Skip to main content

Pathway summary

Lletygarwch Trwyddedig

Framework:
Lletygarwch Trwyddedig
Lefel:
2/3

Os ydych chi eisiau gweithio y tu ôl i far neu mewn swydd sy'n wynebu cwsmeriaid, gallai'r Brentisiaeth hon fod yn addas i chi.

Wrth weithio yn ardal y bar, gallech gael eich cyflogi mewn safleoedd lletygarwch trwyddedig amrywiol gan ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau megis gweini bwyd a diod, derbyn taliadau, gweithio yn y seler, a chyfrif lefel y stoc, marchnata, hyfforddi ac ysgogi staff eraill, monitro cyfrifon y cwmni, yn ogystal â gweithgareddau eraill.

Rhaid i chi fod yn barod i weithio oriau anghymdeithasol, mewn safleoedd prysur a swnllyd yn aml a dangos brwdfrydedd dros weithio yn y sector, bod yn gadarnhaol ac yn gyfeillgar.

Gellir trosglwyddo llawer o'r sgiliau a'r wybodaeth sydd wedi'u cynnwys yn y fframwaith ar draws y sector lletygarwch. Er enghraifft:

  • Arweinyddiaeth a Rheoli
  • Diogelwch Bwyd
  • Goruchwyliaeth
  • Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Iechyd a Diogelwch
  • Marchnata
  • Hyrwyddiadau gwerthiant
  • Rheolaeth ariannol
  • Rheoli stoc
  • Ysgogi staff
  • Recriwtio
  • Cynllunio a darparu hyfforddiant
  • Rheoli ceginau
  • Trin arian parod

Rhaid i brentisiaid lletygarwch trwyddedig fod yn 16 oed neu'n hŷn.

Byddai profiad o weithio yn y diwydiant lletygarwch trwyddedig yn fanteisiol er mwyn cofrestru ar gyfer y fframwaith prentisiaeth hwn.

Pathway options and levels

Lletygarwch Trwyddedig - Lefel 2

Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Gweithiwr Bar (ar sail prydles neu denant), Gweithiwr Bar (lleoliad a reolir), Gweithiwr Bar (bar gwin/coctel), Rheolwr Bar Cynorthwyol, Gweithiwr Bar (lleoliad Clwb Nos) a Gweinydd/Gweinyddes.

Rheoli Lletygarwch Trwyddedig - Lefel 3

Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Gweithiwr Bar, Gweithiwr Bar (ar sail prydles neu denant), Gweithiwr Bar (lleoliad a reolir), Gweithiwr Bar (bar gwin/coctel), Rheolwr Bar Cynorthwyol, Gweithiwr Bar (lleoliad Clwb Nos), Gweinydd/Gweinyddes, Rheolwr Cynorthwyol Bwyd a Diod, Arweinydd Tîm y Bar a Rheolwr Shifftiau.

Further information

Duration

Lefel 2: 15 mis

Lefel 3: 18 mis

Progression routes

Lefel 2  

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Camu ymlaen i swyddi goruchwylio neu reoli iau ym maes lletygarwch trwyddedig.
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Rheoli Lletygarwch Trwyddedig
  • Tystysgrif Lefel 3 BIIAB mewn Rheoli Busnes Lletygarwch
  • Cymwysterau Lefel 3 eraill ar gyfer y sector Lletygarwch.

Lefel 3

Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Camu ymlaen i swyddi rheoli ym maes lletygarwch trwyddedig.
  • Tystysgrif Lefel 3 BIIAB mewn Rheoli Busnes Lletygarwch
  • Tystysgrif Lefel 4 BIIAB mewn Rheoli Safleoedd Trwyddedig Lluosog
  • Cymwysterau eraill ar gyfer y sector Lletygarwch Trwyddedig.

Cymwysterau

Lefel 2: Tystysgrif mewn Sgiliau Lletygarwch Trwyddedig

Lefel 3: Diploma mewn Sgiliau Lletygarwch Trwyddedig

What are the entry requirements for this pathway?

All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);

Lefel 2

Level 2: Dim gofynion mynediad ffurfiol. 

Level 3

Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol. Byddai cwblhau Prentisiaeth Lefel 2 mewn Lletygarwch Trwyddedig yn sylfaen ddefnyddiol. 

View full pathway

Document revisions

19 Tachwedd 2021