Skip to main content

Pathway

Peirianneg Gyfansawdd (Gweithredwr a Lled-grefftus)

Mae SEMTA wedi cytuno ar gynnwys y Llwybrau hyn. Dyma'r unig Lwybrau prentisiaeth yn y sector Peirianneg a gymeradwywyd i'w defnyddio yng Nghymru sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.


Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

131 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Lefel 2 Gweithgynhyrchu Cyfansawdd.

Entry requirements

Lefel 2: Gweithgynhyrchu Cyfansawdd

Cynigir un llwybr ar Lefel 2. Mae cyflogwyr yn dymuno denu ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant deunyddiau cyfansawdd ac yn croesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd. Rhagwelir y bydd gan ymgeiswyr amrywiaeth eang o brofiadau, cyflawniadau a chymwysterau.

Fel canllaw, mae'r llwybr Prentisiaeth Sylfaen mewn Peirianneg Gyfansawdd (Lefel 2) yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd â phum gradd TGAU D i E mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. O ran y cyflogwyr, gall y broses ddethol gynnwys asesiad cychwynnol lle gofynnir i ymgeiswyr a oes ganddynt unrhyw gymwysterau neu brofiad y gellir eu hachredu yn erbyn gofynion y brentisiaeth. Efallai y bydd hefyd yn ofynnol iddynt sefyll profion sylfaenol mewn rhifedd, llythrennedd, sgiliau cyfathrebu ac ymwybyddiaeth ofodol. Mae'n bosibl y cynhelir cyfweliad hefyd i sicrhau bod ymgeiswyr wedi dewis y sector galwedigaethol cywir, ac wedi'u hysgogi i fod yn brentis, gan fod dilyn cwrs prentisiaeth un ymrwymiad mawr i'r unigolyn ac i'r cyflogwr.

Efallai y bydd Ymgeiswyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn cynnwys gwybodaeth danategol tuag at y Brentisiaeth Sylfaen. Bydd hyn yn cael ei asesu yn ystod asesiad cychwynnol, gan ganiatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) lle bo'n briodol.

Byddai gan gyflogwyr ddiddordeb mewn ymgeiswyr:

  • sy'n awyddus ac yn llawn cymhelliant i weithio mewn amgylchedd peirianneg/gweithgynhyrchu cyfansawdd neu
  • sy'n barod i ddilyn cwrs hyfforddi yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, ac i gymhwyso'r hyn a ddysgir yn y gweithle neu sydd wedi cael profiad gwaith neu
  • sydd wedi'u cyflogi'n flaenorol yn y sector neu sy'n meddu ar Fagloriaeth Cymru neu
  • sydd â chymwysterau TGAU mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth neu
  • sydd wedi cwblhau rhaglen Llwybrau i Brentisiaeth mewn disgyblaeth berthnasol neu
  • sy'n gallu meddwl yn ymarferol ac eisiau gweithio gyda'u dwylo neu
  • heb gymwysterau ffurfiol, ond a all ddangos, o bosib drwy bortffolio, bod ganddynt y potensial i gwblhau'r brentisiaeth hon, am eu bod wedi gweithio ar Lefel 2 yn y sector o'r blaen neu
  • sydd wedi cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) neu gymwysterau Sgiliau Allweddol Ehangach neu 
  • sydd wedi cwblhau profion rhifedd, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu sylfaenol ac sy'n meddu ar ymwybyddiaeth ofodol.

Profiad blaenorol yn y sector

Gall ymgeiswyr sydd eisoes yn gweithio yn y sector neu sydd wedi gweithio yn y sector yn ddiweddar ar y lefel briodol, wneud cais am gydnabyddiaeth ffurfiol o'u profiad gan Sefydliad Dyfarnu, a gallai hyn gyfrif tuag at y cymhwyster/cymwysterau ar y llwybr hwn.

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 2: Gweithgynhyrchu Cyfansawdd

Lefel 2: Gweithgynhyrchu Cyfansawdd Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:

Lefel 2 Diploma mewn Peirianneg a Thechnoleg
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
EAL C00/0158/1 500/7595/0 39 390 Cyfun Cymraeg-Saesneg
Lefel 2 Tystysgrif mewn Peirianneg
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
City & Guilds C00/0338/1 600/0880/5 35 350 Cyfun Saesneg yn Unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 2: Gweithgynhyrchu Cyfansawdd Lefel Minimum Credit Value
Communication 1 6
Application of number 1 6
Digital literacy 1 6

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 2: Gweithgynhyrchu Cyfansawdd 275 561
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

106 credyd am gymhwysedd a gwybodaeth - Diploma NVQ Lefel 2 mewn Peirianneg Gyfansawdd a Diploma Lefel 2 EAL mewn Peirianneg a Thechnoleg neu Dystysgrif Lefel 2 City & Guilds mewn Peirianneg.

836 yw cyfanswm yr oriau dysgu ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen Gweithgynhyrchu Cyfansawdd, sy'n cynnwys hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.

Tua 18 mis yw hyd y llwybr, yn dibynnu ar y cymhwyster a'r unedau a ddewisir.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH ar gyfer Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Dim

Progression

Dilyniant o'r Brentisiaeth Lefel 2:

Mae'n debygol y bydd nifer sylweddol o Brentisiaid Sylfaen yn symud ymlaen i'r Brentisiaeth Peirianneg Gyfansawdd ar Lefel 3 ar ôl cwblhau'r llwybr hwn.

