- Framework:
- Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
- Lefel:
- 2/3
Yn ystod y Brentisiaeth Sylfaen byddwch yn gweithio dan oruchwyliaeth agos yr athro dosbarth a bydd cynllunio gwersi a chyfarwyddyd yr athro o ddydd i ddydd yn pennu’r fframwaith ar gyfer gwaith pob unigolyn. Ar ôl cwblhau’r llwybr yn llwyddiannus bydd gennych y wybodaeth a’r sgiliau sy’n gymwys i’r rôl o gefnogi addysgu a dysgu mewn ysgolion, gan gynnwys y sgiliau sylfaenol i weithio fel gweithiwr effeithiol yn y sector.
Gydol Lefel 3, byddwch yn gweithio dan gyfarwyddyd athro sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am addysgu a dysgu yn yr ystafell ddosbarth ond sydd o bosib â chyfrifoldebau ychwanegol, fel adnoddau cwricwlwm, goruchwylio cyflenwi, gweithgareddau allgyrsiol a chefnogi disgyblion sydd ag anghenion ychwanegol.
Byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gynllunio, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau dysgu, a byddwch yn gweithio law yn llaw â’r athro i gefnogi gweithgareddau’r dosbarth cyfan, ynghyd â gweithio ar eich pen eich hun gydag unigolion neu grwpiau o ddisgyblion.
Dyma enghreifftiau o sgiliau a phriodweddau perthnasol fel canllaw wrth lywio’r broses recriwtio a dethol ar gyfer y brentisiaeth hon:
- Diddordeb mewn ac ymrwymiad i weithio gyda phlant a/neu bobl ifanc;
- Yn ddelfrydol rhywfaint o brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc;
- Gallu uniaethu’n dda â phlant, pobl ifanc ac oedolion;
- Cymhelliant i lwyddo yn y swydd;
- Parodrwydd i fyfyrio ar eu hymarfer eu hunain, dysgu a chymhwyso’r dysgu yn y gweithle;
- Gallu arddangos bod gennych y potensial i gwblhau’r cymwysterau sy’n rhan o’r brentisiaeth;
- Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm a chyfathrebu’n effeithiol gyda phobl amrywiol;
- Lefel briodol o rifedd a llythrennedd (Cymraeg neu Saesneg); ac
- Yn barod i gyflawni gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) ar gyfer addasrwydd i weithio gyda phlant a phobl ifanc.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion – Lefel 2
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Cynorthwyydd Addysgu, Cynorthwyydd Ystafell Ddosbarth a Chynorthwyydd Cymorth Dysgu.
Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion – Lefel 3
Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Cynorthwyydd Cymorth Addysgu/ystafell Ddosbarth/Dysgu, Cynorthwyydd Anghenion Arbennig, Cynorthwyydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynorthwyydd Cymorth Ymddygiad/cydlynydd, Cynorthwyydd Cymorth Lles/Bugeiliol, Cynorthwyydd Cymorth Dwyieithog (Cymraeg neu Saesneg), Cynorthwyydd Cyfnod Sylfaen, Hyfforddwr Dysgu, Arweinydd Tîm a Goruchwylydd Cyflenwi.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 2: 12 mis
Lefel 3: 18 mis
Llwybrau dilyniant
Lefel 2 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion ar gyfer y rhai sydd â’r potensial a’r cyfle i weithio ar y lefel hon;
- Cymhwyster Lefel 3 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion;
- Cymwysterau Lefel 2 a 3 mewn Gofal Plant, Dysgu a Datblygu, Gwaith chwarae neu waith Ieuenctid ar gyfer y rhai sydd am drosglwyddo i feysydd gwaith eraill gyda phlant a phobl ifanc, a;
- Diploma Lefel 3 ar gyfer y Gweithlu Plant a Phobl Ifanc gyda meysydd profiad priodol o’r gweithlu plant ehangach.
- Graddau sylfaen
Lefel 3 Mae’r llwybrau’n cynnwys:
Hyfforddiant a/neu asesiad ar gyfer statws Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (HLTA);
- Diploma Lefel 3 ar gyfer y Gweithlu Plant a Phobl Ifanc ar gyfer y rhai â phrofiad priodol;
- Cymwysterau Lefel 4 mewn maes perthnasol;
- Graddau Sylfaen; a
- Gall y rhai sy’n gallu bodloni gofynion mynediad Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HCA) fynd ymlaen i gyflawni statws athro cymwysedig.
Cymwysterau
Lefel 2: Tystysgrif mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Lefel 3: Diploma mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 2
Mae’n rhaid i brentisiaid fod yn awyddus i weithio yn y sector i gefnogi addysgu a dysgu mewn ysgolion. Dylent fedru rhoi sylw i fanylder a bod yn barod i weithio mewn amgylchedd tîm, tra hefyd yn barod i weithio o’u pen a’u pastwn eu hunain yn ôl y gofyn.
Does dim gofyniad penodol i unigolion gyflawni’r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 cyn mynd i’r afael â Phrentisiaeth Lefel 3. Fodd bynnag, os yw rhywun yn mynd yn syth i Lefel 3, bydd angen cael y sgiliau, y profiad a’r priodweddau personol priodol ar gyfer y lefel o waith ac astudio sy’n ofynnol.
Lefel 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Lefel 3
Mae’n rhaid i brentisiaid fod yn awyddus i weithio yn y sector i gefnogi addysgu a dysgu mewn ysgolion. Dylent fedru rhoi sylw i fanylder a bod yn barod i weithio mewn amgylchedd tîm, tra hefyd yn barod i weithio o’u pen a’u pastwn eu hunain yn ôl y gofyn.
Does dim gofyniad penodol i unigolion gyflawni’r Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 cyn mynd i’r afael â Phrentisiaeth Lefel 3. Fodd bynnag, os yw rhywun yn mynd yn syth i Lefel 3, bydd angen cael y sgiliau, y profiad a’r priodweddau personol priodol ar gyfer y lefel o waith ac astudio sy’n ofynnol.
Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol.
Gweld llwybr llawn