Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Gwasanaethau Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Rheoli Gwybodaeth

Framework:
Gwasanaethau Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Rheoli Gwybodaeth
Lefel:
3

Y sector Prentisiaethau ar gyfer galwedigaethau ym meysydd dysgu a datblygu cymunedol, addysg bellach, addysg uwch, cymorth addysgu, gwasanaethau llyfrgelloedd, archifau a gwybodaeth, dysgu a datblygu seiliedig ar waith (yn cynnwys gwasanaethau cofnodion a rheoli gwybodaeth hefyd). Mae'r fframwaith hwn yn berthnasol os ydych yn chwilio am yrfa bosibl ym meysydd Gwasanaethau Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Rheoli Gwybodaeth yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus.

Ar gyfer y Brentisiaeth hon, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Diddordeb mewn gweithio yn y sector;
  • Cymhelliant i lwyddo i gwblhau'r brentisiaeth;
  • Parodrwydd i fod yn drefnus;
  • Parodrwydd i ddysgu a chymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu yn y gweithle;
  • Parodrwydd a gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl; a
  • Sgiliau rhifedd, llythrennedd a gallu defnyddio TGCh.

Gallai'r Brentisiaeth Sylfaen gynnwys gweithio gyda phlant/pobl ifanc a/neu oedolion sy'n agored i niwed, felly rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i gael gwiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Gwasanaethau Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Rheoli Gwybodaeth – Lefel 3

Llwybr 1:  Addas ar gyfer swyddi Cynorthwyydd Archifau, Cynorthwyydd Cofnodion, Cynorthwyydd Ystafell Chwilio, Uwch Gynorthwyydd Llyfrgell, Cynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmeriaid, Cydgysylltydd Gwasanaethau Gwybodaeth a Goruchwylydd Gwasanaethau Llyfrgell. 

Mwy o wybodaeth

Hyd

Lefel 3: 12 mis

Llwybrau dilyniant

Lefel 3: Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Cyrsiau lefel uwch
  • Addysg Uwch
  • Graddau sylfaen
  • Graddau proffesiynol
  • Cyrsiau ôl-radd.

Cymwysterau

Lefel 3: Diploma mewn Gwasanaethau Llyfrgelloedd, Archifau a Gwybodaeth

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 3

Does dim unrhyw ofynion penodol ar gyfer mynediad i'r Brentisiaeth Sylfaen. Fodd bynnag, byddai'n fanteisiol os yw ymgeiswyr wedi cwblhau unrhyw un o'r canlynol yn llwyddiannus:

  • Rhaglenni astudio dysgu sylfaenol;
  • Unrhyw waith neu hyfforddiant blaenorol perthnasol ym meysydd gwasanaethau llyfrgelloedd, archifau, cofnodion a rheoli gwybodaeth, gan gynnwys gwaith gwirfoddol.

Lefel 3:  Dim gofynion mynediad ffurfiol.

Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021