- Framework:
- Gweithgynhyrchu Peirianneg Uwch
- Lefel:
- 4
Bydd y fframwaith Gweithgynhyrchu Peirianneg Uwch yn sicrhau eich bod yn datblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth briodol sydd eu hangen yn y gweithle.
Mae'r fframwaith hwn wedi'i gynllunio i sicrhau bod gan y sectorau gweithgynhyrchu a pheirianneg dechnegwyr a pheirianwyr o'r safon uchaf sydd â sgiliau ymarferol a chymhwyster addysg uwch. Bydd hyn yn eich galluogi i symud ymlaen i gymwysterau Lefel 5/6, gan gynnwys y Radd-brentisiaeth newydd, a'ch galluogi i weithio tuag at statws 'Peiriannydd Corfforedig'.
Fel Prentis Uwch byddwch yn ymgymryd â galwedigaethau technegol lefel uwch mewn sectorau fel awyrofod, mecanyddol, trydanol/electroneg, modurol, cynnal a chadw, cynhyrchu gwynt, peirianneg forol, gofod a rheilffyrdd.
Mae'n rhaid i chi fod â diddordeb mewn gweithio mewn amgylchedd gweithgynhyrchu/peirianneg ar lefel technegydd.
Pathway options and levels
Gweithgynhyrchu Peirianneg Uwch - Lefel 4
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Uwch Dechnegydd Peirianneg Drydanol/Electroneg, Uwch Dechnegydd Trydanol/Electroneg, Peirianneg Meddalwedd, Uwch Dechnegydd, Uwch Dechnegydd Peirianneg Systemau, Uwch Dechnegydd Gweithrediadau Systemau, Uwch Dechnegydd Datblygu Systemau Awyrennau, Uwch Dechnegydd Gweithgynhyrchu, Uwch Dechnegydd Ansawdd, Uwch Dechnegydd Dylunio.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swyddi Uwch Dechnegydd Gweithgynhyrchu, Uwch Dechnegydd Rheolaethau (Profion Mecanyddol), Uwch Dechnegydd Cynhyrchu, Uwch Dechnegydd Ansawdd, Uwch Dechnegydd Profion Amgylcheddol (Amddiffyn).
Llwybr 3: Addas ar gyfer swyddi Uwch Dechnegydd Cynhyrchu Electroneg, Uwch Dechnegydd Peirianneg Drydanol/Electroneg (Systemau Cyfrifiadurol Awyrofod),Uwch Dechnegydd Trydanol/Electroneg (Ynni Gwynt), Uwch Dechnegydd Datblygu Electroneg, Uwch Dechnegydd Meddalwedd / Caledwedd Peirianneg Electronig.
Llwybr 4: Addas ar gyfer swyddi Uwch Dechnegydd Cynhyrchu, Uwch Dechnegydd Modurol – Dylunio, Uwch Dechnegydd Modurol – Datblygu, Uwch Dechnegydd Gweithgynhyrchu, Uwch Dechnegydd Chwaraeon Moduro (Mecanyddol), Uwch Dechnegydd Chwaraeon Moduro (Trydanol/Electroneg).
Llwybr 5: Addas ar gyfer swyddi Uwch Dechnegydd Cynnal a Chadw Systemau, Uwch Dechnegydd Cynnal a Chadw Peiriannau Gweithgynhyrchu, Uwch Dechnegydd Cynnal a Chadw Gwasanaethau Peirianneg, Technegydd Cynnal a Chadw Niwclear, Arbenigwr Cynnal a Chadw Cyfarpar Biofeddygol.
Llwybr 6: Addas ar gyfer swyddi Uwch Dechnegydd Trydanol/Electroneg, Uwch Dechnegydd Mecanyddol, Uwch Dechnegydd Gwarant,Uwch Dechnegydd Llafnau, Uwch Dechnegydd Rheoli ac Offeryniaeth, Arbenigwr Gwerthiant Technegol (Cydrannau Tyrbinau Gwynt), Uwch Dechnegydd Proses, Uwch Dechnegydd Diogelwch a Pherfformiad, Uwch Dechnegydd Gweithgynhyrchu,
Llwybr 7: Addas ar gyfer swyddi Uwch Dechnegydd Mecanyddol Systemau Morol, Uwch Dechnegydd Dylunio Morol, Uwch Dechnegydd Trydanol/Electronig Morol, Uwch Dechnegydd Ansawdd Morol, Uwch Dechnegydd Cynhyrchu Morol.
Llwybr 8: Addas ar gyfer swyddi Peiriannydd Meddalwedd, Peiriannydd Caledwedd, Peiriannydd Profion, Technegydd Gweithgynhyrchu, Peiriannydd Systemau Technegwyr Profion.
Llwybr 9: Addas ar gyfer swyddi Uwch Swyddog Technegol, Dylunydd Trac, Rheolwr Cynnal a Chadw – Systemau Trydaneiddio a Pheiriannau, Rheolwr Gosod - Trydaneiddio a Systemau Peiriannau, Rheolwr Gosod (Peirianneg Signalau), Rheolwr Cynnal a Chadw(Peirianneg Signalau), Peiriannydd Prosiect (Peirianneg Signalau),Dylunydd Signalau, Technegydd Profi a Chomisiynu Signalau, Rheolwr Adnewyddu Trac, Rheolwr Cynnal a Chadw (Trac), Peiriannydd Prosiect (Peirianneg Trac).
Further information
Duration
Tua 42 mis
Progression routes
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
- camu ymlaen i'r Radd-brentisiaeth newydd mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu ar Lefel 6
- camu ymlaen i'r fframwaith Prentisiaeth Uwch ar gyfer Gweithgynhyrchu Peirianneg Uwch ar Lefel 6
- cyflogaeth.
Bydd y Brentisiaeth hon yn baratoad rhagorol i chi tuag at gofrestru proffesiynol fel Technegydd Peirianneg a chamu ymlaen i gofrestriad Peiriannydd Corfforedig drwy'r Radd-brentisiaeth neu fframweithiau Lefel 6. Gallai ddarparu cyfle i gamu ymlaen i amrywiaeth o raddau anrhydedd lle bo hynny'n briodol hefyd.
Cymwysterau
Diploma NVQ/Diploma Estynedig Lefel 4 yn y llwybr o'ch dewis
What are the entry requirements for this pathway?
All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);
Lefel 4
Mae angen i ymgeiswyr ar gyfer y fframwaith hwn fod dros 18 oed. Mae mynediad i'r fframwaith hwn yn hyblyg fel bod ymgeiswyr yn gallu meddu ar amrywiaeth o gymwysterau megis Safon Uwch, Tystysgrif/Diploma mewn Peirianneg, neu Brentisiaeth mewn Peirianneg.
Gall ymgeiswyr nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol ddangos, o bosibl drwy bortffolio, fod ganddynt y potensial i gwblhau'r brentisiaeth hon os ydynt wedi gweithio yn y sector ar Lefel 3 o’r blaen neu os ydynt yn gweithio yn y sector ar hyn o bryd ac yn chwilio am gyfleoedd datblygiad personol a chyfle i gamu ymlaen mewn gyrfa. Mae'n bosibl y bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau Bagloriaeth Cymru wedi cwblhau unedau neu gyrsiau byr a fydd yn darparu gwybodaeth sylfaenol tuag at y Brentisiaeth.
View full pathway