Skip to main content

Llwybr

Therapi Harddwch

Mae SkillsActive Habia wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Gwallt a Harddwch a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/08/2023 ACW Fframwaith Rhif. FR05092

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

72 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Therapi Harddwch Lefel 2

Therapi Harddwch Lefel 2 - Cyffredinol.

Dyma’r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Therapi Harddwch Lefel 3

Therapi Harddwch Lefel 3 – Cyffredinol - 63 credyd.

Therapi Harddwch Lefel 3 – Colur - 69 credyd

Therapi Harddwch Lefel 3 – Tylino - 83 credyd

85 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Therapi Harddwch Lefel 4

Lefel 4: Arferion Harddwch Uwch - Uwch-ymarferydd

Gofynion mynediad

Lefel 2 a Lefel 3:

Nid oes gofynion mynediad sylfaenol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol na gofynion o ran profiad blaenorol, ond gellir defnyddio'r meini prawf dethol canlynol fel arweiniad.

Oherwydd bod gan y diwydiant ddisgwyliadau uchel o ran cleientiaid a’i fod yn dibynnu ar fusnes rheolaidd, rhoddir pwysigrwydd i'r canlynol:

  • Taclusrwydd personol priodol gan gynnwys dillad, gwallt a hylendid personol.
  • Sgiliau ymarferol, trefnu a chymdeithasol.
  • Sylw i fanylion a glendid.
  • Synnwyr digrifwch da/natur gyfeillgar a sgiliau cyfathrebu boed yn ymdrin wyneb yn wyneb â chleientiaid neu'n siarad ar y ffôn.
  • Parodrwydd i weithio oriau/diwrnodau hyblyg fel y cytunwyd yn y contract cyflogaeth.
  • Lefel uchel o fedrusrwydd a chydsymud.
  • Mae angen i ddarpar brentisiaid sydd â thueddiad i gael rhai cyflyrau croen neu alergeddau, fel dermatitis, ecsema neu asthma galwedigaethol, ddeall y gall rhai o'r cemegion, hylifau ac aerosolau a ddefnyddir mewn Therapi Harddwch gael effaith sylweddol ar eu hiechyd.

Mae'n rhaid i brentisiaid gael eu cyfweld bob amser gan eu darpar gyflogwr a'u darparwr dysgu.

Efallai y byddant yn ystyried bod brwdfrydedd a diddordeb yn y pwnc yn bwysicach na chymwysterau ffurfiol. Am y rheswm hwn, mae'r Sector Gwallt a Harddwch wedi dewis peidio â bod yn rhagnodol iawn ynghylch gofynion mynediad.

Mae'n fanteisiol cael profiad blaenorol o weithio yn y diwydiannau Therapi Harddwch, gwaith barbwr neu drin gwallt.

Lefel 4:

Yn ychwanegol at y gofynion mynediad ar gyfer Lefel 2 a Lefel 3, yn ddelfrydol dylai Prentisiaid sy'n dymuno ymgymryd â llwybr Lefel 4 fod ag o leiaf dair blynedd o brofiad mewn salon. Fodd bynnag, gellir ystyried ymgeiswyr sydd â blwyddyn o brofiad yn ôl disgresiwn a chytundeb y cyflogwr a'r darparwr.

Efallai y bydd mynediad i'r llwybr harddwch ar y lefel hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r prentis fod wedi cwblhau lefel 3 neu allu profi'r lefel hon o gymhwysedd gyda phrofiad priodol o'r diwydiant (Prentisiaeth Fodern/Uwch Brentisiaeth Lefel 3 mewn Therapi Harddwch) (Lefel 3 S/NVQ neu VRQ mewn Therapi Harddwch neu gymhwyster cyfatebol).

