Mae SkillsActive Habia wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Gwallt a Harddwch a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 01/08/2023 ACW Fframwaith Rhif. FR05103
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
71 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Gwaith Barbwr Lefel 2.
84 credyd yw'r isafswm credydau gofynnol ar gyfer Gwaith Barbwr Lefel 3.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad sylfaenol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol na gofynion o ran profiad blaenorol, ond gellir defnyddio'r meini prawf dethol canlynol fel arweiniad.
Oherwydd bod gan y diwydiant ddisgwyliadau uchel o ran cleientiaid a’i fod yn dibynnu ar fusnes rheolaidd, rhoddir pwysigrwydd i'r canlynol:
- Taclusrwydd personol priodol gan gynnwys dillad, gwallt a hylendid personol.
- Sgiliau ymarferol, trefnu a chymdeithasol.
- Sylw i fanylion a glendid.
- Synnwyr digrifwch da/natur gyfeillgar a sgiliau cyfathrebu boed yn ymdrin wyneb yn wyneb â chleientiaid neu'n siarad ar y ffôn.
- Parodrwydd i weithio oriau/diwrnodau hyblyg fel y cytunwyd yn y contract cyflogaeth.
- Lefel uchel o fedrusrwydd a chydsymud.
- Mae angen i ddarpar brentisiaid sydd â thueddiad i gael rhai cyflyrau croen neu alergeddau, fel dermatitis, ecsema neu asthma galwedigaethol, ddeall y gall rhai o'r cemegion, hylifau ac aerosolau a ddefnyddir wrth drin gwallt gael effaith sylweddol ar eu hiechyd.
- Byddai lliwddallineb yn cyfyngu ar gyfleoedd i ddefnyddio cynhyrchion a gwasanaethau lliwio artiffisial yn eang yn y diwydiant. Mae unedau sy'n ymwneud â lliwio gwallt yn gofyn am y gallu i adnabod tonau, arlliwiau a newidiadau cynnil iawn mewn amrywiaeth o liwiau er mwyn sicrhau bod y cemegion a ddefnyddir ar wallt yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.
Mae'n rhaid i brentisiaid gael eu cyfweld bob amser gan eu darpar gyflogwr a'u darparwr dysgu.
Efallai y byddant yn ystyried bod brwdfrydedd a diddordeb yn y pwnc yn bwysicach na chymwysterau ffurfiol. Am y rheswm hwn, mae'r Sector Gwallt a Harddwch wedi dewis peidio â bod yn rhagnodol iawn ynghylch gofynion mynediad.
Mae'n fanteisiol cael profiad blaenorol o weithio yn y diwydiannau Therapi Harddwch, gwaith barbwr neu drin gwallt.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Gwaith Barbwr
Lefel 2: Gwaith Barbwr Cymwysterau
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau un o'r cymwysterau cyfun isod.
Lefel 2 Diploma NVQ mewn Barbro | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0711/4 601/5699/5 | 53 | 530 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
VTCT | C00/0710/2 601/5887/6 | 53 | 530 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Gwaith Barbwr | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 1 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Gwaith Barbwr | 308 | 409 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
53 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 2 mewn Barbro
Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys dysgu dan arweiniad yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, yw 838 o oriau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Gwaith Barbwr
Lefel 3: Gwaith Barbwr Cymwysterau
Mae'n rhaid i ddysgwyr gwblhau'r cymwysterau cyfun isod.
Lefel 3 Diploma NVQ mewn Barbro | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0711/6 601/5698/3 | 66 | 660 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
VTCT | C00/0710/4 601/5888/8 | 66 | 660 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Gwaith Barbwr | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Gwaith Barbwr | 368 | 470 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
66 credyd ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 3 mewn Barbro
Cyfanswm yr oriau hyfforddi ar gyfer dysgwr nodweddiadol, gan gynnwys dysgu dan arweiniad yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, yw 717 o oriau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Amherthnasol
Dilyniant
Lefel 2 - Gwaith Barbwr
Dilyniant i mewn i’r Brentisiaeth:
- O gymhwyster paratoi ar gyfer gwaith nad yw'n seiliedig ar gymhwysedd mewn gwaith barbwr neu drin gwallt
- O Brif Ddysgu Bagloriaeth Cymru mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
- Yn dilyn rhaglen Gwaith Barbwr neu Drin Gwallt Lefel 1.
- Mynediad uniongyrchol o'r ysgol neu'r coleg.
- Mynediad uniongyrchol o alwedigaeth arall.
Dilyniant o’r Brentisiaeth:
- I Brif Ddysgu Lefel Uwch Bagloriaeth Cymru mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
- I brentisiaeth Gwaith Barbwr neu Drin Gwallt Lefel 3.
- I mewn i gyflogaeth fel barbwr iau neu rolau swydd arall yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â gwaith barbwr.
Lefel 3 - Gwaith Barbwr
Llwybrau i mewn i’r Brentisiaeth:
- O gymhwyster paratoi ar gyfer gwaith nad yw’n seiliedig ar gymhwysedd mewn gwaith barbwr neu drin gwallt.
- O gymhwyster Prif Ddysgu Lefel Uwch Bagloriaeth Cymru mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
- Ar ôl cwblhau Lefel 2 mewn Gwaith Barbwr, Gwaith Barbwr ar wallt math Affricanaidd neu Drin Gwallt naill ai drwy brentisiaeth neu raglen amser llawn yn y coleg.
