Mae Energy and Utility Skills wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Ynni a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 25/09/2014 ACW Fframwaith Rhif. FR03105
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
60 credyd yw’r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Rheoli Adnoddau Cynaliadwy.
88 credyd yw’r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Rheoli Adnoddau Cynaliadwy.
111 credyd yw’r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Gweithrediadau a Rheoli Adnoddau Cynaliadwy.
Gofynion mynediad
Mae’r Brentisiaeth mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy yn agored i unigolion o unrhyw oedran ac nid yw’n gosod unrhyw gyfyngiadau mynediad. Mae’r cyfrifoldeb dros ddewis a recriwtio prentisiaid yn nwylo’r cyflogwr, a bydd gan gyflogwyr ofynion clir.
Mae unigolion sydd â’r nodweddion a’r priodoleddau canlynol yn debygol o fod yn addas ar gyfer y Brentisiaeth hon:
- Gall y diwydiant rheoli gwastraff fod yn beryglus iawn, felly mae diogelwch prentisiaid, eu cydweithwyr a’r cyhoedd o’r pwys mwyaf yn y swydd hon. Rhaid i brentisiaid fod yn ymwybodol iawn o ddiogelwch a dylent feddu ar ymagwedd gyfrifol iawn tuag at waith, gan weithio yn unol â gweithdrefnau iechyd a diogelwch cwmni ar bob achlysur. Rhaid i brentisiaid fod yn barod i wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) pan fo angen.
- Mae’n bosibl y bydd y rhain yn swyddi sy’n heriol yn gorfforol ac yn cynnwys plygu, codi a chario, felly mae lefel sylfaenol o ffitrwydd yn bwysig er mwyn gallu gwneud y swydd yn effeithlon. Bydd nifer o’r swyddi hyn yn golygu gweithio yn yr awyr agored, felly dylai prentisiaid fod yn barod i weithio ym mhob tywydd.
- Bydd angen gweithio sifftiau yn rhai o’r rolau swydd hyn i sicrhau bod offer a chyfarpar yn gweithio 24 awr y diwrnod. Felly, mae angen i brentisiaid allu addasu a bod yn hyblyg.
- Mae trwydded yrru yn ddymunol.
- Bydd y rhan fwyaf o’r rolau swydd hyn yn golygu ymdrin â’r cyhoedd o ddydd i ddydd felly dylai Prentisiaid edrych yn drwsiadus ac ymddwyn yn gwrtais.
- Bydd angen i’r Prentisiaid feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar a dylent allu darparu lefel dda o ofal i gwsmeriaid.
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm.
- Y gallu i gwblhau amrywiaeth o dasgau a dyletswyddau o dan gyfarwyddyd y rheolwyr. Y gallu i weithredu peirannau a chyfarpar ar ôl derbyn hyfforddiant arnynt. Natur lân a thaclus gyda hunanddisgyblaeth a sgiliau cadw amser da.
- Bydd angen sgiliau rhifedd a llythrennedd safonol ar Brentisiaid a fydd yn eu galluogi i gwblhau’r cymwysterau a geir o fewn y Brentisiaeth hon yn llwyddiannus.
- Sgiliau bysellfwrdd cyfrifiadur sylfaenol.
- Y gallu i weithredu ar gyfarwyddiadau a cheisiadau gyda chywirdeb ac mewn modd effeithiol.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy
Lefel 2: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Lefel 2 Diploma ar gyfer Gweithredwyr Rheoli Gwastraff Cynaliadwy (Gweithredwyr Safleoedd Gwastraff) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
WAMITAB | C00/0237/2 501/1478/5 | 37 | 370 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Diploma ar gyfer Gweithgarwch Ailgylchu Cynaliadwy | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
WAMITAB | C00/0291/2 501/2182/0 | 37 | 370 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif ar gyfer Gweithredwyr Rheoli Gwastraff Cynaliadwy | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
WAMITAB | C00/0237/6 501/1855/9 | 33 | 330 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 2 Tystysgrif mewn Egwyddorion Rheoli Adnoddau Cynaliadwy | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
WAMITAB | C00/0237/0 501/1357/4 | 19 | 190 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy | 144 | 161 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
33 credyd/144 awr – cymhwyster cymhwysedd
19 credyd/190 awr - cymhwyster gwybodaeth
Rhaid cwblhau 507 o oriau dysgu.
