Skip to main content

Llwybr

Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion

Mae'r Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau (GGDaS) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Addysg a Gwasanaethau Gwybodaeth a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/09/2024 ACW Fframwaith Rhif. FR04210

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

48 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion.

62 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion.

Gofynion mynediad

Mae'n rhaid i brentisiaid fod yn awyddus i weithio yn y sector i gefnogi dysgu ac addysgu mewn ysgolion. Dylent roi sylw i fanylder a bod yn barod i weithio mewn awyrgylch tîm, gan fod yn barod ar yr un pryd i weithio ar eu cymhelliant eu hun lle bo angen, a bod â diddordeb mewn gweithio gyda phlant ac/neu bobl ifanc ac ymrwymo i hynny.

Nid oes unrhyw ofyniad penodol i unigolion ennill y Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 cyn cychwyn y Brentisiaeth Lefel 3. Fodd bynnag, mae angen i gyflogwyr a darparwyr dysgu eu bodloni eu hunain fod gan unigolion sy'n cychwyn yn syth ar lefel 3 y sgiliau, y profiad a'r rhinweddau personol priodol ar gyfer lefel y gwaith a'r astudio sydd ei hangen

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 2: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion

Lefel 2: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun isod.

Lefel 2 Tystysgrif mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
CACHE C00/1215/3 603/2476/4 32 320 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Pearson Edexcel C00/0355/2 501/1036/6 30 300 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg
City & Guilds C00/0359/4 501/1136/X 30 300 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 2: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 1 6
Llythrennedd Digidol 1 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 2: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion 189 209
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Tystysgrif Lefel 2 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion - 30 credyd

Mae'n rhaid cwblhau rhaglen gyfun o hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yn rhan o'r brentisiaeth, dros gyfnod cyfartalog o 12 mis/398 GLH.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion

Lefel 3: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:

Lefel 3 Diploma mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
CACHE C00/1215/7 603/2496/X 53 530 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
City & Guilds C00/0288/5 501/1394/X 44 440 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg
Edexcel C00/0355/3 501/1208/9 44 440 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 2 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion 244 211
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion - 44 Credyd

Mae'n rhaid cwblhau rhaglen gyfun o hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yn rhan o'r brentisiaeth, dros gyfnod cyfartalog o 18 mis/455 GLH.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Bydd y Brentisiaeth yn cynnwys gweithio gyda phlant/pobl ifanc ac/neu oedolion sy'n agored i niwed, felly bydd yn rhaid i ymgeiswyr dderbyn gwiriad gorfodol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB).

Dilyniant

Bydd ennill Prentisiaeth mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i unigolion gyflawni'r rôl werthfawr a phwysig hon mewn ysgolion. Mae cyfleoedd cyflogaeth yn bodoli o fewn ysgolion cynradd (gan gynnwys y cyfnod sylfaen), arbennig ac uwchradd yn sector y wladwriaeth a'r sector annibynnol. Bydd hefyd yn paratoi'r unigolyn am hyfforddiant a chymwysterau pellach a dilyniant gyrfaol yn unol â'i ddyheadau gyrfa a'r cyfleoedd swydd sydd ar gael iddo.

Ceir cyfleoedd cynyddol i brentisiaid fabwysiadu ystod ehangach o gyfrifoldebau. Ceir cyfleoedd hefyd i symud i rolau eraill yng ngweithlu'r ysgol, ee, mentoriaid dysgu neu dechnegwyr TGCh; ac i rolau ar draws y gweithlu ehangach yn gysylltiedig â phlant, ee, gofal plant, gwaith chwarae neu waith ieuenctid.