Dylai pob ymgeisydd fod yn gyflogedig ac yn 19 oed o leiaf.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Therapi Harddwch - Cyffredinol

Lefel 2: Therapi Harddwch - Cyffredinol Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 2 Diploma NVQ mewn Therapi Harddwch - Cyffredinol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0227/7 500/8765/4 54 540 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg
VTCT C00/0210/9 500/8839/7 54 540 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Therapi Harddwch - Cyffredinol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 1 6
Cymhwyso Rhif 1 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Therapi Harddwch - Cyffredinol 471 202
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

54 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch Cyffredinol

Therapi Harddwch Cyffredinol - 673 awr ar gyfer y llwybr Prentisiaeth Sylfaen

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Therapi Harddwch - Cyffredinol

Lefel 3: Therapi Harddwch - Cyffredinol Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod

Lefel 3 Diploma NVQ mewn Therapi Harddwch - Cyffredinol
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0228/0 500/8761/7 65 650 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
VTCT C00/0211/1 500/8860/9 65 650 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Therapi Harddwch - Cyffredinol Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Therapi Harddwch - Cyffredinol 529 227
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

65 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 3 mewn Therapi Harddwch – Cyffredinol

Therapi Harddwch Cyffredinol - 755 awr ar gyfer y llwybr Prentisiaeth

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Therapi Harddwch – Colur

Lefel 3: Therapi Harddwch – Colur Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Edrychwch ar Atodiad 3 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Therapi Harddwch – Colur Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Therapi Harddwch – Colur 398 170
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

45 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 3 mewn Colur Therapi Harddwch

Colur Therapi Harddwch - 568 awr ar gyfer y llwybr Prentisiaeth

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Therapi Harddwch - Tylino

Lefel 3: Therapi Harddwch - Tylino Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau un o'r cymwysterau cyfun isod.

Lefel 3 Diploma NVQ mewn Therapi Harddwch – Tylino
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0228/1 500/8783/6 51 510 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
VTCT C00/0211/2 500/8861/0 51 510 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 4 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Therapi Harddwch - Tylino Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Therapi Harddwch - Tylino 433 185
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

51 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 3 mewn Therapi Harddwch – Tylino

Therapi Harddwch – Tylino - 618 awr ar gyfer y llwybr Prentisiaeth

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 4: Arferion Harddwch Uwch - Uwch-ymarferydd

Lefel 4: Arferion Harddwch Uwch - Uwch-ymarferydd Cymwysterau

Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 4 Tystysgrif mewn microbigmentiad
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
VTCT C00/3453/2 600/3288/1 32 320 Cyfun Saesneg-Cymraeg

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 4: Arferion Harddwch Uwch - Uwch-ymarferydd Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 4: Arferion Harddwch Uwch - Uwch-ymarferydd 375 254
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Cymwysterau cymhwysedd - Tystysgrif Lefel 4 mewn Therapi Harddwch Uwch - 57 credyd

Cymhwyster gwybodaeth - Dyfarniad Lefel 4 mewn Tynnu Blew Uwch - 10 credyd

Arferion Harddwch Uwch - Uwch-ymarferydd - 629 awr ar gyfer y llwybr Prentisiaeth

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Amherthnasol

Dilyniant

Lefel 2 - Therapi Harddwch  

Dilyniant i mewn i’r Brentisiaeth:

  • O gymhwyster paratoi ar gyfer gwaith nad yw'n seiliedig ar gymhwysedd mewn Therapi Harddwch.
  • O Brif Ddysgu Lefel Sylfaen neu Lefel Ganolradd Bagloriaeth Cymru mewn

Astudiaethau Gwallt a Harddwch.

  • Yn dilyn rhaglen Therapi Harddwch Lefel 1.
  • Mynediad uniongyrchol o'r ysgol neu'r coleg.
  • Mynediad uniongyrchol o alwedigaeth arall.

Dilyniant o’r Brentisiaeth:

  • I Brif Ddysgu Lefel Uwch Bagloriaeth Cymru mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
  • I raglen brentisiaeth Therapi Harddwch Lefel 3.
  • I mewn i gyflogaeth fel therapydd harddwch iau neu dechnegydd ewinedd iau neu rolau swydd eraill yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â harddwch.

Lefel 3 - Therapi Harddwch

Dilyniant i’r Brentisiaeth:

  • O gymhwyster paratoi ar gyfer gwaith nad yw'n seiliedig ar gymhwysedd mewn Therapi Harddwch.
  • O gymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru Lefel Uwch mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
  • Ar ôl cwblhau Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu Wasanaethau Ewinedd naill ai drwy brentisiaeth (ddim ar gael fel rhan o Therapi Sba) neu raglen amser llawn yn y coleg.

