Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Therapi Harddwch

Framework:
Therapi Harddwch
Lefel:
2/3

Bu twf sylweddol yn nifer y salonau ewinedd a chyfleusterau sba annibynnol, ac yn nifer y salonau therapi harddwch sy'n cynnig ystod estynedig o wasanaethau gan gynnwys gwasanaethau ewinedd a chyfleusterau sba.

Gan ddibynnu ar y llwybr rydych chi'n ei ddilyn a'r lefel rydych chi'n ei chyflawni, drwy gwblhau prentisiaeth ar lefel 2 gallwch ymgymryd â rolau fel:

  • Therapydd harddwch iau
  • Trin dwylo
  • Ymgynghorydd gofal croen a cholur (Prentisiaeth Sylfaen)

Ar lefel 3 gallwch ymgymryd â rolau fel:

  • Therapydd Harddwch
  • Gwaredu Blew
  • Masseur/masseuse
  • Artist colur 

Gallwch ddarparu triniaethau gan gynnwys gwaredu blew, trin ewinedd, trin traed, gofal wyneb a gofal croen, trin aeliau a blew llygaid, gweithgareddau colur, tylino a thriniaethau trydanol yn ogystal â chynorthwyo gyda gweithrediadau sba.

Gallwch weithio mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys salonau harddwch, ysbytai, cartrefi gofal, llongau mordeithio, sbas a chlybiau iechyd, neu weithio'n llawrydd.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Therapi Harddwch - Lefel 2

Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Therapydd Harddwch Iau

Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Ymgynghorydd Harddwch ac Artist Colur Iau

Therapi Harddwch - Lefel 3

Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Therapydd Harddwch

Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Artist Colur

Llwybr 3: Addas ar gyfer swydd Therapydd Harddwch

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 2: 18 mis

Lefel 3: 24 mis

Llwybrau dilyniant

Lefel 2 Mae'r llwybrau'n cynnwys -

  • Prif Ddysgu Lefel Uwch Bagloriaeth Cymru mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
  • Rhaglen Brentisiaeth Therapi Harddwch Lefel 3.
  • Cyflogaeth fel therapydd harddwch iau neu dechnegydd ewinedd iau neu swyddi eraill yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â harddwch a amlinellir isod.

Lefel 3 Mae'r llwybrau'n cynnwys -  

  • Cyflogaeth fel therapydd harddwch, technegydd ewinedd neu therapydd sba neu swyddi eraill yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â harddwch.

Addysg uwch fel gradd Sylfaen mewn Therapi Harddwch a Rheoli Salon neu raglenni eraill.

Cymwysterau

Lefel 2: Diploma NVQ Lefel 2 yn y llwybr o'ch dewis

Lefel 3:  Diploma NVQ Lefel 3 yn y llwybr o'ch dewis

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 2

Bydd yn fanteisiol os oes gennych 3 chymhwyster TGAU Gradd D neu uwch mewn Saesneg a/neu Gymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gelf.

Lefel 3

Bydd yn fanteisiol os oes gennych 3 chymhwyster TGAU Gradd C neu uwch mewn Saesneg a/neu Gymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gelf.

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021