Mae'r SEMTA wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Peirianneg a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
151 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 4 Prif Grefftwr.
Entry requirements
Lefel 4: Prif Grefftwr
Bydd y cynllun yn arwain at gydnabyddiaeth ar Lefel 4.
I fod yn gymwys i gael mynediad i'r cynllun Lefel 4, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr:
- fod wedi cwblhau prentisiaeth yn gysylltiedig â Pheirianneg (ar Lefel 3) yn y maes y maent yn dymuno hyfforddi/mentora ynddo neu
- gallai fod ganddynt amrywiaeth o gymwysterau perthnasol fel cymwysterau Safon Uwch STEM (ee, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg) Tystysgrif/Diploma mewn Peirianneg, Prentisiaeth mewn Peirianneg neu
- os nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol, bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno tystiolaeth i ddangos eu bod ar hyn o bryd yn gweithio ar safon Lefel 3 (efallai drwy bortffolio o brofiad).
Yn ogystal â phrofiad neu gymwysterau ar lefel 3, mae'n rhaid i'r ymgeiswyr:
- fynd drwy broses gyfweld y cyflogwr cyn cael eu derbyn i'r cynllun.
- gael pum mlynedd o leiaf o brofiad diwydiannol yn gweithio yn y sector
- fod â'r gallu/potensial i, neu fod yn cyflawni rôl mentor, goruchwylydd neu arweinydd yn eu cwmni.
Er nad oes angen canolbwyntio ar rôl uwch yn rhan o'r profiad cymwys, dylai'r ymgeiswyr fynd drwy broses gyfweld i ddangos yn ffurfiol beth yw eu profiad o ofynion y cynllun cyn iddynt gael eu derbyn ar y llwybr. Serch hynny, bernir cyfranogwyr yn ôl eu gallu, nid yn ôl yr amser y maent wedi'i dreulio yn gweithio yn y sector.
Ar ôl cwblhau'r cynllun, bydd yr ymgeiswyr yn derbyn cymhwyster hyfforddi ac/neu fentora. Byddant hefyd naill ai'n derbyn cymhwyster sy'n seiliedig ar wybodaeth neu unedau cymhwysedd pellach ym mes gweithgynhyrchu peirianneg, neu gymhwyster asesydd. Yn rhan o'r cynllun gall ymgeiswyr ddewis dilyn cymwysterau a allai arwain at gydnabyddiaeth broffesiynol fel Peiriannydd Corfforedig (*IEng).
*Gellir ceisio statws IEng (Peiriannydd Corfforedig) ar ôl cwblhau'r EngTech neu gymhwyster ffurfiol uwch. Mae'n rhaid i ymgeiswyr arddangos sgiliau rheoli masnachol a thechnegol, ymrwymiad i safonau a rhwymedigaethau proffesiynol, y defnydd o wybodaeth dechnegol/peirianneg i gymhwyso technoleg i'w gwaith a chymhwyso damcaniaethau a dulliau ymarferol i broses, system, gwasanaeth neu gynnyrch.
Cymwysterau gwybodaeth
Os yw ymgeiswyr eisoes wedi ennill un o'r cymwysterau gwybodaeth a restrir (gweler y tudalennau cymwysterau) cyn dechrau eu prentisiaeth, gellir cyfrif hynny, ac ni fydd yn rhaid iddynt ailadrodd y cymhwyster, ar yr amod eu bod wedi ennill y cymhwyster o fewn pum mlynedd cyn dechrau'r brentisiaeth.
Gellir cyfrif yr oriau hyfforddiant a dreuliwyd yn ennill y cymhwyster tuag at gyfanswm oriau'r brentisiaeth.
Cymwysterau cymhwysedd
Os yw ymgeiswyr eisoes wedi ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd ar Lefel 4 neu unedau ar Lefel 4 (gweler y tudalennau cymwysterau cymhwysedd) cyn dechrau eu prentisiaeth, gellir cyfrif hynny, ac ni fydd yn rhaid iddynt ailadrodd y cymhwyster, ar yr amod eu bod wedi ennill y cymhwyster o fewn pum mlynedd cyn dechrau'r prentisiaeth. Gellir cyfrif yr oriau a dreuliwyd yn ennill y cymhwyster cymhwysedd tuag at gyfanswm yr oriau ar gyfer y brentisiaeth.
Mae'n bwysig cael cytundeb rhwng y cyflogwr a'r prentis fod yr ymgeisydd eisoes yn gymwys.
Profiad blaenorol yn y sector
Gall ymgeiswyr sydd eisoes yn gweithio yn y sector neu sydd wedi gweithio yn y sector yn ddiweddar, ofyn i'w sefydliad roi cydnabyddiaeth ffurfiol o'u profiad a bydd hyn yn cyfrif tuag at y cymhwyster/cymwysterau ar y llwybr hwn.
