Mae People 1st wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Arlwyo a Lletygarwch a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 28/01/2015 ACW Fframwaith Rhif. FR03148
Cynnwys y Rhaglen Ddysgu
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith
56 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Lletygarwch Trwyddedig.
69 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Lletygarwch Trwyddedig.
Gofynion mynediad
Mae'n rhaid i brentisiaid lletygarwch trwyddedig fod yn 16 oed neu'n hŷn i gael mynediad i'r llwybr hwn gan fod unedau gorfodol o fewn y cymwysterau cydrannol yn seiliedig ar werthu, gweini a danfon alcohol, ac yn cynnwys gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Mae'n rhaid i brentisiaid fod yn barod i weithio oriau anghymdeithasol, a hynny'n aml mewn amgylchiadau prysur a swnllyd.
Mae'n debygol y bydd angen i brentisiaid ymdrin â chwsmeriaid. Dylent ddangos brwdfrydedd i weithio yn y sector a bod yn gadarnhaol a chyfeillgar.
Nid oes unrhyw gymwysterau ffurfiol yn ofynnol ar gyfer y lwybr hwn, er y byddai cwblhau
Prentisiaeth Lefel 2 Lletygarwch Trwyddedig yn creu sylfaen ddefnyddiol ar gyfer Llwybr Prentisiaeth Lefel 3 Rheoli Lletygarwch Trwyddedig.
Byddai profiad o weithio yn y diwydiant lletygarwch trwyddedig o fudd i ddysgwr sy'n anelu i fod yn gofrestredig ar y llwybr prentisiaeth hwn.
Rhaglen(ni) dd/dysgu'r llwybr prentisiaeth
Lefel 2: Lletygarwch Trwyddedig
Lefel 2: Lletygarwch Trwyddedig Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 2: Lletygarwch Trwyddedig | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 1 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 1 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 2: Lletygarwch Trwyddedig | 281 | 257 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Y cyfanswm ar gyfer Lletygarwch Trwyddedig - 56 credyd/isafswm o 490 GLH ac uchafswm o 567 GLH.
Rhagwelir y bydd y brentisiaeth yn 12 mis o hyd.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Lefel 3: Rheoli Lletygarwch Trwyddedig
Lefel 3: Rheoli Lletygarwch Trwyddedig Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill y cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod
Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW)
Lefel 3: Rheoli Lletygarwch Trwyddedig | Lefel | Isafswm Gwerth Credyd |
---|---|---|
Cyfathrebu | 2 | 6 |
Cymhwyso Rhif | 2 | 6 |
Hyfforddi yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
Llwybr | Isafswm Oriau Hyfforddi yn y Gwaith | Isafswm Oriau Hyfforddi i Ffwrdd o'r Gwaith |
---|---|---|
Lefel 3: Rheoli Lletygarwch Trwyddedig | 244 | 191 |
Manylion y Cymhwyster yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
Cyfanswm y GLH ar gyfer y llwybr prentisiaeth lletygarwch trwyddedig yw 435 GLH o leiaf.
Rhagwelir y bydd y brentisiaeth yn 12 mis o hyd.
Manylion Sgiliau Hanfodol yn y Gwaith/i Ffwrdd o'r Gwaith (Isafswm Credydau ac Oriau)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Gofynion eraill ychwanegol
Mae'n rhaid i brentisiaid lletygarwch trwyddedig fod yn 16 oed neu'n hŷn i ymuno â'r llwybr hwn.
Dilyniant
Lefel 2: Lletygarwch Trwyddedig
Mae'n bwysig i'r llwybr hwn gynnig dilyniant o lwybrau cysylltiedig a chyfleoedd dysgu, a'i fod yn cynnig dilyniant i raglenni dysgu ac i yrfa mewn lletygarwch trwyddedig.
Gall prentisiaid symud ymlaen i'r llwybr hwn o gymwysterau academaidd fel TGAU,
a chymwysterau galwedigaethol ar Lefel 1, fel Dyfarniad BIIAB Lefel 1 - Cyflwyniad i Gyflogaeth yn y Diwydiant Lletygarwch (AIEHI). Mae'r AIEHI yn yr Haen Dysgu Sylfaen (HDS).