Bellach ceir llwybr dilyniant gyrfa clir o rolau cymorth dysgu yng Nghymru i statws Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (CALU) a graddau sylfaen. Gall y rhai sy'n bodloni gofynion mynediad hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA) symud ymlaen i ennill statws athro cymwysedig (SAC). Ceir cyfleoedd hefyd i fabwysiadu rolau newydd fel goruchwyliaeth llanw a goruchwylio arholiadau. Mae cyfleoedd am ddilyniant oddi wrth, ac i, rolau cymorth eraill fel goruchwyliaeth dros ginio, technegydd neu fentor dysgu ar gael yn rhwyddach, yn ogystal â dilyniant neu gyfleoedd i drosglwyddo i weithio mewn meysydd eraill yng ngweithlu ehangach yn gysylltiedig â phlant.

Mae graddau sylfaen ar gael mewn ystod eang o bynciau, a gall rhai gynnig sylfaen addas ar gyfer y Rhaglen Athrawon Cofrestredig (RhAC) sy'n caniatáu i ymgeiswyr sydd wedi'u cyflogi'n briodol gwblhau eu gradd a chymhwyso fel athro ar yr un pryd. Mae nifer y graddau sylfaen wedi'u dylunio'n benodol ar gyfer rhai sy'n cefnogi dysgu ac addysgu mewn ysgolion.

Lefel 2: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion

Dyma rai o'r cyfleoedd dilynol i rai sy'n llwyddo i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion:

  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion, i rai sydd â photensial a chyfle i weithio ar y lefel hon;
  • Cymwysterau Lefel 3 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion;
  • Cymwysterau Lefel 2 a 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygu Plant, Gwaith Chwarae neu Waith Ieuenctid i'r rhai sy'n dymuno trosglwyddo i feysydd eraill sy'n cynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc;
  • Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer y Gweithlu Plant a Phobl Ifanc; a
  • Diploma Lefel 3 ar gyfer Gweithlu'r Plant a Phobl Ifanc, i rai â phrofiad priodol.

Lefel 3: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion

Dyma rai o'r cyfleoedd dilynol i rai sy'n llwyddo i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion:

  • Hyfforddiant ac/neu asesiad ar gyfer statws Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (CALU);
  • Diploma Lefel 3 ar gyfer y Gweithlu Plant a Phobl Ifanc i rai â phrofiad priodol;
  • Cymwysterau Lefel 4 mewn maes perthnasol;
  • Graddau Sylfaen; a
  • Gall y rhai sy'n bodloni gofynion mynediad hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA) symud ymlaen i ennill statws athro cymwysedig (SAC)

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut y byddant yn mynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i annog amrywiaeth ehangach o unigolion i ymuno â'r sector, felly mae'r llwybr wedi cael ei ddylunio i gefnogi hyn:

  • Cynlluniwyd yr amodau mynediad i'r llwybr hwn fel eu bod yn hyblyg;
  • Mae mentora wedi'i gynnwys i gynnig cymorth ychwanegol a chynyddu cyfraddau cadw prentisiaid;
  • Mae elfen wybodaeth y cymwysterau cyfun ar lefel 2 a lefel 3 yn cynnwys unedau sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, hy,
  • Prentisiaeth Sylfaen (lefel 2): Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwaith gyda phlant a phobl ifanc (D/601/3321); Prentisiaeth (Lefel 3): Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn gwaith gyda phlant a phobl ifanc (M/601/4070); ac
  • Mae hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan annatod o raglen ddysgu'r prentis mewn perthynas â CHC.

Lle nodir bod diffyg cymwysterau llythrennedd a rhifedd yn rhwystr i gyflogaeth, bydd cymorth i ennill cymwysterau drwy'r model hyfforddiant prentisiaeth hwn yn cael gwared â'r rhwystr hwnnw.

Mae'r rhan fwyaf o bobl a gyflogir i gefnogi dysgu ac addysgu mewn ysgolion yn wyn, yn fenywod ac yn yr ystod oedran 30+. Wrth weithredu'r llwybrau dylid mynd ati i ymdrin â phroblemau amrywiaeth.

