Mae'r Gwasanaethau Gwella Dysgu a Sgiliau (GGDaS) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Addysg a Gwasanaethau Gwybodaeth a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 16/01/2018 ACW Framwaith Rhif. FR04185
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
45 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth.
Gofynion mynediad
Nid oes unrhyw ofynion penodol o ran mynediad. Er hynny, byddai'n fanteisiol i ddechreuwyr fod wedi cwblhau unrhyw un o'r canlynol:
- Rhaglenni astudio dysgu sylfaen;
- Unrhyw waith neu hyfforddiant blaenorol perthnasol mewn meysydd sy'n gysylltiedig â llyfrgelloedd, archifau, cofnodion a gwasanaethau rheoli gwybodaeth, gan gynnwys gwaith gwirfoddol.
Bydd angen i'r rhai a dderbynnir i'r Brentisiaeth Sylfaen hefyd fod:
- â diddordeb mewn gweithio yn y sector;
- â chymhelliant i gwblhau'r brentisiaeth yn llwyddiannus;
- yn barod i fod yn drefnus;
- yn barod i ddysgu a chymhwyso'r hyn a ddysgwyd yn y gwaith;
- yn barod ac yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl; yn rhifog, yn llythrennog, a gallu defnyddio TGCh.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 3: Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth
Lefel 3: Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth Cymwysterau
Mae'n rhaid gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Llythrennedd Digidol | 2 | 6 |
Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth | 225 | 190 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaeth Llyfrgelloedd, Archifau a Gwybodaeth - O leiaf 45 credyd/415 GLH dros gyfnod o 16 mis.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Gallai'r Brentisiaeth gynnwys gweithio gyda phlant/pobl ifanc ac/neu oedolion agored i niwed, felly bydd yn rhaid i ddechreuwyr fod yn barod i dderbyn gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS).
Dilyniant
Gall llwybrau dilyniant i'r Brentisiaeth gynnwys:
- Chymwysterau academaidd (ee, Bagloriaeth Cymru, cymwysterau TGAU a Safon Uwch);
- Cymwysterau galwedigaethol (gan gynnwys Prentisiaethau a Dysgu Sylfaen); ac
- Unrhyw waith, hyfforddiant neu gyfnod gwirfoddoli perthnasol arall
Llwybrau dilyniant allan o'r Brentisiaeth
Mae'r Brentisiaeth hon yn creu sylfaen gadarn i bobl gael dysgu a datblygu eu gyrfa ymhellach yn y sector Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth, gan gynnwys dilyniant i gyrsiau a chymwysterau lefel uwch a rolau lefel uwch. Gallai enghreifftiau o gyrsiau lefel uwch ac/neu gyfleoedd Addysg Uwch gynnwys (ymhlith eraill) graddau sylfaen, graddau proffesiynol a chymwysterau ôl-radd yn y sector Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth, a chymwysterau a dyfarniadau proffesiynol gan gyrff eraill fel y Gymdeithas Amgueddfeydd, y Gymdeithas Rheoli Cofnodion a Chymdeithas Cyfrifiaduron Prydain.
Cyflwynwyd 'Ardystiad', dyfarniad proffesiynol CILIP, ym mis Ebrill 2005. Mae'n cydnabod y cyfraniad a wneir at waith llyfrgelloedd a gwybodaeth gan weithwyr parabroffesiynol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu derbyn i'r Gofrestr o Aelodau Ardystiedig ac yn derbyn y llythrennau ACLIIP ar ôl eu henw. Ystyr y llythrennau yw Certified Affiliate of CILIP (Aelod Ardystiedig o CILIP).
Disgwylir y bydd bron pob prentis yn datblygu ei yrfa drwy ddatblygiad a dilyniant pellach, a bod cyfleoedd i gyflawni hynny ar gael ar draws yr holl sectorau diwydiant.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu arddangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny
Mae Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth (LARIMS) yn dathlu ac yn rhoi gwerth ar gyfraniadau gwahanol unigolion, grwpiau a chymunedau ac yn ymrwymo i'w cefnogi a'u hyrwyddo. Mae addysg a hyfforddiant ar gyfer LARIMS wedi ymrwymo i gael gwared â gwahaniaethu, i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb sy'n cymryd rhan ac i feithrin perthnasoedd da rhwng grwpiau amrywiol.
Ceir rhai problemau allweddol yn gysylltiedig â recriwtio a chadw o fewn y sector LARIMS. Yn fwy penodol, ceir tangynrychiolaeth o grwpiau lleiafrifol ethnig o fewn y sector. Un o'r prif flaenoriaethau felly fydd defnyddio'r Llwybr Prentisiaeth er mwyn helpu i hyrwyddo LARIMS fel opsiwn gyrfa ymhlith grwpiau amrywiol nad ydynt o bosib wedi cael eu denu i'r maes gwaith hwn yn y gorffennol, ac annog cyfranogiad ymhlith amrywiaeth ehangach o grwpiau o ddysgwyr. Bydd amodau mynediad hyblyg hefyd yn helpu i ddenu ymgeiswyr o grwpiau wedi'u tangynrychioli, gan greu potensial drwy hynny am weithlu mwy amrywiol.
Mae'r egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn berthnasol i'r holl systemau a gweithdrefnau hynny, y mae potensial iddynt wahaniaethu yn erbyn prentisiaid ar unrhyw bryd yn ystod y rhaglen - o recriwtio, dethol ac ymsefydlu hyd at gwblhau'n llwyddiannus. Disgwylir i'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â chyflenwi'r Bartneriaeth - darparwyr, canolfannau asesu a chyflogwyr:
- Bydd yn rhaid arddangos ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth a sefydlu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth neu ddatganiad cenhadaeth;
- Dylid cael proses recriwtio agored, sydd ar gael i bob ymgeisydd, waeth beth fo'i oedran, anabledd, hil neu darddiad ethnig, rhyw neu hunaniaeth ryweddol, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol, sy'n bodloni'r meini prawf dethol a nodwyd; ac wedi
- Bydd yn rhaid i gyflogwyr a darparwyr allu dangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg wrth ddethol a chyflogi.
Cesglir data a gwybodaeth arall i fonitro effaith Prentisiaethau yn gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth, ac i gymryd camau i unioni unrhyw ddiffyg cydbwysedd posibl ym mhroffil unigolion sy'n cael eu recriwtio i raglen y Brentisiaeth, neu'n sail i ddatblygu astudiaethau achos i hyrwyddo arfer da.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw CHC yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1 Lefel 3: Llyfrgelloedd, Archifau a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth
Mae cymhwysedd a gwybodaeth wedi'u cyfuno o fewn y cymhwyster hwn, ond fe'u hasesir ar wahân. Dyma grynodeb o unedau'r cymhwyster sy'n ymwneud yn bennaf â chymhwysedd, a'r unedau sy'n ymwneud yn bennaf â gwybodaeth, a'r unedau sy'n cynnwys deilliannau dysgu sy'n ymdrin â chymhwysedd yn ogystal â gwybodaeth:
- Dulliau o drefnu gwybodaeth ac/neu ddeunydd (6 chredyd gwybodaeth)
- Cynorthwyo defnyddwyr i ddefnyddio adnoddau digidol (3 chredyd gwybodaeth a 3 chredyd cymhwysedd)
- Deall sefydliad llyfrgelloedd, archifau neu wasanaethau gwybodaeth (3 chredyd gwybodaeth)
- Deall yr amgylchedd llyfrgelloedd, archifau neu wasanaethau gwybodaeth (3 chredyd gwybodaeth)
- Creu a chynnal amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr (1 credyd gwybodaeth a 2 gredyd cymhwysedd)
- Helpu defnyddwyr i gael mynediad at wybodaeth ac/neu ddeunydd (3 chredyd cymhwysedd)
- Hyrwyddo llyfrgelloedd, archifau a gwasanaethau gwybodaeth (3 chredyd gwybodaeth a 3 chredyd cymhwysedd)
- Darparu gweithgareddau sefydlu a chyflwyno i ddefnyddwyr (1 credyd gwybodaeth a 2 gredyd cymhwysedd)
- Ymgysylltu â'r gymuned ehangach (4 credyd gwybodaeth a 2 gredyd cymhwysedd)
- Hanes teuluol (4 credyd gwybodaeth a 2 gredyd cymhwysedd)
- Gwybodaeth iechyd (2 gredyd gwybodaeth a 4 credyd cymhwysedd)
- Astudiaethau lleol (5 credyd gwybodaeth ac 1 credyd cymhwysedd)
- Palaeograffeg (6 chredyd gwybodaeth)
- Datblygu darllenwyr (4 credyd gwybodaeth a 2 gredyd cymhwysedd)
- Dyrannu a gwirio gwaith mewn tîm (2 gredyd gwybodaeth a 4 credyd cymhwysedd)
- Meithrin perthnasoedd gwaith cynhyrchiol â chydweithwyr (4 credyd gwybodaeth a 2 gredyd cymhwysedd)
- Cyhoeddi gwybodaeth ac/neu ddeunydd (3 chredyd cymhwysedd)
- Arwain tîm (2 gredyd gwybodaeth a 4 credyd cymhwysedd)
- Canfod ac amnewid gwybodaeth ac/neu ddeunydd (3 chredyd cymhwysedd)
- Rheoli eich adnoddau eich hun (3 chredyd gwybodaeth a 3 chredyd cymhwysedd)
- Gwarchod, diogelu a chopïo gwybodaeth ac/neu ddeunydd (3 chredyd cymhwysedd)
- Llyfrgellyddiaeth ysgol (6 chredyd cymhwysedd)