Byddai’r diwydiant yn disgwyl i Brentisiaeth Lefel 2 gymryd 22 mis i’w chwblhau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy
Lefel 3: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod
Lefel 3 Diploma ar gyfer Gweithgarwch Ailgylchu Cynaliadwy (Goruchwylio) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
WAMITAB | C00/0291/3 501/2185/6 | 46 | 460 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Diploma ar gyfer Goruchwylwyr Gwastraff | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
WAMITAB | C00/0237/7 501/1853/5 | 59 | 590 | Gwybodaeth | Saesneg yn Unig |
Lefel 3 Tystysgrif mewn Egwyddorion Rheoli Adnoddau Cynaliadwy | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
City & Guilds | C00/0301/1 501/2343/9 | 32 | 320 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
WAMITAB | C00/0236/9 501/1421/9 | 32 | 320 | Cyfun | Saesneg yn Unig |
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy | 272 | 211 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
46 credyd/248 awr – cymhwyster cymhwysedd
32 credyd/295 awr – cymhwyster gwybodaeth
Rhaid cwblhau 687 o oriau dysgu.
Byddai’r diwydiant yn disgwyl i’r Brentisiaeth gymryd 30 mis i’w chwblhau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 4: Gweithrediadau a Rheoli Adnoddau Cynaliadwy
Lefel 4: Gweithrediadau a Rheoli Adnoddau Cynaliadwy Cymwysterau
Rhaid i ddysgwyr gyflawni un o’r cymwysterau cyfunol isod.
Lefel 4 Diploma mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
WAMITAB | C00/0533/8 600/8139/9 | 107 | 1070 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Lefel 4 Diploma mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau: Gweithrediadau ar Raddfa Fach | |||||
---|---|---|---|---|---|
Corff Dyfarnu | Rhif y Cymhwyster | Gwerth Credyd | Cyfanswm Amser y Cymhwyster | Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun | Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster |
WAMITAB | C00/0533/7 600/8103/X | 99 | 990 | Cymhwysedd | Saesneg yn Unig |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 4: Gweithrediadau a Rheoli Adnoddau Cynaliadwy | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Saesneg-Cymraeg yw ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 4: Gweithrediadau a Rheoli Adnoddau Cynaliadwy | 274 | 213 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
99 credyd/561 awr – cymhwyster gwybodaeth a chymhwysedd cyfunol
Rhaid cwblhau 710 o oriau dysgu
Byddai’r Diwydiant yn disgwyl i’r Brentisiaeth Uwch gymryd 36 mis i’w chwblhau.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/45 GLH ar gyfer Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Amh
Rolau swydd
Lefel 2
Teitl y Swydd | Rôl y Swydd |
Gyrrwr Cerbyd Gwastraff i’w Ailddefnyddio | Gyrru’r cerbyd casglu gwastraff a llwytho a dadlwytho deunyddiau. |
Gweithiwr Casglu Gwastraff i’w Ailddefnyddio | Casglu, llwytho a dadlwytho deunyddiau gwastraff. Mae gwaith codi a chario fel arfer yn rhan sylweddol o’r gwaith. Mae’n golygu cyswllt â’r cyhoedd a darparu cyngor ar weithgareddau ailddefnyddio ac ailgylchu. Didoli nwyddau a dewis eitemau i’w hailddefnyddio. |
Gweithiwr Gwastraff i’w Ailddefnydio | Mae codi a chario fel arfer yn rhan sylweddol o’r gwaith. Mae’n golygu cyswllt â’r cyhoedd a darparu cyngor ar weithgareddau ailddefnyddio ac ailgylchu. Didoli nwyddau a dewis eitemau i’w hailddefnyddio. |
Gweithiwr Gwerthu Gwastraff i’w Ailddefnyddio | Mae’n golygu cyswllt â’r cyhoedd a darparu cyngor ar weithgareddau ailddefnyddio ac ailgylchu. Didoli nwyddau a dewis eitemau i’w hailwerthu a’u hailddefnyddio. |
Glanhawr Strydoedd â Llaw / Mecanyddol | Cael gwared ar wastraff a malurion o ardaloedd i gerddwyr, lleiniau glas, parciau, ffyrdd a phalmentydd. Gellir gwneud y gwaith â llaw neu drwy ddefnyddio cyfarpar mecanyddol. |
Gyrrwr Casglu Deunyddiau Ailgylchu | Gyrru cerbyd casglu deunyddiau ailgylchu a llwytho a dadlwytho deunydd.