Cafodd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) a chymwysterau'r FfCCh y mae'r llwybrau hyn yn seiliedig arnynt eu datblygu gyda'r sector i sicrhau mynediad i ddetholiad mor eang ag sy'n bosibl o ddysgwyr.

Mae egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn berthnasol i'r holl systemau hynny a chanddynt y potensial i wahaniaethu yn erbyn prentisiaid ar unrhyw bryd yn ystod y rhaglen - o recriwtio a dethol ac ymsefydlu, hyd at gwblhau'n llwyddiannus.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 

Atodiad 1 Lefel 2: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion

Mae cymhwysedd a gwybodaeth wedi cael eu cyfuno o fewn Tystysgrif Lefel 2 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion (gweler Atodiad A). Ennill Tystysgrif Lefel 2 yw'r gofyniad sylfaenol er mwyn dangos bod rhywun wedi caffael gwybodaeth a chymhwysedd sector-benodol ar gyfer y Brentisiaeth Sylfaen.

Mae gwybodaeth a chymhwysedd wedi'u diffinio ar ffurf unedau ar wahân o fewn Tystysgrif Lefel 2, gan olygu bod modd asesu gwybodaeth a chymhwysedd yn annibynnol ar ei gilydd.

 Bodlonir y gofynion gwybodaeth drwy gyflawni pedair o'r unedau gorfodol (9 credyd) ac un o'r unedau o grŵp dewisol A (3 chredyd), gan greu cyfanswm o 12 credyd ar gyfer yr elfen wybodaeth.

DS: Mae'r unedau hyn hefyd wedi'u cynnwys yn Nyfarniad Lefel 2 ar gyfer Gwaith Cymorth mewn Ysgolion, sydd wedi'u hymwreiddio o fewn Tystysgrif Lefel 2.

Gan hynny, bydd prentisiaid sy'n ennill y nifer gofynnol o gredydau o'r unedau gwybodaeth hefyd yn cael cyfle i ennill Dyfarniad Lefel 2.

Bodlonir y gofynion cymhwysedd drwy ennill yr unedau gorfodol sy'n weddill o dan y Dystysgrif Lefel 2 (15 credyd) ac isafswm o 3 chredyd o grŵp dewisol B, gan greu cyfanswm o 18 credyd ar gyfer yr elfen cymhwysedd. 

Atodiad 2 Lefel 3: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion

Mae cymhwysedd a gwybodaeth wedi cael eu cyfuno o fewn y cymwysterau a restrir uchod. Ennill y cymwysterau yw'r gofyniad sylfaenol er mwyn dangos bod rhywun wedi caffael gwybodaeth a chymhwysedd sector-benodol ar gyfer y Brentisiaeth.

Mae gwybodaeth a chymhwysedd wedi'u diffinio ar ffurf unedau ar wahân o fewn y cymwysterau, gan olygu bod modd asesu gwybodaeth a chymhwysedd yn annibynnol ar ei gilydd.

Bodlonir y gofynion gwybodaeth drwy ennill pedair o'r unedau gofynnol, sy'n creu cyfanswm o 12 credyd.

DS: Mae'r unedau hyn hefyd yn ffurfio Dyfarniad Lefel 3 ar gyfer Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion, sydd wedi'i gynnwys yn Niploma Lefel 3.

Gan hynny, bydd prentisiaid sy'n ennill y nifer gofynnol o gredydau o'r unedau gwybodaeth hefyd yn cael cyfle i ennill Dyfarniad Lefel 3.

Bodlonir y gofynion cymhwysedd drwy ennill yr unedau gorfodol sy'n weddill o dan y Ddiploma Lefel 3 (20 credyd) ac isafswm o 12 chredyd o'r grwpiau dewisol, gan greu cyfanswm o 32 credyd ar gyfer yr elfen cymhwysedd.

Er mwyn ennill Tystysgrif Lefel 3 Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion sy'n Arbenigo mewn Dysgwyr Byddar, rhaid cwblhau pob un o'r 6 uned orfodol.


Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021