- Framework:
- Rheoli Prosiectau
- Lefel:
- 4
Mae rheoli prosiectau'n tyfu mewn poblogrwydd fel gyrfa o ddewis. Mae nifer sylweddol o bobl yn symud i'r maes rheoli prosiectau ar ôl gweithio am sawl blwyddyn mewn sectorau gwahanol gan gyflawni swyddogaethau gwahanol.
Mae'r Brentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau yn darparu llwybrau camu ymlaen ar gyfer pobl sy'n dymuno ymuno â'r proffesiwn rheoli prosiectau neu ddatblygu eu gyrfa mewn disgyblaethau eraill gan ddefnyddio sgiliau rheoli prosiect.
Fel Rheolwr Prosiect byddwch yn goruchwylio gwaith datblygu prosiectau o'r cam cynllunio i'r cam cwblhau, gan gyflawni tasgau amrywiol, gan gynnwys: diffinio cwmpas ac amserlenni prosiectau, rheoli cyllidebau, rheoli adnoddau, sicrhau ansawdd, rheoli risg, ymgysylltu â rhanddeiliaid, rheoli newid prosiectau a dadansoddi canlyniadau.
Mae Cydgysylltydd Prosiect, Swyddog Gweithredol neu Swyddog Cymorth yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno prosiectau, drwy dasgau fel: sicrhau ansawdd, cyflawni amcanion sefydliadol a phrosiect, cydgysylltu prosiectau, asesu a rheoli risgiau, adrodd yn gywir, rheoli cyllidebau a gwneud gwaith ymchwil a dadansoddi.
Mae modd camu ymlaen i'r Brentisiaeth Uwch o nifer fawr o lwybrau ar sail cefndiroedd gwahanol a phrofiadau academaidd a gwaith blaenorol prentisiaid. Gallai llwybrau o'r fath gynnwys:
• cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn sectorau amrywiol gan gynnwys Adeiladu, Peirianneg, TG, Telegyfathrebu a Manwerthu
• ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomâu Cymwysterau Rheoleiddiol mewn sector penodol neu faes busnes penodol
• ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch
• cymhwyster Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys unrhyw un o'r Cymwysterau Prif Ddysgu ar lefel sylfaen ac uwch
• ennill cymhwyster rheoli prosiect fel APMP, PMP a PRINCE2©. Hefyd, gall dysgwyr gamu ymlaen i'r Brentisiaeth Uwch heb gymwysterau blaenorol.
Pathway options and levels
Rheoli Prosiectau - Lefel 4
Addas ar gyfer swyddi Cydgysylltydd Prosiect/Swyddog Gweithredol Prosiect/Swyddog Cymorth Prosiect/Rheolwr Prosiect.
Further information
Duration
24 mis
Progression routes
Mae'r llwybrau'n cynnwys:
• amrywiaeth o gymwysterau Rheoli Prosiectau a chymwysterau eraill, gan gynnwys cymwysterau lefel 5 ac uwch, a chymwysterau sydd wedi'u hachredu'n rhyngwladol
• addysg uwch i ymgymryd â chymwysterau Rheoli Prosiectau neu gymwysterau eraill, gan gynnwys Graddau neu Raddau Meistr mewn Rheoli Prosiectau
• Aelodaeth gyswllt o gyrff proffesiynol, gan gynnwys y Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM)
Ar ôl cael hyfforddiant ychwanegol, gallech gamu ymlaen i swyddi uwch ym maes Rheoli Prosiectau.
Cymwysterau
Lefel 4: Diploma mewn Rheoli Prosiectau
What are the entry requirements for this pathway?
All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);
Lefel 4
Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y fframwaith Prentisiaeth Uwch. Fodd bynnag, mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu prentisiaid sydd â diddordeb cryf mewn gyrfa ym maes rheoli prosiectau, neu brofiad ymarferol o yrfa o'r fath. Yn ogystal, maen nhw’n disgwyl i ymgeiswyr ddangos agwedd o ‘allu gwneud’ a bod â sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu da a fydd yn cael eu datblygu gan y Brentisiaeth.
View full pathway