Byddai profiad o weithio yn y diwydiant fel aelod staff rheng flaen, fel gweithiwr y tu ôl i'r bar neu weinydd hefyd yn addas er mwyn symud ymlaen i'r brentisiaeth. Byddai profiad o ddelio â phobl a gweithio oriau anghymdeithasol fel aelod o dîm hefyd yn briodol er mwyn symud ymlaen i'r brentisiaeth hon.
Rhinweddau a fyddai'n fuddiol i unrhyw un sy'n ystyried symud ymlaen i'r brentisiaeth hon fyddai lefel uchel o gymhelliant a mwynhad wrth weithio gyda phobl, yn aml mewn lleoliadau bywiog a phrysur.
Gellid symud ymlaen o'r llwybr hwn i rolau goruchwylio neu is-reoli o fewn lletygarwch trwyddedig.
Mae modd trosglwyddo llawer o'r sgiliau a'r wybodaeth a drafodir o fewn y llwybr hwn ar draws y sector lletygarwch. Er enghraifft:
- Diogelwch Bwyd wrth Arlwyo
- Gwasanaeth Cwsmer mewn Lletygarwch, Hamdden, Teithio a Thwristiaeth
- Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
- Cynnal ac Ymdrin â Thaliadau
- Sgiliau Cymorth Cyntaf
Ceir hyd i ragor o wybodaeth am yrfaoedd a chymwysterau mewn sectorau Lletygarwch Trwyddedig yn www.hospitalityguild.co.uk
Gall dysgwyr benderfynu symud ymlaen i Brentisiaeth BII Lefel 3 mewn Rheoli Lletygarwch Trwyddedig, Tystysgrif BIIAB Lefel 3 mewn Rheoli Busnes Lletygarwch neu gymwysterau Lefel 3 eraill yn y sector Lletygarwch. Gellir gweld y cymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr yn
Lefel 3: Rheoli Lletygarwch Trwyddedig
Mae'n bwysig i'r llwybr hwn gynnig dilyniant o lwybrau a chyfleoedd dysgu cysylltiedig a chynnig dilyniant i raglenni dysgu ac i yrfa mewn lletygarwch trwyddedig.
Gall prentisiaid symud ymlaen i'r llwybr hwn o gymwysterau academaidd fel TGAU, a chymwysterau galwedigaethol ar Lefel 2, yn ogystal â Llwybr Prentisiaeth Lefel 2 ar gyfer Lletygarwch Trwyddedig. Mae'r llwybr hefyd yn hygyrch i rai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa.
Rhinweddau a fyddai'n fuddiol i unrhyw un sy'n ystyried symud ymlaen i'r brentisiaeth hon fyddai lefel uchel o gymhelliant a mwynhad wrth weithio gyda phobl, yn aml mewn lleoliadau bywiog a phrysur.
Bydd modd symud ymlaen o'r llwybr hwn i rolau rheoli o fewn lletygarwch trwyddedig.
Gellir trosglwyddo'r holl sgiliau a'r wybodaeth a drafodir o fewn y llwybr ar draws y sector lletygarwch. Er enghraifft:
- Arwain a rheoli
- Goruchwylio Diogelwch Bwyd
- Gwasanaethau Cwsmeriaid
- Iechyd a Diogelwch
- Marchnata
- Hyrwyddo Gwerthu
- Rheolaeth Ariannol
- Rheoli stoc
- Ysgogi staff
- Recriwtio
- Dylunio a darparu hyfforddiant
- Rheoli cegin
- Trin arian parod
Gellir gweld enghreifftiau o gyfleoedd swydd ym maes Lletygarwch Trwyddedig yn http://www.barzone.co.uk/
Gall dysgwyr benderfynu symud ymlaen i Dystysgrif BIIAB Lefel 3 mewn Rheoli Busnes Lletygarwch neu Dystysgrif BIIAB Lefel 4 mewn Rheoli Sawl Eiddo Trwyddedig neu
gymwysterau eraill ar gyfer y sector Lletygarwch Trwyddedig. Gellir gweld y cymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr yn http://register.ofqual.gov.uk neu drwy gysylltu â BIIAB (mae manylion cyswllt BIIAB ar gael ar-lein yn www.biiab.org).