Llwybrau o’r Brentisiaeth:
- I mewn i gyflogaeth fel barbwr neu rolau swydd eraill yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â gwaith barbwr.
- I mewn i'r Brentisiaeth Uwch mewn Trin Gwallt
- I mewn i addysg uwch, er enghraifft gradd Sylfaen mewn Trin Gwallt a Rheoli Salon neu raglenni eraill.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Nod prentisiaethau yn y sector yw hyrwyddo amrywiaeth, cyfle cyfartal a chynhwysiant drwy gynnig profiad dysgu o ansawdd uchel.
Mae'n rhaid i'r Brentisiaeth gael ei chwblhau mewn lleoliad heb ragfarn a gwahaniaethu lle gall pob dysgwr gyfrannu'n llawn ac yn rhydd a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.
Mae'n rhaid i gyflogwyr/darparwyr allu dangos bod eu harferion dethol, recriwtio a chyflogaeth yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg na chudd mewn perthynas ag unrhyw un o'r nodweddion gwarchodedig.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 2: Gwaith Barbwr
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r wybodaeth isod yn cyfeirio at y cymwysterau cyfun a restrir yn Niploma NVQ Lefel 2 Barbro a bydd yn sicrhau bod y cymhwyster yn cynnwys 10 credyd ar gyfer pob elfen.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau 7 uned orfodol sy'n dod i gyfanswm o 44 credyd ac unedau dewisol hyd at isafswm o 9 credyd er mwyn rhoi cyfanswm cyffredinol o 53 credyd i ennill y cymhwyster llawn.
UNEDAU GORFODOL
- CB2 Torri gwallt dynion gan ddefnyddio technegau sylfaenol - 12 credyd (7 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
- CB3 Torri a siapio blew’r wyneb gan ddefnyddio technegau sylfaenol - 5 credyd (2 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
- CB4 Sychu a gorffen gwallt dynion - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
- CB5 Creu amlinelliadau a manylion sylfaenol mewn gwallt - 6 chredyd (2 Cymhwysedd 4 Gwybodaeth)
- CHB9 Cynghori cleientiaid ac ymgynghori â nhw - 8 credyd (3 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
- CHB11 Siampŵio, cyflyru a rhoi triniaeth i’r gwallt a chroen y pen - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
- CHB12 Datblygu a chynnal eich effeithiolrwydd yn y gwaith - 3 chredyd (2 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
UNEDAU DEWISOL
- AH2 Llacio gwallt - 9 credyd (4 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
- CB1 Cynorthwyo gyda gwasanaethau eillio - 5 credyd (2 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
- CB6 Lliwio a goleuo gwallt dynion - 14 credyd (6 Cymhwysedd 8 Gwybodaeth)
- CH5 Pyrmio a niwtraleiddio gwallt - 10 credyd (5 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
- CH6 Plethu a throelli gwallt - 5 credyd (2 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
- CH7 Atodi gwallt dros dro i wella steil - 3 chredyd (2 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
- CHB13 Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon - 6 chredyd (4 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
Atodiad 2 Lefel 3: Gwaith Barbwr
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae hyn yn cyfeirio at y cymwysterau cyfun a restrir yn Niploma NVQ Lefel 3 Barbro a bydd yn sicrhau bod y cymhwyster yn cynnwys 10 credyd ar gyfer pob elfen.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau pob un o'r 4 uned orfodol sy'n dod i gyfanswm o 40 credyd ac unedau dewisol hyd at isafswm o 26 credyd er mwyn rhoi cyfanswm cyffredinol o 66 credyd i ennill y cymhwyster llawn.
UNEDAU GORFODOL
- 25 CHB14 Darparu gwasanaethau ymgynghori â chleientiaid - 8 credyd (3 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
- CB10 Darparu gwasanaethau eillio - 11 credyd (5 Cymhwysedd 6 Gwybodaeth)
- CB8 Dylunio a chreu amrywiaeth o siapiau gyda blew’r wyneb - 7 credyd (3 Cymhwysedd 4 Gwybodaeth) CB7 Torri gwallt yn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau barbwr - 14 credyd (8 Cymhwysedd 6 Gwybodaeth)
UNEDAU DEWISOL
- AH7 Darparu amrywiaeth o wasanaethau llacio - 9 credyd (5 Cymhwysedd 4 Gwybodaeth)
- CB9 Dylunio a chreu patrymau mewn gwallt - 12 credyd (6 Cymhwysedd 6 Gwybodaeth)
- CH11 Gwasanaethau cywiro lliw gwallt 15 credyd (7 Cymhwysedd 8 Gwybodaeth)
- CHB15 Datblygu, gwella a gwerthuso eich sgiliau trin gwallt creadigol - 9 credyd (4 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
- CHB16 Darparu triniaethau arbenigol ar gyfer y gwallt a chroen y pen - 12 credyd (4 Cymhwysedd 8 Gwybodaeth) CH5 Pyrmio a niwtraleiddio gwallt - 10 credyd (5 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
- CB6 Lliwio a goleuo gwallt dynion - 14 credyd (6 Cymhwysedd 8 Gwybodaeth)
- CHB17 Cyfrannu at gynllunio gweithgareddau hyrwyddo a’u rhoi ar waith - 10 credyd (3 Cymhwysedd 7 Gwybodaeth)
- CHB18 Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes - 7 credyd (4 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
- CHB13 Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon - 6 chredyd (4 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)