Skip to main content

Pathway

Gwerthu a Thelewerthu

Mae Instructus wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Busnes a Rheoli a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau,
  • Sgiliau Hanfodol
  • Hyfforddiant yn y gwaith/i ffwrdd o'r gwaith

52 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Gwerthu a Thelewerthu.

65 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gwerthu a Thelewerthu.

Entry requirements

Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y Llwybr Prentisiaeth hwn. Fodd bynnag, mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu prentisiaid a chanddynt ddiddordeb brwd mewn gweithio ym maes Gwerthu neu Delewerthu ac sy'n mwynhau cyfathrebu â chwsmeriaid. Maen nhw'n disgwyl i ymgeiswyr arddangos agwedd "medru gwneud" a meddu ar sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu sylfaenol yn sail ar gyfer y Brentisiaeth. Mae angen gwaith sifft ar gyfer rhai rolau Gwerthu a Thelewerthu, a theithio sylweddol ar gyfer rolau eraill.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y Llwybr Prentisiaeth hwn. Serch hynny, mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu ymgeiswyr â diddordeb brwd mewn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a gweithio fel aelod o dîm. Maen nhw'n disgwyl i ymgeiswyr arddangos agwedd "medru gwneud" a meddu ar sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol yn sail ar gyfer meithrin eu sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid.

Bydd ymgeiswyr yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac yn amrywio o ran profiad, oed, cyflawniadau personol ac, mewn rhai achosion, cymwysterau a dyfarniadau blaenorol

a allai gyfrif tuag at gyflawni rhaglen Brentisiaeth. Ceir enghreifftiau ohonynt isod, heb fod mewn unrhyw drefn arbennig:

  • wedi dal swydd gyfrifol mewn ysgol neu goleg; neu
  • wedi cwblhau profiad gwaith neu leoliad gwaith; neu
  • wedi cwblhau Gwobr Dug Caeredin neu ddyfarniad tebyg; neu
  • wedi cyflawni Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys Cymhwyster Prif Ddysgu Busnes, Gweinyddu a Chyllid, Busnes Manwerthu neu Letygarwch; neu
  • wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch; neu
  • wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh/RQF

Mae prentisiaid sy'n dilyn y Brentisiaeth Gwerthu a Thelewerthu yn debygol o fod wedi cael rhywfaint o brofiad blaenorol mewn rôl gwerthu, er nad yw hyn yn ofyniad ffurfiol.

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 2: Gwerthu a Thelewerthu

Lefel 2: Gwerthu a Thelewerthu Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Lefel 2 Tystysgrif NVQ Gwerthu
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
City & Guilds C00/0340/3 600/0930/5 22 220 Gwybodaeth Saesneg yn Unig

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 2: Gwerthu a Thelewerthu Lefel Minimum Credit Value
Communication 1 6
Application of number 1 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 2: Gwerthu a Thelewerthu 280 158
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Gwerthu a Thelewerthu - Isafswm o 52 credyd

Cymhwyster cymhwysedd - 22 credyd a Chymhwyster gwybodaeth -18 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yw - Lefel 2 Gwerthu a Thelewerthu - 438 awr

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Gwerthu a Thelewerthu

Lefel 3: Gwerthu a Thelewerthu Cymwysterau

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth isod.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Gwerthu a Thelewerthu Lefel Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6

Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Gwerthu a Thelewerthu 328 150
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Gwerthu a Thelewerthu - Isafswm o 65 credyd

Cymhwyster cymhwysedd - 37 credyd a chymhwyster gwybodaeth -16 credyd

Cyfanswm yr oriau hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith yw - Lefel 3 Gwerthu a Thelewerthu - 478 awr

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
  • 6 chredyd/60 GLH Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Amh.

Progression

Lefel 2: Gwerthu a Thelewerthu

Dilyniant i'r Brentisiaeth Sylfaen Gwerthu a Thelewerthu

Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid, gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Sylfaen hon. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:

  • wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas, naill ai mewn meysydd yn gysylltiedig â Gwerthu neu Delewerthu neu mewn meysydd sector-benodol.
  • wedi cyflawni Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys unrhyw Gymwysterau Prif Ddysgu ar lefel sylfaen a lefel uwch
  • wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.

Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth sylfaen heb gymwysterau blaenorol.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Sylfaen Gwerthu a Thelewerthu Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid sylfaen symud ymlaen i'r canlynol:

  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwerthu a Thelewerthu
  • Prentisiaethau Lefel 3 eraill fel Rheoli neu Wasanaethau Cwsmeriaid
  • Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys un o'r Cymwysterau Prif Ddysgu mewn ystod o sectorau cysylltiedig, fel Busnes, Gweinyddu a Chyllid, Technoleg Gwybodaeth,
  • Gwasanaethau Cyhoeddus a Busnes Manwerthu
  • addysg bellach i ddilyn cymwysterau'n gysylltiedig â gwerthu neu gymwysterau eraill.

Gyda hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd prentisiaid sylfaen yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfaoedd i rolau fel uwch gynrychiolydd gwerthu, uwch asiant telewerthu, rheolwr gwerthu, rheolwr ardal, rheolwr cadw cwsmeriaid neu reolwr gwasanaethau cwsmeriaid ym maes gwerthu.

Lefel 3: Gwerthu a Thelewerthu

Dilyniant i'r Brentisiaeth Gwerthu a Thelewerthu

Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid, gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r brentisiaeth hon. Bydd y llwybrau hyn yn cynnwys:

  • wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Gwerthu a Thelewerthu
  • wedi cwblhau Prentisiaethau Sylfaen Lefel 2 eraill, fel gwasanaethau cwsmeriaid neu farchnata
  • wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas y FfCCh
  • wedi ennill Cymhwyster Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru ar Lefel Sylfaen neu Uwch
  • wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch.

Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth heb gymwysterau blaenorol.

Bydd gan y rhan fwyaf o ddysgwyr sy'n symud ymlaen i'r Brentisiaeth Gwerthu a Thelewerthu rywfaint o brofiad blaenorol mewn rôl swydd gwerthu neu delewerthu, ond nid yw hyn yn ofyniad ffurfiol. Efallai y bydd y Brentisiaeth Sylfaen Gwerthu a Thelewerthu yn gweddu'n well i ddysgwyr sydd heb unrhyw brofiad blaenorol mewn rôl swydd gwerthu neu delewerthu, er y dylid barnu ynghylch pob unigolyn yn ôl ei rinweddau, ei brofiadau a'i allu.

Dilyniant o'r Brentisiaeth Gwerthu a Thelewerthu Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid symud ymlaen i:

  • Lefel 4 Prentisiaeth Uwch mewn Gweinyddu Busnes a Gweinyddu Proffesiynol

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Yn ôl data o Ystadegau Gwladol, merched yw tua 60% o'r gweithlu Gwerthu a Thelewerthu, er bod y ffigur hwn yn amrywio'n sylwedd yn ôl sector yr economi a'r lefel swydd dan ystyriaeth. Gweithwyr iau yw rhan helaeth o aelodau'r gweithlu, ond unwaith eto, ar lefelau uwch o fewn y gweithlu mae'r proffil oedran hwn yn newid yn sylweddol, yn ôl y disgwyl.

Mae ethnigrwydd y gweithlu Gwerthu a Thelewerthu yn rhoi adlewyrchiad bras o boblogaeth y DU yn gyffredinol, gydag oddeutu 10% o'r gweithlu o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig.

Mae'r gweithlu wedi'i rhannu'n gyfartal rhwng rhai sy'n gweithio mewn rolau amser llawn a rhai sy'n gweithio mewn rolau rhan-amser, a allai fod yn ffactor wrth esbonio'r gyfran fawr o ferched sy'n gweithio mewn swyddi Gwerthu a Thelewerthu. I raddau cymharol, mae ymchwil yn awgrymu y rolau rhan-amser ar draws yr holl ddiwydiannau yn tueddu i gael eu ffafrio gan ferched o fewn y gweithlu (fel cyfanswm).

Nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfran y gweithlu Gwerthu sydd ag anabledd neu anhawster dysgu.

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai nifer o ffactorau achosi'r diffyg cydbwysedd o ran oedran o fewn y diwydiant, gan gynnwys:

  • canfyddiad bod y sector yn ffafrio gweithwyr iau, a diffyg llwybrau a chyfleoedd dilyniant a fyddai'n ei gwneud hi'n bosibl datblygu gyrfa yn y tymor hir
  • prinder pobl sy'n gwerthu ‘fel gyrfa', sydd fwy na thebyg yn deillio o'r ffaith bod graddedigion yn ymuno â'r proffesiwn, gan aros am gyfnod byr yn unig.

Nod datblygu'r Llwybr Prentisiaeth hwn yw lliniaru'r ffactorau posibl hyn drwy ddatblygu Llwybr Prentisiaeth agored, clir ac addas i'r diben sy'n cynnig llwybr mynediad i'r proffesiwn i rai nad ydynt yn raddedigion, ac sy'n cefnogi llwybrau dilyniant cydnabyddedig drwy'r

proffesiwn.

Wrth i weithlu'r DU a'r sylfaen o gwsmeriaid droi'n fwy amrywiol, mae angen i'r diwydiant Gwerthu a Thelewerthu adlewyrchu'r amrywiaeth honno, a'i rheoli'n effeithiol. Ar gyfer hyn, mae angen nid yn unig agwedd sensitif tuag at faterion fel ethnigrwydd, diwylliant, rhywedd ac anabledd, ond hefyd ymwybyddiaeth o'r potensial am ymagweddau gwahanol a mwy creadigol a ddaw yn sgil amrywiaeth yn gyffredinol.

Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog carfan amrywiol o unigolion i ymuno â'r diwydiant Gwerthu a Thelewerthu. Nid yw'r amodau er mwyn cael mynediad i'r Llwybr hwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolion, ac mae'r Llwybr ar agor ac yn hygyrch i bob darpar brentis.

Bydd mentora hefyd yn cael ei hyrwyddo o fewn y Brentisiaeth, er mwyn cynnig cymorth ychwanegol a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd prentisiaid yn cwblhau'r Llwybr.

Hil

Bydd Instructus Skills yn monitro cyflawniad a'r defnydd o'r holl brentisiaethau, ac yn cymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n atal defnydd a chyflawniad.

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach.  Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant  a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru

DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru

 


Document revisions

12 Tachwedd 2021