Skip to main content

Llwybr

Dysgu a Datblygu

Mae'r Gwasanaeth Gwella Dysgu a Sgiliau (GGDaS) wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Addysg a Gwasanaethau Gwybodaeth a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 12/02/2018 ACW Fframwaith Rhif. FR04241

Cynnwys y Rhaglen Ddysgu

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

48 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Dysgu a Datblygu.

Gofynion mynediad

Mae'n rhaid i ddechreuwyr newydd y Brentisiaeth feddu ar:

 gymhwyster galwedigaethol mewn maes o'u dewis; a

  • mynediad at amgylchedd dysgu.

Byddai'n fanteisiol hefyd i ddechreuwyr fod wedi cwblhau unrhyw un o'r canlynol:

Bagloriaeth Cymru, cymwysterau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, neu ddyfarniadau llythrennedd a rhifedd hyd at lefel gyfwerth;

  • Rhaglenni astudio dysgu sylfaen; neu
  • Unrhyw waith neu hyfforddiant perthnasol arall mewn meysydd sy'n gysylltiedig â dysgu a datblygu.

Bydd angen i ddechreuwyr y brentisiaeth hon hefyd fod:

â chymhelliant i gwblhau'r brentisiaeth yn llwyddiannus; yn drefnus; yn hyblyg a pharod i addasu; yn barod i ddysgu a chymhwyso'r hyn a ddysgwyd yn y gwaith; yn barod ac yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o bobl; yn rhifog, yn llythrennog, a gallu defnyddio TGCh.

Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth

Lefel 3: Dysgu a Datblygu

Lefel 3: Dysgu a Datblygu Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun isod.

Lefel 3 Tystysgrif Dysgu a Datblygu
Corff Dyfarnu Rhif y Cymhwyster Gwerth Credyd Cyfanswm Amser y Cymhwyster Cymhwysedd / Gwybodaeth / Cyfun Iaith/Ieithoedd Asesu'r Cymhwyster
City & Guilds C00/0392/2 600/2746/0 30 300 Cymhwysedd Saesneg yn Unig
Agored Cymru C00/0620/8 601/2595/0 30 300 Cymhwysedd Saesneg-Cymraeg

Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)

Lefel 3: Dysgu a Datblygu Lefel Isafswm Gwerth Credyd
Cyfathrebu 2 6
Cymhwyso Rhif 2 6
Llythrennedd Digidol 2 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg.

Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

Llwybr Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith
Lefel 3: Dysgu a Datblygu 171 149
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)

Tystysgrif Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu - 30 credyd/320 GLH

14 mis yw hyd cyfartalog y llwybr hwn.

Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru

Gofynion eraill ychwanegol

Gallai'r Brentisiaeth gynnwys gweithio gyda phlant/pobl ifanc ac/neu oedolion agored i niwed, felly bydd yn rhaid i ddechreuwyr fod yn barod i dderbyn gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS).

Efallai y bydd cyflogwyr unigol yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddysgwyr dderbyn hyfforddiant atodol, fel hanfodion cymorth cyntaf neu iechyd a diogelwch, ar yr amod bod hynny'n berthnasol ac yn angenrheidiol er mwyn i ddysgwr gyflawni ei rôl yn y sefydliad. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn orfodol er mwyn ennill tystysgrif cwblhau prentisiaeth.

Dilyniant

Gall dysgwyr ddefnyddio nifer o lwybrau i symud ymlaen i'r llwybr, gan gynnwys:

  • Profiad gwaith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli perthnasol blaenorol;
  • Cymwysterau galwedigaethol (gan gynnwys prentisiaethau); a
  • Chymwysterau academaidd (ee, Bagloriaeth Cymru, cymwysterau TGAU a chymwysterau Safon Uwch).

Mae'r llwybr yn cynnig sylfaen gadarn i bobl ddysgu a datblygu eu gyrfa ymhellach yn y sector Dysgu a Datblygu. Gellir symud ymlaen i gyrsiau a chymwysterau lefel uwch, neu rolau uwch, gan gynnwys symud i feysydd eraill fel rheoli, AD ehangach, rheoli prosiect a chyllid.

Gall enghreifftiau o gyrsiau lefel uwch ac/neu gyfleoedd Addysg Uwch gynnwys graddau proffesiynol a dyfarniadau eraill yn y sector dysgu a datblygu (ymhlith eraill), a chymwysterau a dyfarniadau proffesiynol gan gyrff eraill fel y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).

Disgwylir y bydd bron pob prentis yn datblygu ei yrfa drwy ddatblygiad a dilyniant pellach, a bod cyfleoedd i gyflawni hynny ar gael ar draws yr holl sectorau diwydiant.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut y byddant yn mynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.he Learning &

Mae'r sector Dysgu a Datblygu yn gwerthfawrogi ac yn dathlu cyfraniadau gwahanol unigolion, grwpiau a chymunedau; ac wedi ymrwymo i'w cefnogi a'u hyrwyddo.

Mae Addysg a Hyfforddiant mewn Dysgu a Datblygu wedi ymrwymo i gael gwared â gwahaniaethu, i hyrwyddo cyfle cyfartal ymhlith pawb sy'n cymryd rhan ac i feithrin perthnasoedd da rhwng grwpiau amrywiol.

