Mae Instructus wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Busnes a Rheoli a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
- Cymwysterau,
- Sgiliau Hanfodol
- Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
138 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 4 Rheoli Prosiectau.
Entry requirements
Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y Llwybr Uwch Brentisiaeth hwn.
Fodd bynnag, mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu prentisiaid a chanddynt ddiddordeb brwd mewn gyrfa rheoli prosiect, neu brofiad ymarferol o hynny. Yn ogystal â hynny, maen nhw'n disgwyl i ymgeiswyr arddangos agwedd "medru gwneud" a meddu ar sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu da yn sail ar gyfer y brentisiaeth.
Bydd ymgeiswyr yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd ac yn amrywio o ran profiad, oedran, cyflawniadau personol ac, mewn rhai achosion, cymwysterau a dyfarniadau blaenorol a allai gyfrif tuag at gyflawni Prentisiaeth.
Gallai'r enghreifftiau gynnwys dysgwyr sydd:
- wedi dal swydd gyfrifol mewn ysgol neu goleg
- wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Cymhwyso Rheoleiddio
- wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch
- wedi cyflawni Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys unrhyw Gymwysterau Prif Ddysgu ar lefel sylfaen a lefel uwch
- wedi cwblhau Prentisiaethau Lefel 3 o amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys Adeiladu, Peirianneg, TG, Telathrebu a Manwerthu
- eisoes wedi ennill cymhwyster rheoli prosiect fel APMP, PMP a PRINCE2©
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y Llwybr Uwch Brentisiaeth hwn. Fodd bynnag, mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu prentisiaid a chanddynt ddiddordeb brwd mewn gyrfa rheoli prosiect, neu brofiad ymarferol o hynny. Yn ogystal â hynny, maen nhw
Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y Llwybr Uwch Brentisiaeth hwn. Fodd bynnag, mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu prentisiaid a chanddynt ddiddordeb brwd mewn gyrfa rheoli prosiect, neu brofiad ymarferol o hynny. Yn ogystal â hynny, maen nhw Cymwysterau
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun isod.
Lefel 4 Diploma Rheoli Prosiect (FfCCh) | |||||
---|---|---|---|---|---|
Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
Agored Cymru | C00/0771/8 601/8407/3 | 120 | 1200 | Cymhwysedd | Saesneg-Cymraeg |
Edrychwch ar Atodiad 1 i weld y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.
Essential Skills Wales (ESW)
Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y Llwybr Uwch Brentisiaeth hwn. Fodd bynnag, mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu prentisiaid a chanddynt ddiddordeb brwd mewn gyrfa rheoli prosiect, neu brofiad ymarferol o hynny. Yn ogystal â hynny, maen nhw | Lefel | Minimum Credit Value |
---|---|---|
Communication | 2 | 6 |
Application of number | 2 | 6 |
Digital literacy | 2 | 6 |
Asesir cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.
On/Off the Job training
Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
---|---|---|
Nid oes unrhyw ofynion mynediad gorfodol ar gyfer y Llwybr Uwch Brentisiaeth hwn. Fodd bynnag, mae cyflogwyr yn awyddus i ddenu prentisiaid a chanddynt ddiddordeb brwd mewn gyrfa rheoli prosiect, neu brofiad ymarferol o hynny. Yn ogystal â hynny, maen nhw | 589 | 264 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
120 o gredydau ar gyfer y cymhwyster cymhwysedd a gwybodaeth cyfun, gan gynnwys: isafswm o 30 credyd ar gyfer gwybodaeth ac isafswm o 90 credyd ar gyfer cymhwysedd
Isafswm yr oriau hyfforddi ar gyfer y Brentisiaeth Uwch Rheoli Prosiect yw 853 o oriau.
Disgwylir i'r Brentisiaeth fod yn 24 mis o hyd o leiaf
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
- 6 chredyd/60 GLH Lefel 2 Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru
Other additional requirements
Amh.