|
Gyrrwr Casglu Gwastraff | Gyrru cerbyd casglu gwastraff a llwytho a dadlwytho deunydd. |
Llwythwr Casglu Gwastraff | Llwytho a dadlwytho gwastraff fel rhan o dîm casglu o ddrws i ddrws. Mae gwaith codi a chario fel arfer yn rhan sylweddol o’r gwaith. Mae’n golygu cyswllt â’r cyhoedd a darparu cyngor ar weithgareddau ailgylchu. |
Gweithiwr Pont Bwyso | Gweithredu’r bont bwyso a dyletswyddau gweinyddol cysylltiedig.
|
Gweithiwr yr Orsaf Drosglwyddo | Mae’n cynnwys codi a chario gwastraff â llaw ac yn fecanyddol a’i drosglwyddo i gynwysyddion i’w brosesu. Gall gynnwys elfen o ddidoli ac ailbrosesu. |
Gweithiwr Compost | Mae’n cynnwys codi a chario gwastraff gwyrdd â llaw ac yn fecanyddol a’i drosglwyddo i gynwysyddion i’w brosesu. Gall gynnwys elfen o ddidoli ac ailbrosesu. |
Gweithiwr Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau (Casglwr/Dosbarthwr)/ Gweithiwr Ailgylchu (Derbyn a Gwahanu/Prosesu) | Mae hwn yn waith â llaw fel arfer ac mae’n cynnwys tynnu deunydd a ddewisir allan o wastraff cymysg a deunydd i’w ailgylchu. |
Gweithiwr Canolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ | Yn cynnal a chadw safleoedd canolfannau ailgylchu gwastraff tŷ (amwynder dinesig) mewn cyflwr trefnus a thaclus. Bydd yn cynorthwyo â llaw a/neu â chyfarpar mecanyddol yn y gwaith o lwytho a dadlwytho deunydd a chynwysyddion. Mae’n cynnwys cyfarwyddo’r cyhoedd ynghylch yr arferion gorau ar gyfer didoli gwastraff a deunydd i’w ailgylchu. |
Gweithiwr Ailgylchu (Gwastraff Trydanol a Chyfarpar Electronig) | Casglu, didoli a gwahanu gwastraff trydanol a chyfarpar electronig. Yn gyfrifol am weithrediadau rheolaidd a allai gynnwys nifer o dasgau h.y. didoli, datgymalu, glanhau, adfer cydrannau. |
Llwythwr Casglu Deunydd i’w Ailgylchu | Llwytho a dadlwytho deunyddiau i’w hailgylchu fel rhan o dîm casglu o ddrws i ddrws. Mae gwaith codi a chario fel arfer yn rhan sylweddol o’r gwaith. Mae’n cynnwys dod i gyswllt â’r cyhoedd a darparu cyngor ynghylch gweithgareddau ailgylchu. |
Arweinydd Tîm | Rheoli gweithgareddau dyddiol tîm bach. |
Lefel 3
Teitl y Swydd | Rôl y Swydd |
Goruchwyliwr Gwastraff i’w Ailddefnyddio | Goruchwylio gweithrediadau gwastraff gan gynnwys casgliadau, storio, didoli a gweithgareddau gwerthu.