Ceir rhai problemau allweddol yn gysylltiedig â recriwtio a chadw o fewn y sector Dysgu a Datblygu.  Un o'r prif flaenoriaethau felly fydd defnyddio'r Llwybr Prentisiaeth er mwyn helpu i hyrwyddo Dysgu a Datblygu fel opsiwn gyrfa ymhlith grwpiau amrywiol nad ydynt wedi cael eu denu i'r maes gwaith hwn yn y gorffennol, ac annog cyfranogiad ymhlith amrywiaeth ehangach o grwpiau o ddysgwyr. Bydd amodau mynediad hyblyg hefyd yn helpu i ddenu ymgeiswyr o grwpiau wedi'u tangynrychioli, gan greu potensial drwy hynny am weithlu mwy amrywiol.

Mae'r egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth yn berthnasol i'r holl systemau a gweithdrefnau hynny, y mae potensial iddynt wahaniaethu yn erbyn prentisiaid ar unrhyw bryd yn ystod y rhaglen - o recriwtio, dethol ac ymsefydlu hyd at gwblhau'n llwyddiannus. Disgwylir i'r holl bartneriaid sy'n ymwneud â chyflenwi'r Bartneriaeth - darparwyr, canolfannau asesu a chyflogwyr:

  • Bydd yn rhaid arddangos ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth a sefydlu polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth neu ddatganiad cenhadaeth;
  • Dylid cael proses recriwtio agored, sydd ar gael i bob ymgeisydd, waeth beth fo'i oedran, anabledd, hil neu darddiad ethnig, rhyw neu hunaniaeth ryweddol, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol, sy'n bodloni'r meini prawf dethol a nodwyd; a
  • Bydd yn rhaid i gyflogwyr a darparwyr allu dangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg wrth ddethol a chyflogi.

Cesglir data a gwybodaeth arall i fonitro effaith Prentisiaethau yn gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth, ac i gymryd camau i unioni unrhyw ddiffyg cydbwysedd posibl ym mhroffil unigolion sy'n cael eu recriwtio i raglen y Brentisiaeth, neu'n sail i ddatblygu astudiaethau achos i hyrwyddo arfer da.

Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

 

Atodiad 1 Lefel 3: Dysgu a Datblygu

Mae cymhwysedd a gwybodaeth wedi'u cyfuno o fewn y cymhwyster hwn, ond fe'u hasesir ar wahân.

I ennill y cymhwyster hwn, mae'n rhaid i'r dysgwr ennill isafswm o 30 credyd, y mae 12 ohonynt yn orfodol ac 18 yn ddewisol.

Dyma grynodeb o unedau'r cymhwyster sy'n ymwneud yn bennaf â chymhwysedd, a'r unedau sy'n ymwneud yn bennaf â gwybodaeth, a'r rhai sy'n ymdrin â chymhwysedd a gwybodaeth:

  • Deall egwyddorion ac arferion dysgu a datblygu (6 chredyd gwybodaeth)
  • Gwella a myfyrio ar ein hymarfer ein hun wrth ddysgu a datblygu (4 credyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth)
  • Hwyluso dysgu a datblygu mewn grwpiau (4 credyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth)
  • Hwyluso dysgu a datblygu i unigolion (4 credyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth)
  • Nodi anghenion dysgu a datblygu unigol (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
  • Cynllunio a pharatoi cyfleoedd dysgu a datblygu penodol (6 chredyd cymhwysedd)
  • Datblygu a pharatoi adnoddau ar gyfer dysgu a datblygu (4 credyd cymhwysedd a 2 gredyd gwybodaeth)
  • Cynnwys dysgwyr yn y broses dysgu a datblygu (3 chredyd cymhwysedd a 3 chredyd gwybodaeth)
  • Gwerthuso a gwella'r ddarpariaeth dysgu a datblygu (3 chredyd cymhwysedd a 3 chredyd gwybodaeth)
  • Deall egwyddorion ac arferion asesu (3 chredyd gwybodaeth)
  • Asesu cymhwysedd galwedigaethol yn yr amgylchedd gwaith (6 chredyd cymhwysedd)
  • Asesu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth alwedigaethol (6 chredyd cymhwysedd)
  • Rhoi gwybodaeth a chyngor i ddysgwyr a chyflogwyr (2 gredyd cymhwysedd ac 1 credyd gwybodaeth)
  • Ymgysylltu â chyflogwyr i ddatblygu a chefnogi darpariaeth dysgu (3 chredyd cymhwysedd a 3 chredyd gwybodaeth)
  • Deall y sefydliad sy'n cyflogi (3 chredyd gwybodaeth)

 Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Dysgu a Datblygu yn cynnwys unedau gorfodol a dewisol. Dylai aseswyr roi arweiniad i brentisiaid er mwyn sicrhau eu bod yn dewis yr unedau dewisol sydd yn fwyaf addas i'w rôl, eu hanghenion a'u hamgylchiadau.


Diwygiadau dogfennau

19 Tachwedd 2021