Skip to main content

Pathway summary

Cynllun Cydnabod Meistr Grefftwr Lefel 4

Framework:
Cynllun Cydnabod Meistr Grefftwr Lefel 4
Lefel:
4

Mae'r cynllun cydnabod Meistr Grefftwr hwn ar gyfer crefftwyr (technegwyr a pheirianwyr) sydd â nifer o flynyddoedd o brofiad ac am ymgymryd â hyfforddiant i ennill cymwysterau hyfforddi a mentora, er mwyn cynorthwyo gweithwyr cyflogedig, hyfforddeion a phrentisiaid newydd.

Mae Meistr Grefftwyr yn weithwyr technegol sydd wedi'u hyfforddi i lefel uchel ac wedi ennill achrediad galwedigaethol. Mae ansawdd uchel yr hyfforddiant galwedigaethol sydd ei angen i gyflawni'r achrediad hwn (yn enwedig yn yr Almaen) wedi arwain at gynnydd yn y galw am Feistr Grefftwyr ledled yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ôl cwblhau'r cynllun byddwch yn derbyn cymhwyster hyfforddi a/neu fentora.

Bydd y Brentisiaeth hon yn eich paratoi'n dda ar gyfer cofrestriad proffesiynol fel Technegydd Peirianneg a’ch helpu i gamu ymlaen i gofrestru fel Peiriannydd Corfforedig drwy'r Radd-brentisiaeth neu fframweithiau Lefel 6. Gallai ddarparu dilyniant i amrywiaeth o raddau anrhydedd lle bo hynny'n briodol hefyd.

Pathway options and levels

Cynllun Cydnabod Meistr Grefftwr - Lefel 4

Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Rheolwr Hyfforddiant, Arweinydd Cwrs, Anogwr, Mentor a Hyfforddwr

Further information

Duration

Lefel 4: 18-24 mis

Progression routes

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Camu ymlaen mewnol i swydd arweinydd tîm neu swyddi goruchwylio neu hyfforddi/mentora pellach
  • Prentisiaeth Uwch mewn Peirianneg.
  • Gradd-brentisiaeth mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu ar Lefel 6
  • Fframwaith Prentisiaeth Uwch ar gyfer Gweithgynhyrchu Peirianneg Uwch ar Lefel
  • Cyflogaeth.

Cymwysterau

Mae'r cymwysterau sydd ar gael i'r llwybr hwn yn cynnwys:

  • Tystysgrif Lefel 3 City & Guilds mewn Mentora
  • Tystysgrif Lefel 4 mewn Arwain Sicrwydd Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu
  • Diploma HNC Lefel 4 BTEC Pearson mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu

What are the entry requirements for this pathway?

All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);

Lefel 4

I fod yn gymwys i gael mynediad i'r cynllun Lefel 4, bydd angen y canlynol arnoch:

• wedi cwblhau prentisiaeth sy'n gysylltiedig â pheirianneg (ar Lefel 3) yn y maes hyfforddi/mentora o'ch dewis

• amrywiaeth o gymwysterau posibl megis Safon Uwch STEM (ee Mathemateg, Gwyddoniaeth, Technoleg Dylunio), Tystysgrif/Diploma mewn Peirianneg, Prentisiaeth mewn Peirianneg neu

• os nad oes gennych gymwysterau ffurfiol, bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth sy'n dangos eich bod yn gweithio ar safon Lefel 3 ar hyn o bryd (trwy gyflwyno portffolio o brofiad o bosibl).

Yn ogystal â chymwysterau neu brofiad Lefel 3, mae'n rhaid i chi:

• gael eich cyfweld gan y cyflogwyr cyn cael eich derbyn i'r cynllun

• bod ag o leiaf bum mlynedd o brofiad yn y diwydiant o weithio yn y sector

• bod â'r gallu/potensial i gyflawni rôl mentor, goruchwylydd neu arweinydd yn y cwmni, neu eisoes yn cyflawni’r rôl.

View full pathway

Document revisions

26 Tachwedd 2021