|
Goruchwyliwr Casglu Deunyddiau i’w Hailgylchu/Gwastraff i’w Ailddefnyddio (Arweinydd Tîm) | Yn gyfrifol am oruchwylio gwaith un tîm neu fwy ar weithrediadau casglu deunyddiau i’w hailgylchu/gwastraff i’w ailddefnyddio. Mae cymell staff a chynnal safonau uchel yn allweddol i’r rôl hon.
|
Goruchwyliwr Gorsaf Drosglwyddo
| Yn gyfrifol am oruchwylio gweithrediadau dyddiol mewn gorsaf drosglwyddo gan gynnwys cynnal cydymffurfiaeth â safonau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol. Mae goruchwylio timau gwaith yn ganolog i’r rôl.
|
Goruchwyliwr Triniaeth (Ffisegol/ Cemegol/Thermol) | Yn gyfrifol am oruchwylio gwaith un tîm neu fwy ar weithrediadau gwaith trin. Mae cymell staff a chynnal safonau uchel yn allweddol i’r rôl hon.
|
Goruchwyliwr Triniaeth Fiolegol (Compostio Mewn Llestr/Rhes Gompost Agored/ Treulio Anaerobig)
| Yn gyfrifol am oruchwylio gwaith un tîm neu fwy ar weithrediadau triniaeth fiolegol. Mae cymell staff a chynnal safonau uchel yn allweddol i’r rôl hon. Mae’r rôl hon yn cynnwys amrywiaeth o weithrediadau cymorth technegol. |
Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau/ Canolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ | Yn gyfrifol am oruchwylio gwaith un tîm neu fwy ar safle Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau/Canolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ. Mae cymell staff a chynnal safonau uchel yn allweddol i’r rôl hon. Un o brif nodweddion y rôl hon yw sicrhau gweithrediad effeithlon ac effeithiol y gwaith.
|
Goruchwyliwr Tirlenwi | Yn gyfrifol am oruchwylio gweithrediadau dyddiol safle tirlenwi. Mae cymell staff a chynnal safonau uchel yn allweddol i’r rôl hon. Nodwedd allweddol o’r swydd hon yw rhyngweithio â chwsmeriaid, rheoleiddwyr, preswylwyr lleol a phartïon eraill â diddordeb.
|
Swyddog Cynaliadwyedd | Mae’r rôl hon yn cynnwys ystyried pob agwedd ar reoli amgylcheddol mewn sefydliad, gan gynnwys systemau rheoli, caffael cynaliadwy, edrych ar leihau gwastraff a’r ffyrdd gorau o drin gwastraff a deunyddiau i’w hailgylchu gan ddilyn hierarchaeth gwastraff ac egwyddorion eraill.
|
Lefel 4
Teitl y Swydd | Rôl y Swydd |
Rheolwr Fflyd
| Rheoli fflyd o gerbydau casglu. Yn gyfrifol am weithgareddau caffael fel contractau gwasanaethau cynnal a chadw, rheoli asedau, optimeiddio prosesau, cyllid ac agweddau ar arweinyddiaeth.
|
Rheolwr Gwastraff | Rheoli gweithrediadau gwastraff gan gynnwys casgliadau, storio, didoli a gweithgareddau gwerthu. Yn gyfrifol am weithgareddau caffael fel contractau gwasanaethau cynnal a chadw, deunyddiau traul, cyfarpar a gwastraff i’w ailgylchu, rheoli asedau, optimeiddio prosesau, cyllid ac agweddau ar arweinyddiaeth.
|
Rheolwr Casglu Gwastraff | Rheoli gweithrediadau casglu gwastraff – yn gyfrifol am weithgareddau caffael h.y. contractau gwasanaethau cynnal a chadw, cyfarpar a gwastraff i’w ailgylchu, optimeiddio prosesau, cyllid ac agweddau ar arweinyddiaeth. Mae rheoli a chymell staff a chynnal safonau uchel yn allweddol.
|
Rheolwr Gorsaf Drosglwyddo | Rheoli holl weithrediadau gorsaf drosglwyddo gan gynnwys cynnal cydymffurfiaeth â safonau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol. Yn gyfrifol am weithgareddau caffael h.y. contractau gwasanaethau cynnal a chadw, deunyddiau traul, cyfarpar, rheoli asedau, optimeiddio prosesau.
|
Rheolwr Canolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ | Rheoli holl weithrediadau safle Canolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ. Yn gyfrifol am weithgareddau caffael fel contractau gwasanaethau cynnal a chadw, deunyddiau traul, cyfarpar a gwastraff i’w ailgylchu, rheoli asedau, optimeiddio prosesau, cyllid ac agweddau ar arweinyddiaeth.
|
Rheolwr Tirlenwi | Rheoli holl weithrediadau safle tirlenwi. Yn gyfrifol am weithgareddau caffael fel contractau gwasanaethau cynnal a chadw, optimeiddio prosesau ac agweddau ar arweinyddiaeth. Nodwedd allweddol o’r swydd hon yw rhyngweithio â chwsmeriaid, rheoleiddwyr, preswylwyr lleol a phartïon eraill â diddordeb.
|
Rheolwr Cynaliadwyedd | Rheoli pob agwedd ar reoli amgylcheddol mewn sefydliad, gan gynnwys systemau rheoli, caffael cynaliadwy, edrych ar leihau gwastraff a’r ffyrdd gorau o drin gwastraff a deunyddiau i’w hailgylchu gan ddilyn hierarchiaeth gwastraff ac egwyddorion eraill.
|
Dilyniant
Lefel 2: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy
Llwybrau dilyniant i mewn i’r llwybr:
Gall ymgeiswyr ddod o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- Gwaith neu brofiad gwaith
- Hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio yn dangos yr hyn y maent wedi’i wneud
- Cymhwyster/cymwysterau academaidd fel Bagloriaeth Cymru
- Cyflawni Sgiliau Hanfodol Cymru
- Cwblhau Prentisiaeth Ifanc yn llwyddiannus
Llwybrau dilyniant o’r llwybr:
Ar ôl cwblhau’r Brentisiaeth Sylfaen, o dan amgylchiadau arferol, gall prentisiaid barhau i weithio fel gweithwyr cymwys yn eu rôl swydd bresennol.
Mae cwblhau Prentisiaeth Lefel 2 yn cefnogi dilyniant i Brentisiaeth Lefel 3 mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy. Gall prentisiaid graddedig hefyd ddilyn llwybr dilyniant llorweddol o fewn y diwydiant i gwblhau cymwysterau ar yr un lefel neu gwblhau cydrannau’r Brentisiaeth fel unedau cymhwysedd Lefel 3 sy’n berthnasol i rôl y swydd.
Lefel 3: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy
Llwybrau dilyniant i mewn i’r llwybr:
Gall ymgeiswyr ddod o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- Prentisiaeth Sylfaen mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy
- Gwaith neu brofiad gwaith
- Hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio yn dangos yr hyn y maent wedi’i wneud
- Cymhwyster/cymwysterau academaidd fel Bagloriaeth Cymru
- Cyflawni Sgiliau Hanfodol Cymru
- Cwblhau Prentisiaeth Ifanc yn llwyddiannus
Llwybrau dilyniant o’r llwybr:
Ar ôl cwblhau’r Brentisiaeth ac o dan amgylchiadau arferol, gall prentisiaid graddedig barhau i weithio fel gweithiwr cymwys yn eu rôl swydd bresennol.