 Yn fwy cyffredinol, bydd y rhan fwyaf o gyn-brentisiaid yn anelu am gyfuniad o ddyrchafiad mewnol o fewn eu cwmni i lefel arweinydd tîm neu oruchwylydd, ac ar yr un pryd yn dilyn cymwysterau Addysg Bellach i gynyddu eu gwybodaeth.

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut mae mynd ati'n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Mae SEMTA yn sylweddoli bod cael prentisiaid o amrywiaeth eang o gefndiroedd gwahanol yn esgor ar fanteision o ran hyfforddiant a busnes. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ysgogi pob agwedd ar ddethol a recriwtio prentisiaid. Mae cyfle cyfartal ac amrywiaeth yn cyfeirio at weithredu i gael gwared ag unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon neu annheg yn erbyn unrhyw unigolyn neu grŵp.

 Er bod nifer calonogol o ferched a phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yn cymryd rhan yn y rhaglenni Diploma 14-19 a'r Prentisiaethau i Bobl Ifanc ym maes Peirianneg a Gweithgynhyrchu, mae llawer o waith i'w wneud o fewn y sector Peirianneg i annog merched i gychwyn gyrfa ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu. Mae SEMTA yn dymuno gwneud Ymrwymiad Cydraddoldeb Rhywiol. Mae SEMTA wedi ymrwymo i siarter Prif Weithredwyr Canolfan Adnoddau'r Deyrnas Unedig (UKRC) mewn ymgais i gynyddu nifer yr merched sy'n cael eu recriwtio i'w sectorau a'i rhaglenni allweddol. Oherwydd y bylchau sydd ar y gorwel o ran sgiliau, amcangyfrifir y bydd angen recriwtio a hyfforddi 187,000 o bobl rhwng 2010 a 2016 yn sectorau SEMTA - sef, awyrofod, moduron, biowyddoniaeth, deunyddiau cyfansawdd, trydanol, electroneg, cynnal a chadw, morol, mathemateg, metelau a chynnyrch metel wedi'i beiriannu, deunyddiau adnewyddadwy a gwyddoniaeth.

 Yr UKRC yw corff arweiniol y Llywodraeth ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol ym maes Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (GPaTh), ac mae siarter y CEO yn ymrwymiad ffurfiol i agenda UKRC i herio tangynrychiolaeth ymhlith merched ym maes GPaTh. Er bod merched i gyfrif am 50% o'r farchnad lafur, maent i gyfrif am lai na 20% o'r farchnad lafur ym maes gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg.

 Cred UKRC mai cydymdrechu o fewn y diwydiant SET yw'r unig ffordd o oresgyn rhwystrau'n gysylltiedig â rhyw a geir mewn amgylcheddau sydd yn draddodiadol wedi bod i ddynion yn bennaf, ac rydym am fod yn rhan o gonsensws newydd a fydd yn creu amgylchedd gwaith cynhwysol i ferched.

Yn draddodiadol dynion gwyn yn bennaf sydd yng ngweithlu'r diwydiannau gweithgynhyrchu y mae'r Llwybr hwn yn gweithredu ynddynt. Fodd bynnag, wrth inni wynebu gweithlu sy'n heneiddio a'r tebygolrwydd o brinder sgiliau, mae'n rhaid inni ddenu ymgeiswyr newydd o gronfa recriwtio sy'n llawer mwy amrywiol. Mae hyn yn golygu bod croeso i bob oedolyn a pherson ifanc sy'n ystyried peirianneg a gweithgynhyrchu fel gyrfa.

Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth, gan gynnwys cyflogwyr, allu dangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg na chudd wrth ddewis a chyflogi prentisiaid. Gellir dangos hyn drwy weithredu Cynllun Cydraddoldeb Sengl (CCS). Mae'r Ddyletswydd Cydraddoldeb newydd (sy'n rhan o'r Bil Cydraddoldeb Sengl) a gyflwynwyd i'r sector cyhoeddus yn ei gwneud hi'n ofynnol i holl gyrff y sector cyhoeddus gyflwyno CCS sy'n cyfuno eu cynlluniau hil, anabledd a rhyw, a dylai holl ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth gydnabod y cynllun hwnnw.

Mae gweithredu CCS yn arddangos ymrwymiad y sefydliad i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy nodi ffyrdd gwell a newydd o weithio er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn fwy effeithlon ac effeithiol wrth fodloni anghenion amrywiol staff a chwsmeriaid. Mae'n rhaid i bawb sy'n recriwtio prentisiaid, boed golegau, darparwyr hyfforddiant neu gyflogwyr, gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb  2010, a chymhwyso'r ddeddfwriaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, gan roi ystyriaeth lawn i'r canlynol:

  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 a'r Cod Ymarfer
  • Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 a'r Cod Ymarfer
  • Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 a'r Cod Ymarfer 
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003 
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003 
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006 
  • Deddf Cydraddoldeb 2010

 Mae'n rhaid i ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth a chyflogwyr fynd hefyd ati i fonitro gweithdrefnau cyfle cyfartal a amrywiaeth, a chymryd camau cadarnhaol lle bo angen i sicrhau mynediad a thriniaeth gyfartal i bawb. Mae'n rhaid ystyried prentisiaethau yn llwybr hanfodol i annog a hyrwyddo newid yng nghydraddoldeb ac amrywiaeth y diwydiant Peirianneg yn y tymor hir, felly mae'r amodau mynediad i'r Llwybr hwn yn eithriadol o hyblyg.

Dylid gwneud pob ymdrech i gynyddu amrywiaeth ein poblogaeth o brentisiaid.

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant/y Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

 

 


Document revisions

26 Tachwedd 2021