- Framework:
- Rheoli Adnoddau Cynaliadwy
- Lefel:
- 2/3/4
Mae’r Brentisiaeth mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy yn cynnig cyfle allweddol i fynd i’r afael â’r diffyg sgiliau presennol ac yn y dyfodol a nodir gan y diwydiant. Bydd yn denu gweithwyr newydd drwy ddarparu llwybr strwythuredig i gymhwysedd swydd a chyfle i gamu ymlaen mewn gyrfa a gellir ei ddefnyddio hefyd i uwchsgilio staff presennol.
Mae unigolion sy’n bodloni’r ystyriaethau canlynol yn debygol o fod yn addas ar gyfer y Brentisiaeth hon:
- Gall y diwydiant rheoli gwastraff fod yn beryglus iawn felly mae diogelwch Prentisiaid, eu cydweithwyr a’r cyhoedd yn bwysig dros ben. Mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o ddiogelwch a bod ag agwedd gyfrifol iawn at waith, gan weithio yn unol â gweithdrefnau iechyd a diogelwch y cwmni bob amser.
- Byddwch yn barod i wisgo Cyfarpar Diogelu Personol a ddarperir pan fydd angen.
- Gall y rhain fod yn swyddi corfforol iawn sy’n cynnwys plygu, codi a thrafod â llaw felly mae lefel ffitrwydd sylfaenol yn bwysig.
- Dylech fod yn barod i weithio mewn pob math o dywydd.
- Bydd rhai swyddi yn cynnwys gwaith shifft i sicrhau bod peiriannau a chyfarpar ar waith 24 awr y dydd.
- Bydd gennych drwydded yrru (dymunol)
- Byddwch yn edrych yn weddus ac yn gwrtais a hynaws.
- Gallu gweithio fel rhan o dîm.
- Ymddangosiad gweddus, hunanddisgyblaeth ac yn cadw amser yn dda.
- Sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol a gallu darparu lefel dda o ofal cwsmeriaid.
- Gallu cyflawni tasgau a dyletswyddau amrywiol dan gyfarwyddyd rheolwyr.
- Gallu gweithredu peiriannau a chyfarpar rydych chi wedi’ch hyfforddi i’w defnyddio.
- Safon dda o sgiliau rhifedd a llythrennedd.
- Sgiliau bysellfwrdd cyfrifiadurol sylfaenol.
- Y gallu i roi cyfarwyddiadau a gwneud ceisiadau yn gywir ac yn effeithlon.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Rheoli Adnoddau Cynaliadwy – Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Gyrrwr Sbwriel, Gweithredydd Casglu Sbwriel, Gweithredydd Sbwriel, Gweithredydd Gwerthiannau Sbwriel, Glanhawr Stryd Llaw/Mecanyddol, Gyrrwr Casglu Eitemau Ailgylchu, Gyrrwr Casglu Gwastraff, Llwythydd Casglu Sbwriel, Gweithredydd Pont Bwyso, Gweithredydd Gorsaf Drosglwyddo, Gweithredydd Compost, Gweithredydd Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau (Dewisydd/ Didolydd)/ Gweithredydd Ailgylchu (Derbyn a Gwahanu/Prosesu), Gweithredydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, Gweithredydd Ailgylchu (Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff), Llwythydd Casglu Eitemau Ailgylchu ac Arweinydd Tîm.
Rheoli Adnoddau Cynaliadwy – Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Goruchwylydd Sbwriel, Goruchwylydd Casglu Ailgylchu/Sbwriel (Arweinydd Tîm), Goruchwylydd Gorsaf Drosglwyddo, Goruchwylydd Triniaeth (Ffisegol/ Cemegol/ Thermol), Goruchwylydd Triniaeth Fiolegol (wrth Hylosgi Llestri/ Rhesi Agored/ Treulio Anaerobig), Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau (MRF)/ Goruchwylydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, Goruchwylydd Tirlenwi a Swyddog Cynaliadwyedd.
Gweithrediadau a Rheoli Adnoddau Cynaliadwy – Lefel 4
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Rheolwr Fflyd, Rheolwr Sbwriel, Rheolwr Casglu Sbwriel, Rheolwr Gorsaf Drosglwyddo, Rheolwr Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, Rheolwr Tirlenwi a Rheolwr Cynaliadwyedd.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 22 mis
Lefel 3: 30 mis
Lefel 4: 36 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Prentisiaeth Lefel 3
- Cyflogaeth
- Cyfleoedd i gamu ymlaen
- Hyfforddiant parhaus yn y swydd ac o’r swydd
Lefel 3 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Cyflogaeth
- Hyfforddiant parhaus
- Addysgu Uwch/Bellach
- Prentisiaeth Lefel Uwch
- Cyfleoedd Rheoli.
Lefel 4 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Hyfforddiant parhaus yn y swydd ac o’r swydd
- Rolau rheoli lefel uwch
- Addysg Bellach/Uwch
Cymwysterau
Lefel 2: Diploma/Tystysgrif
Lefel 3: Diploma/Tystysgrif NVQ
Lefel 4: Diploma mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Lefel 3
Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Lefel 4
Lefel 4: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Gweld llwybr llawn