm o 9 credyd er mwyn rhoi cyfanswm cyffredinol o 64 credyd. Dangosir y rhaniad rhwng y credydau gwybodaeth a chymhwysedd yn y strwythur isod:

UNEDAU GORFODOL

  • CH1 Steilio a Gorffen Gwallt 6 chredyd (gwybodaeth 3 cymhwysedd 3)
  • CH2 Setio a thrin gwallt 7 Credyd (gwybodaeth 4 cymhwysedd 3)
  • CH3 Torri gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol 12 Credyd (gwybodaeth 5 cymhwysedd 7)
  • CH4 Lliwio a goleuo gwallt 14 Credyd (gwybodaeth 9 cymhwysedd 5)
  • CHB9 Cynghori cleientiaid ac ymgynghori â nhw 8 Credyd (gwybodaeth 5 cymhwysedd 3)
  • CHB11 Siampŵio, cyflyru a rhoi triniaeth i’r y gwallt a chroen y pen 5 Credyd (gwybodaeth 2 cymhwysedd 3)
  • CHB12 Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith 3 Chredyd (gwybodaeth 1 cymhwysedd 2)

UNEDAU DEWISOL

  • AH2 Llacio gwallt 9 Credyd (Gwybodaeth 5 cymhwysedd 4)
  • CH5 Pyrmio a niwtraleiddio gwallt 10 Credyd (gwybodaeth 5 cymhwysedd 5)
  • CH6 Plethu a throelli gwallt 5 Credyd (gwybodaeth 3 cymhwysedd 2)
  • CH7 Atodi gwallt dros dro i wella steil 3 Chredyd (gwybodaeth 1 cymhwysedd 2)
  • CHB8 Tynnu estyniadau gwallt 5 Credyd (gwybodaeth 2 cymhwysedd 3)
  • CHB13 Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon 6 chredyd (gwybodaeth 2 cymhwysedd 4)
  • CB2 Torri gwallt dynion gan ddefnyddio technegau sylfaenol 12 Credyd (gwybodaeth 5 cymhwysedd 7)*

*Noder, i'r rhai sy'n cwblhau'r cymhwyster VTCT, mae'n rhaid cyflawni'r uned ddewisol ganlynol:

  • UHB60 Torri a steilio gwallt dynion 6 chredyd (gwybodaeth 2 cymhwysedd 4)

Atodiad 2 Lefel 3: Trin Gwallt

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'r wybodaeth isod yn cyfeirio at y cymwysterau cyfun a restrir yn Niploma NVQ Lefel 3 mewn Trin Gwallt a bydd yn sicrhau bod y cymhwyster yn cynnwys 10 credyd ar gyfer pob elfen.

Er mwyn ennill y cymhwyster llawn, mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau 4 uned orfodol sy'n dod i gyfanswm o 43 credyd ac unedau dewisol hyd at isafswm o 25 credyd er mwyn rhoi cyfanswm cyffredinol o 68 credyd.

UNEDAU GORFODOL

  • CH8 Steilio a thrin gwallt yn greadigol 7 Credyd (gwybodaeth 3 cymhwysedd 4)
  • CH9 Torri gwallt yn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau 14 Credyd (gwybodaeth 6 cymhwysedd 8)
  • CH10 Lliwio a goleuo gwallt yn greadigol 14 Credyd (gwybodaeth 9 cymhwysedd 5)
  • CHB14 Darparu gwasanaethau ymgynghori â chleientiaid 8 Credyd (gwybodaeth 5 cymhwysedd 3)

UNEDAU DEWISOL

  • AH7 Darparu amrywiaeth o wasanaethau llacio 9 Credyd (gwybodaeth 4 cymhwysedd 5)
  • CH11 Gwasanaethau cywiro lliw gwallt 15 Credyd (gwybodaeth 8 cymhwysedd 7)
  • CH12 Darparu gwasanaethau ymestyn gwallt creadigol 8 Credyd (gwybodaeth 3 cymhwysedd 5)
  • CH13 Creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio 10 credyd (gwybodaeth 5 cymhwysedd 5)
  • CHB15 Datblygu, gwella a gwerthuso eich sgiliau trin gwallt creadigol 9 Credyd (gwybodaeth 5 cymhwysedd 4)
  • CHB16 Darparu triniaethau arbenigol ar gyfer y gwallt a chroen y pen 12 Credyd (gwybodaeth 8 cymhwysedd 4)
  • CHB17 Cyfrannu at gynllunio gweithgareddau hyrwyddo a’u rhoi ar waith 10 Credyd (gwybodaeth 7 cymhwysedd 3)
  • CHB18 Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes 7 Credyd (gwybodaeth 3 cymhwysedd 4)
  • CB2 Torri gwallt dynion gan ddefnyddio technegau sylfaenol 12 Credyd (gwybodaeth 5 cymhwysedd 7)*
  • CHB13 Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon 6 chredyd (gwybodaeth 2 cymhwysedd 4)

*Noder, i'r rhai sy'n cwblhau'r cymhwyster VTCT, mae'n rhaid cyflawni'r uned ddewisol ganlynol:

  • UHB60 Torri a steilio gwallt dynion 6 chredyd (gwybodaeth 2 cymhwysedd 4)

Atodiad 3 Lefel 4: Trin Gwallt – Uwch-ymarferydd / Steilydd Uwch

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, mae'n rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 68 credyd, 12 credyd o'r unedau gorfodol a 56 credyd arall o gyfuniad o unedau dewisol.