Progression
Lefel 4: Rheoli Prosiectau
Dilyniant i'r Brentisiaeth Uwch Rheoli Prosiectau
Oherwydd yr amrywiaeth yng nghefndiroedd a phrofiadau academaidd a gwaith prentisiaid, gellir defnyddio amrywiaeth eang o lwybrau i symud ymlaen i'r Brentisiaeth Uwch hon. Gallai'r llwybrau hynny gynnwys:
- bod wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn ystod o sectorau, gan gynnwys Adeiladu, Peirianneg, TG, Telathrebu a Manwerthu
- wedi ennill Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomas Cymhwyso Rheoleiddio sector-benodol neu faes yn gysylltiedig â busnes
- wedi ennill cymwysterau TGAU neu Safon Uwch
- wedi cyflawni Bagloriaeth Cymru, gan gynnwys unrhyw Gymwysterau Prif Ddysgu ar lefel sylfaen a lefel uwch
- wedi ennill cymhwyster rheoli prosiect fel APMP, PMP, a PRINCE2©
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth uwch heb gymwysterau blaenorol.
Dilyniant o'r Brentisiaeth Uwch Rheoli Prosiect
Gyda chymorth a chyfleoedd yn y gweithle, gall prentisiaid uwch symud ymlaen i:
- ystod o gymwysterau Rheoli Prosiect a chymwysterau eraill, gan gynnwys cymwysterau ar lefel 5 ac uwch, a chymwysterau wedi'u hachredu'n rhyngwladol
- addysg uwch i ddilyn cymwysterau Rheoli Prosiect neu gymwysterau eraill, gan gynnwys Graddau neu Raddau Meistr Rheoli Prosiect
- Cyfleoedd am gyflogaeth bellach o fewn eu rôl swydd gyfredol/rolau swydd eraill
- Aelodaeth gysylltiol o gyrff proffesiynol, gan gynnwys y Gymdeithas Rheoli *rosiectau (APM)
Gyda hyfforddiant ychwanegol, efallai y bydd prentisiaid uwch yn gallu symud ymlaen yn eu gyrfa i rolau Rheoli Prosiectau uwch.
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos dull gweithredol o nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, merched yw tua 30% o weithwyr proffesiynol Rheoli Prosiect y DU a dynion yw tua 70% ohonynt. Mae 25% o reolwyr prosiect yn 18-34 oed, 9% rhwng 35 a 49 oed, 26% yn 50 oed neu'n hŷn (Ffynhonnell: Arras People Project Management Benchmark Report, 2012).
Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog carfan amrywiol o unigolion i ymuno â'r byd Rheoli Prosiectau.
Nid yw'r amodau er mwyn cael mynediad i'r Llwybr hwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolion, ac mae'r Llwybr ar agor ac yn hygyrch i bob darpar brentis.
Bydd mentora hefyd yn cael ei hyrwyddo o fewn y Brentisiaeth, er mwyn cynnig cymorth ychwanegol a chynyddu'r tebygolrwydd y bydd prentisiaid yn aros.
Er ei bod hi'n anodd amcangyfrif beth yw union faint y gweithlu rheoli prosiect gan fod dosbarthiad rheoli prosiect ar draws y gwahanol ddiwydiannau'n amrywio,
amcangyfrifir bod 80,000 o reolwyr prosiect yn y DU yn 2011 (Ffynhonnell: Arras People Project Management Benchmark Report, 2011).
Rhagwelir y bydd demograffeg Prentisiaid Rheoli Prosiect yn debyg i Brentisiaid Rheoli, oherwydd tebygrwydd rhwng y cynulleidfaoedd targed, a natur draws-sector y naill Brentisiaeth a'r llall.
Mewn ystadegau diweddar a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth, dangosir mai merched yn bennaf sy'n dechrau Prentisiaethau Rheoli (63.3% o'r holl ddechreuwyr).
9.8% yw canran y prentisiaid Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig, sydd yn cyd-fynd yn fras â chyfran y boblogaeth gyfan. Mae 10.3% o ddechreuwyr prentisiaeth Rheoli wedi'u cofnodi'n anabl (sy'n uwch na'r niferoedd cynrychioliadol cenedlaethol), tra bod anableddau dysgu wedi'u cofnodi ymhlith 3.4% o brentisiaid, sydd yn dangynrychiolaeth wrth gymharu â'r boblogaeth gyfan.
