Skip to main content

Pathway summary

Gwerthu a Thelewerthu

Framework:
Gwerthu a Thelewerthu
Lefel:
2/3

Bydd y tasgau y byddwch yn eu cyflawni yn amrywio gan ddibynnu ar y lefel a'r sector perthnasol. Gall y tasgau hyn gynnwys gwerthu wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, prosesu archebion gwerthiant, helpu cwsmeriaid i gael cyllid ar gyfer pryniannau, cynhyrchu a chymhwyso arweinwyr gwerthiant, diwallu anghenion ar ôl gwerthiant, gwneud cyflwyniadau, goruchwylio staff gwerthu neu delewerthu, trafod a chwblhau gwerthiant, cael gafael ar ddata yn ymwneud â gwerthiant a chystadleuwyr, a'i ddadansoddi, prisio ar gyfer hyrwyddiadau gwerthiant, datblygu cynlluniau gwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid, asesu statws credyd cwsmeriaid, cyfrannu at ddatblygu a lansio cynhyrchion newydd a datblygu a chynnal cysylltiadau gwerthu. 

Mae'n rhaid bod gennych ddiddordeb cryf mewn gweithio ym maes Gwerthu neu Delewerthu a mwynhau cyfathrebu â chwsmeriaid gan ddangos y gallu i weithredu'n hyderus. Hefyd, rhaid bod gennych sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu sylfaenol a fydd yn cael eu datblygu gan y Brentisiaeth.

Mae angen gweithio shifftiau mewn rhai swyddi Gwerthu a Thelewerthu, tra bod angen teithio llawer ar gyfer swyddi eraill.

Pathway options and levels

Gwerthu a Thelewerthu - Lefel 2

Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Cynghorydd Gwerthu Dan Hyfforddiant, Gweithredwr Telewerthu a Swyddog Gweithredol Gwerthu Iau.

Gwerthu a Thelewerthu - Lefel 3

Llwybr 1: Addas ar gyfer swyddi Gweithiwr Telewerthu Proffesiynol, Gwerthwr, Rheolwr Gwerthu ac Ymgynghorydd / Goruchwylydd Gwerthu.

Further information

Duration

Lefel 2: 14 mis

Lefel 3: 12mis

Progression routes

Lefel 2 Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwerthu a Thelewerthu a Phrentisiaethau Lefel 3 eraill fel Gwasanaeth Cwsmeriaid neu Reoli
  • Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys un o'r Cymwysterau Prif Ddysgu mewn amrywiaeth o sectorau cysylltiedig, megis Busnes, Gweinyddiaeth a Chyllid, Technoleg Gwybodaeth,            Gwasanaethau Cyhoeddus a Busnes Manwerthu
  • Addysg Bellach
  • Camu ymlaen yn eich gyrfa i swyddi uwch gynrychiolydd gwerthiant, uwch asiant telewerthu, rheolwr gwerthiant, rheolwr ardal, rheolwr cadw cwsmeriaid neu reolwr gwasanaeth cwsmeriaid ym maes gwerthiant.

Lefel 3 Mae'r llwybrau'n cynnwys:

  • Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Busnes a Gweinyddu Proffesiynol
  • Prentisiaeth Uwch Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheoli
  • Addysg Bellach neu Addysg Uwch
  • Graddau sylfaen

Camu ymlaen yn eich gyrfa i swyddi fel rheolwr gwerthiant rhanbarthol, uwch gynrychiolydd gwerthiant, rheolwr cyfrif cenedlaethol, rheolwr allforio, rheolwr gwerthiant rhyngwladol, neu gyfarwyddwr gwerthu.

Cymwysterau

Lefel 2: Tystysgrif NVQ mewn Gwerthiant

Lefel 3: Diploma NVQ mewn Gwerthiant

What are the entry requirements for this pathway?

All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);

Lefel 2

Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y fframwaith Prentisiaeth hwn.

Bydd ymgeiswyr o bob oed yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd a bydd ganddynt ystod o brofiad, cyflawniadau personol ac, mewn rhai achosion, cymwysterau a dyfarniadau blaenorol a allai gyfrif tuag at gyflawni Prentisiaeth. Gall enghreifftiau gynnwys dysgwyr sydd:

  • wedi cyflawni swydd gyfrifol mewn ysgol neu goleg
  • wedi ymgymryd â phrofiad gwaith, gwaith gwirfoddol neu leoliad gwaith
  • wedi cwblhau Gwobr Dug Caeredin neu wobr debyg, neu wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomau FfCCh
  • wedi ennill Cymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru neu gymwysterau TGAU neu Safon Uwch.

Lefel 2:  Dim gofynion mynediad ffurfiol.

Lefel 3

Lefel 3: Dim gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd gan brentisiaid rywfaint o brofiad blaenorol ym maes gwerthu neu delewerthu i'w galluogi i gwblhau'r Brentisiaeth, er nad yw'n ofyniad ffurfiol.

View full pathway

Document revisions

12 Tachwedd 2021