Bydd y dilyniant yn dibynnu ar berfformiad a chymhelliant yr unigolyn a’r swyddi gwag / cyfleoedd sydd ar gael o fewn y cwmni. Mae’n bosibl i oruchwylwyr symud ar draws i feysydd eraill yn y diwydiant neu ddod yn rheolwyr y dyfodol. Ar gyfer yr unigolion hyn, bydd cyfleoedd i gyflawni cymwysterau eraill, a allai gynnwys cymhwyster lefel 4 ar sail cymhwysedd.
Gallai prentisiaid graddedig symud ymlaen i gwblhau’r cymwysterau canlynol:
- Tystysgrif y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) mewn Is-reoli gyda Gwastraff
- Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Rheoli Gwastraff
- Gradd Sylfaen (FdSc) mewn Rheoli Gwastraff Cynaliadwy a’r Amgylchedd
- Diploma Lefel 5 mewn Astudiaethau Proffesiynol (Rheoli Adnoddau a Gwastraff)
Lefel 4: Gweithrediadau a Rheoli Adnoddau Cynaliadwy
Llwybrau dilyniant i mewn i’r diwydiant:
Gall ymgeiswyr ddod o amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys:
- Cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy yn llwyddiannus
- Cymwysterau cymhwysedd neu wybodaeth Lefel 3
- Gwaith neu brofiad gwaith perthnasol
- Cymwysterau academaidd fel TGAU neu Safon Uwch
- Ymgeiswyr sydd wedi’u cyflogi yn y diwydiant ar hyn o bryd ond sy’n ceisio newid gyrfa neu uwchsgilio.
Llwybrau dilyniant o’r llwybr hwn:
Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Uwch, bydd prentisiaid yn parhau i weithio fel rheolwyr cymwys yn eu rôl swydd bresennol.
Mae cwblhau’r Brentisiaeth Uwch yn cefnogi dilyniant i rolau swydd lefel uwch fel Rheolwr Gweithrediadau Ardal / Rhanbarth, Rheolwr Busnes, neu Reolwr Comisiynu / Dadgomisynu Cyfleusterau.
Mae’n bosibl i reolwyr symud yn llorweddol i feysydd eraill yn y diwydiant neu i gyflawni cymwysterau pellach a allai gynnwys un o’r cymwysterau canlynol sy’n cael eu cydnabod gan y Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff.
- BSc Gwyddor yr Amgylchedd (Gwastraff)
- BSc Rheoli Gwastraff
- FdSc Rheoli Gwastraff
- HNC Rheoli Gwastraff
- Diploma mewn Astudiaethau Proffesiynol (Rheoli Gwastraff ac Adnoddau)
- Tystysgrif mewn Ailgylchu ar gyfer Cynaliadwyedd
- Tystysgrif mewn Gwastraff y Diwydiant Bwyd ac Atebion o ran Adnoddau
- Tystysgrif mewn Optimeiddio Gwastraff ac Adnoddau mewn Prosesu Bwyd
- Tystysgrif mewn Rheoli Gwastraff
- MSc Rheoli Gwastraff ac Adnoddau
- MSc Rheoli Gwastraff Cynaliadwy
- MSc Technolegau Gwastraff a Glân
- PGCert mewn Ynni a Thanwydd o Wastraff
I gael manylion llawn y cymwysterau a gefnogir neu a achredir gan y Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff, ewch i
http://www.ciwm.co.uk/CIWM/ProfessionalDevelopment/Qualifications/Qualif ications.aspx
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared ar ffactorau sy'n atal mynediad a chynnydd. Dylai Llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a'r rhai heb y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared ar wahaniaethu mewn cyflogaeth.
RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr o ran mynediad i'r diwydiant ar sail y naw nodwedd warchodedig hynny.
Heb gynrychiolaeth ddigonol:
Mae anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn y diwydiant rheoli gwastraff gyda menywod yn cyfrif am ddim ond 19% o’r gweithlu, o gymharu â chyfartaledd y DU, sef 43%. Yn ogystal, dim ond 4% o weithlu’r diwydiant rheoli gwastraff sy’n Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, o gymharu â 8% o weithlu’r DU.
Rhwystrau i fynediad a dilyniant:
Canfyddiadau cymdeithasol di-sail ynghylch addasrwydd rolau swydd o fewn y diwydiant i fenywod yw’r unig rwystr i fynediad a dilyniant ar gyfer y grwpiau hyn heb gynrychiolaeth ddigonol.
Atebion mewn perthynas â mynediad a dilyniant:
Caiff prentisiaethau eu hystyried yn llwybr hanfodol i annog a hwyluso unigolion mwy amrywiol i mewn i’r diwydiant. Nid yw’r Brentisiaeth hon yn gwahaniaethu. Rhaid i gyflogwyr/darparwyr arddangos nad oes arferion gwahaniaethol agored neu gudd wrth ddewis a chyflogi.
Rhaid i’r holl weithgareddau hyrwyddo, dethol a hyfforddi gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol, yn benodol Deddf Cydraddoldeb 2010. Bydd polisïau a gweithdrefnau cyfle cyfartal yn cyfrannu at gydran Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogeion y Brentisiaeth hon.
Mae cyflogwyr mwy yn y diwydiant yn chwarae rhan weithredol mewn mentrau i gynyddu’r gynrychiolaeth o fenywod ac unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y diwydiant.
Bydd Energy & Utility Skills yn cefnogi’r mentrau hyn drwy hyrwyddo’n benodol i’r grwpiau hyn. Bydd niferoedd yn cael eu monitro drwy ddadansoddi cofnodion ystadegol o’r data cofrestru mewnol. Lle bo cwestiynau yn codi ynghylch polisi ac ymarfer, bydd Energy & Utility Skills yn gweithio i nodi’r achosion a gweithredu camau cadarnhaol lle y bo’n briodol.
Bydd EU Skills yn parhau i gynnal stondinau mewn ffeiriau gyrfaoedd lle gallwn hyrwyddo’r Brentisiaeth i bawb. Yn ogystal, rydym wedi datblygu nifer o astudiaethau achos o fenywod llwyddiannus sy’n gweithio yn y sector, ac rydym yn eu defnyddio i annog ymgeiswyr newydd sy’n fenywod.
Gellir gweld yr astudiaethau achos hyn yma: http://www.euskills.co.uk/careers/
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn dilyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y Darparwr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru/Medr ar Brentisiaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Gweithrediadau a Rheoli Adnoddau Cynaliadwy - Lefel 4
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth.
Rhaid i brentisiaid gwblhau naill ai cymhwyster B1 neu B2.
Rhaid i’r cymhwyster a ddewisir adlewyrchu rôl swydd y prentis a’r cyfleuster y mae’n gweithio ynddo. Mae’r cymwysterau yn ategu’r holl rolau swydd a ddisgrifir yn yr adran rôl swydd. Fodd bynnag, mae’r dewis priodol yn dibynnu ar faint y cyfleuster y mae’r prentis yn gweithio ynddo.
Mae cymhwyster B1 wedi’i gynllunio i ddysgwyr sy’n gweithio mewn cyfleusterau mwy sydd â rolau swydd sy’n fwy swyddogaethol arbenigol ac sy’n gysylltiedig â rheoli gweithrediadau.
Mae cymhwyster B2 wedi’i gynllunio i ddysgwyr sy’n gweithio mewn cyfleusterau ar raddfa lai ac a fydd ag amrywiaeth ehangach o gyfrifoldebau’n ymwneud â rheoli gweithrediadau a bydd angen ystod fwy hyblyg o wybodaeth a sgiliau arnynt i adlewyrchu’r rhain.
Er enghraifft, mewn cyfleuster mawr, byddai gan reolwr safle reolaeth gyllidebol fel arfer, ond byddai cydweithiwr yn rheoli gwariant a chaffael.