- Framework:
- Peirianneg Gyfansawdd (Gweithredwr a Lled-grefftus)
- Lefel:
- 2
Mae'r brentisiaeth hon wedi'i chynllunio i ddarparu'r sgiliau, y wybodaeth a'r cymhwysedd gofynnol i chi gwblhau prosesau gweithgynhyrchu cyfansawdd er mwyn cynhyrchu is-unedau a chynhyrchion cyfansawdd gorffenedig cyfan yng Nghymru. Byddwch yn datblygu gwybodaeth sylfaenol a sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i weithio ar lefel gweithredwr neu led-grefftus mewn amgylchedd gweithgynhyrchu cynhyrchion cyfansawdd gan ymgymryd ag amrywiaeth eang o weithgareddau gweithgynhyrchu diffiniedig.
Ar hyn o bryd, y marchnadoedd gweithgynhyrchu allweddol ar gyfer cynhyrchion cyfansawdd yw:
- Awyrofod
- Tyrbinau gwynt
- Modurol
- Morol
Bydd gan gyflogwyr Peirianneg Gyfansawdd ddiddordeb mewn ymgeiswyr:
- sy'n awyddus ac yn frwdfrydig i weithio mewn amgylchedd peirianneg/gweithgynhyrchu cyfansawdd; neu
- sy'n barod i ymgymryd â chwrs hyfforddi yn y gweithle a'r tu allan i'r gweithle a defnyddio'r hyn a ddysgir yn y gweithle; neu
- sydd â phrofiad gwaith neu gyflogaeth flaenorol yn y sector; neu
- sydd â chymhwyster Bagloriaeth Cymru neu gymwysterau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth; neu
- sydd wedi cwblhau rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau mewn disgyblaeth berthnasol;
- neu os ydynt yn hoffi gwaith ymarferol ac eisiau gweithio gyda'u dwylo;
- neu nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol ond eu bod yn gallu dangos, o bosibl drwy bortffolio, bod ganddynt y potensial i gwblhau'r brentisiaeth hon gan eu bod wedi gweithio yn y sector ar Lefel 2 o'r blaen; neu
- sydd wedi cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol Ehangach, neu eu bod wedi cwblhau profion mewn sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu sylfaenol a bod ganddynt ymwybyddiaeth ofodol.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Prentisiaeth Sylfaen mewn Peirianneg Gyfansawdd - Lefel 2
Yn cefnogi'r rolau canlynol:
Gweithredwr (Lled-grefftus) Technegau Lamineiddio Gosod Gwlyb
- Gweithredwr (Lled-grefftus) Technegau Lamineiddio Gosod Chwistrellu
- Gweithredwr (Lled-grefftus) Technegau Trwytho Llif Resin
- Gweithredwr (Lled-grefftus) Technegau Trwytho Llif Resin
- Gweithredwr (Lled-grefftus) Technegau Weindio Ffilament
- Trimiwr (Mowldiau Cyfansawdd)
- Gweithredwr Cydosod Cyfansawdd
- Gweithredwr (Atgyweirio Cyfansawdd)
- Gweithredwr Sicrhau Ansawdd
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 18 mis
Llwybrau dilyniant
Mae llwybrau camu ymlaen yn cynnwys:
- Prentisiaeth mewn Peirianneg Gyfansawdd ar Lefel 3.
- Dyrchafiad mewnol i swydd arweinydd tîm neu oruchwylydd.
- Addysg Bellach.
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma NVQ mewn Peirianneg Gyfansawdd
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Lefel 2: Fel canllaw, mae fframwaith y Brentisiaeth Sylfaen mewn Peirianneg Gyfansawdd (Lefel 2) yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd â phump TGAU gradd D i E mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Mae'n bosibl y bydd angen i chi sefyll profion mewn rhifedd a llythrennedd sylfaenol, sgiliau cyfathrebu ac ymwybyddiaeth ofodol. Mae'n bosibl y byddwch yn cael cyfweliad hefyd er mwyn sicrhau eich bod wedi dewis y sector galwedigaethol cywir a'ch bod yn awyddus i fod yn brentis, gan fod ymgymryd â phrentisiaeth yn ymrwymiad mawr i'r unigolyn ac i'r cyflogwr.
Mae'n bosibl y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn darparu gwybodaeth sylfaenol tuag at y Brentisiaeth Sylfaen.
Gweld llwybr llawn