- Framework:
- Dadansoddi Data
- Lefel:
- 4
Nod y rhaglen Brentisiaeth hon yw darparu llwybr galwedigaethol newydd i lenwi'r angen am sgiliau yn y dyfodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol Dadansoddi Data, ac mae'n cynnwys swyddi mewn meysydd fel:
- Deallusrwydd Busnes
- Warws Data
- Dadansoddi Data ETL (Echdynnu, Trawsnewid a Llwytho)
- Modelu Data
- Cloddio Data
- Rheoli Cronfeydd Data
Gallai'r rolau sy’n cael eu cynnwys dan y fframwaith hwn fod yn y meysydd canlynol:
- Sefydliadau TG a Thelathrebu sy'n darparu gwasanaethau datblygu a/neu wasanaethau gweithredol i amrywiaeth o gleientiaid; neu
- Sefydliadau sy'n gweithredu mewn unrhyw sector sy'n defnyddio Systemau TG i brosesu a storio data o unrhyw fath.
Mae'r ystod o sefydliadau y bydd y rolau hyn yn berthnasol iddynt yn cynnwys manwerthwyr mawr, darparwyr gwasanaethau ariannol ac adrannau'r llywodraeth, ond mewn gwirionedd byddant yn berthnasol i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr Systemau TG.
Opsiynau a lefelau llwybrau
Dadansoddi Data - Lefel 4
Addas ar gyfer swyddi Dadansoddwr Data a Rheolwr Data.
Mwy o wybodaeth
Hyd
Lefel 4: 24 mis
Llwybrau dilyniant
Camu ymlaen o'r llwybr hwn:
Cymwysterau sy'n benodol i'r rôl ac yn cael eu cydnabod gan y diwydiant megis:
- Hyfforddiant ac achrediad Rheoli Prosiect (PRINCE2, MSP, PMI, APM ac Agile)
- Hyfforddiant ac achrediad Rheoli Gwasanaethau (hyfforddiant ITIL, SDI ac ISO/IEC 2000)
- Hyfforddiant Rheoli a Datblygiad Personol
- Amrywiaeth eang o hyfforddiant gwerthwr a thechnoleg graidd – gan arwain at gymwysterau sy'n cael eu cydnabod gan y diwydiant.
- Gradd Anrhydedd
Mae rhai cymwysterau yn arwain at yr hawl i fod yn aelod o sefydliad proffesiynol, gan gynnig cyfleoedd i rwydweithio a chamu ymlaen yn eich gyrfa. Er enghraifft, dod yn aelod o sefydliad proffesiynol:
- Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS)
- Y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET)
Cymwysterau
Diploma Lefel 4 mewn Dadansoddi Data
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y llwybr hwn?
Mae gan bob llwybr prentisiaeth yng Nghymru ofynion mynediad. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y llwybr hwn – mae angen i chi gael y cymhwyster lefel mynediad canlynol;
Lefel 4
Mae'r gofynion mynediad yn cynnwys:
- Cymwysterau Safon Uwch, neu gyrhaeddiad addysgol cyfatebol, gan gynnwys Diploma TG Lefel 3, Bagloriaeth Cymru neu'r Fagloriaeth Ryngwladol neu Dystysgrif Dechnegol Lefel 3 berthnasol
- Prentisiaeth (Lefel 3)
- Cyflogaeth yn y diwydiant technoleg/telathrebu am nifer o flynyddoedd, gan ddangos i'r cyflogwr bod disgwyliad rhesymol i'r unigolyn gyflawni canlyniadau gofynnol y Brentisiaeth Uwch. Gellir ategu hyn drwy arddangos neu brofi cyflawniad neu berfformiad blaenorol yn y rôl cyn dechrau'r Brentisiaeth Uwch.