Drwy ei Grwpiau Cynghori, mae Instructus Skills yn parhau i fonitro'r nifer sy'n manteisio ar yr holl Brentisiaethau ac yn eu cwblhau, ac yn parhau i gymryd camau i ymdrin ag unrhyw rwystrau sy'n atal defnydd a chyflawniad yn rhan o'i Strategaeth Cymwysterau (Chwefror 2018).
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Responsibilities
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu cyflawni'n unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Ceir rhagor o wybodaeth gan: Llywodraeth Cymru
DfES-ApprenticeshipUnit@llyw.cymru
Atodiad 1 Lefel 4: Rheoli Prosiectau
Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth
Mae'r Diploma Lefel 4 mewn Ymarfer Rheoli Prosiect yn cynnwys cymhwysedd a pherthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a chymwysterau gwybodaeth.
Mae B1a a B1b yn darparu'r wybodaeth sylfaenol a'r elfennau cymhwysedd o fewn y llwybr hwn.
Mae'r ddau gymhwyster cyfun yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. Bydd isafswm o 30 o gredydau gwybodaeth ac isafswm o 90 o gredydau cymhwysedd yn cael eu hennill o ddilyn yr unedau gorfodol a dewisol o fewn y cymhwyster cyfun. Dangosir y rhaniad rhwng yr unedau gwybodaeth a chymhwysedd isod:
Diploma Lefel 4 EAL mewn Rheoli Prosiectau:
Unedau Gorfodol:
R/504/1364 - Egwyddorion rheoli prosiect (uned gwybodaeth, 30 credyd)
D/504/1366 - Rheoli rhanddeiliaid prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
H/504/1367 - Cyfathrebu o fewn prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
Unedau Dewisol(pob un yn uned cymhwysedd; isafswm o 70 credyd):
H/504/1370 - Achos busnes, strwythur y prosiect a monitro cynnydd (uned cymhwysedd, 10
credyd)
K/504/1371 - Rheoli cwmpas prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
A/504/1374 - Rheoli amserlen prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
L/504/1377 - Rheoli cyllid prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
R/504/1378 - Rheoli risg prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
D/504/1333 - Rheoli ansawdd prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
H/504/1344 - Rheoli adnoddau prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
K/504/1385 - Rheoli contractau prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
T/600/9601 - Arwain a chyfarwyddo eich maes cyfrifoldeb eich hun (uned cymhwysedd, 5 credyd)
H/600/9674 - Cynllunio, dyrannu a monitro gwaith yn eich maes cyfrifoldeb eich hun (uned cymhwysedd, 5 credyd)
Diploma Lefel 4 Agored Cymru mewn Rheoli Prosiectau:
Unedau Gorfodol:
T/508/0898 - Egwyddorion rheoli prosiect (uned gwybodaeth, 30 credyd)
A/508/0899 - Rheoli rhanddeiliaid prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
H/508/0900 - Cyfathrebu o fewn prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
Unedau Dewisol(pob un yn uned cymhwysedd; isafswm o 70 credyd):
K/508/0901 - Achos busnes, strwythur y prosiect a monitro cynnydd (uned cymhwysedd, 10
credyd)
M/508/0902 - Rheoli cwmpas prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
T/508/0903 - Rheoli amserlen prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
A/508/0904 - Rheoli cyllid prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
F/508/0905 - Rheoli risg prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
J/508/0906 - Rheoli ansawdd prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
L/508/0907 - Rheoli adnoddau prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
R/508/0908 - Rheoli contractau prosiect (uned cymhwysedd, 10 credyd)
J/508/0968 - Arwain a chyfarwyddo eich maes cyfrifoldeb eich hun (uned cymhwysedd, 5 credyd)
L/508/0969 - Cynllunio, dyrannu a monitro gwaith yn eich maes cyfrifoldeb eich hun (uned cymhwysedd, 5 credyd)