Dilyniant o’r Brentisiaeth:

  • I mewn i gyflogaeth fel therapydd harddwch, technegydd ewinedd neu therapydd sba neu rolau swydd eraill yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â harddwch.
  • I mewn i addysg uwch, er enghraifft gradd Sylfaen mewn Therapi Harddwch a Rheoli Salon neu raglenni eraill.

Lefel 4 - Therapi Harddwch

Llwybrau dilyniant i mewn i’r Brentisiaeth

Nid oes unrhyw lwybrau mynediad wedi'u diffinio ymlaen llaw, ond gallai dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i'r rhaglen brentisiaeth hon ddod o amrywiaeth o gefndiroedd gyda

Gwahanol gymwysterau neu brofiadau sy’n cyfateb ond yn bendant mae angen brwdfrydedd dros weithio yn y sector.

Efallai y bydd dysgwyr eisoes yn gweithio mewn rôl therapi harddwch lefel 3, yn rheoli neu’n berchen ar salonau a/neu sbas a’u bod yn ddysgwyr sy'n perfformio'n dda neu sydd wedi dangos lefel uchel o hunan-ddatblygiad ac sydd am ddatblygu ymhellach eu dealltwriaeth a'u hymarfer yn y sector er mwyn gwella'r gwasanaethau a gynigir.

Y disgwyliad yw, waeth beth fo cefndir y dysgwr, y bydd ganddo flynyddoedd o brofiad ac ymarfer mewn salon.

Dilyniant o’r Brentisiaeth:

Efallai y bydd dysgwyr am symud ymlaen o'r brentisiaeth drwy ddilyn gwahanol lwybrau.

Gall dysgwyr symud ymlaen gyda dyrchafiad o fewn salon, naill ai o fewn grwpiau o salonau neu gyflogwr newydd. Gallant gymryd rhan mewn masnachfreinio hefyd, a dod yn gyflogwr ei hun.

Ar ôl cwblhau'r llwybr hwn, gall dysgwyr symud ymlaen hefyd gyda'u hastudiaethau i gymwysterau rheoli lefel uwch.

Bydd eraill yn magu hyder creadigol yn gweithio ar lwyfan ac wrth hyfforddi neu'n cael gwaith fel asesydd salon neu arweinydd tîm.

Gall dysgwyr symud ymlaen hefyd i weithio gyda/i wahanol gwmnïau gofal Croen a Chorff.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.

RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.

Nod prentisiaethau yn y sector yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant drwy gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel.

Mae'n rhaid i'r Brentisiaeth gael ei chwblhau mewn lleoliad heb ragfarn a gwahaniaethu lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.

Mae'n rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu dangos bod eu harferion dethol, recriwtio a chyflogaeth yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg na chudd mewn perthynas ag unrhyw un o'r nodweddion gwarchodedig.

Materion:

Prinder addysgu ac asesu sgiliau penodol.

Rhwystrau:

  • Mae stereoteipio'n dal i fodoli yn y sector gwallt a harddwch, a gall hyn gyfyngu ar nifer y ceisiadau gan ddynion ifanc.
  • Potensial enillion cychwynnol isel ar gyfer recriwtiaid newydd.
  • Camddealltwriaeth o'r lefelau sgiliau sydd eu hangen a chymhlethdod y sgiliau hynny.

Camau Gweithredu:

Mae Habia yn ceisio defnyddio cymaint â phosibl o ddelweddau gwrywaidd positif yn ei lenyddiaeth a'i gyhoeddiadau.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 

Atodiad 1 Lefel 2: Therapi Harddwch - Cyffredinol

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'n rhaid i Lwybr Prentisiaeth Sylfaen nodi:

Mae'r wybodaeth isod yn cyfeirio at y cymwysterau cyfun a restrir yn Niploma NVQ Lefel 2 mewn Therapi Harddwch - Cyffredinol a bydd yn sicrhau bod y cymhwyster yn cynnwys 10 credyd ar gyfer pob elfen.

Er mwyn ennill y cymhwyster, mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau 8 uned orfodol sy'n dod i gyfanswm o 45 credyd ac unedau dewisol at isafswm o 9 credyd dewisol er mwyn rhoi cyfanswm cyffredinol o 54 credyd.

Asesir elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y cymhwyster hwn ar wahân. Gweler y strategaethau asesu sydd ar gael ar ein gwefan www.habia.org.

UNEDAU GORFODOL

  • G20 Sicrhau cyfrifoldeb am gamau gweithredu i leihau'r risg i iechyd a diogelwch - 4 credyd (1 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • G18 Hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gleientiaid - 6 chredyd (2 Cymhwysedd 4 Gwybodaeth)
  • G8 Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith - 3 chredyd (2 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
  • B4 Darparu triniaeth gofal croen wyneb - 8 credyd (4 Cymhwysedd 4 Gwybodaeth)
  • B5 Gwella ymddangosiad yr aeliau a'r amrannau - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • B6 Cwblhau gwasanaethau cwyro - 7 credyd (4 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • N2 Darparu gwasanaeth triniaeth dwylo ac ewinedd - 6 chredyd (3 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • N3 Darparu gwasanaeth triniaeth traed - 6 chredyd (3 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)

UNEDAU DEWISOL

  • G4 Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon - 3 chredyd (2 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
  • B7 Gwneud tyllau yn y clustiau - 2 gredyd (1 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
  • B8 Darparu gwasanaethau colur - 6 chredyd (4 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • B10 Gwella ymddangosiad gan ddefnyddio cuddliw croen - 6 chredyd (4 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • S1 Cynorthwyo gyda gweithrediadau sba - 4 credyd (3 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
  • B34 Darparu Gwasanaethau Edafu - 4 credyd (2 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)

Atodiad 2 Lefel 3: Therapi Harddwch - Cyffredinol

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae’n rhaid i lwybr Prentisiaeth nodi:

Mae'r wybodaeth isod yn cyfeirio at y cymwysterau cyfun a restrir yn Niploma NVQ Lefel 3 mewn Therapi Harddwch - Cyffredinol a bydd yn sicrhau bod y cymhwyster yn cynnwys 10 credyd ar gyfer pob elfen.

Er mwyn ennill y cymhwyster llawn, mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau 6 uned orfodol sy'n dod i gyfanswm o 55 credyd ac unedau dewisol hyd at isafswm o 10 credyd er mwyn rhoi cyfanswm cyffredinol o 65 credyd.

Asesir elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y cymhwyster hwn ar wahân. Gweler y strategaethau asesu sydd ar gael ar ein gwefan www.habia.org.

UNEDAU GORFODOL

  • G22 Monitro gweithdrefnau i reoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel - 4 credyd (1 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • H32 Cyfrannu at gynllunio gweithgareddau hyrwyddo a’u rhoi ar waith - 5 credyd (2 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B13 Darparu triniaethau trydanol i'r corff - 12 credyd (7 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
  • B14 Darparu triniaethau trydanol i'r wyneb - 12 credyd (7 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
  • B20 Darparu triniaethau tylino'r corff - 10 credyd (5 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
  • B29 Darparu triniaethau tynnu blew trydanol - 12 credyd (8 Cymhwysedd 4 Gwybodaeth)

UNEDAU DEWISOL

  • G11 Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes - 4 credyd (1 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B12 Cynllunio a darparu colur brwsh aer - 8 credyd (5 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B15 Darparu triniaethau ymestyn amrannau unigol - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • B21 Darparu gwasanaethau defnyddio gwelyau haul - 2 gredyd (1 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
  • B23 Darparu Triniaeth Tylino Pen yn y dull Indiaidd - 7 credyd (4 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B24 Tylino gan ddefnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu ymlaen llaw - 8 credyd (5 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B25 Darparu gwasanaethau hylifau lliw haul - 3 chredyd (2 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
  • B26 Darparu gwasanaethau cwyro personol i fenywod - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • B27 Darparu gwasanaethau cwyro personol i ddynion - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • B28 Darparu triniaethau therapi cerrig - 10 credyd (6 Cymhwysedd 4 Gwybodaeth)

     

Atodiad 3 Lefel 3: Colur Therapi Harddwch

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'n rhaid i lwybr Prentisiaeth nodi:

Mae'r wybodaeth isod yn cyfeirio at y cymwysterau cyfun a restrir yn Niploma NVQ Lefel 3 mewn Colur Therapi Harddwch a bydd yn sicrhau bod y cymhwyster yn cynnwys 10 credyd ar gyfer pob elfen.