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Lefel 4: Prif Grefftwr
Lefel 4: Prif Grefftwr Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:
Lefel 3 Tystysgrif CMI mewn Hyfforddi a Mentora | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
CMI | C00/0585/0 600/9464/3 | 15 | 150 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 4 Tystysgrif mewn Arwain Sicrwydd Ansawdd Mewnol Prosesau ac Arferion Asesu | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City & Guilds | C00/0288/4 501/1680/0 | 17 | 170 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Agored Cymru | C00/0397/0 | 17 | 170 | Gwybodaeth | Saesneg-Cymraeg |
Lefel 3 Tystysgrif yn Mentora Effeithiol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
City & Guilds | C00/3846/1 603/3737/0 | 13 | 130 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 4 Pearson HNC BTEC mewn Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Pearson | C00/1163/6 603/0450/9 | 120 | 1200 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 4 Pearson Tystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC mewn Peirianneg Awyrennol (Llwybr Awyrofod) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Pearson | C00/1164/5 603/0485/6 | 120 | 120 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 4 Diploma Estynedig NVQ mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
EAL | C00/0549/7 600/9576/3 | 107 | 1070 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Lefel 4 Diploma NVQ mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
EAL | C00/0549/6 600/9486/2 | 80 | 800 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
HNC Peirianneg Gweithrediadau | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Cymru, Casnewydd | Amh | 150 | 1500 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
HNC Peirianneg Offeryniaeth | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant | Amh | 160 | 1600 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
HND Peirianneg Systemau Pŵer | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant | Amh | 160 | 1600 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Gradd Sylfaen FdEng Cynnal a Chadw Cerbydau Awyr | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Glyndwr | Amh | 120 | 1200 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Gradd Sylfaen mewn Cynnal a Chadw Gweithrediadau Proses | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Cymru drwy Goleg Sir Benfro | Amh | 120 | 1200 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Gradd Sylfaen FdEng mewn Peirianneg Ddiwydiannol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Glyndwr | Amh | 120 | 1200 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Moduron | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol De Cymru | Amh | 120 | 1200 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
HNC Technoleg Fecanyddol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Glyndŵr drwy Goleg Cambria | Amh | 150 | 1500 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
HNC Technoleg Drydanol ac Electronig | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Glyndŵr drwy Goleg Menai | Amh | 150 | 1500 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
HNC Peirianneg Drydanol / Electronig | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant | Amh | 160 | 1600 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Prifysgol Glyndŵr drwy Goleg Cambria | Amh | 150 | 1500 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Prifysgol De Cymru | Amh | 120 | 1200 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant | Amh | 120 | 1200 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Drydanol/Electronig | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Abertawe drwy Goleg Gŵyr Abertawe | Amh | 240 | 2400 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
HNC Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Cymru, Casnewydd | Amh | 160 | 1600 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
HND Peirianneg | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant | Amh | 160 | 1600 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Gradd Sylfaen FdEng mewn Peirianneg Awyrennol (Gweithgynhyrchu) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Glyndŵr | Amh | 240 | 2400 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Fecanyddol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol Cymru drwy Goleg Sir Benfro | Amh | 160 | 1600 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Prifysgol Abertawe drwy Goleg Gŵyr | Amh | 240 | 2400 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
HNC Peirianneg Fecanyddol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol De Cymru | Amh | 120 | 1200 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant | Amh | 160 | 1600 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
HND Peirianneg Fecanyddol | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Prifysgol De Cymru | Amh | 240 | 2400 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Essential Skills Wales (ESW)
Lefel 4: Prif Grefftwr | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Digital literacy | 2 | 6 |
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Lefel 4: Prif Grefftwr | 275 | 561 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
106 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth
836 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Uwch Prif Grefftwr, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
Mae hyd y llwybr yn dibynnu ar y cymhwyster a'r unedau a ddewisir.
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Other additional requirements
Amh
Progression
Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 4:
Er y bydd nifer sylweddol o Brentisiaid yn ceisio sicrhau dyrchafiad mewnol i arweinydd tîm neu rôl oruchwyliol neu rolau hyfforddi/mentora pellach o fewn eu cwmnïau, bydd rhai ohonynt eisiau symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch Peirianneg.
Yn fwy cyffredinol, bydd y rhan fwyaf o gyn-brentisiaid yn anelu am gyfuniad o ddyrchafiad mewnol gan ddilyn cymwysterau a noddir gan y cwmni ar yr un pryd.
