Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Gwaith Barbwr

Framework:
Gwaith Barbwr
Lefel:
2/3

Mae galw cynyddol am wasanaethau barbwr gan ddynion sydd â diddordeb mewn lles a delwedd bersonol.

Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth hon byddwch yn ymgymryd â rolau fel:

  • Barbwr Iau (Prentisiaeth Sylfaen)
  • Barbwr neu Uwch Farber (Prentisiaeth)

Fel Barbwr Iau byddwch yn darparu gwasanaethau gan gynnwys torri gwallt, torri blew’r wyneb, patrymau sylfaenol, pyrmio a niwtraleiddio a lliwio gwallt dynion.

Fel Barbwr neu Uwch Farbwr byddwch yn darparu gwasanaethau gan gynnwys rhoi patrymau mewn gwallt, lliwio, cywiro lliw, sgiliau trin gwallt creadigol a phyrmio. Hefyd, byddwch yn gyfrifol am eillio, torri a siapio barfau a mwstashis.

Gallwch weithio mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys salonau trin gwallt, sba, ysbytai, cartrefi gofal, carchardai, siopau adrannol, gwestai, cwmnïau hedfan a chyrchfannau gwyliau.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Gwaith Barbwr - Lefel 2

Addas ar gyfer swydd Barbwr Iau

Gwaith Barbwr - Lefel 3

Addas ar gyfer swydd Barbwr neu Uwch Farbwr 

Mwy o wybodaeth

Hyd

Level 2:  24 months

Level 3:  24 months

Llwybrau dilyniant

Lefel 2:

Mae'r llwybrau'n cynnwys –

  • Prif Ddysgu Lefel Uwch Bagloriaeth Cymru mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Barbwr neu Drin Gwallt.
  • Cyflogaeth fel barbwr iau neu swyddi eraill yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â gwaith barbwr.

 

Lefel 3   

Mae'r llwybrau'n cynnwys -  

  • Cyflogaeth fel Barbwr neu swyddi eraill yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â Gwaith Barbwr.
  • Prentisiaeth Uwch mewn Trin Gwallt
  • Addysg Uwch fel gradd Sylfaen mewn Trin Gwallt a Rheoli Salon neu raglenni eraill.

Cymwysterau

Lefel 2: Diploma NVQ mewn Gwaith Barbwr

Lefel 3: Diploma NVQ mewn Gwaith Barbwr

 

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 2

Nid oes unrhyw ofynion mynediad sylfaenol na phrofiad blaenorol gofynnol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer y fframwaith hwn, ond gellir defnyddio'r meini prawf dethol canlynol fel canllaw.

Mae disgwyliadau cleientiaid yn uchel yn y diwydiant, sy'n dibynnu llawer ar gwsmeriaid yn dychwelyd. O ganlyniad, mae'r canlynol yn bwysig:

  • Golwg bersonol briodol gan gynnwys dillad, gwallt a hylendid personol. Sgiliau ymarferol, trefniadol a chymdeithasol.
  • Sylw i fanylion a glendid.
  • Synnwyr digrifwch da/natur gyfeillgar a sgiliau cyfathrebu da wrth ymdrin â chleientiaid wyneb yn wyneb neu wrth siarad dros y ffôn.
  • Parodrwydd i weithio oriau/diwrnodau hyblyg yn unol â'r contract cyflogaeth.
  • Lefel uchel o ddeheurwydd a chydsymud.

Rhaid i ddarpar brentisiaid sydd â rhai cyflyrau croen neu alergeddau, megis dermatitis galwedigaethol, ecsema neu asthma, ddeall y gallai rhai o'r cemegau, hylifau ac aerosolau sy'n cael eu defnyddio ym maes trin gwallt gael effeithiau sylweddol ar gyflwr eu hiechyd.

Byddai lliwddallineb yn cyfyngu ar gyfleoedd i ddefnyddio cynhyrchion a gwasanaethau lliwio artiffisial yn y diwydiant. Mae unedau sy'n ymwneud â lliwio gwallt yn gofyn am y gallu i adnabod tonau, arlliwiau a newidiadau cynnil iawn mewn amrywiaeth o liwiau er mwyn sicrhau defnydd diogel ac effeithiol o gemegau sy'n cael eu defnyddio i drin gwallt.

Lefel 2:  Bydd yn fanteisiol os oes gennych 3 chymhwyster TGAU Gradd D neu uwch mewn Saesneg a/neu Gymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gelf.

Lefel 3

Nid oes unrhyw ofynion mynediad sylfaenol na phrofiad blaenorol gofynnol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer y fframwaith hwn, ond gellir defnyddio'r meini prawf dethol canlynol fel canllaw.

Mae disgwyliadau cleientiaid yn uchel yn y diwydiant, sy'n dibynnu llawer ar gwsmeriaid yn dychwelyd. O ganlyniad, mae'r canlynol yn bwysig:

  • Golwg bersonol briodol gan gynnwys dillad, gwallt a hylendid personol. Sgiliau ymarferol, trefniadol a chymdeithasol.
  • Sylw i fanylion a glendid.
  • Synnwyr digrifwch da/natur gyfeillgar a sgiliau cyfathrebu da wrth ymdrin â chleientiaid wyneb yn wyneb neu wrth siarad dros y ffôn.
  • Parodrwydd i weithio oriau/diwrnodau hyblyg yn unol â'r contract cyflogaeth.
  • Lefel uchel o ddeheurwydd a chydsymud.

Rhaid i ddarpar brentisiaid sydd â rhai cyflyrau croen neu alergeddau, megis dermatitis galwedigaethol, ecsema neu asthma, ddeall y gallai rhai o'r cemegau, hylifau ac aerosolau sy'n cael eu defnyddio ym maes trin gwallt gael effeithiau sylweddol ar gyflwr eu hiechyd.

Byddai lliwddallineb yn cyfyngu ar gyfleoedd i ddefnyddio cynhyrchion a gwasanaethau lliwio artiffisial yn y diwydiant. Mae unedau sy'n ymwneud â lliwio gwallt yn gofyn am y gallu i adnabod tonau, arlliwiau a newidiadau cynnil iawn mewn amrywiaeth o liwiau er mwyn sicrhau defnydd diogel ac effeithiol o gemegau sy'n cael eu defnyddio i drin gwallt.

Lefel 3:  Bydd yn fanteisiol os oes gennych 3 chymhwyster TGAU Gradd C neu uwch mewn Saesneg a/neu Gymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gelf.

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021