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos sut i fynd ati’n weithredol i nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Ar y cyfan, mae'r diwydiant lletygarwch trwyddedig yn cynrychioli poblogaeth amlddiwylliannol ac amrywiol. Mae'n ddiwydiant ifanc, ac yn cynnwys rhaniad cyfartal o ddynion a merched. Ceir amrywiadau ar draws y sector, gyda diwydiannau bwytai a thafarndai yn arbennig yn dibynnu ar bobl ifanc (mae 65% o'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant tafarndai, bariau a chlybiau nos, a 55% o'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant bwytai o dan 30 oed).
Yn gyffredinol, merched yw 57% a dynion yw 43% o'r gweithlu, ond mae cyfran debyg o dafarnwyr a rheolwyr eiddo trwyddedig yn ddynion ac yn ferched. Mae'n gymharol gyffredin i dafarndai annibynnol gael eu cynnal gan dimau gŵr a gwraig. Dynion sy'n tueddu i fod amlycaf mewn rolau cefn tŷ a merched sydd amlycaf mewn rolau blaen tŷ.
Mae'n debyg mai'r diwydiant tafarndai, bariau a chlybiau nos sydd â'r proffil oedran ieuengaf o blith holl ddiwydiannau'r DU. Mae 45% o'r gweithlu o dan 25 oed. Mae mwyafrif helaeth y cynorthwywyr cegin ac arlwyo, staff gweini a staff bar mewn tafarndai, bariau a chlybiau nos o dan 25 oed. Yn ôl y disgwyl, mae tafarnwyr a rheolwyr eiddo trwyddedig yn tueddu i fod yn hŷn, ond gyda bron hanner ohonynt o dan 35 oed.
Dim ond 4% o weithlu tafarndai, bariau a chlybiau nos sy'n disgrifio eu hethnigrwydd yn Ddu, Asiaidd neu Leiafrifol Ethnig. Ychydig o amrywio a geir ar draws gwahanol grwpiau galwedigaethol o fewn y diwydiant.
Ar draws y gweithlu lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth yn ei gyfanrwydd, mae tua pumed rhan o'r gweithlu yn weithwyr mudol (hy, wedi'u geni dramor). Mae'r ffigur hwn yn is yn y diwydiant tafarndai, bariau a chlybiau nos (7%). Ychydig o amrywio a geir ar raddfa alwedigaethol, er bod cyfran ychydig yn fwy o staff bar, staff gweini, prif gogyddion a chogyddion wedi'u geni dramor na rhai sy'n gweithio mewn rolau eraill.
Mae'r llwybr wedi'i ddylunio er mwyn iddo fod yn hygyrch yn y gweithlu. Gyda hyn mewn golwg, ystyrir bod y rhaglen yr un mor hygyrch i bobl hŷn sydd eisoes yn gweithio mewn eiddo trwyddedig, neu yn wir, rhai sy'n chwilio am yrfa newydd. Mae'r brentisiaeth mewn lletygarwch trwyddedig ar agor i bawb a chanddynt y rhinweddau angenrheidiol er mwyn llwyddo.
Mae'n rhaid i ddarparwyr a chyflogwyr gael polisïau cyfle cyfartal a weithredir yn effeithiol ac sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol ar amrywiaeth. Mae'n rhaid cael proses recriwtio agored a thryloyw sydd ar agor i bawb.
Dylai cyflogwyr sicrhau eu bod wedi sefydlu polisïau wedi'u dylunio i atal gwahaniaethu. Mae'n rhaid i'r holl bartneriaid cyflenwi ymrwymo i bolisi cydraddoldeb, a chael polisi a gweithdrefn cydraddoldeb. Mae gan BIIAB bolisi yn gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer ei gymwysterau y mae'n rhaid i ganolfannau a chyflogwyr gadw atynt. Anogir y canolfannau a'r cyflogwyr hynny i sicrhau bod y polisi hwn ar gael i bob prentis ar y llwybr hwn. Mae'n rhaid i gyflogwyr/ddarparwyr allu dangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg na chudd wrth ddethol a chyflogi.
Ffynhonnell: Adolygiad marchnad lafur o'r diwydiant lletygarwch trwyddedig, Tachwedd 2009, a gynhaliwyd gan People 1st a BII.
Cyfrifoldebau a hawliau cyflogaeth (CHC)
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr