Skip to main content

Crynodeb o'r llwybr

Dysgu a Datblygu

Framework:
Dysgu a Datblygu
Lefel:
3

Fel Prentis gallech fod yn gweithio mewn swydd am dâl mewn sefydliad, yn hwyluso dysgu, neu gallech fod yn gweithio ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm ehangach yn darparu neu'n trefnu dysgu mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys y gweithle a sefydliadau hyfforddi.

Mae'r fframwaith hwn yn berthnasol i gyflogwyr a darparwyr yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, ac i'r rhai sy'n ymwneud â darparu dysgu a ariennir a dysgu masnachol.

Mae'r cymwysterau yn y fframwaith yn cael eu hasesu a'u hardystio'n annibynnol, ac maen nhw wedi'u cynllunio i ychwanegu gwerth, gan sicrhau bod gan y rhai sy'n eu cwblhau yn llwyddiannus y sgiliau a'r wybodaeth sy'n berthnasol i'w rôl, a'r sgiliau sylfaenol i allu gweithredu fel gweithiwr cyflogedig effeithiol.

Fel Prentis byddwch yn helpu pobl eraill i ddysgu sgiliau newydd gan ddatblygu a gwella sgiliau presennol fel bod modd iddyn nhw wneud eu gwaith yn effeithiol.

Gallech fod yn hyfforddi pobl neu'n helpu gyda gwaith gweinyddu (mae cwmnïau hyfforddi yn union yr un fath ag unrhyw fusnes arall – maen nhw’n derbyn galwadau ffôn ac archebion).

Bydd eich maes arbenigedd yn dibynnu ar eich cyflogwr – ond byddai'n synhwyrol dewis arbenigedd sydd o ddiddordeb i chi.

Waeth a ydych yn gweithio gydag unigolion neu gyda grŵp mawr o bobl, bydd angen hyder, amynedd a chreadigrwydd arnoch.

Bydd angen y canlynol hefyd:

 •          Cymhelliant i lwyddo i gwblhau'r brentisiaeth;

•          Gweithio’n drefnus;

•          Hyblygrwydd;

•          Parodrwydd i ddysgu a chymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu yn y gweithle;

•          Parodrwydd a gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl; a

•          Sgiliau rhifedd, llythrennedd a’r gallu i ddefnyddio TGCh.

Gallai'r Brentisiaeth gynnwys gweithio gyda phlant/pobl ifanc a/neu oedolion sy'n agored i niwed, felly rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i gael gwiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Opsiynau a lefelau llwybrau

Dysgu a Datblygu - Lefel 3

Llwybr 1:  Addas ar gyfer swyddi Swyddog Datblygu Hyfforddiant, Swyddog Hyfforddi, Goruchwylydd Canolfan Ddysgu, Asesydd/Dilysydd, Cydlynydd Dysgu Seiliedig ar Waith, Cynghorydd Dysgu a Datblygu, Hyfforddwr Sgiliau a Chynghorydd Dysgu ac Asesu. 

Mwy o wybodaeth

Hyd

14 mis

Llwybrau dilyniant

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Cyfleoedd dysgu a datblygu pellach.
  • Camu ymlaen i swyddi uwch, gan gynnwys i feysydd eraill fel rheoli, Adnoddau Dynol, cyllid a rheoli prosiectau ehangach.
  • Cyrsiau lefel uwch
  • Addysg Uwch
  • Graddau proffesiynol
  • Cymwysterau proffesiynol a dyfarniadau cyrff eraill fel y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).

Cymwysterau

Tystysgrif Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu

Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?

Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;

Lefel 3

Rhaid i newydd-ddyfodiaid i'r Brentisiaeth fod â chymhwysedd galwedigaethol mewn maes o'u dewis a mynediad i amgylchedd dysgu.

Hefyd, byddai'n fanteisiol os yw ymgeiswyr wedi cwblhau unrhyw un o'r canlynol yn llwyddiannus:

  • Bagloriaeth Cymru
  • TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, neu ddyfarniadau llythrennedd a rhifedd ar lefel gyfatebol;
  • Rhaglenni astudio dysgu sylfaenol; neu
  • Unrhyw waith neu hyfforddiant blaenorol perthnasol mewn meysydd sy'n ymwneud â dysgu a datblygu.
Gweld llwybr llawn

Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021