Er mwyn ennill y cymhwyster llawn, mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau 4 uned orfodol sy'n dod i gyfanswm o 25 credyd ac unedau dewisol hyd at isafswm o 20 credyd er mwyn rhoi cyfanswm cyffredinol o 45 credyd.

Asesir elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y cymhwyster hwn ar wahân. Gweler y strategaethau asesu sydd ar gael ar ein gwefan www.habia.org.

UNEDAU GORFODOL

  • G22 Monitro gweithdrefnau i reoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel - 4 credyd (1 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • H32 Cyfrannu at gynllunio gweithgareddau hyrwyddo a’u rhoi ar waith - 5 credyd (2 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B11 Dylunio a chreu colur ffasiwn a ffotograffig - 8 credyd (5 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B22 Darparu gwasanaethau cuddliw croen arbenigol - 8 credyd (5 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)

UNEDAU DEWISOL

  • G11 Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes - 4 credyd (1 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B12 Cynllunio a darparu colur brwsh aer - 8 credyd (5 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B13 Darparu triniaethau trydanol i'r corff - 12 credyd (7 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
  • B14 Darparu triniaethau trydanol i'r wyneb - 12 credyd (7 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
  • B15 Darparu triniaethau ymestyn amrannau unigol - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • B21 Darparu gwasanaethau defnyddio gwelyau haul - 2 gredyd (1 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
  • B23 Darparu Triniaeth Tylino Pen yn y dull Indiaidd - 7 credyd (4 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B24 Tylino gan ddefnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu ymlaen llaw - 8 credyd (5 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B25 Darparu gwasanaethau hylifau lliw haul - 3 chredyd (2 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
  • B26 Darparu gwasanaethau cwyro personol i fenywod - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • B27 Darparu gwasanaethau cwyro personol i ddynion - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • B28 Darparu triniaethau therapi cerrig - 10 credyd (6 Cymhwysedd 4 Gwybodaeth)

Atodiad 4 Lefel 3: Therapi Harddwch – Tylino

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'n rhaid i lwybr Prentisiaeth nodi:

Mae'r wybodaeth isod yn cyfeirio at y cymwysterau cyfun a restrir yn Niploma NVQ Lefel 3 mewn Therapi Harddwch - Tylino a bydd yn sicrhau bod y cymhwyster yn cynnwys 10 credyd ar gyfer pob elfen.

Er mwyn ennill y cymhwyster llawn, mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau 6 uned orfodol sy'n dod i gyfanswm o 44 credyd ac unedau dewisol hyd at isafswm o 7 credyd er mwyn rhoi cyfanswm cyffredinol o 51credyd.

Asesir elfennau cymhwysedd a gwybodaeth y cymhwyster hwn ar wahân. Gweler y strategaethau asesu sydd ar gael ar ein gwefan www.habia.org.

UNEDAU GORFODOL

  • G22 Monitro gweithdrefnau i reoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel - 4 credyd (1 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • H32 Cyfrannu at gynllunio gweithgareddau hyrwyddo a’u rhoi ar waith - 5 credyd (2 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B20 Darparu triniaethau tylino'r corff - 10 credyd (5 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
  • B23 Darparu Triniaeth Tylino pen yn y dull Indiaidd - 7 credyd (4 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B24 Tylino gan ddefnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu ymlaen llaw - 8 credyd (5 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B28 Darparu triniaethau therapi cerrig - 10 credyd (6 Cymhwysedd 4 Gwybodaeth)

UNEDAU DEWISOL

  • G11 Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes - 4 credyd (1 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B12 Cynllunio a darparu colur brwsh aer - 8 credyd (5 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • B13 Darparu triniaethau trydanol i'r corff - 12 credyd (7 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
  • B14 Darparu triniaethau trydanol i'r wyneb - 12 credyd (7 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
  • B15 Darparu triniaethau ymestyn amrannau unigol - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • B21 Darparu gwasanaethau defnyddio gwelyau haul - 2 gredyd (1 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
  • B25 Darparu gwasanaethau defnyddio hylifau lliw haul - 3 chredyd (2 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
  • B26 Darparu gwasanaethau cwyro personol i fenywod - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • B27 Darparu gwasanaethau cwyro personol i ddynion - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)

Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021