Ar gyfer y rôl uwch-ymarferydd / steilydd, mae'n rhaid i ddysgwyr gyflawni 12 credyd o'r uned orfodol, o leiaf 31 credyd o unedau Grŵp A a 25 credyd arall o unedau dewisol Grŵp C

Uned Orfodol (12 credyd i'w cyflawni)

  • Rheoli ansawdd gofal cleientiaid yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd – 6 chredyd, gwybodaeth - 6 chredyd)

Unedau Dewisol

Grŵp A – Unedau Dewisol Gorfodol (isafswm o 31 credyd i'w cyflawni)

  • Cywiro lliw gwallt (cymhwysedd - 6 chredyd, gwybodaeth - 6 chredyd)
  • Rheoli'r broses o greu casgliad o steiliau gwallt (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth -5 credyd)
  • Gwasanaethau arbenigol ar gyfer y gwallt a chroen y pen (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 4 credyd)
  • Cemeg cynhyrchion gwallt a harddwch (gwybodaeth - 14 credyd)

Grŵp C – Unedau Dewisol (isafswm o 25 credyd i'w cyflawni)

  • Egwyddorion ffotograffiaeth stiwdio (gwybodaeth - 8 credyd)
  • Ffotograffiaeth stiwdio (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 5 credyd)
  • Rheoli salon (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 5 credyd)
  • Rheoli gwerthiant yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd - 6 chredyd, gwybodaeth – 3 chredyd)
  • Cysylltiadau cyhoeddus yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth – 5 credyd)
  • Marchnata yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd - 4 credyd, gwybodaeth - 2 gredyd)
  • Rheoli iechyd, diogelwch a diogeledd yn y salon (cymhwysedd – 6 chredyd, gwybodaeth - 2 gredyd)

Cyfanswm credydau gwybodaeth: 6 chredyd o'r Unedau Gorfodol, ynghyd ag isafswm o 10 credyd arall o Unedau Dewisol Grŵp A ac isafswm o 10 credyd arall o Unedau Dewisol Grŵp C.

Cyfanswm credydau cymhwysedd: 6 chredyd o'r Unedau Gorfodol, ynghyd ag isafswm o 9 credyd arall o Unedau Dewisol Grŵp A ac isafswm o 15 credyd arall o Unedau Dewisol Grŵp C

Atodiad 4 Lefel 4: Trin Gwallt - Rheolwr Salon – Cyfarwyddwr

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, mae'n rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 68 credyd, 12 credyd o'r unedau gorfodol a 56 chredyd arall o gyfuniad o unedau dewisol.

Ar gyfer rôl rheolwr / cyfarwyddwr y salon, mae'n rhaid i ddysgwyr gyflawni 12 credyd o'r uned orfodol, isafswm o 22 credyd o unedau dewisol Grŵp B a 34 credyd arall o unedau dewisol Grŵp C

Uned Orfodol (12 credyd i'w cyflawni)

  • Rheoli ansawdd gofal cleientiaid yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd - 6 chredyd, gwybodaeth - 6 chredyd)

Unedau Dewisol

Grŵp B – Unedau Dewisol Gorfodol (isafswm o 22 credyd i'w cyflawni)

  • Ymchwil yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd - 3 chredyd, gwybodaeth - 4 credyd)
  • Rheoli adnoddau dynol yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd - 3 chredyd, gwybodaeth - 4 credyd)
  • Rheoli gwerthiant yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd - 3 chredyd, gwybodaeth -3 chredyd)
  • Rheoli iechyd a diogelwch a diogeledd yn y salon (cymhwysedd - 6 chredyd, gwybodaeth - 2 gredyd)

Grŵp C – Unedau Dewisol (isafswm o 34 credyd i'w cyflawni)

  • Egwyddorion ffotograffiaeth stiwdio (gwybodaeth - 8 credyd)
  • Ffotograffiaeth stiwdio (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 5 credyd)
  • Rheoli salon (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 5 credyd)
  • Rheoli gwerthiant yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd - 6 chredyd, gwybodaeth - 3 chredyd)
  • Cysylltiadau cyhoeddus yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth – 5 credyd)
  • Marchnata yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd - 4 credyd, gwybodaeth - 2 gredyd)
  • Rheoli iechyd a diogelwch a diogeledd yn y salon (cymhwysedd - 6 chredyd, gwybodaeth - 2 gredyd)

Cyfanswm credydau gwybodaeth: 6 chredyd o'r Unedau Gorfodol, ynghyd ag isafswm o 7 credyd arall o Unedau Dewisol Grŵp B ac isafswm o 9 credyd arall o Unedau Dewisol Grŵp C.

Cyfanswm credydau cymhwysedd: 6 chredyd o'r Unedau Gorfodol, ynghyd ag isafswm o 15 credyd arall o Unedau Dewisol Grŵp B ac isafswm o 16 chredyd arall o Unedau Dewisol Grŵp C.


Document revisions

19 Tachwedd 2021