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut mae mynd ati'n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Mae SEMTA yn sylweddoli bod cael prentisiaid o amrywiaeth eang o gefndiroedd gwahanol yn esgor ar fanteision o ran hyfforddiant a busnes. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ysgogi pob agwedd ar ddethol a recriwtio prentisiaid. Mae cyfle cyfartal ac amrywiaeth yn golygu gweithredu i gael gwaed â gwahaniaethu anghyfreithlon neu annheg yn erbyn unrhyw unigolyn neu grŵp ar sail rhyw, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, crefydd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth. cred wleidyddol, anabledd a lle bo hynny'n briodol, cefndir carchar/troseddwr lle bernir bod hyn yn amherthnasol.
Er bod nifer calonogol o ferched a phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yn cymryd rhan yn llwybr Gweithgynhyrchu Peirianneg ar Lefel 3, ac ar lwybrau tebyg, mae llawer o waith o hyd i'w wneud o fewn y sector Peirianneg i annog merched i gychwyn gyrfa ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu.
Mae SEMTA yn dymuno gwneud Ymrwymiad Cydraddoldeb Rhywiol. Mae SEMTA wedi ymrwymo i siarter Prif Weithredwyr Canolfan Adnoddau'r Deyrnas Unedig (UKRC) mewn ymgais i gynyddu nifer yr merched sy'n cael eu recriwtio i'w sectorau a'i rhaglenni allweddol. Oherwydd y bylchau sydd ar y gorwel o ran sgiliau, amcangyfrifir y bydd angen recriwtio a hyfforddi 187,000 o bobl rhwng 2010 a 2016 yn sectorau SEMTA - sef, awyrofod, moduron, deunyddiau cyfansawdd, trydanol, electroneg, cynnal a chadw, morol, mathemateg, metelau a chynnyrch metel wedi'i beiriannu, deunyddiau adnewyddadwy a gwyddoniaeth.
Yr UKRC yw corff arweiniol y Llywodraeth ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ym maes Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (GPaTh), ac mae siarter y CEO yn ymrwymiad ffurfiol i agenda UKRC i herio tangynrychiolaeth ymhlith merched ym maes GPaTh. Er bod merched i gyfrif am 50% o'r farchnad lafur, maent i gyfrif am lai na 20% o'r farchnad lafur ym maes gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg.
Cred UKRC mai cydymdrech o fewn y diwydiant SET yw'r unig ffordd o oresgyn rhwystrau'n gysylltiedig â rhyw a geir mewn amgylcheddau sydd yn draddodiadol wedi cael eu cysylltu â dynion yn bennaf, ac rydym am fod yn rhan o gonsensws newydd a fydd yn creu amgylchedd gwaith cynhwysol i ferched. Yn draddodiadol dynion gwyn yn bennaf sydd yng ngweithlu'r diwydiannau gweithgynhyrchu y mae'r Llwybr hwn yn gweithredu ynddynt. Fodd bynnag, wrth inni wynebu gweithlu sy'n heneiddio a'r tebygolrwydd o brinder sgiliau, mae'n rhaid inni ddenu ymgeiswyr newydd o gronfa recriwtio sy'n llawer mwy amrywiol. Mae hyn yn golygu bod croeso i bob oedolyn a pherson ifanc sy'n ystyried peirianneg a gweithgynhyrchu fel gyrfa.
Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth gan gynnwys cyflogwyr allu dangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg na chudd wrth ddewis a chyflogi prentisiaid). Gellir dangos hyn drwy weithredu Cynllun Cydraddoldeb Sengl (CCS). Mae'r Ddyletswydd Cydraddoldeb newydd (sy'n rhan o'r Bil Cydraddoldeb Sengl) a gyflwynwyd i'r sector cyhoeddus yn ei gwneud hi'n ofynnol i holl gyrff y sector cyhoeddus gyflwyno CCS sy'n cyfuno eu cynlluniau hil, anabledd a rhyw, a dylai holl ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth gydnabod y cynllun hwnnw. Mae gweithredu CCS yn arddangos ymrwymiad y sefydliad i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy nodi ffyrdd gwell a newydd o weithio er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn fwy effeithlon ac effeithiol wrth fodloni anghenion amrywiol staff a chwsmeriaid. Mae'n rhaid i bawb sy'n recriwtio prentisiaid, boed golegau, darparwyr hyfforddiant neu gyflogwyr, gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, a chymhwyso'r ddeddfwriaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gan roi ystyriaeth lawn i'r canlynol:
- Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 a'r Cod Ymarfer
- Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 a'r Cod Ymarfer
- Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a'r Cod Ymarfer
- Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003
- Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003
- Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006
- Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth a chyflogwyr fynd ati hefyd i fonitro gweithdrefnau cyfle cyfartal ac amrywiaeth, a chymryd camau cadarnhaol lle bo angen i sicrhau mynediad a thriniaeth gyfartal i bawb.
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Mae SEMTA yn argymell y dylai pob Prif Grefftwr feddu ar wybodaeth am CHC a dealltwriaeth o hynny wrth sefydlu, hyfforddi a mentora eraill yn y gweithle.
Responsibilities
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant / y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru